Home Up

LLANAELHAEARN  

 

FFYNNON AELHAEARN

Mae pentref Llanaelhaearn o dan gysgod Tre’r Ceiri ac yma mae un o’r ffynhonnau mwyaf ei maint yng Nghymru. Ffynnon betryal yw hi yn mesur 13 x 7 troedfedd. Mae bwrlwm ei dyfroedd yn diwallu angen y gymuned leol am ddŵr, yn wir Dŵr Cymru sydd â’r hawl i’r dyfroedd gan eu bod yn gyflenwad i’r cyhoedd. Ers talwm deuai cleifion yma i gael gwellhad a rhaid oedd neidio i’r dŵr pan fyddai’n byrlymu. Byddai’r pererinion yn aros yma i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Tua dechrau’r ganrif hon codwyd adeilad dros y ffynnon gan y Cyngor Plwyf er mwyn diogelu purdeb y dŵr ar ôl i Diptheria ymddangos yn yr ardal.

Ers dechrau’r nawdegau mae Dŵr Cymru wedi bod yn awyddus i drosglwyddo perchnogaeth y ffynnon i’r Cyngor Cymuned ond am resymau cyfreithiol nid yw hyn wedi bod yn bosib hyd yma gan fod peth ansicrwydd ynglŷn a pherchnogaeth y tir o gwmpas y ffynnon. Mawr obeithiwn y bydd y ffynnon yn eiddo i Gyngor Cymuned Llanaelhaearn yn y dyfodol agos.

+

FFYNHONNAU’R PERERINION

Hwyrach i chi gofio i mi grybwyll yn Llygad y Ffynnon Rhif 3 fod cynlluniau ar droed  i greu teithiau sy’n dilyn llwybrau’r pererinion i Enlli. Dywedais y byddai’n beth da i gynnwys y ffynhonnau yn y teithiau hyn. Ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr wrth ba ffynhonnau y byddai’r pererinion yn debygol o aros, ond diolch i lyfr H.D Williams ar Enlli, cefais fy ngoleuo. Ar dudalen pump mae’n rhestru nifer o ffynhonnau lle’r arferai’r pererinion wersylla a gorffwys am ychydig ar eu taith i Fangor tuag Enlli: Ffynnon Odliw, Glynllifon: Ffynnon Beuno, Clynnog: Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn: Ffynnon Fair, Nefyn: Ffynnon Penllech, Tudweiliog a Ffynnon Fair, Aberdaron.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Annwyl Olygydd

Roeddwn yn falch o weld crybwyll peth o hanes Ffynnon Aelhaearn yn Rhif 4 o Llygad y Ffynnon. Gwn o flynyddoedd o brofiad gymaint o frwydr y bu hi ynglŷn â pherchnogaeth y ffynnon hon. Does dim ond gobeithio y bydd y Cyngor Cymdeithas yn medru rhoi ei grafanc arni unwaith ac am byth a’i hachub rhag rhaib pob mewnfudwr haerllug. Mae gan hanes ei rybudd digamsyniol! Gall dŵr y ffynnon hon fod yn ddŵr hynod o beryglus!

Rhed y dŵr o Ffynnon Aelhaearn mewn gwter danddaearol gyda therfyn y daith yn yr afon Tal rhwng Felin Penllechog a Thyddyn y Drain. Tua hanner ffordd ar hyd y daith honno rhed o dan adeiladau Tyddyn y Llan, drws nesaf i neuadd yr eglwys ym mhentref Llanaelhaearn. Ganrif yn ôl roedd y gwter yn agored y tu mewn i un o’r adeiladau hyn ac yno ceid melin fechan ar gyfer malu eithin yn borthiant i geffyl y rheithor. Yn rhan o’i fywoliaeth ffermiai’r rheithor Dyddyn y Llan. Dŵr ffynnon Aelhaearn oedd yn troi’r felin.

Un diwrnod ym mis Rhagfyr 1893 arth rheithor Llanaelhaearn a Threfor, y Parchedig Hugh Edward Williams, 57 oed, i’r afael â’r felin i geisio ei glanhau gan ddefnyddio picwarch i glirio’r eithin gwlyb oedd yn peri i’r felin nogio. Ysywaeth, troes y gorchwyl cyffredin hwn yn drychineb ofnadwy. Tarodd fforch y bicwarch yn erbyn un o olwynion y felin ddŵr fechan, bwerus, gan hyrddio coes yr offeryn yn ei hol at y rheithor a phlymio’n ddidrugaredd i’w geilliau. Dyna, yn fras, sut y bu i ddŵr a Ffynnon Aelhaearn fod yn gyfrifol, mewn ffordd, am farwolaeth annhymig un o warchodwyr ffyddlonaf y ffynnon. Gwelir ei fedd wrth fur deheuol yr eglwys. 

Geraint Jones, Hyfrydle, Trefor, Caernarfon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 5 Nadolig 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU LLŶN

Bu Bleddyn Prys Jones, sy’n gweithio i Gyfadran yr Amgylc

hedd yng Nghyngor Gwynedd, a’i dîm yn brysur yn adnewyddu nifer o ffynhonnau Llŷn sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Eisoes gwelsom y gwaith rhagorol a wnaed ar Ffynnon Fyw, Mynytho (SH30913087) mewn ôl rifynnau o Llygad y Ffynnon. Bellach mae bwriad i osod plac llechen a chreu llwybr ger y ffynnon honno. Gosodwyd giat newydd ger y lôn sy’n arwain at Ffynnon Aelrhiw (SH23392848) yn Rhiw a bellach mae’n haws mynd at y ffynnon honno.

Y ffynnon nesaf i dderbyn sylw oedd Ffynnon Aelhaearn (SH38414462) yn Llanaelhaearn. Yn ôl yr hanes byddai dyfroedd y ffynnon yn byrlymu a phan ddigwyddau hynny byddai’r person cyntaf a fedrai fynd i’r dŵr yn cael iachâd. Mae’n ffynnon o faint sylweddol, o gwmpas ugain troedfedd wrth ddeunaw. Bu’r ffynnon yn dipyn o benbleth i’r trigolion lleol. Rhoddwyd adeilad drosti gan y Cyngor Plwyf ar ddechrau’r ugeinfed ganrif er mwyn diogeli’r cyflenwad dŵr i’r pentref a’i gadw’n lân. Yna, ar ddiwedd y ganrif, daeth y dŵr yn eiddo i Dŵr Cymru. Ar un adeg roedd seddau cerrig o gwmpas y ffynnon, fel llawer o ffynhonnau eraill y fro, ond cafodd rhain eu gorchuddio efo concrit a dinistriwyd un o nodweddion pensaerniol ac hanesyddol y ffynnon. Wrth i amser fynd heibio dirywiodd cyflwr yr adeilad oedd dros y ffynnon a cheisiwyd darganfod pwy oedd yn gyfrifol amdano. Hawliwyd y ffynnon gan berchennog i tir o’i chwmpas ac o’r diwedd cytunodd i ganiatau i do newydd gael ei osod ar yr adeilad. Roedd hyn yn golygu gwaith sylweddol ac mae’r adeilad wedi ei adnewyddu i gyd a’r ffynnon wedi ei glanhau. Gosodwyd drws newydd o dderw ar flaen yr adeilad ond mae hwnnw wedi chwyddo ac nid oes modd ei agor ar hyn o bryd a bydd rhaid edrych at hynny yn fuan. Mae angen trwsio’r wal wrth gefn yr adeilad hefyd.  Diolch o galon i Bleddyn. Mae o wedi llwyddo lle mae pawb arall wedi methu! Dyma luniau o’r gwaith a wnaed yng ngwanwyn 2007.

 

 

Bellach mae cynlluniau ar y gweill i adnewyddu Ffynnon Engan, Llanengan,(SH9322708) ac edrychwn ymlaen at gael clywed am y gwaith arni. Mae criw o bobl yn ardal Pwlllheli wedi dod at ei gilydd i chwilio am ffynhonnau yn y fro ac i nodi eu safleoedd a’u cyflwr. Un ffynnon sydd a’i chyflwr yn peri gofid i ni yw Ffynnon Dudwen,(SH27473679) Llandudwen, ger Dinas. Yn ôl Myrddin Fardd roedd hon yn gwella anhwylderau o bob math. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon yn gorlifo a’r gofer wedi ei gau â baw.  Mae ar dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Gwynedd. Mawr obeithiwn y gellir adfer y ffynnon hon hefyd gyda chymorth Bleddyn Jones – dewin y dyfroedd!  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up