Home Up

CHWILIO HANES FFYNHONNAU SANCTAIDD

gan

Howard Huws

Mae Howard Huws yn aelod o Gyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i hanes Ffynnon Ddeiniol ym Mangor. Diolch iddo am fod mor barod i rannu ei wybodaeth a’i brofiad gyda aelodau’r Gymdeithas.

Difyr iawn yw chwilio hanes ffynhonnau sanctaidd, er gwaethaf yr aml rwystredigaethau. Y mae’n waith sy’n rhaid ei gyflawni mewn modd trylwyr a disgybledig: braidd fel rhoi jig-so at ei gilydd heb syniad o’r darlun gorffenedig a chyda rhan helaeth o’r darlun ar goll, ond heb drwydded i lenwi unrhyw fylchau o’n dychymyg ein hunain.

Prinder tystiolaeth yw’r bwgan pennaf. Rhaid felly wrth ddyfalbarhad er mwyn chwilio pob ffynhonnell berthnasol bosib, hyd yn oed os y golyga hynny lawer o ddarllen, gohebu helaeth, a thalu am gopïau o ddogfennau, treuliau teithio, ac yn y blaen. Gall y tamaid lleiaf o wybodaeth fod yn allweddol, felly rhaid chwilio’n drylwyr. Cofier y gall diffyg tystiolaeth hefyd fod yn arwyddocaol.

Hunanddisgyblaeth yw’r angen arall. Yn ein hawydd hawdd yw inni roi mwy o bwys ar dystiolaeth simsan neu annigonol nag y dylid, gan hawlio inni ailddarganfod ffynnon sanctaidd heb fod gennym digon o ffeithiau i’n cefnogi. Gellir dweud, ‘y mae’n bosib mai hon yw’r ffynnon…’ neu ‘y mae’n debyg gennyf mai dyma ffynnon…’, ond fy hunan, yn absenoldeb tystiolaeth bendant, yr wyf yn dueddol o osgoi hyd yn oed ymadroddion felly rhag ofn imi fy nghamarwain fy hun, neu’n waeth fyth, camarwain eraill. Weithiau, y cwbl y gellir ei ddatgan yw bod tystiolaeth sy’n awgrymu lleoliad ffynnon, a’i gadael felly. Cofiwn ba mor niferus oedd ffynhonnau ers talwm, a chyn lleied ohonynt, mewn cymhariaeth, a ystyrid yn rhai sanctaidd.

Wedi dweud cymaint, carwn awgrymu rhai ffynonellau gwybodaeth y tâl i’r ymchwilydd fwrw golwg drostynt wrth geisio hanes ffynhonnau sanctaidd:

LLAFAR: Buddiol yw ceisio holi pobl leol yr ardal dan sylw rhag ofn bod unrhyw atgof ganddynt, waeth pa mor amhendant, ynghylch ffynhonnau’r fro. Gorau oll os oes modd holi mwy nag un, yn enwedig os ydynt wedi mynd i oed mawr a’u cof efallai heb fod cystal ag y bu. Wrth holi rhaid peidio ag awgrymu pa ateb yr ydych yn ei ddisgwyl, rhag rhoi geiriau yng ngenau’r tyst, a rhag rhoi mwy o arwyddocâd i’r ymateb nag y dylid. Cofiwch y gall rhai tystion ddweud wrthych yr hyn y tybiant yr ydych eisiau ei glywed, rhag eich siomi.

Er enghraifft, dylid holi’n gyffredinol ac yn bwyllog ynghylch ffynhonnau a ffynonellau      dwr lleol, gan ofyn a yw’r tyst yn cofio eu henwau a’u lleoliadau, cyn symud ymlaen i ofyn a oes cof fod i unrhyw un ohonynt nodwedd neu rinwedd neilltuol. Y mae’n talu i holi pobl fwy nag unwaith, rhag ofn fod yr holi cyntaf wedi eu hysgogi i gofio mwy yn y cyfamser.

YSGRIFENEDIG: Eto, rhaid bod yn wyliadwrus ynghylch safon ffynonellau ysgrifenedig, rhag ofn eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth annibynadwy, tybiaethau lled-ddysgedig, neu freuddwydion gwrach. Carwn awgrymu serch hynny y talai i’r ymchwilydd fwrw golwg ar y canlynol:

            Cyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales. Adargraffiad Gwasg Prifysgol Cymru

1992, ISBN 0 7083 1145 8. Rhestr ddiddorol a chynhwysfawr, ond anghyflawn.

 

 Ôl-rifynnau cylchgronau arbenigol megis Llafar Gwlad, Source, Bye-Gones, Llygad

Ffynnon, ac ati sydd yn cynnwys llawer o wybodaeth o Gymru, ac wrth gwrs, colofn hanes

lleol eich papur newydd lleol neu’ch papur bro.

 

 Trafodion y gymdeithas hanes leol neu sirol. Holwch yn eich llyfrgell leol neu archifdy

sirol. Cyhoeddir mynegion i rai o’r cyhoeddiadau hyn o bryd i’w gilydd

 

Y rhestr henebion sirol o dan y teitl Inventory of Ancient Monuments… . Eto, yn eich llyfrgell neu archifdy lleol.

 

Cyfeiriaduron Masnachol: Bu bri mawr ar werthu dŵr ‘iachaol’ gwahanol ffynhonnau ar un adeg, ac yn sgîl hynny gosodwyd hysbysebion mewn cyfeiriaduron masnachol lleol, papurau newydd, cylchgronau ac ati.

Map a Chofnodion Arolwg y Degwm: Gwnaed arolwg ar ddiwedd y 1830au ym mhob plwyf yng Nghymru. Cynhyrchwyd map a chofrestr tir ar gyfer pob plwyf, a’r rhestr fel arfer yn enwi pob cae. Os nad oes copi yn eich archifdy, yna holwch y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle gellir cael llungopïau am bris rhesymol. Cofiwch fod y map plwyf o’r cofrestr tir yn ddogfen sylweddol.

Dogfennau Ystad: Defnyddiol iawn yw cofnodion gwerthu, gosod ac etifeddu tir, ac fe allant ddyddio o’r cyfnod cyn-Brotestannaidd, hyd yn oed. O ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen gwnaed cofnodion manwl gan rai ystadau ynghylch union faint, lleoliad, ac enwau eu heiddo tiriogaethol. Eto, eich archifdy, eich llyfrgell, Y Llyfrgell Genedlaethol neu adrannau archifol sefydliadau megis Coleg y Brifysgol. Cofier fod sefydliadau o’r fath yn aml yn llunio mynegion a chrynodebau o gynnwys y dogfennau a ddelir ganddynt.

Unrhyw lyfrau sy’n ymwneud â hanes neu lên gwerin plwyf neu ardal. Gall eich archifdy lleol gynorthwyo yma. Cofier hefyd fod cofnodion hanes lleol ar ffurf llawysgrifau anghyhoeddedig, tapiau, ac ati hefyd y tu hwnt o werthfawr i’r ymchwilydd.

Cofnodion cynghorau plwyf, a chyn hynny cyfarfodydd festri y plwyf, lle’r arferid trafod pynciau megis trwsio a glanhau ffynhonnau. Yr archifdy sirol, neu’r Llyfrgell Genedlaethol (dogfennau yr Eglwys yng Nghymru).

Cofiannau pregethwyr a hanesion achosion crefyddol: Yn aml ceir disgrifiad ynddynt o arferion a choelion gwerin ardaloedd neilltuol.

Y Rhestr Etholwyr Lleol: Ar gael i’r cyhoedd ei weld yn swyddfa’r Cyngor Sirol. Ffordd hwylus o ddarganfod pwy’n union sy’n byw ar safle y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Cofrestrfa Tir Ddosbarthol Cymru, Tŷ Tawe, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe, SA7  9FQ. Rhif Ffôn (ar gyfer ymholiadau): 01792 335095. Gallwch holi dros y ffôn a oes ganddynt wybodaeth ynghylch unrhyw dŷ neu ddarn o dir neilltuol yng Nghymru, a gorau po fwyaf o fanylion sydd gennych ynghylch yr union leoliad. Os oes gwybodaeth ganddynt, yna, am dâl rhesymol, gall y gofrestrfa hon yrru copi atoch gan gynnwys manylion megis perchnogaeth, hawliau cyhoeddus, ac yn y blaen. Mewn rhai achosion y mae gan y cyhoedd hawl tramwy ar draws tir at ffynhonnau.

Wedi dweud hynny, rhaid cofio, wrth gwrs, mai ar eiddo preifat y lleolir llawer i hen ffynnon, ac y dylid yn wastad geisio caniatâd y perchennog cyn tramwyo’r fan, archwilio’r safle, neu wneud gwaith adfer. Gall sefydlu perthynas dda â’r perchennog tir neu’r deiliad arwain at gydweithrediad buddiol. Gall anwybyddu dymuniadau’r perchennog, neu roi achos iddo amau eich cymhellion, arwain at eich gwahardd o’r safle neu hyd yn oed at gau yr union ffynnon yn ydych yn ceisio ei diogelu. Dylid gofyn caniatâd i fynd ar dir preifat.

Crynodeb yn unig yw’r rhestr uchod. Fe all fod gan y rhai profiadol awgrymiadau buddiol pellach i’w cynnig i’r rhai ohonom sydd newydd ymddiddori yn y maes. Os oes gwybodaeth ychwanegol gennych, beth am roi gwybod inni? Gallwch arbed llawer o amser a thrafferth i eraill trwy gymwynas o’r fath.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Annwyl Olygydd

Diamau eich bod yn gwybod am y ffynnon ger y moat pellaf yng nghastell Rhuddlan (SJ0278) a bod i'r dŵr rinwedd meddyginiaethol, dŵr oedd yn eithriadol o oer. Yr oedd fy hen nain, Ann Jones (1810-1885) yn cynghori ei chleifion ar adegau i fynd yno i olchi eu llygaid. Bu hi yn trin deifion o wahanol afiechydon. Bu i Syr Robert lonnes, Lerpwl, y meddyg enwog, gynnig £5 yr wythnos iddi os rhoddai prescriptions y gwahanol eli a wnâi.. Gwrthododd gan ddweud na chai neb hwy ond y ferch hynaf.

Trefor D. Jones, Penysarn, Amlwch.

(Diolch i Trefor lanes am dynnu ein sylw at y ffynnon arbennig hon. Nid oeddem yn ymwybodol ei bod erioed wedi cael ei defnyddio fel ffynnon feddyginiaethol.)

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 13, Nadolig  2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

CARIO DŴR O FFYNNON SANCTAIDD AR GYFER BEDYDDIO

Mae’r hen arfer traddodiadol hwn ar gynnydd unwaith eto. Dyma rai ffynhonnau lle mae unigolion wedi ceisio dŵr ohonynt ar gyfer bedyddio baban yn ddiweddar:

Ffynnon Engan, Llanengan, Llŷn  - SH 932708

Ffynnon Rhedyw, Llanllyfni, Arfon  -SH 468519

Ffynnon Armon, Llanfechain, Maldwyn-SH 0797

Os oes gennych chi wybodaeth am ffynhonnau eraill lle mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bedyddiadau, rhowch wybod i’r Golygydd.

LLYGAD Y FFYNNORHIF 18 HAF 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Yn rhifyn 18 o Llygad y Ffynnon gofynnwyd am wybodaeth am ffynhonnau lle mae’r dŵr yn dal i gael ei ddefnyddio i fedyddio babanod. Daeth ymateb gan Gwen Evans, Rhuthun. Defnyddiwyd dŵr Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd mewn bedydd yn ystod yr haf. Ar Orffennaf 10fed yng Nghapel Moreia, Llanystumdwy, bedyddiwyd Dyddgu Mari Morys a chanwyd emyn o waith ei thad, y Prifardd Twm Morys. Diolch am gael ei ganiatâd i gyhoeddi’r emyn yn Llygad y Ffynnon.

  Ffynnon Gybi, Eifionydd

Yng nghysgod Garn Bentyrch ym mhlwyf Llangybi mae Ffynnon Gybi. Yno yng nghanol coed derw, a’r mynydd yn gwmpeini, y cododd Cybi Sant ei gell, fileniwm a hanner yn ôl. A dŵr o’i ffynnon o ydi dŵr y bedydd yn y gwasanaeth yma.

FFYNNON GYBI

ar y dôn Lausanne

Bûm yn eistedd wrth y Ffynnon

 Ac yn syllu i’r dŵr glân,

Ac yn meddwl am Greawdwr

 Derw mawr ac adar mân.

 

Gwrando twrw bach y Ffynnon

 A fu’n torri syched sant:

Tybio weithiau imi glywed

 Yn ei bwrlwm chwerthin plant.

 

Megis sŵn y dail yn tyfu,

 Megis sŵn adenydd bach,

Megis sŵn traed mân yn cerdded,

 Felly sŵn y Ffynnon iach.

 

Dyma ddafn o ddŵr y Ffynnon

 Ar dy dalcen di yn Groes:

Boed Creawdwr coed ac adar

 Gyda thi ar hyd dy oes.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DARGANFOD FFYNNON SANCTAIDD NEWYDD

FFYNNON ARMON, LLANARMON-YN-IÂL

Mae dwy ffynnon wedi eu cysegru i Garmon Sant yng nghyffiniau’r pentref hwn yn sir Ddinbych. Mae un wedi ei nodi ar y map mewn lle a elwir yn Groesffordd y Saint (SH195523) bron ar y ffin â phlwy Llandegla. Mae nifer o’r ardalwyr yn sôn hefyd am Ffynnon Armon ychydig yn is na’r eglwys ac yn nes at lan afon Alun (SH193563). Ar raglen deledu Saesneg yn ddiweddar gwnaed datganiad fod ffynnon sanctaidd newydd wedi ei darganfod gan archaeolegwyr a’i bod yn un hirsgwar gyda grisiau yn arwain i lawr at y dŵr. Dyma’r un sy’n is na’r eglwys. Bwriadwn ei mesur pan fo hynny’n bosibl

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 19 NADOLIG 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON SANCTAIDD YCHWANEGOL YM MANGOR

Howard Huws

(Cadeirydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru)

Y mae daeareg Parc y Coleg yn gyfryw ag i ganiatau tarddelli, ond ni sylwais erioed ar un wrth droed allt y parc, ac ni chlywais erioed am unrhyw St. John’s Well na Ffynnon Ioan yno. Wn i ddim ychwaith pa dystiolaeth fu gan lunwyr y Rhestr Henebion i’r perwyl hwnnw, ond gyda’u trylwyrdeb arferol bu iddynt gynnwys cyfeirnod map ar gyfer y ffynnon, sef SH57157188, gan nodi’r lleoliad ar fraslun. Euthum i chwilio’r fan cyn gynted ag y medrwn, ac er gwaethaf y coed a’r llwyni, credaf imi ganfod y llecyn yn union gyferbyn â chongl ogleddol adeilad Swyddfa’r Post ar Ffordd Deiniol Nid oes i’w weld ar hyn o bryd ond twll crwn ymysg prysgwyddau godre’r llethr, tua dwy droedfedd ar draws, yn llawn dail pydredig gwlybion hydrefoedd lawer; gwlybion, hynny yw, pan oedd y ddaear ogylch yn sych grimp ddechrau Chwefror eleni.

     Ymysg cofnodion plwyf Bangor yn arolwg yr Inventory of Ancient Monuments (Sir Gaernarfon, Cyfrol ii, tud. 12), ceir a ganlyn:

The early monastery probably consisted of a scatter of small buildings, showing no regular arrangement; the foundations of which survive on the slope below the University college may be one of these... The Cathedral and the old parish church probably occupy part of the early monastery. so also may the holy well, now a marshy hollow at the foot of the collage grounds,; in modern times, however, this has been known as St. John’s Well.

Felly y tybiwyd pan gyhoeddwyd y Rhestr Henebion yn 1958. Y farn heddiw yw y saif y Gadeirlan bresennol yn y man lle cododd Deiniol Sant eglwys yng nghanol y chweched ganrif, a bod ffiniau’r gymuned gyntaf honno eto i’w gweld ym mhatrwm strydoedd canol y ddinas. At hynny. ceid is-sefydliadau yn y cyffiniau, gan gynnwys eglwys Llanfair Garth Branan (yr old parish church uchod) ar lethrau gogledd-orllewinol y dyffryn, o fewn Parc y Coleg.

Amlinellir hanes cynnar y fynachlog yn erthygl Enid Pierce Roberts,‘The Tradition of Saint Deiniol’ yn y llyfr Bangor: from a Cell to a City (Cyfeillion amgueddfa ac Oriel Bangor, 1990). Ar un o fapiau’r erthygl ceir ‘St Deiniol’s Well’ ychydig y tu allan i ben gogleddol ffin y fynachlog, fwy neu lai lle safai canolfan siopa Wellfield House, a cheir ‘Stryd y Ffynnon’ y tu cefn i’r ganolfan siopa. Ond ar y mapiau cynnar o’r ardal a welais hyd yn hyn ‘Cae Ffynnon Knowl(e)s’ yw’r enw ar y tir hwnnw nid ‘Cae Ffynnon’. Yn ôl archif Melville Richards (gweler isod, digwydd yr enw ‘Ffynnon Ddeiniol’ ym Mhentir hefyd, eto o fewn hen blwyf Bangor ar un adeg, ond ymhellach fyth o ganol y ddinas.

     Os yw’n ffynnon sanctaidd byddai’n ail-ddarganfyddiad diddorol. Ond rhaid gofalu peidio â mentro gormod ar rhy ychydig o dystiolaeth, felly bwriadaf ymchwilio rhagor i’r pwnc cyn awgrymu dim. Gwnaed ymchwil helaeth i enwau lleooedd ardal Bangor gan Mrs Garmon Jones a Glyn Roberts tua hanner canrif yn ôl, ac mae eu cofnodion ar gael yn archifdy’r Brifysgol. Yno hefyd  mae dogfennauYstad Penrallt (yr adeiladwyd y coleg arnri), a’r eiddo’r Coleg ei hun. Os caf hwyl ar y chwilio rhoddaf wybod i chi, yn y cyfamser fe allai darllen cynnwys yr Inventory of Ancient Monuments ddwyn tystiolaeth ynghylch ffynhonnau anghofiedig eraill i’r amlwg. Cyhoeddwyd o leiaf un gyfrol ar gyfer holl siroedd Cymru a dylent fod ar gael ym mhrif lyfrgelloedd cyhoeddus ein gwlad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON SANCTAIDD YCHWANEGOL YM MANGOR?

    Howard Huws

Ymysg cofnodion plwyf Bangor yn arolwg yr Inventory of Ancient Monuments (Sir Gaernarfon, Cyfrol ii, tud.12), ceir a ganlyn:

The early monastery probably consisted of a scatter of small buildings, showing no regular arrangement; the foundations of which survive on the slope below the University College may be one of these... The Cathedral, and the old parish church, probably occupy part of the early monastery. So also may the holy well, now a marshy hollow at the foot of the college grounds; in modern times, however, it has been known as St. John’s Well.

Felly y tybiwyd pan gyhoeddwyd y Rhestr Henebion ym 1958. Y farn heddiw yw y saif y Gadeirlan bresennol yn y man lle sefydlodd Deiniol Sant ei fynachlog yng nghanol y chweched ganrif, a bod ffiniau’r gymuned gyntaf honno eto i’w gweld ym mhatrwm strydoedd canol y ddinas. At hynny, ceid is-sefydliadau yn y cyffiniau, gan gynnwys eglwys Llanfair Garth Branan (yr old parish church uchod) ar lethrau gogledd-orllewinol y dyffryn, o fewn Parc y Coleg.

Amlinellir hanes cynnar y fynachlog yn erthygl Enid Pierce Roberts, ‘The Tradition of Saint Deiniol’ yn y llyfr Bangor: from a Cell to a City (Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Bangor, 1994). Ar un o fapiau’r erthygl, ceir ‘St. Deiniol’s Well’ ychydig y tu allan i ben gogleddol ffin y fynachlog, fwy neu lai lle safai canolfan siopa ‘Cae Ffynnon’ hyd yn ddiweddar iawn. Hyd yn hyn, ni lwyddais i ganfod y dystiolaeth y seiliwyd y map hwn arni. Gwir y bu yno dŷ a elwid ‘Wellfield House’, a cheir ‘Stryd y Ffynnon’ y tu cefn i’r ganolfan siopa: ond ar y mapiau cynnar o’r ardal a welais hyd yn hyn, ‘Cae Knowl(e)s’ yw’r enw ar y tir hwnnw, nid ‘Cae Ffynnon’. Gwyddys fod Ffynnon Ddeiniol ym Mangor, ond yr oedd honno tua milltir i’r gorllewin o’r canol, yng Nghae Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda. Yn ôl archif Melville Richards digwydd yr enw ‘Ffynnon Ddeiniol’ ym Mhentir hefyd, eto o fewn hen blwyf Bangor ar un adeg, ond ymhellach fyth o ganol y ddinas.

Y mae daeareg Parc y Coleg yn gyfryw ag i ganiatáu tarddelli, ond ni sylwais erioed ar un wrth droed allt y parc, ac ni chlywais erioed am unrhyw ‘St John’s Well’ na ‘Ffynnon Ioan’ yno. Wn i ddim ychwaith pa dystiolaeth fu gan lunwyr y Rhestr Henebion i’r perwyl hwnnw, ond gyda’u trylwyrdeb arferol bu iddynt gynnwys Cyfeirnod Arolwg Ordnans ar gyfer y ffynnon, sef SH57157188, gan nodi’r lleoliad ar fraslun. Euthum i chwilio’r fan cyn gynted ag y medrwn, ac er gwaethaf y coed a’r llwyni, credaf imi ganfod y llecyn yn union gyferbyn â chongl ogleddol adeilad Swyddfa’r Post ar Ffordd Deiniol. Nid oes i’w weld ar hyn o bryd ond twll crwn ymysg prysgwyddau godre’r llethr, tua dwy droedfedd ar draws, yn llawn dail pydredig, gwlybion hydrefoedd lawer; gwlybion, hynny yw, pan oedd y ddaear ogylch yn sych grimp ddechrau Chwefror eleni. 

Os yw’n ffynnon sanctaidd, byddai’n ailddarganfyddiad diddorol. Ond rhaid gofalu peidio â mentro gormod ar rhy ychydig o dystiolaeth, felly bwriadaf ymchwilio rhagor i’r pwnc cyn awgrymu dim. Gwnaed ymchwil helaeth i enwau lleoedd ardal Bangor gan Mrs Garmon Jones a Glyn Roberts tua hanner canrif yn ôl, ac y mae eu cofnodion ar gael yn archifdy’r Brifysgol. Yno hefyd ceir dogfennau Ystâd Penrallt (yr adeiladwyd y Coleg arni), a’r eiddo’r Coleg ei hun. Os caf hwyl ar y chwilio, rhoddaf wybod i chi. Yn y cyfamser, fe allai darllen cynnwys yr Inventory of Ancient Monuments ddwyn tystiolaeth ynghylch ffynhonnau anghofiedig eraill i’r amlwg. Cyhoeddwyd o leiaf un gyfrol ar gyfer holl siroedd Cymru, a dylent fod ar gael ym mhrif lyfrgelloedd cyhoeddus ein gwlad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadol[g 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

gan Howard Huws

DŴR YN BYRLYMU YN FFYNNON GWENFREWI, TREFFYNNON

luniodd yr Arglwydd Gymru’n wlad fryniog â’i hwyneb tuag awelon Iwerydd, gan ei bendithio â glaw a dyfroedd croywon lawer. Cynysgaeddwyd hi hefyd ag etifeddiaeth Gristnogol helaeth, felly ni ddylid synnu fod ffynhonnau sanctaidd mor amlwg yn y dirwedd ddaearol ac ysbrydol. Hyd yn oed o gyfyngu diffiniad “sanctaidd” i’r rhai y gwyddom y perchid ac y defnyddiwyd hwy yn enw Duw, Ei Fam a’i saint, mae yma sawl can ffynnon o’r fath, gydag ymchwil dyfal yn dwyn rhagor fyth i’r amlwg.1 Er eu dirmygu gynt yn wrthrychau ofergoeliaeth, maent bellach yn destunau diddordeb cynyddol. Rhaid wrth ddŵr croyw, ond y mae’n drwm ac yn anodd ei gludo. O’r herwydd, rhaid byw o fewn cyrraedd cyfleus i ffynhonnell ddigonol a dibynadwy, nad oes iddi flas neu aroglau annymunol, na thuedd i achosi salwch.

Pa bryd y datblygodd y ddibyniaeth hon yn barchu neu’n addoli? Wyddom ni ddim. Diau y byddai presenoldeb dŵr yn ardaloedd cwbl sych, neu nodweddion anesboniadwy megis llif ysbeidiol; gwres; iachau anhwylderau; neu bresenoldeb hylifau tebyg i waed, olew neu lefrith, wedi peri i’n cyndeidiau ni ddwysystyried: ond mewn gwirionedd, bach iawn a wyddwn heddiw am goelion ein hynafiaid cyn-Gristnogol. 2, 3 Awgryma tystiolaeth archeolegol, fodd bynnag, y bu dirywiad hinsawdd tua chanol Oes y Pres, oddeutu 1,100 - 1,000 CC. Cyd-ddigwyddodd hynny â thuedd gynyddol pobl y cyfnod i adael gwrthrychau gwerthfawr mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd.4 Â grymoedd glaw a dŵr yn amlwg yn drech na’r eiddo’r haul a’r sêr, efallai y rhoddwyd y gorau i hen rwydwaith cysegrol y cylchoedd cerrig a’r cloddiau hirion, ac y tueddid, yn hytrach, i offrymu i dduwiau neu ysbrydion mannau gwlybion. Eithr yr un mor debygol yw y gosodid trysorau ym mannau neilltuol er mwyn cadarnhau ffiniau tiriogaethol, wrth i’r glawogydd foddi a chyfyngu’r tir amaeth da, a gwrthdaro a thrais fynd ar gynnydd oherwydd y prinder canlyniadol.

Yr oedd yr awydd taflu gwrthrychau i ddŵr yn gymaint ag i beri adeiladu llwyfannau pren hyd lannau llynnoedd ac afonydd yn unswydd er mwyn hwyluso’r arfer: ac o gofio’r posibilrwydd y bu ymladd mawr am dir ac adnoddau, y mae’n arwyddocaol mai arfau rhyfel, cleddyfau, bwyeill a phicellau, yw corff mawr yr hyn a daflwyd. Nid unrhyw hen sgrap, ychwaith, ond rhai mewn cyflwr da, ie newydd sbon, a hwythau wedi’u torri, eu plygu neu’u difetha rhywsut arall o flaen llaw.5 Pam hynny? Er mwyn eu cysegru, o bosibl: ac efallai er mwyn peri nad oedd cymaint o efydd ar gael ag i leihau ei werth. Byddai cadw pris efydd yn uchel hefyd yn cadarnhau neu’n dyrchafu statws cymdeithasol y rhai a allent fforddio cael gwared arno â rhwysg mawr: sef dosbarth o ryfelwyr grymus, debyg. Ni pheidiasom â rhoi bri mawr ar wastraff adnoddau, gwaetha’r modd.6

Parhawyd â hyn gydol Oes yr Haearn: ’does ond angen crybwyll celc nodedig Llyn Cerrig Bach7. Yr oedd y Rhufeiniaid hwythau wedi arfer cyflwyno offrymau i ffynhonnau ymhell cyn cyrraedd Ynys Prydain, ond ni chanfuwyd ond rhyw dri neu bedwar o safleoedd a dystiant iddynt gynnal yr arfer yma. Nid oeddent yn boddi pobl mewn corsydd yn null y Brythoniaid, nac yn taflu ymaith arfau gwerthfawr: ond offrymid darnau arian a gemwaith i nymffau’r dyfroedd, a chyflwynwyd ceisiadau a melltithion ysgrifenedig.8 Ac os am ddyrchafiad statws, yr oedd codi cysegrfa neu deml garreg yn amlwg yn fwy parhaol a thrawiadol nag unrhyw gymanfa luchio frodorol, wastraffus.

Ni wyddwn sut yn union yr ymagweddid at ffynhonnau offrymu o’r fath, na pha mor fywiog na pharhaus oedd unrhyw gwltau cysylltiedig â hwy, cyn i’r Cristnogion cyntaf gyrraedd yma tua diwedd yr Ail Ganrif OC (debyg). Honnwyd ers canrif a rhagor, serch hynny, nad yw’r holl ffynhonnau sanctaidd Cristnogol ond yn rhai paganaidd wedi’u hailenwi, ac nad yw’r saint eu hunain ond yn hen dduwiau paganaidd tan gochl crefydd newydd.9 Breuddwyd gwrach, ffrwyth dadrithiad â’r gymdeithas drefol Orllewinol gyfoes, yw’r fath honiadau, a go ansad yw'r dystiolaeth o'u plaid.

A bwrw heibio lol ynghylch “leylinellau” ac “ynni’r ddaear”, mae modd herio’r dadleuon mwy credadwy ynghylch goroesiad paganiaeth yng nghyswllt dyfroedd sanctaidd. Gellid dal fod chwedl taflu Caledfwlch i lyn yn “atgof” am arferion crefyddol: ond yr un mor debygol yw ei bod yn ymateb i ganfod arfau gwychion mewn dyfroedd, ganrifoedd lawer wedi’r anghofiwyd paham y rhoddwyd hwy yno. Y mae’r pinnau plygedig a fwriwyd yn eu cannoedd i rai ffynhonnau yn gyffelyb i’r hen gleddyfau hynny, yn wrthrychau metel, miniog, hir a ddifethwyd yn fwriadol: ond prin iawn oedd pinnau yma cyn y Chwyldro Diwydiannol, ac nid oes tystiolaeth y taflwyd hwy cyn y cyfnod hwnnw.

Ceir hefyd gelciau o gerrig gwynion, tebyg i’r rhai yn safleoedd cyn-Gristnogol, yn ffynhonnau sanctaidd Cymru. Maent yn drawiadol eu lliw, a chasglwyd a defnyddiwyd hwy at ddibenion addurniadol er pan drigem mewn ogofâu: ond eto, nid oes tystiolaeth y taflwyd hwy i ffynhonnau cyn y Canol Oesoedd, ac efallai’r unig reswm am hynny oedd y teimlid fod yr olwg arnynt yn ddymunol.10 Parhawn hyd heddiw i’w smentio ar gribau magwyrydd ac ar gilbyst giatiau, a’u taenu ar feddau, am yr union reswm hwnnw: nid am unrhyw reswm arall.11

Hyd yn oed pe bai’r pinnau a’r cerrig hyn yn weddillion hen draddodiadau paganaidd, nid yw parhad arfer yn golygu parhad cred. Gosodwch bwll dŵr yn unrhyw le cyhoeddus, ac ymhen pum munud bydd pobl yn dechrau taflu arian mân iddo: ond ni honnai neb fod hynny’n dystiolaeth eu bod yn addoli duw’r dyfroedd.12 Nid yw’r un o ffynhonnau sanctaidd Cymru’n tystio fod addoli wedi pontio’r agendor rhwng paganiaeth a Christnogaeth, ac ni chanfu archeolegwyr yr un dim i’r perwyl hwnnw.13 Nid na delw, nac arysgrif, nac offrymau, nac unrhyw dystiolaeth gadarn ynghylch cysylltiad “cwlt y pen” honedig â ffynhonnau.14 Gallai hyd yn oed taflu arian i ddŵr fod yn gymharol ddiweddar yma, yn arfer a ymledodd yma yn ystod y Canol Oesoedd.15 Hwyrach nad yw ond yn ffurf ar yr offrymau ariannol a gyflwynid i gysegrfeydd Cristnogol, gan gynnwys ffynhonnau, cyn i Brotestaniaeth ymsefydlu yma.16

FFYNNON SEIRIOL, PENMON EFO ARIAN YNDDI.

Ar wahân i’r hyn y credai neu ni chredai paganiaid, yr oedd gan y Cristnogion cynnar eu daliadau cryfion eu hunain ynghylch arwyddocâd ysbrydol dyfroedd a ffynhonnau, ymhell cyn iddynt sangu daear Ynys Prydain. Mae’r Ysgrythur, o Genesis i’r Datguddiad, yn byrlymu o ddyfroedd croywon, dyfroedd bywiol, a dyfroedd iachusol. Maent yn addurno Paradwys, yn cynrychioli grym a Gras a Gair Duw, yn rhagfynegi Crist, yn arwyddion iechydwriaeth, ac yn anhepgor ar gyfer bedyddio. Pa un ai y barnai’r saint a’r cenhadon Cristnogol a gyraeddasant yma fod paganiaeth frodorol un ai'n waith y Diafol ynteu’n ddatguddiad rhannol, nid oedd arnynt angen unrhyw gwlt blaenorol i gyfiawnhau bendithio tarddellau, a'u gweld yn gyfryngau Gras er lles ysbrydol a chorfforol.

Yn wir, buasai’r Cristnogion cynnar hynny a ddaethant yma o’r Dwyrain, neu tan ddylanwad mudiadau Dwyreiniol megis mynachaeth, eisoes yn gyfarwydd â ffynhonnau sanctaidd fel yr un yng nghysegrfa fawr Abw Mena yn yr Aifft.17 Pe canfuasent nad oedd unrhyw ffynhonnau sanctaidd yma, buasent wedi gorfod cysegru nifer helaeth at eu defnydd hwy’u hunain:18 ac wrth wneud hynny, buasent wedi dwyn i gof cynseiliau ysgrythurol. Fel y cerddodd Plant Israel yn droetsych trwy’r Môr Coch, felly y mae Tafwys yn ymrannu o flaen Alban Ferthyr.19 Fel y trawodd Moses ddŵr o’r graig, felly y ffrydia dŵr i’r amlwg pan drywano Cadog o Lancarfan y ddaear â’i fagl.2

Mae rhagor i hyn na thrawsleoli straeon o’r Dwyrain Canol i Ynys Prydain. Wrth fynd trwy’r dyfroedd, bedyddir y mil Brythoniaid sy’n canlyn Alban i fywyd newydd, a dyna Gristioneiddio’r genedl. Y mae bod ei dyfroedd yn awr yn ufuddhau i weision Duw yn arwydd fod y wlad ei hun yn amlwg yn eiddo Ef. Bellach, y mae’n wlad Gristnogol ac yn gartref pobl Gristnogol: a’u hymateb hwy i darddellau dŵr poeth, ffynhonnau iachusol a’r cyfryw wyrthiau yw rhyfeddu at ddoethineb, grym a thrugaredd Duw sy’n peri’r fath fendithion.

Y mae’r ymdeimlad hwn o ryfeddod ac o ddiolchgarwch yn ddwfn ynom, ac ni’n gadawodd. Fe’i mynegir trwy weddi a deisyfiad, trwy ddefod a phererindod, ar gân ac ar lafar, ac yng nghysegru cyfoeth, amser a gwaith er gogoniant Duw a budd ein cyd-ddyn. Hyd yn oed pan fo’r dyfroedd yn mynegi grymoedd tywyll byd cwympedig, yn genllifau aruthrol ac yn llifogydd difäol, mae gweddi neu orchymyn sant yn eu dofi ar unwaith: adnebydd yr elfennau eu Creawdwr, ac ufuddhânt iddo Ef a’i weision.

Gellid ystyried ffynhonnau Cymru’n “sanctaidd” yn gymaint ag y cysegrwyd hwy i Dduw yn enw sant neu er cof amdano, neu Ŵyl neilltuol, neu’r hyn arall a ardystia i’r Ffydd (y Groes Sanctaidd, e.e.). Fel arfer, mae enw’r ffynnon yn amlygu’r sancteiddrwydd hwn, neu gysylltiad agos â chysegrle Cristnogol gerllaw. Mae mwyafrif ein ffynhonnau’n dwyn enwau saint Cymru, a chymharol ychydig yw’r rhai sy’n dwyn enw saint “allanol” megis Antwn, Siôr neu Bedr: ond hwyrach na ddylid priodoli’r holl gyfryw rai i awydd goresgynwyr Normanaidd neu Eingl-normanaidd i adael eu hôl ar y dirwedd ysbrydol.

Y cysegriad mwyaf niferus, fodd bynnag, yw i’r Forwyn Fair. Ceir ei ffynhonnau hi ledled y wlad, ac yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain a’r de-orllewin. Efallai’n wir y gallai hyn adlewyrchu cysegru neu ailgysegru tan ddylanwad Eingl-normanaidd, yn enwedig adeg y cynnydd mawr ym mhoblogrwydd Mam Duw yng ngorllewin Ewrop yn ystod y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ar ddeg. Ceir ei ffynhonnau, fodd bynnag, mewn ardaloedd tan reolaeth frodorol, fel yn achos yr enwocaf ohonynt, Pen-rhys yn y Rhondda. Mae Andrew Boorde, gan ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn crybwyll cariad mawr y Cymry at y Fair Wyryf.21

FFYNNON FAIR, PEN-RHYS

Delid fod rhai ffynhonnau’n dda anghyffredin at wella anhwylderau penodol. A chrybwyll rhai o Fôn yn unig, credid fod Ffynnon Faelog yn gwella’r crydcymalau; Ffynnon Wenfaen, y felan; Ffynnon Gybi (Caergybi), y crydcymalau, y llwg a chlefyd y brenin; a Ffynnon Badrig, y crydcymalau, golwg gwan, anhwylderau’r stumog, y gymalwst, pendduynnod a’r ddannodd.22 A barnu yn ôl amlder a dosbarthiad, ymddengys y bu rhai anhwylderau un ai’n neilltuol gyffredin neu rhwydd eu trin: y crydcymalau, llygaid dolurus a defaid, ag enw tri yn unig. Gan yr oedd triniaethau meddygol y gorffennol yn ddrud, yn aneffeithiol ac yn beryglus, buasai’r newid amgylchedd, yr ymarfer corfforol a chyd gyfeillach pererindota, neu o leiaf newid dŵr yfed, cystal ag unrhyw driniaeth arall oedd ar gael ar y pryd. Buasai ffydd yn ewyllys da Duw yn rhan ganolog o’r iachau, yn ogystal.

Ceir ffynhonnau y credir fod eu dyfroedd yn llesol ar gyfer da byw, hefyd, gan gynnwys gwartheg, defaid a cheffylau. Mae Gras Duw ar gyfer y Cread cyfan, nid bodau dynol yn unig.23 Ystyrir eraill yn “lwcus” neu’n llesol: ond heb gysegriad Cristnogol penodol, nid ystyrir hwy’n “sanctaidd”, bellach. Hwyrach y’u cysegrwyd yn y gorffennol, ond bod y traddodiad ysbrydol wedi’i ddileu neu’i anghofio ym mwrlwm y Diwygiad Protestannaidd, a chanrifoedd maith yr anghymeradwyaeth a’r esgeuluso.24

 FFYNNON NON, TYDDEWI

Ymwelid â ffynhonnau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond credid fod rhai’n neilltuol rinweddol ar wyliau, ddiwrnodau, neu adegau penodol o’r flwyddyn, neu ar adegau’r diwrnod. Digon oedd gweddïo ac yfed dŵr rhai, ond cyflawnid defodau wrth eraill. Rhai cyn symled â phigo dafad â phin, ei blygu, a’i daflu i’r dŵr: eraill yn gymhleth, ac yn cynnwys gweddïo, cerdded ogylch, offrymu arian, cysgu mewn man penodol, neu yfed o lestr arbennig.

Nid yw rhai ffynhonnau ond yn dyllau yn y ddaear, gydag efallai peth gwaith cerrig. Mae eraill yn llawer gwell eu sut, mewn cysegrfeydd neu gapeli amlwg. Yn gyffredinol, gellid disgwyl i’r rhai enwocaf, a ddenent bererinion offrymgar, fod yn wych tu hwnt ac wedi’u haddurno’n helaeth: ond rhaid cyfaddef fod llawer i un nad oes iddi na tho na magwyrydd, na dim ond waliau sychion a chrawen neu ddwy’n seddau, yn gweddu i’r dim i’w hamgylchedd naturiol. Er nad oedd ein teidiau’n ariannog, nid oeddent yn brin o awydd y crefftwr i wneud y gorau o’r deunyddiau lleol oedd ar gael iddynt.25

Efallai fod defodau iachau wedi peri i rai gredu y gallai ffynhonnau ragfynegi’r dyfodol. Yn Ffynnon Gybi, Eifionydd, er enghraifft, credid y dylai’r sawl a ddymunai adferiad iechyd sefyll yn goesnoeth yn y dŵr: ac os nofiai llysywen i’r amlwg, ac yr ymgordeddai am goesau’r claf, byddai adferiad iechyd yn canlyn. Yn ffynhonnau eraill, atebid ymholiadau gan ymddangosiad pysgod, neu symudiad briwsion neu blu a daenid ar wyneb y dŵr, gyda “gweledydd” neu “warcheidwad” yn dehongli’r arwyddion.26 Arferai cariadon gyrchu at Ffynnon Ddwynwen yn Llanddwyn, er enghraifft, er mwyn gwybod hynt y garwriaeth, gyda chyfeiriad symudiad hances a daenid ar y dyfroedd yn awgrymu llwyddiant neu aflwydd. Ceisid cymorth rhai ffynhonnau ar gyfer canfod lladron: a chyda dirywiad ysbrydolrwydd yn ofergoeliaeth, aethpwyd i dybio y gellid defnyddio ambell i ffynnon ar gyfer melltithio: arfer a barhaodd hyd y 1920au.27

Prin yr adeiladwyd rhai o’r cysegrfeydd gwychaf nag y’u chwalwyd, oherwydd nid arbedodd y Diwygiad Protestannaidd ffynhonnau sanctaidd. Maluriwyd yr addurniadau, cymerwyd unrhyw beth y gellid ei werthu, a gwaharddwyd offrymu a phererindota.28 Anodd fu gorfodi hynny, fodd bynnag, yn enwedig lle'r oedd yr ynadon lleol yn glaear eu hawydd. Parhâi nifer fawr o bererinion i ymweld â Ffynnon Wyddfaen yn Sir Gaerfyrddin hyd o leiaf 1595, ac ym 1646 gofidiai John Lewis o Geredigion am y pererindota at ffynhonnau yno.29 Awgryma Rheolau Disgyblu’r Methodistiaid Calfinaidd ym 1801 fod ymweld â ffynhonnau’n digwydd yr adeg honno.30

FFYNNON WYDDFAEN, LLANDYFÂN

Amheuaf a ddinistriwyd llawer o’r ffynhonnau hyn. Sanctaidd ai peidio, yr oeddent yn ddefnyddiol ac yn gyfleus, os dim ond er mwyn cadw menyn rhag suro: ac ni allai na chyfraith gwlad na dirmyg swyddogion ddileu’r gred fod rhai ffynhonnau’n gysegredig, ac y gallant wella iechyd neu gyflwr y sawl sy’n yfed ohonynt neu ymolchi ynddynt â dyledus barch. Lle ni fynnai’r grymus ymwneud â ffynhonnau, neu yr ofnent ganlyniadau hynny, bu i’r tlodion, yma ac acw, gadw’r traddodiadau’n fyw hyd y dydd hwn.

Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, collwyd rhagor o ffynhonnau trwy esgeulustod a diystyrwch nag a ddilëwyd gan ddelwddryllwyr. O golli eu harwyddocâd ysbrydol, gadawyd iddynt lenwi â llaid, sychwyd neu llanwyd hwy am ryw reswm neu’i gilydd, dinistriwyd hwy yn enw rhyw welliant honedig, neu fe'u hanghofiwyd hwy. Peidiodd Ffynnon Chad yn Hanmer â llifo wedi gwaith draenio lleol; mae Ffynnon Ddeiniol ym Mangor o dan domen rwbel; adeiladwyd pont am ben Ffynnon Gybi yng Nghlorach, ac nid yw Ffynnon Redifael ym Mhenmynydd ond yn bant budr. Mae’r rhestr yn rhy faith o lawer, ac yn sicr bu i ddylanwad Calfiniaeth greu awyrgylch lle gellid goddef, onid cyfiawnhau’r fath halogi: ond hyd yn oed wedi cilio o’r athrawiaeth honno, mae anwybodaeth a difaterwch yn parhau i fygwth gweddillion ein hetifeddiaeth sanctaidd. Rhaid bod ar wyliadwriaeth barhaus rhag y cynllun lledu ffordd nesaf, neu’r newydd-ddyfodiad a benderfyno mai da fyddai claddu’r hen darddell yn ei ardd â choncrit, er mwyn hwyluso parcio’i gar.

Diolch i Dduw, nid du mo’r darlun cyfan. Bu i dwf hynafiaethgarwch yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg hybu ymwybyddiaeth o bresenoldeb ac arwyddocâd ffynhonnau sanctaidd, os nad ond o safbwynt hanesyddol. Cyd-ddigwyddodd hyn â chynnydd diddordeb mewn sagrafeniaeth a’r etifeddiaeth ysbrydol gyffredinol, a’r ffaith nad ystyrid Catholigiaeth Rufeinig yn fygythiad gwleidyddol, rhagor. Yn yr ugeinfed ganrif adnewyddwyd diddordeb mewn ffynhonnau sanctaidd a’u hailddefnyddio at ddibenion crefyddol: ac o ganlyniad, cofnodwyd eu safleoedd yn ofalus, ac ymdrechwyd (gyda chryn lwyddiant, weithiau) i’w cadw rhag difancoll, eu hamddiffyn a’u hadfer at eu diben gwreiddiol. Mae’n waith anodd, ond y mae unigolion ysbrydoledig, grwpiau cymunedol, llywodraeth leol a chymdeithasau megis Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi cyflawni llawer. Gwelwyd hefyd fod ffynnon, o’i hadfer, unwaith eto’n denu’r rhai sydd arnynt angen cysur, gobaith, ac adnewyddiad ysbrydol.

Un achos amlwg o’r fath yw adnewyddiad Ffynnon Drillo yn Llandrillo-yn-rhos. Saif y capel bychan sy’n cynnwys y ffynnon ar y traeth yno, ac fel arfer mae ar agor i’r cyhoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, aeth yn arfer gosod ceisiadau a gweddïau ysgrifenedig ar yr allor, gan ymbil am gymorth neu faddeuant.31 Nid ŵyr neb paham yw hyn, nac a ddechreuodd yr arfer ohono’i hun yno ynteu a ddaeth o rywle arall: ond dengys fod yr Ysbryd eto’n ymsymud ar wyneb y dyfroedd, gan ein synnu a’n hysbrydoli â rhywbeth y tu hwnt i fyfyrion deallusol, crinion ynghylch y pwnc hwn.

1. Ydynt, y mae ffynhonnau sanctaidd unwaith eto’n amlwg yn nhirwedd ysbrydol Cymru, a thrwy amlygiad grym Duw ynddynt, boed iddynt unwaith eto ddisychedu, iacháu ac addurno’r wlad hon, a chyfrannu at ei hailadeiladu’n wlad Gristnogol pobl Gristnogol.

2. Mae gwaith arloesol Francis Jones, “The Holy Wells of Wales” (Cardiff: University of Wales Press, 1954) yn rhestru mil a rhagor: ond llac oedd ei ddiffiniad ef o’r “sanctaidd”, a’r tebyg yw y bu iddo ddefnyddio adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol yn hytrach na chyflawni llawer o waith maes.

Bord, J. a C. Sacred Waters, t. 83. Granada, London 1985

 

3. Mae gweithiau megis Pagan Celtic Britain Anne Ross yn haeru llawer, ond mae lle i amau eu seiliau ffeithiol.

 

4. Pearson, M. P. Bronze Age Britain. B. T. Batsford Ltd / English Heritage, London 1993.

 

5. Nid i ffynhonnau, serch hynny. Gw. Lovegrove, C., “Wishing Wells and Votive Offerings”,

        yn http://people.bath.ac.uk/liskmj/living-spring/sourcearchive/fs8/fs8cl1.htm. A dyfynnu:

“...wells seem not to have attracted the ostentatious wealth that lakes and rivers have.

It may be that wells, as the beginnings of rivers, need only to receive tokens, such as coins,

whereas the treasures found in larger bodies of water represent the fulfilment of vows in

thanksgiving for wishes coming true...”.

        Hwyrach nad oedd modd cynnwys offrwm digon sylweddol yng ngofod cyfyng ffynhonnau, neu

        ni ddymunid llygru dyfroedd yfadwy waeth pa mor anrhydeddus y cymhelliad: neu, waeth a 

        gredid ynghylch afonydd, na thybid fod ffynhonnau eu hunain yn “sanctaidd”.

 

6. Dadlennol yn hwn o beth yw The Theory of the Leisure Class Thorstein Veblen.

 

7. Fox, Cyril. A Find of the Early Iron Age from Llyn Cerrig Bach, Anglesey. Cardiff: National

Museum of Wales, 1946.

Green, Dr Miranda. The Religious Symbolism of Llyn Cerrig Bach and Other Early Sacred

Water Sites. Source, Cyfres Newydd 1, Hydref 1993.

8. Yng Nghaerfaddon (Aquae Sulis), er enghraifft. Prin iawn yw’r fath safleoedd yn Ynys Prydain,

serch hynny.

 

9. Cyhoeddwyd fod y Santes Ffraid o Cil Dara, a’r Santes Non, er enghraifft, yn “dduwiesau

paganaidd”. Hynny yn wyneb nid yn unig diffyg tystiolaeth i’r perwyl hwnnw, ond tystiolaeth

bendant i’r gwrthwyneb.

 

10. Os oes ar rywun awydd taflu pethau i ffynhonnau, digon cyfyngedig yw’r dewis, yn y pen

draw: ac anaml y mae’r hyn a deflir yn amlygu cymhellion y taflwr. Arferid bwrw cerrig

gwynion hyd y ddeunawfed ganrif, os nad wedyn. Yn Ffynnon Degla, ymddengys y newidiwyd

o daflu cerrig i daflu darnau arian ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (gw. nodyn 14).

 

11. Gwelais harddu gerddi a chilbyst giatiau â thalpiau chweochrog o golofnau basalt du yn

Antrim, a defnyddio tywodfaen brith i’r un perwyl ym Mhenrhyn Gŵyr, oherwydd dyna

sydd ar gael yno at ddiben addurno.

 

12. Teflir hwy i bwll pengwyniaid Sŵ Bryste, hyd yn oed. Diddorol fydd adroddiad archwiliad

archeolegol i’r safle yn y dyfodol pell: “Pengwyn-addoliaeth yn Lloegr yr Unfed Ganrif ar

Hugain: Ymateb i Gynhesu Byd-eang?”.

 

13. Ychydig ffynhonnau sanctaidd Cymru a archwiliwyd gan archeolegwyr, hyd yn hyn. O’r rhai

hynny (Ffynnon Degla yn Llandegla; Ffynnon Seiriol ym Mhenmon, a Ffynnon Feuno yn

Aberffraw), ni chanfuwyd dim ond haen o gerrig cwarts a chalsit gwynion yn Llandegla.

 

14. Cynhwyswyd penglog ddynol yn fwriadol yn leinin ffynnon Rufeinig yn Odell, Swydd

Rydychen, a chyrff pedwar baban, dau ohonynt heb bennau, yn adeiladwaith cysegrfa ffynnon

Frythonaidd-rufeinig yn Springhead, Caint. Gw. Rattue, James: Holy Wells and

Headless Saints, yn http://people.bath.ac.uk/liskmj/living-spring/sourcearchive/ns5/ns5jr1.htm.

Rhan anhepgor o’r ddefod iacháu yn Ffynnon Deilo, Llandeilo Llwydiarth, oedd yfed dŵr y

ffynnon o benglog ddynol, sef yr eiddo Teilo Sant, yn ôl y gred. Gweler, fodd bynnag, erthygl

T. G. Hulse, “St Teilo and the Head Cult”, yn Source, Cyfres Newydd 2, Gaeaf 1994. Gan

wfftio’r “cwlt y pen” paganaidd honedig a gysylltir â ffynhonnau, trafoda Hulse adroddiad

llygad-dyst cwbl Gristnogol, o Gymru’r Canol Oesoedd, ynghylch iacháu trwy yfed dŵr a

gynhwysai bridd o’r union un benglog. Wedi cryn deithio (gan gynnwys cyfnod yn Awstralia),

mae’r benglog, bellach, ymhlith creiriau Eglwys Gadeiriol Llandaf. Ni chyfyngid yr arfer hon i

benglogau’r saint: gweler gwaith Francis Jones uchod am gyfeiriad at geisio gwella’r pâs yn

Nolgellau trwy yfed o benglog uchelwr canoloesol.

 

15. Am enghraifft arall o symudedd defodau, ystyried Ffynnon Drillo uchod, a nodyn 30 isod.

Mae cywydd o’r bymthegfed ganrif gan Hywel Rheinallt yn crybwyll offrymu darn arian

plygedig wrth fedd Cawrdaf Sant yn Aber-erch: ond fel y dywedwyd eisoes, gallai offrymu

arian mewn ffynhonnau fod yn arfer cymharol ddiweddar.

16. Fel yn Ffynnon Beris, Llanberis; Ffynnon Eilian, Llaneilian, ac ati.

17. Tystiolaeth y gwybu Cristnogion cynnar Ynys Prydain am Abw Mena fu canfod ampwla

(costrelyn bychan llawn dŵr neu olew sanctaidd) nodweddiadol o’r man hwnnw, yn dyddio o’r

6ed neu’r 7fed ganrif, ym Meols yng Nghilgwri..

 

18. Yn “Description of the Western Isles of Scotland” Martin Martin (tua 1695) ceir disgrifiad o

ddefod cysegru ffynnon o’r newydd ar ynys Eigg yn yr Alban.

 

19. Gw. Gildas, De Excidio (Dinistr Prydain). I ddweud y gwir, Ver, nid Tafwys, yw’r afon a lifa

trwy St Albans: ond y mae’r olaf gerllaw, ac yn llawer pwysicach, felly yn y cyd-destun hwn y

mae’n amlwg y bwriada Gildas iddi symboleiddio Prydain gyfan. Ni allai’r un afon arall

ymgorffori’r wlad i’r un graddau, ac efallai y bu gan Gildas gynsail Clasurol (Scamander yn

chwedl Caerdroea, yn benodol) mewn cof wrth iddo ysgrifennu’r hanesyn hwn.

20. Jones, Francis, op. cit.

21. Boorde, Andrew. The Fyrst Boke of the Introduction of Knowledge, 1547.

22. Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd. Ffynhonnau Cymru, Cyfrol 2. Llanrwst: Llyfrau Llafar Gwlad, 1999.

 

23. Jones, Francis, op.cit. Bendithid ceffylau, a oeddent cyn bwysiced yn y gorffennol ag yw

cerbydau petrol heddiw, â dŵr ffynnon yn Llansansiôr. Dyma’r unig hen eglwys yng Nghymru

a gysegrwyd yn enw San Siôr, ac y mae defodau’r ffynnon yn tanlinellu cysylltiad y sant hwn â

cheffylau. Cysylltiad sy’n deillio o eiconograffeg Dwyreiniol, ond odid.

 

24. Efallai fod Ffynnon Sara yn Nerwen, Sir Ddinbych, er enghraifft, yn gysylltiedig â Saeran,

nawddsant Llanynys gerllaw. Gw. Baring-Gould, S., a Fisher, J. Lives of the British Saints,

Cyf. IV, t.130. Enw cywir Ffynnon Elan yn Nolwyddelan, Gwynedd, yw Ffynnon 

Wyddelan. Gw. Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd, op. cit. Mae Rattue, ar y llaw arall, yn 

rhybuddio rhag tuedd i gam-briodoli sancteiddrwydd i ffynhonnau nas ystyriwyd yn 

sanctaidd yn y gorffennol. Gwelerei lyfr “The Living Stream: Holy Wells in Historical 

Context”. Woodbridge: The Boydell Press, 1995.

25. A bo ein gwybodaeth ni’n helaethach na’r eiddo ein cyndadau ni, nid ydym ddim craffach.

26. Jones, Francis, op.cit. Nid oedd y “gweledydd” neu’r “gwarcheidwad” fel arfer ond 

tlotyn oedrannus a geisiai ychwanegu mymryn at ei enillion prin yn y modd hwn.

 

27. Gw. Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd, uchod. Y ffynnon fwyaf ddrwg-enwog o’r fath oedd 

Ffynnon Eilian yn Llaneilian yn Rhos. Cofnodir presenoldeb y ffynnon gan Edward Llwyd 

ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac ni chrybwyllir dim am felltithio: ond erbyn diwedd y 

ddeunawfed ganrif ar bymtheg, os nad ynghynt, fe’i hofnid ledled gogledd Cymru oblegid y 

niwed y gallai ei achosi, fel y credid. Daeth hyn i ben pan lanwyd y ffynnon ac y 

carcharwyd y gwarcheidwad”, ond yn sgil hynny, ymddengys fod yr arfer wedi symud i 

Ffynnon Elian ym Môn. Cafwyd delw gŵyr yno ym 1925, a gellir ei gweld yn Amgueddfa Bangor, Gwynedd.

 

28. Yng Nghapel Meugan yn Sir Benfro ym 1592, er enghraifft, gorchmynnodd comisiynwyr y Goron:

“…where somtyme offringes & superstitious pilgrimages have been used, and there to

cause to be pulled down and utterlie defaced all reliques and monuments of that

chappell, not leaving one stone thereof upon an other, & from tyme to tyme to cause to

be apprehended all such persone and persones of what sexe kinde or sorte whatsoever

that shall presume herafter contrarie to the tenor and p’rporte of the said honorable

commission, to repair either by night or daie to the said chappell or well in

superstitious maner & to bring or send before us or enie of us…”

 

29. Yn achos Ffynnon Wyddfaen, ni ddarfu i’r ynad lleol na’u holi na’u carcharu, gan esbonio’n

ddiweddarach eu bod yn “bobl afiach, tlawd” nad oeddent ond yn dymuno ymolchi yn y

ffynnon yng ngobaith adferiad iechyd trwy gymorth Duw.

 

30. Gw. Ifor Williams, Meddai Syr Ifor, Caernarfon 1968.

 

31. Arfer a welais ar allor ar Ynys Bŷr, Sir Benfro, ac ar fedd esgob yn Cracow yng Ngwlad Pŵyl.

 

CYFEIRNODAU MAP Y FFYNHONNAU Y CYFEIRIWYD ATYNT YN YR ERTHYGL UCHOD

Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon SJ 185763 Ffynnon Seiriol, Penmon SH 449842

Ffynnon Fair, Pen-rhys ST 4987 Ffynnon Faelog, Rhosneigr SH 3172

Ffynnon Wenfaen, Rhoscolyn SH 2675 Ffynnon Gybi, Caergybi SH 2482

Ffynnon Badrig, Cemaes SH 3793 Ffynnon Non. Tyddewi SO 7525

Ffynnon Gybi, Eifionydd SH 42744126 Ffynnon Ddwynwen, Llanddwyn SH 8380

Ffynnon Wyddfaen, Llandyfân SN 6417 Ffynnon Chad, Hamner SJ 4539

Ffynnon Ddeiniol, Bangor SH 5872 Ffynnon Gybi, Clorach, Môn SH4184

Ffynnon Redifael, Penmynydd SH 5074 Ffynnon Drillo, Llandrillo-yn-Rhos SH842813

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

Home Up