LLANALLGO
FFYNNON ALLGO
SH 497 848
Anfonwyd at Gyngor Cymuned Moelfre i holi ynglŷn â
chyflwr Ffynnon
Allgo. Mae hon yn hen ffynnon sydd â chysylltiadau paganaidd
iddi. Os na wneir rhywbeth i’w diogelu cyn hir bydd wedi ei cholli’n llwyr.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Mae Ffynnon Allgo yng nghanol Maes Carafannau Glanrafon y drws nesaf i Faes Carafannau Home Farm, tua chwarter milltir y tu draw i Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo, ar A5025. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon rhwng dwy garafan statig.
Mae’n anodd iawn tynnu llun da ohoni. Mae’r glaswellt o
gwmpas y ffynnon yn dwt ond mae’r pwll ble mae’r ffynnon yn gorwedd yn llawn
tyfiant sy’n cuddio llygad y ffynnon. Mae’r gwaith cerrig yn parhau ond
mae’r nant sy’n rhedeg i afon Llanallgo yn llifo’n araf iawn.
Y Parch. Dr. Graham D. Loveluck, Marian-glas, Môn.
Mae hon yn ffynnon arbennig iawn a rhaid gwneud ymgais i’w hadfer. Da o beth fyddai cael nifer o bobl leol at ei gilydd i ymddiddori yn y ffynnon. (Gol.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg
i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Ar
ol gadael Penrhosllugwy aethom i Lanallgo a dod o hyd i Ffynnon Allgo (SH497848)
ar faes carafanau nid nepell o’r eglwys. Y tro cyntaf i ni ymweld a’r lle,
rhyw bymtheg mlynydd yn ol, roeddem yn ddigalon oherwydd fod tyfiant gwyllt yn
gorchuddio’r ffynnon a dwy garafan fawr y naill ochr a’r llall iddi.
Bu cryn bryder am ei chyflwr yn y gorffennol ond da gennym ddweud ei bod
bellach wedi ei glanhau ac mae ei phensaerniaeth yn fwy eglur. Gwelwyd bod
sianel o gerrig yn dal y dwr sy’n goferu o’r ffynnon a’i bod yn llawer
dyfnach nag oeddem wedi ei feddwl i ddechrau. Byddai’n dda o beth pe gellid
rhoi enw’r ffynnon gerllaw iddi er mwyn i ymwelwyr fedru gwerthfawrogi’r
ffaith fod yma grair hanesyddol o bwys. Darganfyddwyd cerflun carreg o ben dynol
gerllaw’r ffynnon yn 1982 a heb amheuaeth roedd y fan yn lle cysegredig i’r
hen dduwiau Celtaidd cyn dyfodiad
Cristnogaeth i Gymru.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc