Home Up

LLANNARTH

 

FFYNNON Y GLOCH

 Mae ffermdy Ffynnon Gloch ychydig uwchlaw eglwys Llannarth. Wedi holi yno cafwyd ar ddeall fod dŵr yn arfer cael ei bwmpio i fyny o’r lôn islaw i fuarth y fferm yn y gorffennol. Credai un gŵr y bu i ni siarad ag ef fod ffynnon wrth ochr y ffordd yn ymyl hen sgubor. Wedi mynd i lawr at y ffordd gul a cherdded ar ei hyd am ychydig, gwelsom hen adeilad wedi ei orchuddio bron yn llwyr â iorwg. Nid oedd golwg o ffynnon yn y clawdd, ond o daro’r drain a’r mieri gwelwyd fod cilfach yn union lle’r oedd yr hen adeilad yn gorffen, a bod cerrig anferth yn creu palmant gwastad yn y gilfach. Wedi mynd iddi gwelwyd fod dŵr y ffynnon yn tarddu oddi mewn i faddon petryal, a gwaith cerrig wedi ei godi uwch ei ben. Roedd y dŵr yn goferu allan o dan y ffordd. Mewn gardd tŷ yn union gyferbyn â’r ffynnon, ond ar lefel ychydig is na’r ffordd, roedd llyn o faint sylweddol. Mae’n amlwg mai i’r fan honno y mae dŵr y ffynnon yn llifo. Credwn fod nifer o risiau wedi arwain i lawr at y ffynnon o’r ffordd. Hwyrach eu bod yno o hyd, wedi eu cuddio o dan y tyfiant.

Tra oeddem ger y ffynnon daeth pedair gwraig leol heibio a holi am beth yr oeddem yn chwilio. Cafodd pawb syndod o weld y ffynnon. Gwyddent am y traddodiad sydd wedi goroesi am y ffynnon. Dywedid bod y Diafol wedi dwyn cloch o dŵr eglwys Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, ac wedi ei chario cyn belled ag eglwys Llannarth a’i gollwng ger y ffynnon. Byth ers hynny mae melltith ar y fan, a dywedir na ellir clywed cloch yr eglwys yn canu wrth sefyll gerllaw’r ffynnon. Beth bynnag am werth y traddodiad yma, roedd pobl yn pentref yn arfer dod at y ffynnon i gael eu dŵr, a hynny o fewn cof.

Tra oeddem ar ymweliad â Llannarth cawsom gyfle i siarad â nifer o drigolion y pentref. Fe’n cynghorwyd i gysylltu â’r Rheithor ond yn anffodus nid oedd gartref y bore hwnnw. Pan ddaeth cyfle, ysgrifennais ato gan ofyn iddo a oedd modd i’r gymuned wneud rhywbeth i lanhau safle’r ffynnon, gan ei bod yn rhan o lên gwerin yr ardal ac yn amlwg o ddiddordeb hanesyddol. Hyd yn hyn ni chafwyd ateb ganddo. Anfonwyd at y Cyngor Cymuned hefyd ond ni chafwyd ymateb (Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON GLOCH

Trafodwyd llythyr y Gymdeithas yn un o gyfarfodydd y Cyngor Cymuned a chytunwyd i ofyn i'r Gwasanaeth Prawf ddefnyddio amser y rhai sy'n gwneud Gwasanaeth i'r Gymuned fel rhan o ddedfryd llys i lanhau o gwmpas y ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up