Home Up

FFYNHONNAU DYFFRYN CONWY A’R GLANNAU

gan Gareth Pritchard

(Mae Gareth wedi bod yn ymchwilio i hanes ffynhonnau Dyffryn Conwy a’r glannau ers peth amser ac mae erthyglau am y ffynhonnau yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur bro- Y Pentan. Piti na fase gan bob papur bro yng Nghymry ohebydd tebyg.  Diolch iddo am y lluniau hefyd.

 FFYNNON GELYNNIN, LLANGELYNNIN   (SH751737)

Mae Ffynnon Gelynnin yn union y tu ôl i fur mynwent yr eglwys ar y chwith wrth fynd i mewn drwy’r giât o’r ffordd. Mae mewn man diarffordd ond arferai mamau gario’u plant gwan i fyny’r ffordd hir a serth at y ffynnon gan obeithio y byddai eu trochi yn y dŵr yn adfer eu hiechyd. Yng nghwr de-orllewinol y fynwent ceir ffynnon gysegredig yn llawn o ddyfroedd rhinweddol. Diogelir hi gan waliau cerrig uchel, a gellid tybio y bu to uwch ei phen mewn rhyw oes. Arferid dod â chleifion a gweinion yr ardal a’r cwmpasoedd i ymolchi yn y dyfroedd hyn; ac ymddengys y byddai llawer yn cael “lles mawr trwy hynny”. Tua 1898 roedd gŵr o ardal Llangelynnin yn mynd adref yn hwyr un noson a hithau’n ddu fel y fagddu. Wrth basio’r eglwys clywai sŵn o’r ochr arall i wal y fynwent yn y gornel ble mae’r ffynnon. Dychrynodd am ei fywyd  a chuddio gan ofni fod bwgan yno. Yna aeth yn ddistaw bach ac edrych dros y mur. Yno gwelodd wraig ifanc yn magu ei baban  yn ei breichiau gan sefyll yn y ffynnon a gweddïo’n uchel iddo wella. Aeth y dyn adref ar ei union gan gymaint ei fraw o weld y wraig druan yn y tywyllwch. Mae’r hanes hwn yn dangos yn glir cymaint y dibynnau’r werin ar y ffynhonnau a chymaint eu ffydd yn eu dyfroedd. Arferiad arall gan famau oedd dod â dilledyn plentyn gwan a’i osod i arnofio ar wyneb y dŵr er mwyn darogan ei ffawd. Pe suddai nid oedd fawr o obaith am wellhad. Yn  ystod yr ugeinfed ganrif aeth prifathro lleol â chriw o blant i weld y ffynnon gan sôn wrthynt am yr hen draddodiadau. Cymerodd arno ei fod yn dad i blentyn gwael yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cariodd y bachgen lleiaf yn yr ysgol at y ffynnon a chymerodd gerpyn i gynrychioli dillad y plentyn gwan. Suddodd hwnnw bron ar unwaith. Dechreuodd y bachgen feichio crio gan y credai’n siŵr ei fod am farw!

Cyfarfyddodd Eirlys Gruffydd â dyn o Ro-Wen wrth ddod i lawr o’r fynwent, a sicrhaodd hi fod rinwedd mawr yn Ffynnon Gelynnin. Dywedodd am ryw wraig a adwaenai ef yn dda, a gymerodd blentyn egwan ac afiach, ac fe’i trochodd  yn y ffynnon, a’r canlyniad fu iddo gryfhau o’r awr honno allan, ac y mae'r plentyn hwnnw yn fyw ac iach heddiw. Arferid cario’r plant a’r rhai gwan oedd wedi eu trochi rhyw ganllath i Gae Iol. Gellir gweld adfeilion yr adeilad hwnnw hyd heddiw.

           

FFYNNON GWYNWY  (SH754735)

Mae’r ffynnon hon rhyw chwarter milltir  o eglwys Llangelynnin. Gellir dod o hyd iddi wrth gerdded i lawr lôn gul o’r eglwys i gyfeiriad Ro-wen. Mae’n gorwedd mewn tir gwlyb ar ochr chwith y lôn. Roedd yn enwog am ei gallu i wella defaid ar ddwylo. Rhaid oedd gollwng pin wedi ei blygu i’r ffynnon cyn golchi’r ddafad yn y dŵr. Pe na wneid hyn ni fyddai dŵr y ffynnon yn clirio’r ddafad, a dweud y gwir, byddai defaid cleifion eraill yn trosglwyddo eu hunain i ddwylo’r claf! Yn ôl Myrddin Fardd byddai cyffwrdd y pinnau a oedd eisoes wedi eu taflu i’r ffynnon yn cael yr un effaith yn union. Ffynnon fechan yw hon, rhyw droedfedd a hanner o hyd a throedfedd o led. Roedd yn boblogaidd iawn oddeutu canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gellid gweld bod gwaelod y ffynnon wedi ei orchuddio â phinnau. Ni fydd y ffynnon hon  byth yn sychu, hyd yn oed yn y tywydd poethaf.

 

FFYNNON GYNFRAN, Llysfaen (SH893775)

 

Yn Llysfaen, ger Bae Colwyn, mae Ffynnon Gynfran, rhyw ganllath i’r gogledd o Eglwys Sant Cynfran. Mae hi ryw dair milltir o Fae Colwyn a’r un pellter o dref Abergele. Dywedir fod Cynfran yn fab i Brychan, tad  Dwynwen a Ceinwen sy ag eglwysi a ffynhonnau  ar Ynys Môn. Honnir fod Brychan yn dad i chwe deg pump o blant! Mae haneswyr yn dweud bod eglwys ar y safle yn yr wythfed ganrif gan awgrymu’r flwyddyn 777 fel dyddiad tebygol. Buasai hynny’n ei gwneud yn rhy hwyr iddi gael ei sefydlu gan un o feibion Brychan. Bu dadlau ynglŷn â lleoliad y ffynnon gyda Chymdeithas Ffynhonnau Cymry  (yn ystod y 1990) yn credu ei bod o fewn terfynau tir yr eglwys. Bu cymdeithas Wellhoppers yn chwilio tua 2002 a dyma’r un sy’n fwyaf tebygol o fod yn iawn. Ar un ochr i’r safle mae gwrych o ddraenen wen ac ar yr ochr arall llwyn o ddanadl poethion. O fynd heibio rhain, mae’r sefyllfa yn llawer gwell nag a fu pan ymwelodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymry yn y flwyddyn 2002. Mae’r ffynnon yn y cae i’r gogledd o’r fynwent gyda chamdda i fynd ati o’r fynwent. Mae ar ochr banc gyda’r gwrych o ddrain uwch ei ben. Hanner cylch o gerrig sydd i’r ffynnon, fel y gwelir o’r llun gyda’r danadl poethion ar yr och isaf. Roedd y dŵr yn glir. Dethlir dydd Sant Cynfran ar y 12fed o Dachwedd bob blwyddyn, ac ar noson 11eg o Dachwedd a hefyd ar y Sul canlynol bu’n arferiad gan bobl leol i ofyn am fendith ar eu hanifeiliaid gyda’r weddi, “Boed bendith Duw a Chynfran Sanctaidd ar ein hanifeiliaid.”

 

FFYNNON HENDRE CREUDDYN (SH809781)

Mae Ffynnon Hendre Creuddyn ar gyrion Cyffordd Llandudno, oddi ar Lôn Pabo, yng ngardd hen ffermdy sy’n dwyn yr enw, Deellir bod yr hen ffermdy yn dyddio’n ôl i 1750. Cafodd yr adeilad ei drawsnewid gan Vince ac Anwen Lloyd Hughes yn nechrau saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Mae’r perchnogion hefyd wedi adfer y ffynnon yn chwaethus iawn gyda gwaith cerrig graenus a tho o lechi gleision. Mae tshaen a lifar, gyda bwced, i godi’r dŵr o grombil y ddaear. Fel arfer, mae dyfnder y dŵr yn ddeunaw troedfedd. Credir bod yna ffynnon yn ogystal, ar un adeg, yn llawr cegin yr hen ffermdy, a bod y ddwy wedi eu cyplysu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

 

FFYNHONNAU CAE COCH, TREFRIW (SH 7786530)

Y Rhufeiniaid, mae’n debyg, a ddarganfu’r ffynhonnau yn Nhrefriw rhwng 100 a 250 OC pan oeddynt yn Conovium (Caerhun). Mae rhai yn honni mai gŵr bonheddig a daeth o hyd iddynt pan oedd allan yn hela a thorrodd ei syched drwy yfed o ffrwd fechan. Bu ond y dim iddo farw o ganlyniad i hynny. Hanes arall am eu darganfod yw’r un  am adeiladu ffordd newydd i fferm Cae Coch tua 1820. Torrwyd i mewn i hen lefelau a darganfuwyd tarddle’r ffynhonnau.

Mewn taflen wybodaeth am y ffynhonnau nodir mai dyma’r ffynnon haearnol fwyaf cyfoethog yn y byd a bod y dŵr wedi cael ei gofrestru fel moddion yng ngorllewin yr Almaen. Nid y dŵr yn unig sydd o ddiddordeb ond hefyd pensaernïaeth y baddondy a ddisgrifir fel cyclopean (am fod cerrig mawr wedi eu defnyddio i’w adeiladu), gyda’r gorau sy’n bodoli. Credir mai'r Arglwydd Willoughby de Eresbur a’i hadeiladodd yn 1763. Mae llechi anferth ar do’r adeilad ac oddi mewn iddo mae baddon o lechen Gymreig. Gydag adeiladu’r baddonau daeth pentref Trefriw yn le poblogaidd i dreulio gwyliau. Addaswyd adeiladau yn y pentref ar gyfer ymwelwyr a chodwyd gwesty pwrpasol ar eu cyfer. Deuai gweithwyr o ardal y chwareli yn ogystal â boneddigion cefnog i geisio gwellhad yn nyfroedd Ffynhonnau cae Coch.

Yn 1872 cyhoeddwyd cyfeirlyfr i bentref Trefriw gyda manylion ar sut y dylid defnyddio’r dŵr. Rhaid oedd eu dilyn yn ofalus gan fod yfed gormod o’r dŵr yn gallu bod yn niweidiol. Dylid ei yfed yn syth o’r graig ac aros am awr cyn bwyta. Llond gwydraid gwin y dydd  y dylid ei yfed ar y dechrau. Wedi hynny gellid dyblu cyfaint y dŵr. Arferai’r ymwelwyr fynd i’r ffynhonnau yn y bore i flasu’r dŵr ac yn y prynhawn byddent yn ymdrochi yn y dŵr yn y baddon. Gyda’r nos cynhelid cyngherddau i ddiddanu’r ymwelwyr. Ceiniog y dydd oedd y gost am fynediad i’r ffynhonnau ond ceid gwydraid o ddŵr yn y pris. Ar adegau byddai cymaint â thri chant o ymwelwyr yn aros yn y pentref. Erbyn 1874 daeth y ffynhonnau i ddwylo preifat am y tro cyntaf. Rhwng 1875 a 1959 fe gai’r dŵr ei roi mewn poteli a’i werthu ar draws y byd ar gyfandiroedd fel Awstralia, Canolbarth Affrica, De America yn ogystal ag ar draws Ewrop.

Yn 1908 teulu Adamson o ardal Lerpwl oedd yn gofalu am y ffynhonnau ac adeiladwyd baddonau newydd mewn adeilad urddasol ar fin y ffordd. Cludid pobl yma o Drefriw mewn cart a cheffyl ar gost o dair ceiniog. Wedi’r Ail Ryfel Byd gwerthwyd y ffynhonnau i ŵr o’r enw Cyrnol Cockroft ac roedd y dŵr yn dal i gael ei botelu a’i werthu. Yn anffodus collodd y ffynhonnau iachusol eu hygrededd am na chawsant eu cynnwys eu cynnwys yng nghynlluniau’r awdurdodau iechyd swyddogol. I bob ymddangosiad roedd oes aur Ffynhonnau Cae Coch wedi mynd heibio. Tua 1970 prynwyd y lle gan Alf Ineson, perchennog cwmni moduron o ogledd Lloegr  ac ail agorwyd ym 1972. Byddai ymwelwyr yn dal i alw heibio a chaent weld y baddonau am ugain ceiniog. Gwerthid y dŵr mewn poteli plastig ac roedd cleifion yn dal i gael iachâd wedi iddynt yfed y dŵr. Mae’r ffynnon gyntaf yn gryf iawn mewn haearn. Mae ynddi hefyd silica, sylffwr, magnesia, soda, calsiwm, alwminiwm, sodiwm a manganîs. Mae tymheredd y dŵr yn sefydlog tua 48 i 50 gradd ffarenheit. Byddai’r dŵr  yn y baddon yn gymysgedd o ddŵr y ddwy ffynnon ac yn cael ei gynhesu i tua 100 gradd ffarenheit. Yn yr wythdegau daeth y ffynhonnau yn eiddo i Toni Rowlands a fagwyd yn Llandudno. Fe fuddsoddodd filiwm o bunnau yn y fenter a gwerthid cynnyrch y ffynhonnau mewn siopau drwy Brydain, Ewrop ac Affrica. Nid yw’r corff dynol yn gallu storio haearn ac felly mae angen cyflenwad cyson ohono i gadw’n iach. Nid mewn poteli y gwerthir y dŵr bellach ond mewn pacedi. Daeth tro ar fyd. Nid yw’n bosibl ymweld â’r ffynhonnau na’r baddondy, ond yn ôl ffigyrau’r cwmni (Nelson) , yn 2009 cynhyrchwyd a gwerthwyd dros 12 miliwn o bacedi o’r dŵr o dan yr enw Spatone ar draws y byd.

 

 

FFYNNON NEWYDD, LLANRWST

Bu ceisio cael hanes Ffynnon Newydd yn ardal Llanrwst yn dipyn o her, yn enwedig ar ôl gweld fod cymdeithas fel Wellhoppers, sy’n arbenigo mewn hanes ffynhonnau wedi methu, ac nad oedd gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru fawr ddim gwybodaeth chwaeth! Ar gyrion Llanrwst, ar y ffordd i Landdoged mae Ffynnon Newydd, ond mae’n rhaid pwysleisio ei bod ar dir preifat. Yn ôl pob tebyg cafodd y ffynnon ei chodi yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg gan un o deuluoedd cyfoethog yr ardal. Mae sôn amdani yn Faunula Crustensis -An Outline of the Natural Contents of Llanrwst a gyhoeddwyd yn 1830 gan John Williams, Pyll, Trefriw (1801-1859.  Roedd y meddyg a’r naturiaethwr yn fab i’r melinydd Cadwaladr Williams ac wedi ei eni ym Mhentrefelin, Llansanffraid Glan Conwy.  Yn Saesneg yr ysgrifennwyd am Ffynnon Newydd. Dyma gyfieithiad:

 

Ger Tyddyn Fadog, i gyfeiriad Llanddoged, mae tŷ go arbennig o’r enw Ffynnon Newydd, sydd a’r enw am fod yna ffynnon sylweddol yn yr ardd gyda muriau trwchus o gerrig a tho o lechi uwch ei phen. Mae digonedd o le y tu mewn gyda rheiliau o haearn, ac yn amlwg mae’r ffynnon wedi ei chodi ar gyfer ymdrochi. Cafodd y ffynnon lawer o glod am fod y dŵr wedi llwyddo i iachau cleifion oedd gyda phob math o anhwylderau, rhai oedd meddygon ac eraill wedi methu eu concro. Ni chredaf fod iddi drwythiad mwynol, ond yn hytrach fod yr effeithiau llesol i’r corff yn dod oherwydd bod oerni’r dŵr yn cyflymu cylchrediad y gwaed. Rwyf yn sicr ei bod mor effeithiol â Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon neu  unrhyw ffynnon arall sydd heb rinweddau haearnol na halenog wrth geisio gwella anhwylderau sy’n anodd eu concro.

 

Mae cyfeiriad at y ffynnon yn An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. Vol  4 Denbishire. Royal Commission on Ancient and Historical Monuments 1914. Yn ôl y disgrifiad ( yn Saesneg) ym 1914 roedd y ffynnon yn sgwar o faint pymtheg troedfedd gyda waliau o ddeuddeg troedfedd o uchder a tho o lechi, ond bod y to mewn cyflwr gwael. Roedd saith o risiau i fynd i lawr at y dŵr  oedd yn bedair troedfedd o ddyfnder. Yn cydredeg a’r ffynnon roedd ystafell wisgo/dadwisgo o’r un hyd ond yn naw troedfedd o led. Erbyn heddiw mae’r ystafell newid wedi diflannu. Does dim golwg o’r to ac mae’r grisiau mewn cyflwr gwael. Mae Peter Higson, perchennog Ffynnon Newydd, yn credu bod llawr y ffynnon wedi ei wneud o farmor. Mae ein diolch yhn fawr iddo am ei gyd-weithrediad parod yn caniatau i’r Pentan gael tynnu lluniau o’r ffynnon ac am ei gymorth gyda’r hanes. Diolch hefyd i Rob Davies am dynnu’r lluniau a thrednu’r cyfan. Heb gymoprth amrhisiadwy y ddau ni fyddai wedi bod yn bosibl i’r wybodaeth yma gael ei gasglu a’i gyhoeddi.

 

Buom ar drywydd anghywir i ddechrau wrth geisio cael hanes y ffynnon gan ymweld â Ffynnon Newydd arall, sef cartref Aelwen a’r diweddar Thomas John Williams yn ardal Tan Lan. Roedd yna ffynnon yno hefyd wedi ei lleoli mewn cae. Mae wedi cael ei chapio gyda chaead crwn o goncrit. Hyd y gwyddom does yna ddim byd arbennig am hon ar wahân ei bod wedi ei defnyddio i ddisychedu cenedlaethau yn y gorffennol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up