Home Up

LLAN SAN SIÔR

 

FFYNNON LLANSANSIÔR

Eirlys Gruffydd

Un diwrnod braf yn 1906 aeth John Beckett a'i frawd hŷn o'r ysgol un awr ginio i fwyta'u brechdanau o dan goeden ger ffynnon ym mharc Neuadd Kinmel ar gyrion pentref Llansansiôr, (St. George) ger Abergele. Doedd y ffynnon yn fawr ddim ond pwll o ddŵr lleidiog, gydag ambell garreg fwy na'i gilydd yn ymddangos yma ac acw drwy'r tyfiant gwyllt o gwmpas y dŵr.

Dros drigain mlynedd yn ddiweddarach, ar ddiwedd y chwe degau, dechreuodd John gymryd diddordeb yn hanes y ffynnon. Daeth o hyd i dystiolaeth amdani mewn adroddiad am eiddo eglwysig a wnaed ar orchymyn Thomas Cromwell yn 1535. Yn ôl yr adroddiad roedd pererinion yn ymweld â'r ffynnon ac yn gadael offrwm yn yr eglwys. Yn 1697, pan ddanfonodd Edward Lhuyd gais am wybodaeth am hynafion plwyfi, cafodd ateb gan John Parry, rheithor Llansansiôr ar y pryd. Meddai:

Ffynnon Lan San Shor Lhe y bydded ystalm yn offrymu keffyle hevyd un i'r person

Roedd y ffynnon hon felly yn gysylltiedig â cheffylau. Yn ôl Thomas Pennant yn ei Tours (1778), San Siôr oedd nawddsant y ceffyl ac roedd yn arferiad i ddod ag anifeiliaid oedd yn dioddef o anhwylderau at y ffynnon, eu taenellu â'r dŵr a'u bendithio drwy ddweud: Rhad Duw a Sant Siors arnat.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, fodd bynnag, dim ond atgof oedd yr arfer o fendithio ceffylau ger y ffynnon. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg tyfodd chwedloniaeth am yr ardal. Roedd ysbrydion a thylwyth teg yn byw yn y goedwig gerllaw'r ffynnon. Yn wir, credai'r trigolion fod y pentref wedi ei enwi am mai yno y lladdodd San Siôr y ddraig enwog. Erbyn dechrau'r ganrif hon, fel y gwelwyd, roedd y ffynnon wedi ei anghofio'n llwyr.

Yn ôl adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Hynafiaethau a fu'n edrych ar henebion Cymru yn 1912, roedd y ffynnon bron yn sych, ei ffurf yn hirgrwn, tua phymtheg troedfedd wrth wyth, Fe'i hadeiladwyd o gerrig mawr ac roedd sianel yn cludo'r dŵr o'r ffynnon.

Wedi gorffen ei ymchwil i'r traddodiadau a'r wybodaeth ysgrifenedig, penderfynodd John Beckett fynd i chwilio am y ffynnon. Gwelodd fod y man lle credai y dylai'r ffynnon fod yn ddim byd ond cors frwynog, gydag ambell garreg yn ymddangos drwy'r tyfiant. Y peth cyntaf a wnaeth John, a'r criw brwdfrydig o wirfoddolwyr a ddaeth i'w gynorthwyo, oedd ceisio darganfod lle'r oedd y dŵr yn llifo allan o'r ffynnon ac i lawr y llethr. Cliriwyd y sianel am tuag wyth llath a gwelwyd fod clai a cherrig ar waelod y sianel a cherrig mwy ar bob ochr iddi. Unwaith roedd y sianel wedi ei glanhau dechreuodd y dŵr lifo allan o'r ffynnon a disgynnodd lefel y dŵr. Wedi iddo gyrraedd ei lefel naturiol gwelwyd fod muriau o gwmpas y ffynnon. Cliriwyd pob math o lanast ohoni a sylweddolwyd fod ei gwaelod wedi gorchuddio a cherrig mawr wastad oedd wedi eu gosod mewn clai. Wrth chwilio am lygad y ffynnon sylwodd John mai trwy agen yn un o furiau'r ffynnon y deuai'r dŵr, a bod darn tir corsiog i'r gorllewin o'r ffynnon oedd heb ei glirio. Sylweddolodd felly nad oedd wedi darganfod y tarddiad ond yn hytrach y baddon mawr lle cronnai'r dŵr.

 

Mae'r ffynnon ar y chwith, ger y goeden fytholwyrdd.

 

    Wedi clirio'r darn o dir corsiog daeth o hyd i'r ffynnon ei hun, honno hefyd a cherrig o'i chwmpas ac ar ei gwaelod. Wedi ei glanhau, llifodd y dŵr yn groyw. Roedd yna ffynnon fechan a baddon mawr, felly, patrwm pensaernïol sydd i'w weld mewn nifer helaeth o ffynhonnau Cymru.

Yn 1973 cofrestrwyd y ffynnon fel crair hanesyddol a chafwyd arian gan y Comisiwn Henebion tuag at y gost o'i chlirio a chodi ffens haearn sylweddol o'i chwmpas. Ffurfiwyd Cymdeithas Cyfeillion Ffynnon Llansansiôr i warchod y ffynnon i'r dyfodol. Cyhoeddwyd yr holl wybodaeth am y ffynnon mewn llyfryn bychan a ysgrifennwyd gan John Beckett a Ted Mesham.

Mae hyn yn dangos sut y gall brwdfrydedd un person, gyda chymorth eraill, achub ffynnon rhag diflannu am byth - ond nid dyna ddiwedd yr hanes. Erbyn hyn mae'r ffynnon wedi ei hesgeuluso eto. Llanwyd y sianel sy'n gwagio'r dŵr o'r baddon â baw a phridd, ac mae'r holl safle wedi gorlifo. Nid oes modd gweld llygad y ffynnon oherwydd tyfiant gwyllt. Mae hyn yn arbennig o siomedig o gofio fod yr hen arfer o fendithio ceffylau wrth y ffynnon a'u taenellu â'r dŵr wedi ei atgyfodi gan Warwick Jondrill, y rheithor presennol, yn nechrau'r nawdegau. Cafodd hyn gryn sylw gan y cyfryngau.

Wedi ymweld â'r ffynnon, a gweld ei chyflwr cysylltwyd â'r perchennog i ofyn am ganiatâd i dynnu lluniau o'r ffynnon ac fe'i rhoddwyd. Ffoniwyd yn ôl i ddiolch a hefyd i resynu nad oedd posib gweld y gwaith cerrig na llygad y ffynnon am fod y lle wedi gorlifo. Addawodd y byddai'n edrych ar ôl y ffynnon Pethau sydd eisiau eu gwarchod yn barhaus yw ffynhonnau. Felly, diolch fod y fath gymdeithas a Chymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi ei ffurfio er mwyn gofalu amdanynt.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFYNNON GEMIG

YMATEB Y CYNGHORAU CYMUNED 

CYNGOR TREF ABERGELE: 

Mae Ffynnon Gemig, Llansainsior ym Mharc Cinmel a dan reolaeth Stad Cinmel. Roedd hon yn ffynnon gysegredig yn y Canol Oesoedd ac yn gysylltiedig â bendithio ceffylau. Mae hanes hynod i hon.

(Cyfeiriwyd at y ffynnon hon yn Llygad y Ffynnon Rhif 1. Ymwelwyd â hi eto yn ddiweddar a chael nad oedd y perchennog wedi gwneud ymdrech i’w glanhau. Anfonwyd at Gyngor Tref Abergele yn nodi ein pryder ac yn mawr obeithio y gellir gwneud rhywbeth i wella’r sefyllfa.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFYNNON GEMIG

(Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 1)

Anfonwyd llythyr ar ran y Gymdeithas at oruchwylwyr Stad Cinmel, lle mae’r ffynnon, yn gofyn iddynt ei glanhau. Cafwyd ymateb oedd yn nodi fod gofer y ffynnon wedi cael ei lanhau yn y gorffennol a’r tyfiant o gwmpas y ffynnon wedi ei dorri yn ôl, ond nad oedd modd gwneud hynny’n awr oherwydd y gost a phrinder gweithwyr. Nid oeddent yn awyddus i’r cyhoedd ymweld â’r ffynnon. Cynigiwyd i ni fynd i ymweld â’r safle ac iddynt ddod yno i’n cyfarfod i drafod beth ellid ei wneud. Ar Awst 20ed eleni daeth dau gynrychiolydd o’r cwmni i gyfarfod Ken a minnau wrth y ffynnon. Maent am ddefnyddio’r dŵr i greu pwll gerllaw iddi er mwyn denu adar yno. Golyga hyn y bydd raid glanhau’r gofer a gosod pibelli i gario’r dŵr o’r ffynnon am gryn bellter i’r llyn. Pan fydd lefel y dŵr yn y ffynnon wedi gostwng gellir mynd ati i glirio’r tyfiant ac unwaith eto gwelir gwaith cerrig llygad y ffynnon a’r baddon. Gobeithir cynnal treialon cwn defaid ar y tir o gwmpas y ffynnon y flwyddyn nesaf ac mae hyn wedi bod yn sbardun i’r perchnogion i’w chlirio. Gobeithio y bydd hyn yn ddigon i’w diogelu i’r dyfodol.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 5 Nadolig 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc 

FFYNNON GEMIG

Buom ar ymweliad answyddogol â’r safle ddechrau mis Ebrill i weld a oedd unrhyw ddatblygiad wedi digwydd (Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 5). Heb fynd yn agos ati gallem weld bod tyfiant dros y ffynnon fel o’r blaen ond roedd y tir islaw iddi wedi ei gloddio i wneud lle i ddŵr o’r ffynnon gronni i ffurfio’r llyn arfaethedig. Byddwn yn dal i fonitro’r gwaith addawedig ar y ffynnon yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFYNNON GEMIG: AIL ASESIAD.

Ken Lloyd Gruffydd

Pan ymwelsom â’r safle gyntaf yn Awst 1996, roedd bron yn amhosib gweld y ffynnon. Tyfai coed, drain a mieri ym mhobman a gorchuddwyd y dŵ du â phob math o wyrddni. Serch hynny, gellid gweld fod dwy ran iddi a bod y gwaith cerrig yn weddol fodern a’r dŵr yn ddwfn. Mesurwyd yr hyn a welid a dyna’r llun a welir yn y gyfrol Ffynhonnau Cymru 2 (Awst 1999) – ond erbyn hyn gwyddus ei fod yn wallus.

            Wedi i gyflwr Ffynnon Gemig ein siomi daethom i gysylltiad â Stad Cilmael drwy gwmni syrfewyr siartredig o Gaer. Brodor o Fôn ddaeth i’n cwrdd ar y safle a chytunodd ar unwaith fod stad druenus i’r ffynnon. Addawodd y byddai rhywbeth yn cael ei wneud i wella’r sefyllfa. Bu cystal â’i air ac ym Medi 1999 dechreuodd y tenant, Mr Featherstonhugh, a’i ddynion ymgymryd â’r gwaith glanhau. Cliriwyd y gwyrddni’n ddidrafferth ond buont yn chwysu’n llafurus am beth amser cyn i wialen haearn a oedd gan un ohonynt suddo’n llawer dyfnach na’r ymdrechion blaenorol. Mewn eiliad clywsant sŵn garglio a sugno dwfn. Ymhen dim roedd lefel y dŵr wedi gostwng digon iddynt weld y ffynnon yn ei llawn ogoniant, rhywbeth na welodd y ffermwr erioed o’r blaen. Gwahoddodd Eirlys drosodd er mwyn iddi gael rhannu cyffro ei ddarganfyddiad ac, fel y gwelwch oddi wrth y ffotograffau a’r lluniau, roedd ffynnon hynod wedi bod yn celu o dan y dŵr yn Llan San Siôr!

 Dyma a welwyd yn Awst 1996. Roedd dyfnder y dŵr yn 0.8m

            Yn ddi-os, bu ceffylau yn gysylltiedig â’r fan yma ers miloedd o flynyddoedd ac hynny, o bosib, yn ddi-dor. Nid nepell o’r ffynnon darganfuwyd nawdeg un o ddarnau efydd yn ymwneud â marchogaeth, a rheini wedi eu claddu ynghyd â chymysgfa o esgyrn dynol a cheffylau. Amcangyfrir iddynt berthyn i’r Oes Efydd Ddiweddar (c. 1200-700 CC).[1] oherwydd nid oedd ceffylau yn rhedeg yn wyllt ym Mhrydain yr adeg honno[2] ac mae’n bur debyg mai gweddillion anifeiliaid wedi eu dofi gogyfer â ffermio neu ryfela oeddent. Ceir tystiolaeth led led Ewrop fod y ceffyl yn ganolog i fywyd y Celtiaid a’i bod yn arferiad ganddynt i offrymu ceffylau i’w duwiau, yn arbennig i Epona, a roes i ni y gair ebol yn y Gymraeg.

            Tybed nad rhyw frith atgof am yr arferiad yma a geir yn yr wybodaeth a gafodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd gan ficer Llan San Siôr oddeutu 1699:

 

            ‘Ffynnon Lan San Shor Lhe y bydded ystalm yn offrymu Kyffyle

ag hevyd un i’r person. Ita Trad[itium]’ [3]

 

Cawn wybodaeth hefyd fod pobl o gyn belled â Sir Gaernarfon yn arfer cyrchu at y ffynnon gyda’u ceffylau gwan a chlwyfus yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Byddai’r seremoni yn cynnwys tywallt dŵr cysegredig drostynt ac adrodd y geiriau ‘Rhad Duw a St Siôr arnat.’ Wedyn, disgwylid i’r perchnogion roddi grôt (4 ceiniog) yng nghyff y sant yn yr eglwys leol.[4] Yn anffodus ni ellir cysylltu’r ffynnon yn uniongyrchol â’r ‘Oblationes Sancto Georgio, 26s 8d.’ a welir mewn archwiliad o’r eglwysi a wnaethpwyd gan Harri’r Wythfed yn 1535 [5] ond dichon mai cyfeiriad at y ddefod o wella a phuro ceffylau â dŵr sydd yma.

            Does neb yn gwybod pa bryd yn hollol y cysegrwyd yr eglwys a’r ffynnon i Sant Siôr. Ar ôl goresgyniad Edward y Cyntaf fyddai’r gred fwyaf synhwyrol oherwydd dyna pryd y daeth yr ardal dan ddylanwad y Saeson. Cyn hynny, cydnabyddid Siôr fel nawddsant y milwyr [6] ond, erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg cysylltid ef hefyd â cheffylau. Mae llawer o gwestiynau yn parhau heb eu hateb, ac yn eu mysg, a fu’r ffynnon rhyw dro yn gysylltiedig ag un o’r seintiau Celtaidd? A fu to drosti? A fu cysylltiad rhyngddi a’r gaer gerllaw, Dinorben, sydd bellach wedi diflannu? Gofynnaf oherwydd fel ‘Dynorben’ y cyfeirir at yr eglwys yn 1277 [7] ac i gymhlethu pethau, yr enw arni yn 1391 oedd ‘Cegidog’.[8]

 

 

Hwyrach fod peth tystiolaeth ynglŷn â chysylltiad parhaol y fan â cheffylau i’w gael hefyd mewn rhai o enwau lleoedd y gymdogaeth. Er enghraifft, saif Fynnon Gemig yng nghornel cae anferth sy’n dwyn yr enw addas Maes-y-meirch.; enw a ddylid ei ystyried yn un go hen gan fod meirch yma yn golygu'’ ystyr gwreiddiol, sef  ‘ceffylau’, yn hytrach na’r ystyr modern, ‘staliwni’.[9]

Parc-y-meirch yw’r disgrifiad a roddwyd ar y llethr tu ôl i’r safle, ac mae hyn yn dangos fod gan geffylau gysylltiad â’r ardal yn ystod, neu ar ôl, yr Oesoedd Canol gan mai benthyciad o’r Saesneg Canol park ‘tir amgaëedig’ yw parc.

Nodiadau

1.               T.Sheppard, ‘The Parc-y-meirch hoard, St. George, Denbighshire’, Archaeologia Cambrensis, 96(1941).

2.               I.Hughson, ‘Horses in the Early Historic Period : Evidence from Pictish Sculptural Stones’ yn S.Davies & N.A.Jones(gol.) The Horse in Celtic Culture : Medieval Welsh Perspective (Cardiff 1997), 29.

3.               E.Lhuyd, Parochialia (Cyhoeddiad Cymdeithas Cambrian,1910), I, 46.

4.               J.H.Becket,The Well of St.George (preifat, 1974), 3.

5.               D.R.Thomas, History of the Diocese of St.Asaph (1908-13), II,371.

6.               D.H.Farmer,The Oxford Dictioary of Saintes (Oxford 1978), 166. Ni ddyrchafwyd Gŵyl Sant Siôr yn un o brif wyliau calendr yr eglwys tan ar ôl buddugoliaeth brwydr Agincourt yn 1415.

7.               Calender Chancery Rolls (Various),1277-1326, 160.

8.               Calender Patent Rolls, 1391-6, 30.

9.               Cymherir Ceinmeirch ‘cefnen y ceffylau’ a geir fel enw lle yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Enw personol Meirchion sydd yn Nhremeirchion, ac o bosib, afon Meirchion ym mhlwyf Henllan. M.Richards,Tir a Gwlad (Caernarfon 1998), 26,78. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dogfen Lleweni 327., dyddiedig 1539.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Gemig Llan San Siôr (SH977757)

Wedi teithio trwy Abergele mae Pennant yn cyrraedd Llan San Siôr ac yn nodi bod gan y lle ei ffynnon sanctaidd. Meddai:

‘Roedd gan San Siôr, yn y plwyf hwn, ei ffynnon sanctaidd lle y byddai ceffylau yn cael eu hoffrymu. Byddai’r cyfoethogion yn offrymu un er mwyn sicrhau bendith ar y gweddill. San Siôr oedd nawddsant yr anifeiliaid hyn. Byddai pob anifail afiach yn cael eu cymryd at y ffynnon a’u taenelli â dŵr ac yna’n cael eu bendithio gyda’r geiriau “Rhad Duw a Sant Siôr arnat”.’

Yr enw ar y ffynnon gref hon heddiw yw Ffynnon Gemig (SH977757) ar ôl yr afon a’r fferm gyfagos ac ar y tir o’i chwmpas mae ceffylau’n cael eu cadw o hyd.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Rhan o'r PYTIAU DIFYR

Ffynnon Llan San Siôr ger Abergele(SH977757)

Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.

(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

FFYNNON-DDEWINIATH

Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.

Rhinwedd rhyfeddol Ffynnon Llan San Siôr ger Abergele(SH977757) am wella ceffylau, ac am y lliaws anifeiliaid ac afiach yno am wellhad. Gwellid rhai drwy yfed y dŵr, y lleill drwy eu golchi ag ef; bryd arall, taenellid dwfr yn unig arnynt, gan weddïo y mendith “Rhad Duw a Sant Siôr arnat”.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up