IWERDDON
FFYNNON SANTES MALING
SWYDD WEXFORD
DEWI LEWIS
Mae'n debyg mai ffynnon enwocaf Swydd Wexford, Gweriniaeth Iwerddon, yw Ffynnon Dewi Sant yn Ballinaslaney. Mae cannoedd os nad miloedd yn heidio i'r ffynnon honno mewn pererindod i geisio iachâd o salwch corfforol a meddyliol.
Tua phum milltir ar hugain i'r gogledd o Ballinaslaney mae Ffynnon Santes Maling ym mhentref Ferns, ar y briffordd o Wexford i Ddulyn. Er mai pentref bychan o ran maint yw Ferns mae yno gadeirlan, abaty a ffynnon sanctaidd ac mae’n llecyn delfrydol i dreulio munud o dawelwch. Gellir parcio'n hwylus o flaen y gadeirlan cyn cerdded i lawr yr allt i ymweld â'r ffynnon.
Mewn un ystyr gellir dweud bod dwy ffynnon yma neu o leiaf dau adeilad. Mae'r adeilad cyntaf, sef y mwyaf trawiadol, ar ochr y ffordd fawr. Dyma safle'r ffynnon wreiddiol. Bendithiwyd y ffynnon hon gan y Santes Maling, a fu farw yn 691, er clod i'r Santes Acoan Maedog a fu farw yn 632. Gellir gweld felly bod y safle yn un hynafol iawn. Wrth gwrs nid yw'r adeilad presennol yn rhan o'r ffynnon wreiddiol. Fe'i codwyd yn 1847 er mwyn diogelu purdeb y cyflenwad dŵr a'i gadw rhag llygredd a allai achosi afiechyd. Yn ddiddorol defnyddiwyd cerrig o Gapel Clones, a adeiladwyd yno yn y drydedd ganrif ar ddeg, a cherrig o'r gadeirlan gerllaw er mwyn creu tŵr twt o gwmpas y ffynnon. Erbyn heddiw mae'r gwaith cerfio oedd ar y cerrig wedi gwisgo y tywydd. Yn anffodus nid yw'n bosibl mynd i lawr at y ffynnon gan fod giât fawr ar ben y fynedfa. Wrth edrych drwy'r giât gellir gweld bod rhaid disgyn sawl gris er mwyn cyrraedd y dŵr. Nid yw'n bosibl gweld y dŵr ond gellir ei v yn llifo.
Saif yr ail adeilad tua hanner can llath i lawr yr allt y tu ôl i'r adeilad cyntaf. Mewn gwirionedd dyma'r gofer o'r ffynnon wreiddiol. Mae'r adeilad yma yn un llawer mwy modern ond dyma'r fan lle gellir yfed a theimlo'r dŵr. Mae'n risialaidd a chlir ac yn oer iawn i'w yfed ac yn byrlymu allan mewn pant bach wrth droed yr adeilad. Taflwyd darnau arian i'r dŵr, yn wir roedd yna ffortiwn go lew o hyd braich. Tybiai fy mab, Sion, mai'r peth doethaf i'w wneud oedd cymryd y pres cyn i neb arall ei gael! Mae'n siŵr gen i fod y Gwyddelod yn genedl llawer mwy gonest. Ar ben yr adeilad ceir croes ac oddi tani gilfach er mwyn gadael llun neu grair. Roedd llun yno pan ymwelais â'r lle ac arno ysgrifennwyd y geiriau Sister Winifred, Wells Pilgrimage, August 2001. Mae'n ymddangos, felly, bod pererinion yn ymweld â'r ffynnon hon a rhai eraill yn yr ardal, mae'n siŵr.
Holais sawl un yn yr ardal am wybodaeth am y ffynnon ond nid oedd neb yn gallu dweud fawr ddim amdani dim ond ei bod yno. Dyna'r stori hefyd mewn siop lyfrau yn Kilkenny ond rhaid dweud fod gan y perchennog dipyn mwy o ddiddordeb mewn ffynhonnau gan ei bod wedi byw yng Nghymru am gyfnod. Yn ei barn hi roedd y Gwyddelod, ar y cyfan, yn amharchu'r ffynhonnau sanctaidd - mater o farn, dybiwn i, ond mae'n siŵr fod yna wersi i'w dysgu ym mhob maes. Os am fynd am daith i swydd Wexford gellir ymweld â safle'r ddwy ffynnon o fewn hanner diwrnod a chael amser i fyfyrio ar arwyddocad safleoedd o'r fath.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON DDEWI,
SWYDD
LIMERICK, IWERDDON
gan
Prin
iawn yw’r arolygon trylwyr o holl ffynhonnau sanctaidd unrhyw ardal neilltuol.
Ymhlith
yr ychydig mae gwaith Caoimhin O Danachair, The Holy Wells of County Limerick
a gyhoeddwyd ym 1955. (1) Nid af i draethu ei rinweddau yma, yntu hwnt i ddatgan
fod O Danachair wedi rhestru union leoliad, defnydd, cysegriad, cyflwr, arferion
a thraddodiadau dros gant a thrigain o ffynhonnau y swyddf uchod. Yn eu plith,
yn annisgwyl braidd, mae ffynnon wedi ei chysegru yn enw Dewi Sant. Daw’r
cyfeiriad cyntaf wrth i’r awdur restru’r cysegriadau:
St David: A
well at Newcastle West, which agrees with the parish dedication. This, almost
certainly, came from the Fitzgeralds’ association with Wales.’
Yna, wrth restru yn fanwl ffynhonnau Barwniaeth
Glenquin meddai:
113.Par.
Newcastle, tld. Castle Demesne, sheet 36, “St David’s Well”. A holy well
in the earl of Devon’s pleasure garden celebrated for curing those possessed
by the fairies” – OSNB (2). The well still exists, in the garden of one of
the houses in the town, but there are no traditions.’
Y mae buchedd ein nawddsant fel y’i ceir gan
Rigyfarch (ac eraill) yn amlygu cysylltiadau cryfion ag Iwerddon. Yr oedd Dewi
ei hun yn adnabyddus yno: cofnodwyd ei farwolaeth yn y croniclau Gwyddelig ac fe
gysegrwyd eglwys Naas yn ei enw. (3) Gwyddom fel y mabwysiadwyd Dewi Sant gan
Normaniaid fel disgynyddion Gerald de Windsor, a oresgynasant rannau o Ddyfed
cyn iddynt oresgyn rhannau helaeth o Iwerddon hefyd. (4) ‘Dewi Sant!’, yn ol un awdurdod, oedd bloedd ryfel Maurice de
Prendergast (5), ac fe wyddom fod enw Dewi yn aml ar wefusau’r Normaniaid,
Fflemiaid a ‘r Cymry hynny fu’n ymladd yn Iwerddon (6). Y mae’n debyg,
felly, fod O Danachair yn gywir ei ddyfaliad ynghylch cysegriad y ffynnon.
Os yw un o’n haelodau neu’n darllenwyr am fentro
i Iwerddon yn y dyfodol byddai’n ddiddorol gwybod beth yn union yw cyflwr y
ffynnon heddiw. Saif Newcastle West tua hanner ffordd rhwng Limerick a Tralee ar
y briffordd T28, felly ni fyddai angen i’r sawl sy’n anelu am Swydd Kerry
fynd ddim o’i ffordd.
TROED NODIADAU:
(1). O Danachair, Caoimhin.
The Holy Wells of
Limerick. The Journal of Royal Society of Antiquaries of Ireland, Vol LXXXV
Part II, (1950).
(2) Ordnance Survey Name Books, Co. Limerick.
(3). Baring-Gould, S a Fisher, J.
Lives of
the
British Saints. (2il arg. Llanerch Publishers, Felinfach 2000.), Cyf. 4, t.
305.
(4). Gw. Irish Family Names Map, Johnston
& Bacon, am ddosbarthiad y teulu Fitzgerald yn ardal Limerick \ Kerry.
(5).
Baring-Gould, S., a Fisher, J., op cit. t.311.
(6).Lloyd,
J.E., A History of Wales from Earliest Times to the Edwardian Conquest.
(3ydd arg. Longmans, Green & Co, London 1939), Cyfrol II,tt 537-541.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 HAF 2003
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
YMWELIAD AG IWERDDON
gan Howard Huws
Ffynnon Saraίn Sant
Fis Awst euthum ar bererindod i Gonnemara, ac wrth yrru rhwng Clonmacnois a Shannonbridge yn Swydd Offaly, digwyddais weld arwydd ffordd a’m cyfeiriodd at
Ffynnon Saraín Sant. Mae’r Gwyddelod yn rhagori arnom ni’r Cymry yn hynny o beth, a dangosir safle pob ffynnon sanctaidd hysbys ar eu cyfres mapiau “Landranger”, hefyd. O na bai yma eu tebyg!Canfûm y ffynnon heb fawr o drafferth, yng nghanol cae gwair ar lannau Brosna. Mae ffens a chroes haearn fawr yn amlygu’r man, a chlwyd yn caniatáu mynediad at y dyfroedd. Amddiffynnir y tarddle â gwaith cerrig a morter amdani ac yn gromen arni. Mae arwydd wrth fynedfa’r cae yn esbonio arwyddocâd y ffynnon, a deallaf ei bod yn gysylltiedig ag eglwys Tigh Saraín (Tŷ Sarain), tua milltir i ffwrdd. Dywed yr arwydd y bu cryn bererindota at y ffynnon yn ystod yr Oesoedd Canol, ac o weld yno botel blastig wag yn crogi gerfydd llinyn hir, at ddiben codi dŵr, mae’n amlwg na pheidiodd y cyrchu ati wedi hynny.tarddle gwreiddiol, a cherrig crynion, mwclis, rhubanau, poteli ac un esgid rwber ddu yn addurno’r fan. Roedd yn amlwg yn “weithredol”. Ar fy ffordd oddi yno, gwelais ddwy groes bren fechan wrth droed carreg fawr. Ychydig ymhellach ymlaen, dyna faen enfawr, a phentwr o gerrig llai ar ei ben. Beth yw eu diben? Ai dangos y ffordd at y ffynnon?
Bullán na Sύile
Y diwrnod canlynol glaniais ar ynys
Árainn Mór, lle dangosodd dywysydd imi ddwy ffynnon arall. Neu ddwy ffynhonnell, ddylwn i ddweud, oherwydd “bullán” oedd y cyntaf ohonynt. “Bullán” yw carreg â phant neu bantiau ynddi; ôl pen-glin sant, medd rhai, ôl malu mwynau yn yr hen oesoedd, medd eraill. Boed a fo, mae dŵr yn tueddu i grynhoi yn ambell i bullán, a chredir fod i’r gwlybwr hwnnw ei rinweddau. Iachau llygaid dolurus yw rhinwedd Bullán na Súile (“Bullán y Llygaid”) Árainn Mór, ac fe’i ceir yng ngodre un o’r cloddiau cerrig hynny sy’n nodweddu’r ynys. Bu ond y dim i weithwyr anwybodus ei falu’n ddiweddar, ond llwyddodd y tywysydd i’w arbed.Nepell oddi wrtho ceir ffynnon llawer fwy sylweddol,
Tobar na Naomh (Ffynnon y Saint) yn ymyl adfail Teampall na Naomh, sef Eglwys y Saint (Y Pedwar (Sant) Teg, a bod yn fanwl). Fel yn achos llawer o ffynhonnau Iwerddon, mae defod neilltuol, “pattern”, i’w chyflawni os ydych am gymorth trwy gyfrwng y dyfroedd. Yn yr achos hwn, rhaid codi saith carreg gron o bentwr gerllaw’r tarddle, a cherdded saith gwaith o amgylch y ffynnon a’r eglwys, gan weddïo. Pob tro yr eir heibio i’r ffynnon, gollyngir un garreg yn ôl ar y pentwr. Wedi bwrw’r garreg olaf, gellir yfed o’r dŵr, a mynegi dymuniad: ond yn yr achos hwn, rhaid gwneud hynny er budd rhywun arall, nid er eich mwyn chi’ch hun. Roedd yn y ffynnon roddion (paderau, darnau arian ac ati), ac yn ôl y tywysydd tystiai hyn fod y ffynnon yn “weithredol”.Tobar na Naomh
Aros yn Letterfrack yr oeddwn, a chefais wybod bod ffynnon sanctaidd yn ymyl adfeilion Eglwys y Saith Merch (Teampall na Seacht Iníon) yn Renville, ychydig filltiroedd i ffwrdd. Euthum yno’n blygeiniol, ac er nad anodd fu canfod yr eglwys, nid oedd ffynnon i’w gweld. Wedi cryn straffaglu o gwmpas caeau corslyd, a chrwydro i fuarth fferm, roeddwn ar fin rhoi’r gorau iddi pan benderfynais fwrw golwg arall ar y map. Ac o’i astudio’n drylwyr, mynd hyd lwybr mwdlyd iawn nad arweiniai i unman, i bob golwg. Dringais fryncyn, ac o godi uwchlaw’r cloddiau, gallwn weld y
Ffynnon y Saith Merch yn swatio rhwng llwyni eithin.Ffynnon y Saith Merch
Roedd carreg drom yn glawr arni, â chroes goch wedi’i phaentio arno: crogai arwydd “Holy Well” bach gerllaw. Roedd y maen yn rhy drwm imi fedru’i symud: ond wedi’r holl straffaglu, da oedd imi ganfod y man. Yr hanes yw y sylfaenwyd yr eglwys gan saith chwaer, merched brenin o Frython: rhagor na hynny, nis gwn.
Ynys Omey oedd cyrchfan nesaf ni bererinion. Mae yno sawl man diddorol, gan gynnwys hen eglwys Feichin Sant. Cloddiwyd yr adfail o afael twyni tywod ychydig flynyddoedd yn ôl, pan ddaeth pen y talcen i’r amlwg wrth i helwyr trysor ganlyn eu harferion. Yr ochr draw i’r gefnen ceir ffynnon sanctaidd, â wal gerrig isel ogylch y tarddle gwreiddiol. Doedd dim dŵr yno adeg f’ymweliad, er gwlyped y tywydd: ond codai drwy’r glaswellt gerllaw, fel petai’r ffynnon yn mynnu ei ffordd i’r amlwg, doed a ddelo. Dŵr ai peidio, roedd croes bren ar y tarddle gwreiddiol, a cherrig crynion, mwclis, rhubanau, poteli ac un esgid rwber ddu yn addurno’r fan. Roedd yn amlwg yn “weithredol”. Ar fy ffordd oddi yno, gwelais ddwy groes bren fechan wrth droed carreg fawr. Ychydig ymhellach ymlaen, dyna faen enfawr, a phentwr o gerrig llai ar ei ben. Beth yw eu diben? Ai dangos y ffordd at y ffynnon?
Ffynnon Sanctaidd Ynys Omey
Ffynnon Brenin y Saboth
Y ffynnon olaf yr ymwelais â hi oedd Tobair Rí an Dhomhnaigh,
“Ffynnon Brenin y Saboth” yn Kilgeever, i’r gorllewin o Westport yn Swydd Mayo. Eto, ffynnon ddigon amlwg, da ei chyflwr, â gwaith cerrig amdani. Gosodwyd cerflun bychan, lliwgar o Grist yn nillad brenin ar gromen y ffynnon, ond nid oedd yno ddim cerrig crynion na phaderau i’w gweld. Gwelais, serch hynny, fod y safle’n un “gweithredol”, oherwydd yn adfail eglwys gerllaw ceir carreg fedd, yn dyddio o ganol yr 1880au, yn wastad â’r llawr. ‘Does dim anarferol yn hynny: ond y mae croes a chylch wedi’u hysgythru’n ddwfn ar y maen hwn, ac nid gan y saer maen a’i lluniodd. Yn hytrach, mae cannoedd o bererinion hyd y blynyddoedd wedi crafu’r groes a’r cylch a thameidiau o lechfaen, gan weddïo. Tystiai darnau bach o lechfaen a adawyd ar y garreg nad yw’r arfer wedi peidio. Er gwaethaf difetha’r eglwys, parheir i ofalu am y man: ac fel ffynnon hesb Ynys Omey, nid yw ei chyflwr yn amharu ar ei sancteiddrwydd.Croes y Pererinion Kilgeever
Gwelir yn Iwerddon nad yw ffynhonnau sanctaidd yn wrthrychau unigol, ond yn rhan o dirwedd ysbrydol sy’n cynnwys eglwysi, llwybrau, mannau nodedig, arferion a hanesion. Nid yw pob un cystal ei chyflwr, ac y mae anwybodaeth a difaterwch yn eu bygwth eto: ond gwyddys eu bod yno, parheir i’w parchu a’u defnyddio, ac ymdrechwyd i gofnodi’n gywir hynny o hanes a gwybodaeth amdanynt a oroesodd. Y wers yw na chyfyngwyd ein gwaith ni yng Nghymru i achub, adfer a chynnal tarddellau dŵr yn unig: mae angen inni ailddarganfod y dirwedd gysegrol y mae’r ffynhonnau’n rhan annatod ohoni, cyn y medrwn lwyr amgyffred eu harwyddocâd nhw.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon Ddeclan, Ard Mór
rhwng Waterford a Chorc
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 45 Nadolig 2018
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon Ddewi,
Olygate, Wexford
Gwyddwn fod Ffynnon Ddewi yn
Newcastle West, Swydd Limerick (Llygad y Ffynnon 14 (Haf 2003), t. 9), ond yn
ddiweddar cefais wybod am ddwy arall yn yr Ynys Werdd, y naill yn Olygate, Swydd
Wexford, a’r llall yn Woodhouse, Swydd Waterford. Mae a wnelo’r erthygl hon
â’r gyntaf.
Y mae’n darddell naturiol,
gyda mur ffurf twll clo o’i hamgylch. Mae grisiau’n disgyn i lawr at y
dyfroedd, a’r cyfan mewn trefn dda. Bu dylanwad gan dilynwyr Dewi ar Iwerddon
ers Oes y Saint, ond diau y gellir priodoli cysegriadau yn enw Dewi Sant i
bresenoldeb llawer o Gymry a Normaniaid mewnfudol o Ddyfed gyfagos yn y rhan hon
o’r Ynys Werdd o’r 12fed ganrif ymlaen, gan iddynt ei
threfedigaethu’n drylwyr.
Ar fap Ordnans 1840 nodir
eglwys a ffynnon yno, ond mae’r eglwys wedi diflannu erbyn hyn. Arferwyd
gwerthu dŵr y ffynnon yn feddyginiaeth hyd 1810, pryd y caewyd hi gan
amaethwr lleol.
F
Ffynnon
Ddewi, Olygate: golwg i mewn i’r ffynnon.
Hysbyseb
gwasanaeth cludo t
Bu bri neilltuol ar y ffynnon
yn y blynyddoedd 1911-13, pan gofnodwyd sawl gwellhad yno. Lleihaodd nifer y
pererinion erbyn 1916, ond ni ddaeth y pererindota i ben ac y mae’r ffynnon yn
parhau i ddenu cryn dyrfa pob Gŵyl Ddewi. Codwyd cerflun o Ddewi Sant yno
ym 1961.
Pererinion
wrth y ffynnon ddechrau’r 20fed ganrif
Cerflun Dewi
Sant gerllaw’r ffynnon yn Olygate.
Diolch i Louise Nugent, awdures
y gyfrol ddiddorol Journeys of Faith:
Stories of Pilgrimage from Medieval Ireland am yr wybodaeth hon ac am ganiatâd
i ddefnyddio ei lluniau.
Howard Huws
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 49 Nadolig 2020
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynhonnau
Sanctaidd Gogledd Iwerddon.
Mae’r Dr Celeste Ray, o Brifysgol y De, Texas, ar
ddechrau prosiect cofnodi ffynhonnau sanctaidd chwe sir Gogledd Iwerddon. Mae
wedi llunio cronfa wybodaeth sy’n cofnodi eu henwau, ac unrhyw draddodiadau yn
eu cylch.
Mae 187 o ffynhonnau sanctaidd wedi’u cofnodi yng nghofnod henebion
Gogledd Iwerddon, ac y mae rhai ohonynt yn cael eu defnyddio hyd heddiw: ond y
maent tan fygythiad oherwydd “datblygiadau” cyfoes, ac ni wyddys sawl un a
gollwyd. Bydd y Dr Ray’n cydweithio â thîm ymchwil Treftadaeth Guddiedig
Ffynhonnau Sanctaidd sydd newydd ei ffurfio ym Mhrifysgol Queen’s, Belffast, i
astudio a chofnodi pwysigrwydd daearyddol, hanesyddol ac ieithyddol y
ffynhonnau.
"Ffynhonnau sanctaidd yw rhai o safleoedd
cysegredig hynaf y byd,” meddai’r Dr Ray. “Hwy yw’r lleoedd cyntaf lle
ceisiai bobl y goruwchnaturiol; hwy yw’r lleoedd cyntaf y daeth pobl yn
amddiffynnol a hyd yn oed yn diriogaethol ynglŷn â nhw.”
Dywedodd yr Athro Keith Lilley o’r tîm ymchwil: “Mae ffynhonnau
sanctaidd yn neilltuol agored i ddifrod, gan fod llawer ar dir preifat ac nid
oes iddynt ddiogelwch cyfreithiol. Mae ffynhonnau sanctaidd yn bethau sy’n
ymddangos fel petaent yn fyrhoedlog, ac nid ydynt yn hysbys iawn, ond mae’n
amlwg eu bod o bwys diwylliannol mawr yn hanes Iwerddon ac yn hanes Cristnogaeth
ar ynys Iwerddon. Mae’n dreftadaeth ar raddfa fechan, ond pan ychwanegwch y
cyfan at ei gilydd, mae’n hanes mawr.”
Coeden
garpiau wrth Ffynnon Olcan, Antrim.
Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-56216763
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 50 Haf 2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc