LLANFIHANGEL
GENAU'R GLYN
O
GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON
FIHANGEL, - FFYNNON SANCTAIDD
Llanfihangel
Gennau’r Glyn. (SN6286)
Mae dod o hyd i ffynnon sanctaidd mewn mynwent yn brofiad digon cyffredin ac
yn ei gwneud yn hawdd dod o hyd iddi. Serch hynny collwyd ambell ffynnon
sanctaidd ar waetha’r ffaith ei bod mor agos i’r eglwys. Cymysg fu hanes
Ffynnon Mihangel yn Llandre, Llanfihangel Genau’r Glyn ger Aberystwyth.
Mae’r ffynnon i’w gweld islaw ochr ddeheuol wal y fynwent mewn man a oedd
unwaith yn fuarth Fferm yr Eglwys. Pan ddaeth y rheilffordd gwelwyd fod y
ffynnon yn fodd o ddenu twristiaid i’r ardal. Ymddangosodd hysbyseb yn yr
Aberystwyth Observer yn 1867 yn dweud y dylai pawb oedd yn dioddef o’r crud
cymalau ddod i’r ffynnon yn Llanfihangel. Roedd yn enwog am iddi wella nifer
fawr o bobl oedd yn dioddef o’r anhwylder poenus yma. Dywedir fod
y ffynnon ger gorsaf Llanfihangel Genau’r Glyn ar Reilffordd y
Cambrian, rhyw bum milltir o Aberystwyth a 3 o Borth. Roedd hefyd boster ar
orsaf Paddington yn Llundain yn hysbysebu rhinweddau meddyginiaethol y ffynnon.
Yn ôl cyfrol J. Ceredig Davies, Folklore of West and Mid Wales (1911), ym
mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif roedd adeilad bychan o gwmpas y ffynnon
gyda seddau i bobl i eistedd arnynt wrth yfed y dŵr neu olchi eu traed yn y
ffynnon. Roedd basin y ffynnon ei
hun yn chwe throedfedd tair modfedd o hyd a phedair troedfedd tair modfedd o led
ac wedi ei orchuddio â llechi. Roedd grisiau yn arwain i lawr at y dŵr. Yn
1904 ymchwelwyd adeiladau’r ffarm a gwnaed llwybr mwy cyfleus i fynd i’r
fynwent. Rhoddwyd y tir gerllaw’r ffynnon i’r eglwys a’r gymuned gan Miss
Lewis; un oedd yn byw yn Borth ac yn wraig gyfoethog a datblygwr tiroedd. Crëwyd
parc yno a’i alw yn Parc Bach. Plannwyd coed blodeuog a phlanhigion hyfryd yno
a chysegrwyd y fan a’r fynwent newydd, gan Esgob Tyddewi yn 1905. Trist yw
nodi fod yr adeilad dros y ffynnon wedi ei ddymchwel cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac
oherwydd diffyg gofal aeth yr ardd a safle’r ffynnon yn anialwch. Erbyn diwedd
y tridegau roedd y safle yn dir gwag a diffaith ond roedd y ffynnon yno o hyd ac
yn beryglus gan y gallai plentyn syrthio iddi a boddi. Wedi sylweddoli’r
perygl llanwyd y ffynnon gyda cherrig o hen bwlpid yr eglwys gan fod un pren
newydd wedi ei osod yno. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd torrwyd i lawr y mwyafrif
o’r coed ac ni agorwyd y ffynnon eto tan 1975. Yn y nawdegau fe’i
hadnewyddwyd gydag arian i Gronfa Tywysog Cymru a chymorth y gangen leol o
Sefydliad y Merched a’r Cyngor Cymuned. Ail drefnwyd y tir o’i chwmpas a
gwnaed maes parcio yn y fan lle bu’r Parc Bach fel rhan o Brosiect y
Millenium. Mae dŵr yn y ffynnon o hyd oddi fewn i beipen concrit mawr.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc