Home Up

GUMFRESTON

 

FFYNHONNAU GUMFRESTON

 

   Pentref  yn agos i dref Dinbych y Pysgod yw Gumfreston. Yno mae eglwys hynafol a thair ffynnon  yn y fynwent islaw’r eglwys. Gellir dod o hyd i’r eglwys drwy droi i lawr o’r ffordd fawr a heibio i westy. Mae arwydd yn eich cyfeirio at yr eglwys a’r ffynhonnau. Mae’n bosib mynd â char at yr eglwys ac mae digon o le i droi’r cerbyd os bydd y maes parcio bach yn wag!

    Wrth y glwyd haearan i’r fynwent gellir gweld yr eglwys a gysegrwyd yn enw Lawrens Sant ond sydd ar safle llan Celtaidd lle’r ymsefydlodd sant o’r chweched ganrif y collwyd ei enw yn niwloedd amser. Y rhan hynaf o’r eglwys yw’r porth, ac mae’n debyg mai dyna safle cell y sant. Pan ddaeth y Normaniaid codwyd tŵr uchel ac adeiladwyd corff yr eglwys. Mae iddi bensaernïaeth arbennig, gydag ymdeimlad o gyfnod arall, a dull gwahanol o addoli, yn aros oddi fewn iddi o hyd.

    I’r de o’r eglwys mae llwybr o gerrig yn arwain i lawr at y ffynhonnau. Heb amheuaeth mae’r fangre yn un oedd yn gysegerdig i’r hen dduwiau Celtaidd cyn dyfod Cristnogaeth. Byddai’r bobl gyntaf a ddaeth i fyw i ddyffryn Rhydeg yn gwybod am rin y ffynhonnau. Yn Oes y Seintiau byddai angen y dŵr at anghenion beunyddiol, ac i fedyddio; a daeth yn lle o bererindod ac o wellhad. Parhaodd y traddodiad hwnnw hyd heddiw. Daw tair tarddle o’r galchfaen mewn ardal o raeanfaen (millstone grit), ac y mae hynny ynddo’i hun  yn wyrth.

    Yn y dyffryn coediog islaw’r eglwys gwelir olion cei ar lan yr afon. Byddai  pereinion yn dod mewn cychod i’r fan honno ac yna’n dringo at yr eglwys a’r ffynhonnau cyn cael cysgod a chyfle i orffwys ar eu taith mewn adeilad mynachaidd sydd bellach wedi diflannu.

    Daeth newidiadau mawrion  gyda diddymu’r mynachlogydd.  Collwyd sgrin y grog o’r eglwys a gwyngalchwyd y darluniau ar y waliau;  ond cadwyd y gloch, ac mae’n dal i gael ei denfyddio o hyd. Llwyddwyd hefyd i gadw’r ffynhonnau. Gyda datblygiad Dinbych y Pysgod fel tref wyliau yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg profwyd dŵr y ffynhonnau am eu gwerth lachusol, a chafwyd eu bod cystal bob diferyn a ffynhonnau enwog Tunbridge, er engraifft. Byddai plant y fro yn cael eu talu gan ymwelwyr i ddod â photeli o ddŵr o’r ffynhonnau iddynt. Hyd heddiw defnyddir y dŵr i wella anhwylderau’r gwaed, arthritis, llygaid a golwg gwan, i glirio defaid oddi ar y dwylo ac i yfed mwynau sy’n llesol i’r corff.

    Mae’n werth dilyn y llwybr cerrig i lawr at y ffynhonnau, dwy ohonynt a’u dyfroedd yn llawn haearn. Mae dyfroedd y tair yn llifo i’w gilydd ac allan o dan fwa o gerrig. Arferid taflu pinnau wedi’u plygu i’r  ffynhonnau ar Sul y Pasg. Yn wir, mae’r hen arferiad yn dal mewn bri pan fydd yr addolwyr yn taflu ‘hoelion Crist’ i’r dŵr ar fore’r Pasg i ddathlu’r Atgyfodiad. Traddodiad newydd yw gadael canhwyllau yn olau i arnofio ar wyneb y dŵr tra’n offrymu gweddïau.

    Braint oedd cael mynd i Gumfreston a phrofi o naws arbennig y gorffennol, gan wybod  y bydd parch a bri i’r ffynhonnau hyn  yn y dyfodol.

 Eirlys Gruffydd-Evans    2018

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 45 Nadolig 2018

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up