HENFYNYW
FFYNHONNAU CEREDIGION
(Addaswyd
y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatâd caredig y
cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)
Saif eglwys Henfynyw ar ben rhiw serth sy'n arwain i fyny o dref Aberaeron. Heb fod ymhell o'r eglwys ac yn agos i gapel Ffosyffin mae ffynnon wedi ei henwi ar ôl y nawddsant. Am flynyddoedd ystyrid dŵr y ffynnon hon yn feddyginiaethol, a chynhorid pawb oedd yn welw a llwyd ei wedd i ddrachtio ohoni, a golchi eu hwynebau yng ngwlith y ceirch gwyn a dyfai o gwmpas. Ceir amryw o ffynhonnau eraill yng Ngheredigion wedi eu henwi ar ôl Dewi; un gerllaw Gallt yr Odyn ym mhlwyf Llandysul, un tua milltir neu ddwy wedi gadael Synod ar y ffordd i Aberteifi ac un arall tua milltir o Landdewibrefi. Dywed traddodiad i'r olaf darddu yn wyrthiol pan adferodd Dewi fab y weddw adeg y Gymanfa Fawr yn Llanddewibrefi pryd y cododd y ddaear o dan ei draed.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
RHAG OFN YSBRYDION
gan Y Parchedig J. Towyn Jones (2008) Tu.87
Ers ymhell yn ôl yn niwloedd amser, gwelwyd llaw lysnafeddog yn codi o
Ffynnon Ddewi (SN 4461) ger Eglwys Henfynyw a llais gwrywaidd yn ceisio am help. Byddai’r sawl a geisiai ymateb trwy gydio yn y llaw, yn cael ei bod hi’n llithro’n ôl i ddŵr y ffynnon o’i afael bob tro gyda llais yn datgan, yn ôl un fersiwn Gymraeg, ei fod wedi ei ddal yno am fil i flynyddoedd, ac yn ôl fersiwn arall yn Saesneg, hanner can mlynedd .LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc