Home Up

FFYNHONNAU THOMAS PENNANT

Eirlys Gruffydd

Darlun Moses Griffith o Ffynnon Wenfrewi yng nghyfrol gyntaf y Tours of Wales

Ar ddechrau 1778 cyhoeddwyd y gyntaf o dair cyfrol Tours in Wales, gan Thomas Pennant (1726-1798) o Downing ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint. Gan fod ei gartref yn y plwyf agosaf at Dreffynnon does dim syndod i Ffynnon Wenfrewi (SJ185763) yno gael gryn sylw ganddo. Meddai:

Maer ffynnon wrth droed gallt serth islaw Treffynnon ar dŵr yn berwi allan o graig i ffynnon hardd ar ffurf amlochrog (polygon) gyda bwa o garreg hardd drosti syn cael ei chynnal gan bileri. Maer to wedi ei gerfion gywrain. Dros y ffynnon mae capel o bensaernaeth othig.

Yna maen olrhain hanes Gwenfrewi ar modd y daeth y ffynnon i fodolaeth. Maen sn hefyd am y llu o bobl a gafodd iachd yn y ffynnon dros y canrifoedd, yn cynnwys Pabyddion a Phrotestaniaid fel ei gilydd. Bur lle yn fan i bererinion ymweld ag ef ond maen nodi bod y niferoedd wedi lleihau yn ddiweddar, serch hynny roedd pobl yn dal i gyrchu at y ffynnon.

Yn yr haf gellir gweld rhai yn y dŵr mewn defosiwn yn gweddon ddi-baid ac yn cerdded nifer o weithiau o gwmpas y ffynnon. Heb amheuaeth mae rhinwedd arbennig yn y dŵr oer a llaweroedd wedi derbyn bendith ohono. Yn sicr dymar ffynnon orau yn y deyrnas gan fod un dunnell ar hugain o ddŵr yn llifo ohoni bob munud. Nid yw byth yn rhewi. Ger y ffynnon mae mwsogl ag arogl melys yn tyfu ac maer un peth iw weld ger Ffynnon Llanddeiniolen yn Sir Gaernarfon.

Maen bosib mai Ffynnon Ddeiniolen, Llanddeiniolen (SH 5469585), yw hon. Gallwn dystio bod llawer o bobl yn dal i ymweld r ffynnon o hyd. Yn ystod yr haf eleni buom yno a gweld nifer yn gweddo o flaen delw Gwenfrewi yn y ffynnon ar mwyafrif ohonynt yn Wyddelod Catholig ifanc ar eu ffordd i ag o Loegr.

Yn yr ail gyfrol oi deithiau a gyhoeddwyd yn 1781 maen ymweld nifer o ffynhonnau. Y cyntaf y sonia amdani yw Ffynnon Degla yn Llandegla, Sir Ddinbych (SH 194523). Meddai:

Tua dau gan llath or eglwys yng Ngwern Degla mae ffynnon fechan ar llythrennau A.G. ac E.G.wedi eu cerfio ar y cerrig. Ffynnon sanctaidd yw hon a hyd heddiw maen hynod effeithiol i wella Clwyf Tecla neur salwch syrthio (falling sickness) Maer claf yn golchi ei gorff yn y ffynnon a thaflu pedair ceiniog iddi, ynan cerdded oi chwmpas dair gwaith gan adrodd Gweddir Arglwydd. Rhaid aros tan ir haul fachlud cyn gwneud hyn er mwyn ir sawl syn ceisio iachd gael parchedig fraw. Os mai dyn ydyw bydd yn offrymu ceiliog ond ir os mai gwraig ywr claf. Bydd yr aderyn yn cael ei gario mewn basged o gwmpas y ffynnon dair gwaith cyn mynd at yr eglwys a cherdded o gwmpas yr adeilad dair gwaith gan garior aderyn ac adrodd Gweddir Arglwydd drachefn. Yna rhaid mynd i mewn ir eglwys, mynd o dan y bwrdd Cymun a gorwedd gydar Beibl o dan y pen a charped neu liain dros y person a gorffwys yno tan doriad gwawr. Wrth fynd allan rhaid talu chwe cheiniog a gadael yr aderyn yn yr eglwys. Os bydd yr aderyn farw yna daw gwellhad gan fod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo.

Yn ddiweddar gwnaed llwybr newydd i fynd at y ffynnon hon ac mae cloddfa archeolegol wedi bod oi chwmpas. Maer ffynnon nesaf y sonia amdani, Ffynnon Leinw (SJ 187677) yn Hendre ym mhlwyf Cilcain, Sir y Fflint. Meddai:

Yn y plwyf hwn, ar ochr y ffordd dyrpeg, heb fod ymhell o Neuadd Cilcain, maer enwog Ffynnon Leinw neur ffynnon syn llifo. Maen ffynnon fawr hirsgwar gyda dau fur oi chwmpas. Maen nodedig am ei bod yn gwagio ac yn llanw bob yn ail.

Mae bwriad gan Gyngor cymuned Rhyd-y-mwyn i adfer y ffynnon hon a glanhau oi chwmpas ond nad oes arian ar gael i wneud hynny ar hyn o bryd.

At ffynhonnau halwynog Caergwrle (SJ3057) maen cyfeirio nesaf. Meddai

Ar dir Rhyddyn, ger glannaur afon Alun, mae dwy ffynnon a llawer o halen yn eu dyfroedd. Mewn tywydd sych arferai colomennod ddod at y ffynhonnau i bigor halen. Yn y gorffennol roedd y ddwy ffynnon yn enwog am eu gallu i wellar afiechydon scorobutic. Rhaid oedd ir claf yfed chwart neu ddau bob dydd. Byddai rhai yn berwir dŵr nes bod ei hanner wedi ei wastraffu, cyn iddynt ei yfed. Yr effaith oedd carthu a phoenau mawr yn y stumog a thaflu fyny am rhai dyddiau. Yna byddai archwaeth at fwyd yn dychwelyd. Ceir hanes am wraig oedd yn dioddef yn ofnadwy or llwg neur clefri poeth (scurvy) a gafodd wellhad llwyr wrth ymweld r ffynhonnau hyn.

Cafwyd hanes y ddwy ffynnon yn rhifyn 23 o Llygad y Ffynnon.

Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw Ffynnon Asa (SJ 065775) ym mhlwyf Diserth. Meddai:

Rhyw filltir o eglwys Diserth mae llifeiriant cryf syn cymharun ffafriol r dyfroedd yn Nhreffynnon. Mewn coedlan yn Cwm mae dŵr yn llifo o Ffynnon Asa. Mae cerrig o gwmpas y ffynnon ac mae ar yr un ffurf sef polygon, a Ffynnon Wenfrewi. Byddai cleifion yn cyrchu at y ffynnon hon ers talwm.

Erbyn heddiw maer ffynnon yn cyflenwi dŵr i Brestatyn ar pentrefi cyfagos.

Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw Ffynnon Fair, Wigfair, ger Llanelwy (SJ028711) Meddai:

Mae Ffynnon Fair yn ffrwd gref wedi ei amgylchynu gan waliau onglog. Roedd to drosti ers talwm. Gerllaw mae adfeilion capel ar ffurf croes ond bod yr adeilad yn adfail ag eiddew yn tyfu drosto. Yn nyddiaur pererindota byddai llawer yn cyrchu ati.

Nid ywn sn bod ei ffurf yr un a Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon na bod pobl yn priodin gyfrinachol yn yr eglwys gerllaw gan ddefnyddior gwasanaeth Pabyddol a hynny ymhell ar l y Diwygiad Protestannaidd. Wrth ymweld Dyffryn Clwyd maen nodi bod Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr (SJ 082635) yn fan ller arferai pererinion ddod yn y gorffennol. Meddai:

Mae mur onglog o gwmpas y ffynnon ac mae delwau bychain ar ffurf pobl yn addurnor mur ac oi blaen maer ffynnon ei hun iw defnyddio gan yr ymdrochwyr duwiol.

Bellach mair mur ar delwau wedi diflannu ond maer Ffenest Jesse enwog a godwyd drwy gyfraniadaur pererinion yn tystio iw nifer a natur eu duwioldeb.

Ffynnon arall yr ymwelodd Pennant hi oedd Ffynnon Beris, Nant Peris, Gwynedd. (SH 60855836).

 

FFYNNON BERIS, Nant Peris

Nododd fod y tai yn yr ardal yn dlodaidd a bod ffynnon ger yr eglwys wedi ei chysegru i Beris Sant. Meddai:

Yma y gwelir ffynnon y sant wedi ei hamgylchynu mur. Mae offeiriades y lle yn dweud eich ffortiwn drwy edrych ar y modd mae pysgodyn bach yn ymddangos, neu ddim yn ymddangos or tyllau bach yn y muriau o gwmpas y ffynnon.

Mae Tyn Ffynnon, y tŷ maer ffynnon ar ei dir, wedi newid dwylo dair gwaith yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd un perchennog wedi taflu pob math o sbwriel ir ffynnon gan gynnwys bagiau o hen sment. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae wedi ei glanhau a pherchnogion y tŷ yn sylweddoli fod ganddynt drysor yn ei gardd. Cynhaliwyd bedydd plentyn yn y ffynnon rhyw ddwy flynedd yn l. Yn yr wythdegau roedd cerrig gwynion mawr mewn cilfachau ym muriaur ffynnon ond maent wedi diflannu erbyn hyn. Wrth roi darlith ar y ffynhonnau i Gymdeithas Hanes Edeirnion yng Nghynwyd yn ddiweddar dywedodd dynes wrthyf fod ei gŵr yn byw yn Nhyn Ffynnon, Nant Peris, pan yn fachgen. Byddain arfer codir pysgodyn or dŵr - pysgodyn mawr sylweddol ydoedd.

Er iddo ymweld Chlynnog Fawr nid ywn disgrifio Ffynnon Beuno (SH 41324945) yno ond maen cyfeirio at yr arfer o gario cleifion ir eglwys ar l eu trochi yn y ffynnon au gosod i orwedd ar fedd y sant i gael gwellhad. Meddai:

Yng nghanol yr eglwys mae bedd y sant, o garreg blaen ac ar ffurf allor. Byddai gan yr addolwyr ffydd gadarn yn y sant ac yn sicr bod cysgur noson ar ei fedd yn siŵr o wella pob anhwylder. Roedd yn arferiad i osod brwyn ar y bedd a gadael plant gwan eu hiechyd arno dros nos ar l iddynt gael eu trochi yn y ffynnon sanctaidd gyfagos. Gwelais wely plu ar y bedd ac arno gorweddodd un o Sir Feirionydd oedd wedi ei barlysu wedi iddo yn gyntaf gael ei olchi yn y ffynnon.

Mae nodyn golygyddol ar waelod y dudalen gan Syr John Rhys yn dweud fod y bedd wedi ei ddinistrio mewn ymdrech aflwyddiannus i ddod o hyd i gorff y sant. Wedi gadael Clynnog teithiodd Pennant i Gaernarfon ac maen cyfeirio at Ffynnon Helen (SH 480628)yn Llanbeblig. Wrth sn am y gaer Rufeinig Segontium, meddai:

Roedd gan Helen gapel gerllaw a ffynnon syn dwyn enwr dywysoges. Gellir gweld peth olion yno o hyd a dywedir ir capel gael ei godi ar yr un safle ar ffynnon.

Maer ffynnon mewn gardd tŷ or enw Llys Helen lle maer dŵr yn cronni mewn baddon o lechfaen gyda grisiau yn arwain i lawr iddo. Ers talwm byddai pobl yn cario dŵr or ffynnon i wella amrywiol anhwylderau.

Yn y drydedd gyfrol maen ymweld Llandrillo- yn- Rhos. Dyma sydd ganddo iw ddweud am gapel Sant Trillo ar lan y mr:

Des i lawr o Glodddaeth am ddwy filltir i lan y mr. Yno, ger y lan, gwelais adeilad bach unigryw syn cael ei alw yn Gapel Trillo Sant. Maen hirsgwar gyda dwy ffenest ar bob ochr a drws ar y pen. Maer to yn gromennog (vaulted) gyda cherrig crynion yn hytrach na llechi arno. Oddi fewn mae ffynnon. O gwmpas yr adeilad mae mur o gerrig.

Maen siŵr y byddain synnu fod y capel bach ar ffynnon heddiw yn gyrchfan i dwristiaid syn gadael gweddau ar bapur ir sant ac yn taflu arian i Ffynnon Drillo. (SH 842813 )

Wedi teithio trwy Abergele mae Pennant yn cyrraedd Llan San Sir ac yn nodi bod gan y lle ei ffynnon sanctaidd. Meddai:

Roedd gan San Sir, yn y plwyf hwn, ei ffynnon sanctaidd lle y byddai ceffylau yn cael eu hoffrymu. Byddair cyfoethogion yn offrymu un er mwyn sicrhau bendith ar y gweddill. San Sir oedd nawddsant yr anifeiliaid hyn. Byddai pob anifail afiach yn cael eu cymryd at y ffynnon au taenelli dŵr ac ynan cael eu bendithio gydar geiriau Rhad Duw a Sant Sir arnat.

Yr enw ar y ffynnon gref hon heddiw yw Ffynnon Gemig(SH977757) ar l yr afon ar fferm gyfagos ac ar y tir oi chwmpas mae ceffylaun cael eu cadw o hyd. Yn union wedi ei ymweliad Llan San Sir maen disgrifio Ffynnon Elian yn Llaneilian-yn-rhos (SH 866774). Meddai:

Mae ffynnon Elian Sant wedi bod yn enwog am wella afiechydon o bob math drwy gyfrwng y sant. Byddair bobl yn mynd ir eglwys yn gyntaf ac yn gweddon daer arno am waredigaeth. Ond roedd y sant hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod lladron a dod o hyd i nwyddau a ladratawyd. Mae rhai yn mynd ato i ofyn iddo ddial ar eu cymdogion a gwneud iddynt farw yn sydyn neu i anffawd ddigwydd ir sawl oedd wedi eu digio. Maer gred yn hyn o beth yn dal yn gryf. Does dim tair blynedd wedi mynd heibio ers i mi gael fy mygwth gan ryw ddyn, ( a gredai i mi wneud drwg iddo) gyda dial Elian Sant, ac y byddain mynd ir ffynnon im rheibio yno.

Tybed beth a feddyliai Pennant pe gwyddai fod y ffynnon wedi ei dinistrion llwyr ond bod perchennog Cefn Ffynnon, lle mae safler ffynnon, wedi gwneud ymchwil manwl iw hanes ac yn bwriadu ei hadfer yn y dyfodol.

Maen sn am un arferiad diddorol na welais gyfeiriad ato or blaen. Meddai:

Os oes Ffynnon Fair neu ffynnon wedi ei henwi ar l sant mewn ardal, bydd y dŵr ar gyfer bedydd yn cael ei gario oddi yno ir eglwys ar gyfer yr achlysur yn ddi-ffael. Wedir sacrament byddai hen wragedd yn hoff iawn o olchi eu llygaid yn y dŵr or fedyddfan.

Gwyddwn am yr arferiad o gario dŵr o ffynnon sanctaidd ar gyfer bedydd ond dymar tro cyntaf i mi glywed fod y dŵr yn llesol wedi hynny ar gyfer llygaid poenus. Diolch o Tomos Pennant am ei waith yn croniclo gwybodaeth eang a diddorol i ni ond pity na fyddai wedi manylu mwy am y ffynhonnau.

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up