DINEFWR
FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN
Dyma wybodaeth am FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN o gyfrol CASGLIAD
O LÊN GWERIN SIR GAERFYRDDIN gan y Parch D.G. Williams. Cyhoeddwyd y gwaith
am y tro cyntaf yn 1895 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd
copi argraffedig o’r gyfrol yn 1996 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Gwelir yr
wybodaeth ganlynol ar dudalennau 83 i 85. (Cadwyd at y sillafu fel y’i ceir yn
y gwreiddiol.)
FFYNNON FIL FEIBION
CASTELL DINEFWR
(SN615225)
Y mae traddodiadau hen am hon. Saif yn agos i Gastell Dinefwr. Lladdwyd yma fil o feibion amser mawr yn ôl, medd traddodiad, a dyna darddiad ei henw.
NANT Y RHIBO
CASTELL DINEFWR
(SN623233)
Dywed Giraldus fod yn ei amser
ef Ffynnon ryfedd yn agos i Ddinefwr, ar yr ochr arall i’r Towi, yng Nghantref
Bychan, ffynnon oedd fel llanw’r môr yn codi ac yn gostwng ddwy waith mewn 24
awr. Dywed Thomas Wright mewn nodiad, fod ffynnon yn agos i ochr ogleddol mur
Parc Dinefwr, a elwir Nant y Rhibo (rheibio), ac mai at hon, efallai, y
cyfeiriai Giraldus. Y mae y
ffynnon honno’n adnabyddus ddigon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
FFYNHONNAU
SIR GAR gan Saundra Storche
(Traddodwyd y sgwrs yn Eisteddfod
Genedlaethol Llanelli 2014)
Gofynnir
imi yn aml wrth roi sgyrsiau am Ffynhonnau Sanctaidd - Sut y trawsnewidiwyd
ffynnon gyffredin i ffynnon sanctaidd? I’r Paganiaid Celtaidd roedd y rhain yn
lleoedd dirgel ac yn fwy felly os oedd y dŵr yn cynnwys mwynau oedd yn rhoi
blas gwahanol i'r dŵr.
Os
oedd haearn yn y dŵr byddai’r cerrig o’i chwmpas a gwawr goch a’r dŵr yn
blasu yn fetelaidd. Ar y llaw arall os oedd y dŵr wedi rhedeg drwy garreg galch
ni fuasai yn rhewi yn y gaeaf. Gadawyd offrymau yn y mannau yma gan fod yr hen
Gymry yn credu mai porth i’r byd arall oeddent, yn ddrws i Annwn, annedd
ysbrydion a duwiau a mynedfeydd y bodau goruwchnaturiol i lynnoedd ac afonydd.
Y
Pab Gregori Mawr sy’n cael y 'clod' o anfon a chynghori'r pererinion a
glaniodd ar arfordir de Lloegr yn 601 ond anfonwyd rhai yn llawer cynt na hyn.
Dywedir bod y Pab Eleutherius wedi anfon Dyfan, Fagan, Meudwy ac Elfan yn ail
hanner yr ail ganrif i efengylu yn Sir Gâr. Felly, pan gyrhaeddodd y cenhadon
Cristnogol cyntaf yr ynysoedd hyn, byddent yn bendithio'r ffynhonnau, ac yn
annog y paganiaid i gynnig gweddïau i'r un Duw yn hytrach na chynnig offrymau
i'r sawl un. Byddai offeiriad yn mynd o amgylch y pentrefi i fendithio'r
ffynhonnau ar Nos Galan. A chredaf fod geiriau'r pennill poblogaidd (a ganwyd
yng Nghwm Gwendraeth ar Ddydd Calan) yn cyfeirio at yr arfer hwn: “Codwch yn
fore a chynnwch y tân, cerwch i’r ffynnon i hol dŵr glân.”
Trawsnewidiwyd
y ffynhonnau yn rhai sanctaidd hefyd pan gynhaliwyd gwyrth yn y fan a'r lle.
Ceir hanes Caradog yn torri pen Gwenffrewi i ffwrdd am iddi ei wrthod, a’i
hewythr Beuno yn rhedeg allan o’r eglwys ac yn ei ail osod, a ffynnon yn
tarddu o'r ddaear lle'r oedd ei phen wedi disgyn. Yn ôl un chwedl ymwelodd y
Forwyn Fair a Chydweli mewn cwch, ond pan gafodd ei lladd gan ddyn wrth iddo ei
hebrwng yn ôl at y cei, tarddodd Ffynnon Fair yr Alefed (SN 412073) yn y fan
a'r lle. Byddai pobl yn ymweld â’r fan hyd at ddeunawfed ganrif ar y 25ain
Mawrth ar ŵyl Fair y Cyhydedd. Ni cheir unrhyw olion o’r ffynnon heddiw ond
yn ôl y diweddar Gadfridog Kemmis Buckley roedd cerrig sylfaen y ffynnon i’w
gweld tan y 1970
Ac
yn olaf, dry ffynnon yn sanctaidd pan ceir cysylltiad rhwng sant a’r safle.
Gallai ef neu hi wedi defnyddio'r dŵr i fedyddio - Dewi Sant ym Mhistyll Dewi,
Llanarthne (SN5396 719,302) , Teilo Sant yn Ffynnon Deilo, Llandeilo
(SN62962224) a dyweder bod y Santes Non yn tynnu dŵr o Ffynnon Non (SN53710795)
yn Llanon. Credai pobl (ac mae Catholigion yn dal i gredu) y byddai grym neu
fendith sant yn ymdreiddio i unrhyw beth a gyffyrddai. Rydym i gyd yn gyfarwydd
â hanes y fenyw sâl yn cyffwrdd ac ymyl dilledyn yr Iesu, dywedodd ar unwaith
“ Pwy gyffyrddodd â mi, oherwydd synhwyrais i fod y nerth wedi mynd allan
ohonof.” A cheir enghreifftiau eraill yn y Beibl megis cysgod Pedr (Actau
5:15) a chadachau Paul (Actau19: 12).
Trwy
gydol y canrifoedd byddai pobl yn ymweld â ffynhonnau sanctaidd am nifer o
resymau - i weddïo am iachâd ar gyfer y corff ac enaid, fel penyd, i olchi
ymaith eu pechodau, i yfed y dŵr, i gasglu'r dŵr sanctaidd mewn ffiolau ar
gyfer y cleifion ac i weddïo am gynhaeaf da. Pan ysgubodd y frech wen drwy’r
ardal cerddai trigolion Llanelli chwe milltir i Ffynnon Diolch i Dduw
(SN53660645) ger Llanon i olchi eu darnau arian. Yr hyn a welwn yn y llun yw wal
newydd i'r hen ffynnon a naddwyd pant yn y garreg i ddal llif y dŵr a godwyd ar
orchymyn Rhys Goring Thomas ym 1883.
Erbyn
hyn mae llawer o ffynhonnau sanctaidd wedi diflannu neu yn adfeilion.
Dinistriwyd nifer fawr yn dilyn y ddeddf Gwahardd Pererindota a gyflwynwyd gan
Thomas Cromwell. Byddai pererinion yn aml yn ymweld â ffynhonnau ar ddiwrnod gŵyl
saint. Mae Capel Isaf (SN66012527 Maenordeilo) ar dir preifat a dywedodd y
perchennog y byddai pererinion o Gaergaint yn galw yno ar eu ffordd i Dyddewi.
Rydym yn cael ffeithiau diddorol am ffynhonnau gan berchnogion tir, gwybodaeth
sydd wedi cael ei basio i lawr ar lafar ac nid ar gael mewn llyfrau ar y pwnc.
Yn ôl perchennog Capel Isaf, roedd y ffynnon a’r tŷ yn gapel canoloesol ac
yn rhan o abaty Talyllychau. Roedd yn bleser ymweld â’r safle ac mae'r dŵr
yn cael ei bwmpio i mewn i'r tŷ a'i ddefnyddio heddiw.
Diolch byth bod
Ffynnon Antwn (SN34600993) yn Llansteffan mewn cyflwr da. Soniais
yn gynharach fod paganiaid yn cynnig offrwm i’r ffynhonnau ac mae'n ymddangos
bod pobl dal a rhyw angen cynhenid i wneud hyn. Bob tro yr wyf Wedi ymweld a’r
lle, gwelir cregyn, petalau, a darnau arian yn y dv”vr a charpiau wedi eu
pinio i’r wal o’i hamgylch, gan fod y dv”vr yn gwella calon ddolurus yn 61
y chwedl. Roedd Antwn yn feudwy oedd yn dilyn ffyrdd Tadau a Mamau yr Anialwch
drwy fyw bywyd o weddi ac ympryd, gyda’r pwyslais ar fwydo'r enaid yn hytrach
na’r corff.
Ar y wal ger y ffynnon mae plac yn dangos y meudwy gyda dyfrgi ar ei dde ac ysgyfarnog ar ei chwith. Dywedwyd wrthyf fod yr ysgyfarnog yn symbol Cristnogol sy’n gysylltiedig a'r Forwyn Fair. Mae arddangosfa debyg o gadachau yn amgylchynu Ffynnon Deilo yn Llandeilo. Adeiladwyd hon yn hen wal yr abaty ac yn 61 yr hanes roedd y fedyddfa o fewn muriau'r abaty ac yma roedd Teilo yn bedyddio ei braidd
FFYNNON GWYDDFAN, LLANDYFAN
Yn 61 Gomer Roberts (awdur Hanes Plwyf Llandybie) adeiladwyd y fedyddfa ger
eglwys Llandyfan gan y Bedyddwyr ym 1785 ar safle Ffynnon Sanctaidd Gwyddfaen
(SN6416717121). Ysgrifennodd ‘mewn rhai hen fapiau adwaenir y ffynnon fel y
Baddon Cymreig yn Llandyfan. Oedd yfed y dv”vr yma allan o benglog yn fantais
i’r sal.
Ar ddechrau’r erthygl soniais am y cenhadon cynnar ddaeth i’r ynysoedd
yma i droi'r paganiaid at Gristnogaeth. Dechreuais yr erthygl hon gyda'r
Celtiaid ac maent yn ymddangos eto oherwydd cu bod yn credu bod yr enaid yn
bodoli yn y benglog. Dyna pam y byddent yn torri pennau eu gelynion, heb y
benglog ni fyddent yn gallu myned i fywyd tragwyddol. Felly byddai yfed dxivr
sanctaidd o benglog rhywun sanctaidd yn cael ei ystyried fel bendith ddwbl ac yn
gwella pob clwyf.
FFYNNON GWYDDFAN, LLANDYFAN
Rydym yn ddyledus i aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac eraill sy'n
helpu i adfer a gofalu am y ffynhonnau yma yng Nghymru.
Yn bersonol rwyf yn ddiolchgar i berchnogion a groesawodd mi ar eu tir ac
am rannu eu gwybodaeth am y Ffynhonnau Sanctaidd. Mae’n hanfodol bod ein
ffynhonnau sanctaidd yn cael eu diogelu gan eu bod yn rhan o'n hanes, ein
traddodiadau ac yn bwysicaf oll ein treftadaeth, boed eich bod yn Gristion neu
beidio.
LLYGAD
Y FFYNNON
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf