HENLLAN
Mae
cofnod wedi goroesi sy’n disgrifo llwybr y daith o gwmpas ffiniau bwrdeistref
Dinbych. Dechreuwyd cerdded ger ffynnon a elwid yn Ffynnon
Ddu ym mhlwyf Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch,(SJ0863) i afon Clwyd, ar
hyd nant Aberham (SJ090658) sy’n croesi’r ffordd dyrpeg o Ddinbych i Ruthun.
Yna aed ar hyd afon Clwyd tua’r gogledd i’r man ble llifa nant o
Ffynnon y Cneifiwr (SJ149685) i’r afon
cyn dilyn y nant i’w tharddiad yn y ffynnon. Oddi yno aed i Blas Heaton a
fferm o’r enw Hen Blas Heaton, heibio i Garn House i gae oedd gynt yn dir
comin yn union y tu ôl i ficerdy Henllan. O’r fan honno aed i felin Henllan
(SJ0268)ac oddi yno ar hyd glan afonig Abermeirchion i’w tharddiad yn Ffynnon
Meirchion . Yna aed i dŷ o’r enw Leger, ymlaen at dŷ a
elwid Fach, i Bandy Ucha a Phandy Isa,( SJ035682) i dŷ o’r enw
Pen-y-bryn, oddi yno i hen garreg ffin ar y ffordd o Ddinbych i Nantglyn yn Waen
Twm Pi, ac oddi yno i Ffynnon Ddu
o’r lle y cychwynnwyd y daith. Gwelwn mai dŵr oedd yn diffinio tua hanner
ffiniau’r fwrdeistref.
Hyd y gwyddom nid oes traddodiadau wedi goroesi am Ffynnon
Ddu. Mae Ffynnon Meirchion
yng Nglan Meirchion a dyma darddiad afon Meirchion sy’n llifo i’r gogledd o
bentref Henllan, heibio i Lys Meirchion ar ei ffordd i ymuno ag afon Elwy. Yn ôl
rhai gwybodusion, Meirchion oedd hen hen daid Gwenfrewi. Nid oes unrhyw
draddodiadau wedi goroesi am Ffynnon y
Cneifiwr ond roedd yn fan o bwys i nodi ffin y fwrdeistref. Yn aml
bydd ffynhonnau fel hon yn colli eu statws wrth i’r arferiad o gerdded y
ffiniau beidio. Hawdd iawn colli lleoliad ac enw ambell ffynnon wrth i
gymdeithas anghofio’r hen draddodiadau a oedd mor bwysig i’n tadau gynt.
LLYGAD Y FFYNNON
Rhif 22 – Haf 2007
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc