FFYNNONGROYW
FFYNNON GROYW
FFYNNONGROYW.
Rhag ofn nad ydych erioed wedi gweld y ffynnon sy’n rhoi ei henw i bentref
Ffynnongroyw yn Sir y Fflint, dyma i chi lun gan Dai Roberts o Fostyn ohoni,
diolch i Paul o Gymdeithas Bwcle. Ceir y ffynnon yn “Well Lane” yn y
pentref, a dyma i chi atgofion Ness Davies (ganed 1917) amdani:
“’Na’ i ddeu’
’thych chi be’ on ni yr adag yna yndê, Ffynnongroyw. Wel Ffynnongroyw
ydi... dach chi’n gwbod be’ ma... mae’n feddwl, yntê, bo’ gynnon ni
ffynnon yma. A mi odd ’i’n groyw. Ag odd y ffynnon... dyma Well Lane, man
nw’n galw... dach chi’n gweld? Wel yn ganol y pentra, i lawr yn Well Lane ’ma,
mi o ’na ffynnon. Mae ‘i yna rwan, ond bo’ nw ’di châ hi fyny. A dwi
‘di bod yn deu’th y cownsils ’ma, ond man nw yn deud bod nw’n mynd i ail
’i hagor ’i. A ma’ ’i’n ffynnon sy ’di bod yn rhedag ar hyd yr
oesoedd. A dena odd yn job mwya ni odd cario dŵr. Ag on i’n cario i ’nghartre fi, yndoedd, ag on i’n cario i
ddau ne dri o gartrefi erill, ag on nw’n rhoid ceniog. On i’n lwcus yn câl
ceniog.”
Gellir clywed atgofion Ness Davies yn https://museum.wales/articles/2011-03-29/The-Welsh-dialect-of-Ffynnongroyw-East-Clwyd/
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig 2016
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc