Home Up

LLAN-NON

 

FFYNHONNAU CEREDIGION

 (Addaswyd y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatād caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)

FFYNNON NON

Ym mhentref Llan-non, a saif ar y briffordd o Aberystwyth i Aberaeron, ceir Ffynnon Non. Dywedir bod eisteddleoedd o amgylch y ffynnon hon gynt, a bod lliaws o bobl yn ymweld ā hi ar ddydd gŵyl y Santes, sef Mawrth y trydydd. Teflid arian iddi fel offrwm, a chredai'r bobl y gwireddid eu dymuniad os oedd eu ffydd yn ddigon cryf ac yn enwedig os offrymid arian ac os y cedwid y dymuniad yn ddirgel.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12  Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up