LLANBADARN
FAWR
O
GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON MEREDITH, LLANBADARN FAWR
(SN5364)
Gellir gweld y ffynnon hon ar ochr dde'r ffordd sy’n arwain o Aberystwyth
i bentref Llanbadarn gyferbyn â Swyddfa’r Sir. O edrych ar y llun gwelwn fod
y dŵr o’r tir uwchben wedi llifo i mewn iddi lle mae’r beipen heddiw.
Eto nid yw’r beipen yn gweddu gydag adeiladwaith y ffynnon ac o bosib mai
rhywbeth mwy diweddar yw hi. Roedd y dŵr yn cronni mewn cafn hirsgwar o
lechen ac arno mae’r geiriau RURAL SANIATARY AUTHORITY 1883. Heddiw dim ond
pridd a sbwriel sydd yno Nid oes sicrwydd beth yw oed y ffynnon ond mae'n debyg
iddi gael ei defnyddio fel ffynhonnell o ddŵr i’r trigolion am ganrifoedd
lawer. Heddiw mae’n ffynnon agored ond pan oedd yn cael ei defnyddio’n gyson
roedd drws arni fel ar lawer ffynnon arall. Tybed a oes rhywun yn gwybod pwy
oedd y Meredith a roddodd ei enw iddi? Yn rhifyn o’r Cambrian News am Ragfyr
yr ail, 1881, cafwyd yr hanes canlynol yn ymwneud â’r ffynnon:
Roedd bachgen o’r pentref wedi
gwneud niwed i ddrws Ffynnon Meredith ac fe’i galwyd i gyfri o flaen yr
Ynadon. Cyfeiriwyd ato fel D. Evans. Daeth y mater i sylw D.P. Jones, Arolygwr
Trafferthion (Inspector of Nuisances) ar Dachwedd 14eg am fod ei wraig wedi
gweld y bachgen yn cicio’r clo ar ddrws y ffynnon. Dwedodd wrtho am beidio ond
gwrthododd wrando arni. Aeth yr Arolygwr yno a gweld fod olion diweddar ar y clo
fel pe bai wedi cael ei gicio. Eiddo’r Awdurdod Glanweithdra (Sanitary
Authority) oedd y ffynnon ac roeddynt wedi ei hatgyweirio a gosod drws. Roedd y
cyhoedd wedi arfer mynd at y ffynnon gyda’i bwcedi i nôl dŵr ers cyn cof
ac oherwydd hynny roedd dŵr y ffynnon yn cael ei ddifwyno. Dyna pam fod
drws â chlo wedi ei gosod arni. Cafodd mam y bachgen rhybudd i’w gadw dan
reolaeth. Ni wyddai’r Arolygwr bod ei ferch ef ei hun a’r bachgen wedi cael
ffrae yn yr ysgol y diwrnod hwnnw ac mai dyna pam roedd o wedi mynd i’r
ffynnon a cheisio malu’r clo a’r drws. Joseph Evans o Aberystwyth oedd yn
amddiffyn y bachgen a dywedodd fod y gost o atgyweirio’r difrod yn llai na
hanner coron. Meddai hefyd y gallai gael llu o dystion oedd yn credu y dylai’r
cyhoedd gael rhwydd hynt i ddefnyddio dŵr y ffynnon fel y mynnent. Gan fod
y bachgen wedi niweidio eiddo’r bwrdd rhoddwyd dirwy o swllt arno gyda’r
rhybudd i ymddwyn yn fwy gwaraidd yn y dyfodol neu byddai’r gosb yn llymach.
Tybed beth fu hanes y bachgen ar ôl hynny? Rhaid bod mwy o waith wedi ei
wneud ar y ffynnon yn 1883 pryd y gosodwyd y cafn lechen a’r arysgrif arni.
Byddai’n dda cael gwybod mwy o’i hanes.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffc