 
  
Groes, Dinbych
 
Ffynnon
y Fuwch Frech, Rhiw
 
  
 Llun:
Ffion Clwyd-Edwards, @FfionClwyd
 https://mobile.twitter.com/mimnant/status/1118218431902437382?lang=cs
Cyrchwyd 7.11.2021.
 Mae Ffynnon y Fuwch Frech ar Allt y Fuwch Frech, Rhiw, Groes, Llansannan,
Dinbych. Bedyddid holl blant Capel Ebenezer Y Rhiw gan ddefnyddio dŵr y
ffynnon. Yn ôl y chwedl, yfai’r fuwch o’r ffynnon hon, a rhoddasai laeth i bawb hyd nes y’i digid: a
digwyddodd hynny pan ffraeodd ddau frawd ynghylch y fuwch, ac y lladdodd y naill
y llall. Ceir fersiynau eraill o’r chwedl o Fetws Gwerfyl Goch, Iwerddon,
Lloegr a’r Alban, weithiau’n gysylltiedig â hen gylchoedd cerrig fel Preseb
y Fuwch Frech ar Gefn Bannog.
LLYGAD
Y FFYNNON   Rhif 51 Nadolig
2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
 
 
 