FFYNHONNAU CEREDIGION
(Addaswyd y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatâd caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)
Saif eglwys Henfynyw ar ben rhiw serth sy'n arwain i fyny o dref Aberaeron. Heb fod ymhell o'r eglwys ac yn agos i gapel Ffosyffin mae ffynnon wedi ei henwi ar ôl y nawddsant. Am flynyddoedd ystyrid dŵr y ffynnon hon yn feddyginiaethol, a chynhorid pawb oedd yn welw a llwyd ei wedd i ddrachtio ohoni, a golchi eu hwynebau yng ngwlith y ceirch gwyn a dyfai o gwmpas. Ceir amryw o ffynhonnau eraill yng Ngheredigion wedi eu henwi ar ôl Dewi; un gerllaw Gallt yr Odyn ym mhlwyf Llandysul, un tua milltir neu ddwy wedi gadael Synod ar y ffordd i Aberteifi ac un arall tua milltir o Landdewibrefi. Dywed traddodiad i'r olaf darddu yn wyrthiol pan adferodd Dewi fab y weddw adeg y Gymanfa Fawr yn Llanddewibrefi pryd y cododd y ddaear o dan ei draed. Ffynnon ryfeddol arall yn Llanddewi oedd Ffynnon y Ddôl Gam. Dŵr o hon fu'n llifo i dap y pentref am ugeiniau o flynyddoedd. Sefydlodd Bec, Esgob Tyddewi, goleg yma yn 1187 a chredir mai ffynnon y myneich oedd hon.
Ym mhentref Llan-non, a saif ar y briffordd o Aberystwyth i Aberaeron, ceir Ffynnon Non. Dywedir bod eisteddleoedd o amgylch y ffynnon hon gynt, a bod lliaws o bobl yn ymweld â hi ar ddydd gŵyl y Santes, sef Mawrth y trydydd. Teflid arian iddi fel offrwm, a chredai'r bobl y gwireddid eu dymuniad os oedd eu ffydd yn ddigon cryf ac yn enwedig os offrymid arian ac os y cedwid y dymuniad yn ddirgel. Ceir ffynnon arall yn Llan-non i goffáu'r Santes Ffraid, ac erys hen bennill ar lafar gwlad o hyd,
Yn Llansantffraid mae ffynnon
Sy'n gwella pob clefydon,
Ac mae hi'n tarddu fel y gwin
O hyd trwy rin y person.
Ffynnon nodedig arall oedd Ffynnon y Pererinion yn agos i bentref Llangwyryfon. Bu adeg pan gyrchai pobl o bob cwr o Gymru i Langeitho i addoli ac i wrando ar y diwygiwr, Daniel Rowlands, yn pregethu. Cyrchai pobl sir Gaernarfon a gogledd Cymru yno bob yn eilfis oherwydd y pellter. Os byddai'r hin yn ffafriol hurient gwch o Aberdyfi i Aberystwyth a chychwynnent ar ddydd Gwener er mwyn cyrraedd pen eu taith erbyn y Sul. Os mai cerdded pob cam a wnaent cychwynnent ar ddydd Iau, ac yr oedd cytundeb rhyngddynt ag eraill i gyfarfod am naw fore Sadwrn wrth ffynnon gerllaw Llangwyryfon. Dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Pererinion. Wedi bwyta tocyn o fara a chaws ac yfed o ddŵr y ffynnon â'i dau neu dri i weddi cyn ailgychwyn i Langeitho. Canent emynau ar eu pererindod ac roedd gwledd arall yn eu haros wedi cyrraedd pen y daith.
Hen fod ymhell o Langeitho mae tref fechan Tregaron. Yn naturiol roedd amryw o ffynhonnau yn y cylch a gelwid un ohonynt yn Ffynnon y Gors. Credid bod meddyginiaeth yn ei dyfroedd i'r gwan a'r afiach. Dyma sut y canodd un bardd iddi:
Ar lan y Teifi lonydd y tardda ffynnon fwyn,
O gellau'r Fannog Beunydd heb gysgod craig na llwyn.
Hen ffynnon goch Cors Caron yw enw'r darddle lon,
Ac ni rydd haf na gaeaf fyth glo ar enau hon.
Gelwid y llall yn Ffynnon Caron ac mae Gŵyl Sant Caron ar y pumed o fis Mawrth. Arferai plant yr eglwys fynd i'r ffynnon yma ger Glanbrenig ar Ŵyl Sant Caron i yfed dŵr a siwgwr brown. Roedd pob un yn dod â photel fach a thipyn o siwgwr brown yn ei gwaelod. Wedi cyrraedd y ffynnon byddent yn ffurfio yn hanner cylch oddi amgylch a phob un yn ei dro yn llanw ei botel a dŵr. Byddai pob un wedyn yn siglo'r botel nes toddi'r siwgwr ac yna yfed pob diferyn gyda'i gilydd a dyna'r seremoni drosodd am flwyddyn arall.
Saif pentref Llangybi ar y ffordd sydd yn arwain o Dregaron i Lanbedr Pont Steffan. Enw'r ffynnon gerllaw'r pentref oedd Ffynnon Wen neu Ffynnon Gybi a dywedid bod iddi hithau allu meddyginiaethol. Arferai carreg enfawr fod o fewn chwarter milltir i'r fan a gelwid hon yn Llech Cybi. Credai rhai a ddeuai i yfed o'r dŵr fod yn rhaid cyffwrdd â'r llechen hefyd cyn cael llwyr iachâd.
Ym mhlwyf Llanwenog yn Nyffryn Teifi roedd ffynnon doreithiog nad oedd pall ar ei bwrlwm sef Ffynnon y Brodyr. Gan nad oedd ymhell o adfeilion yr hen briordy, iddi hi y deuai'r myneich i gyrchu dŵr ac i ddrachtio ohoni. Ceid ffynnon arall islaw mynwent eglwys y plwyf a elwid yn FfynnonWenog. Cyn toriad gwawr arferai mamau ddod â'u babanod eiddil a'u hymolchi yn y dyfroedd clir, grisialaidd, a thystid iddynt gryfhau wrth wneud hynny.
Heb fod ymhell o darddle Nant Cwm Steddfa ym mhlwyf Llangrannog yr oedd Ffynnon Groes. Yma, medd traddodiad, yr arferai'r pererinion yfed o'i dyfroedd, fwyta eu tocyn, a gwneud arwydd y groes cyn ailgychwyn ar eu taith i Langrannog. Ym mhentref Llangrannog roedd ffynnon wedi ei chysegru i'r Forwyn Fair a gelwid hi yn Ffynnon Fair. Yn agos i'r ffynnon hon gwnaeth Caranog Sant ei gell tua diwedd y chweched ganrif.
Ceir ambell ffynnon hefyd ag iddi gysylltiad hanesyddol, megis Ffynnon Fadog yn ardal Penmorfa. Dywed rhai mai Ffynnon Waedog y gelwid hi gynt a bod yr enw'n llefaru am y cadau creulon a'r tywallt gwaed a fu.
Erbyn heddiw glasodd y llwybrau at y ffynhonnau, anghofiwyd amdanynt ac am y clod a berthynai iddynt gynt.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc