Home Up

FFYNHONNAU CYMRU A’R SIPSIWN

 

Cyfrol ddiddorol eithriadol yw “The Dialect of the Gypsies of Wales” John Sampson, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1926. Treuliodd Sampson flynyddoedd yn byw gyda’r Sipsiwn, yn dysgu eu hiaith, yn cofnodi eu chwedlau ac yn astudio eu diwylliant. Rhydd inni olwg ar fyd llefarwyr Romani olaf Cymru, ychydig flynyddoedd cyn i’r byd hwnnw ddiflannu. Yma a thraw yn ei gyfrol ceir cyfeiriadau at ffynhonnau neilltuol, ac arferion neu gredoau cysylltiedig â nhw. Dyma rai y sylwais arnynt:

 

Am ffynnon ym Môn, dywedir (t.145): “Unwaith y flwyddyn byddai’r darddell hon yn cynhyrfu: a phe bai unrhyw un a gyflawnasai drosedd, megis llofruddiaeth, teflid ef i’r dŵr cynhyrfus hwn; ac os oedd i’w achub, ac nid ei ddinistrio, byddai’r dŵr yn ei fwrw’n fyw ar dir sych (chwedl ynghylch diheurbrawf mewn tarddell ym Môn).”

 

Am ffynnon arall, dywedir (t.148): “Arferai fy mam-yng-nghyfraith fwydo hances yn y darddell (yng Nglan-y-mor [sic]) a’i fowldio’n llun calon, a’i gosod eto’n llaith ar ei chalon ei hun (swyn i wella afiechyd a achosid gan wrachyddiaeth).” Ymhellach (t.179-180): “Dwi wedi fy witsio. Af yno, i’r ffynnon fechan yng Nglan-y-môr, ac ymolchaf, ac yfaf o’i dŵr (dywedwyd gan Syforella Wood).”

 

Rhestrir rhai ffynhonnau eraill, hefyd, a’u henwau Romani yn aml yn gyfieithiadau o’r Gymraeg:

 

I gozhvali cheni (y ffynnon swyn): Ffynnon hud, tarddell iachaol; yn enwedig honno yn

   Llandrillo-yn-Rhos.

Glanimoraki cheni (ffynnon Glan-y-môr): Tarddell iachaol ddirgel yng Nglan-y-môr.

I cali cheni (y ffynnon ddu): Ffynnon Ddu, yn ymyl y Drenewydd.

I loli cheni (y ffynnon goch): Cae Coch, yn ymyl Trefriw (ffynnon ddurllyd).

Saraci cheni (ffynnon Sara): Ffynnon Sara, Clawddnewydd.

I iŵzhi cheni (y ffynnon bur): Ffynnongroyw, yn ymyl Mostyn.

   

 

Ffynhonnau Cymru a’r Sipsiwn (parhad):

 

I chenako gaf (lle’r ffynnon): Treffynnon.

 

Gallai rhywun dybio y byddai “ffynnon glan-y-môr” yn enw addas ar Ffynnon Drillo yn

Llandrillo-yn- Rhos, ond mae rhestr Samson yn awgrymu mai dwy wahanol ffynnon ydynt. A all unrhyw un awgrymu ymhle’n union y mae, neu yr oedd, “Ffynnon Glan-y-môr”? Ac a ŵyr unrhyw un pa darddell oedd honno ym Môn y bwriwyd troseddwyr tybiedig iddi? Byddai’n ddiddorol iawn gwybod!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig 2016.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

Home Up