FFILMIO’R FFYNHONNAU
Eirlys
Gruffydd
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i
Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i
ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Paratoi i fflimio ger
Ffynnon Parc Mawr.
John
a Ken ger y ffynnon.
I
Fon yr aethom gyntaf ac i gyfarfod a John Price Evans ger Ffynnon Parc Mawr
(SH486871) ym Mhenrhosllugwy. Cafwyd tipyn o hanes y ffynnon hon yn Rhifyn 16 o Llygad
y Ffynnon. Wrth ddilyn cyfarwyddiadau John cawsom hyd i’r man cyfarfod a
drefnwyd; yna roedd llwybr yn arwain dros dir agored at y ffynnon. Mae’n ardal
o ddiddordeb naturiaethol arbennig ac felly roedd yn bwysig i ni gadw at y
llwybr. Hawdd oedd gweld y ffynnon gan mai dyma’r unig adeilad ar y safle.
Bellach mae CADW wedi ei chofrestru’n grair hanesyddol Graddfa II ac mae’n
werth ei diogelu. Mae rhai o’r cerrig mawr o ben yr adeilad eisoes wedi
syrthio ac wrth gerdded o gwmpas y waliau hawdd oedd dod o hyd iddynt yn y
tyfiant. Mae’r ffynnon ei hun oddi mewn i’r adeilad ac mae angen cryn lanhau
arni. Ffynnon fechan sgwar gyda muriau o’i chwmpas a chapan garreg drosti
ydoedd yn wreiddiol ac mae’r dwr cochlyd
yn dal i lifo allan ohoni. Diolch i John am ei frwdfrydedd a’i
barodrwydd i rhoi o’i amser i warchod a ddioglelu’r ffynnon.
Ar
ol gadael Penrhosllugwy aethom i Lanallgo a dod o hyd i Ffynnon Allgo (SH497848)
ar faes carafanau nid nepell o’r eglwys. Y tro cyntaf i ni ymweld a’r lle,
rhyw bymtheg mlynydd yn ol, roeddem yn ddigalon oherwydd fod tyfiant gwyllt yn
gorchuddio’r ffynnon a dwy garafan fawr y naill ochr a’r llall iddi.
Bu cryn bryder am ei chyflwr yn y gorffennol ond da gennym ddweud ei bod
bellach wedi ei glanhau ac mae ei phensaerniaeth yn fwy eglur. Gwelwyd bod
sianel o gerrig yn dal y dwr sy’n goferu o’r ffynnon a’i bod yn llawer
dyfnach nag oeddem wedi ei feddwl i ddechrau. Byddai’n dda o beth pe gellid
rhoi enw’r ffynnon gerllaw iddi er mwyn i ymwelwyr fedru gwerthfawrogi’r
ffaith fod yma grair hanesyddol o bwys. Darganfyddwyd cerflun carreg o ben dynol
gerllaw’r ffynnon yn 1982 a heb amheuaeth roedd y fan yn lle cysegredig i’r
hen dduwiau Celtaidd cyn dyfodiad
Cristnogaeth i Gymru.
Ffynnon Allgo, Llanallgo,
O Lanallgo aethom i chwilio am safle Ffynnon
Gybi (SH401828) rhwng Llannerch -y- medd a Charmel ar ffordd B5112. Wedi
holi’n lleol cafwyd ar ddeall fod y ffynnon ar dir preifat. Cawsom ganiatad i
gerdded y tir i chwilio amdani ar yr amod nad oeddem yn amharu ar yr
anifeiliaid. Roedd nifer o fustych ifanc ar y tir a minnau’n gwisgo cot goch!
Wedi cerdded ar draws y cae ger y ffordd fawr a mynd i lawr i’r pant islaw
gwelwyd fod tir corsiog yno ac yng nghornel cae roedd pwll sylweddol o ddwr. Hon
yn siwr oedd Ffynnon Gybi ac yn ol un traddodiad dyma ble y cyfarfyddai’r sant
a Seiriol ac nid ger Clorach. Mae yma darddiad cryf ac mae’n bosib bod yna
waith cerrig yn dal i fodoli islaw’r dwr ond gan fod y ffynnon wedi gorlifo
does dim modd gweld. Roedd yn ddiwrnod cymylog a gwyntog ac er fod y ffynnon
mewn pant cysgodol roedd yn dal yn ddigon oer yno, ond wrth gwrs roedd yr hen
saint yn llawer mwy gwydn na ni heddiw!
Roedd y tywydd yn dipyn mwy caredig yr wythnos ganlynol pan aethom ar ymweliad ag Arfon, Eifionydd a Llyn. Dechreuasom y daith yng Nghlynnog Fawr a cherdded ar hyd y ffordd brysur o’r eglwys at Ffynnon Beuno (SH 414494) Mae hon yn grair hanesyddol Graddfa II ac felly wedi ei ddiogelu. Erbyn heddiw nid yw’n lle braf iawn i orffwyso fel yn y dyddiau gynt oherwydd prysurdeb y ffordd a swn y drafnidiaeth. Byddai cryn gyrchu at Ffynnon Beuno ers talwm am fod ei dwr yn gwella plant oedd a ddioddefai o epilepsi. Byddai cleifion na allent gerdded yn cael eu cario at y ffynnon cyn cael eu gollwng i’r dwr. Yna rhaid oedd iddynt orwedd dros nos ar fedd Beuno oddi mewn i’r eglwys. Pe gallent gysgu yna byddent yn siwr o wella. Credid hefyd bod crafu llwch o’r colofnau yng nghapel Beuno yn yr eglwys a’i gymysgu gyda dwr o’r ffynnon yn effeithiol iawn at wella llygaid poenus. Roedd hon yn un o ffynhonnau lle gorffwysai’r pererinion ar eu ffordd i Enlli.
Ffynnon
Beuno, Clynnog Fawr.
Ffynnon
Gybi, Llangybi, Eifionydd.
Ffynnon
Fyw, Mynytho – (fel y gallai fod)
Ffynnon
Aelrhiw, Rhiw.
Y ffynnon olaf y buom yn yweld a hi y
diwrnod arbennig hwn oedd Ffynnon Fair, Bryncroes. (SH 227315). Mae hon eto yn
un o ffynhonnau’r pererinion ac mae yng nghanol y pentref. Mae’n amlwg fod
trigolion Bryncroes yn gwybod fod ganddynt drysor oherwydd mae’r ffynnon ei
hun a’r tir o’i hamgylch yn cael ei gadw’n dwt. Roedd y dwr yn bur a gloyw
ac yn eich gwahodd i yfed ohono. Diwedd arbennig i ddiwrnod bendigedig.
Ffynnon
Fair, Bryncroes.
Ymhen pythefnos aethom ar daith dau ddiwrnod
i’r de gan deithio drwy Bowys a galw i weld Ffynnon Fair yn Llanfair
Caereinion (SJ104065) . Mae’r ffynnon islaw’r eglwys ac yn hawdd dod o hyd
iddi am fod arwyddion yn dangos ei lleoliad. Rhaid dringo i lawr nifer o risiau
cyn dod at y ffynnon ei hun. Mae ei ffurf yn anarferol, yn sgwar ar un pen lle
mae’r grisiau’n mynd i lawr at y dwr ond yn grwn yn y pen arall. Plannwyd
blodau a llwyni ar y llethr uwchben y ffynnon ac mae sedd garreg gerllaw iddi.
Yn anffodus diflannodd y bwrdd gwybodaeth oedd yn son amdami. Roedd hon yn
ffynnon a allai wella anhwylderau amrywiol ond gellid defnyddio’r dwr i
felltithio hefyd! Mae hon yn ffynnon sydd wedi cael sylw yn Llygad
y Ffynnon yn weddol ddiweddar ac yn un sy’n werth ymweld a hi os ydych yn
digwydd teithio drwy Llanfair Caereinion. Buom yn ffodus i gael tywydd sych ond
cymylog wrth ffilmio ac felly y parhaodd weddill y dydd.
Wedi teithio drwy’r canolbarth, gan osgoi
Llanfair ym Muallt oherwydd y sioe, daethom i Landeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin.
Ym mur y fynwent islaw’r eglwys mae Ffynnon Deilo (SN633224) Mae rhes o dai
gyferbyn a’r ffynnon ac mae’n amlwg fod pobl yn
ymddiddori yn y lle gan fod planhigion mewn potiau yn cael eu gadael ar y
cerrig ger y ffynnon . Llifa’r dwr o agen yn y mur ac mae’n llifo i faddon
islaw. Heb amheuaeth dyma ffynnon sanctaidd Teilo Sant ac fe’i defnyddiwyd
ganddo a’i ddilynwyr nid yn unig fel dwr yfed ond i fedyddio hefyd. Byddai
arwydd yn cyfeirio’r cyhoedd at y ffynnon ac enw arni yn gymorth i ymwelwyr.
Roedd dynion yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar dy gyferbyn a’r ffynnon a
swn morthwylio a llifio heb son am ambell frawddeg uwch na’i gilydd yn
gwneud ffilmio yn anodd ar adegau.
O Landeilo taith fer oedd hi i Landyfan i
weld Ffynnon Gwyddfaen.(SN643172) Cafodd
y ffynnon hon gryn sylw mewn ol-rifynnau o Llygad
y Ffynnon ond roedd maint y
baddon a hynodrwydd y safle o ddiddordeb arbennig i Michael. Mae’n siwr fod y
ffynnon hon yn gysegredig i’r hen dduwiau paganaidd ers talwm. Roedd yn
arferiad i yfed y dwr o’r ffynnon mewn penglog dynol er mwyn cael iachad. Bu
nifer o enwadau anghydffurfiol yn addoli yn y capel ger y ffynnon dros y
blynyddoedd ac erbyn heddiw yr Eglwys yng Nghymru sy’n gofalu am yr adeilad.
Bu’r dwr o’r ffynnon yn diwallu anghenion tref Llandeilo yn y gorffennol
hefyd. Mae nifer o risiau yn arwain i lawr at y dwr ac mae dyfais fecanyddol yn
y ffynnon i agor a chau drws yn y mur sy’n rheoli llif y dwr. Wedi diwrnod o
deithio milltiroedd lawer a ffilmio tair ffynnon, da oedd cael
cyrraedd plasty Glyn Hir ger Llandybie lle roedd llety wedi ei drefnu ar
ein cyfer. Ond nid oedd y gwaith wedi ei orffen. Rhaid oedd inn gael ein cyfweld
gan son am y ffynhonnau a gwaith y gymdeithas cyn noswylio.
Roedd y tywydd yn braf a heulog drannoeth wrth inni adael Llandybie a Llandeilo a throi i gyfeiriad Llanbedr-Pont-Steffan ac oddi yno i Langybi yng Ngheredigion. Yno mae Ffynnon Gybi (SN605528) ar draws y ffordd i capel Maes y Ffynnon lle y priodwyd Ken a minnau flynyddoedd maith yn ol erbyn hyn. Mae’r gymuned wedi gwarchod y ffynnon ac mae arwydd yn arwain tuag ati. Rhoddwyd grisiau a chanllaw i alluogi ymwelwyr i fynd at y ffynnon a diddorol oedd gweld fod arian wedi ei daflu i’r dwr yn ddiweddar. Dyma arwydd fod ffynnon gysegredig yn troi i fod yn ffynnon ofuned yn ein dyddiau ni. Yn ol Edward Lhuyd roedd cleifion yn dod i ymolchi yn nwr y ffynnon i geisio cael gwellhad i lygaid poenus ac i anhwylderau’r esgyrn ac yna’n mynd a threulio’r noson o dan gromlech a elwid yn Llech Cybi. Pe baent yn llwyddo i gysgu yna byddent yn gwella. Dinistriwyd y gromlech ar ddechrau’r ugeinfed ganrif a chodwyd ein cartref ni ar Bryn Llech. Yn y ddeunawfed ganrif byddai pererinion ar eu ffordd i Langeithio i wrando ar Daniel Rowland yn pregethu yn arfer gorffwyso ger y ffynnon ac yfed o’i dwr i dorri eu syched. Braint oedd cael ymweld a’r hen ffynnon unwaith yn rhagor.
Ffynnon Gybi, Llangybi, Ceredigion.
Michael yn esgyn o’r ffynnon.
Ar ol siom wrth Ffynnon Garon a seibiant i
gael bwyd yn y dref ymlaen a ni i Swyddffynnon ac i fferm Cynhawdre (Gwenhafdre)
i weld Ffynnon Ffraid ( SN675671). Cafodd ein cymdeithas y fraint o fedru helpu
i adfer y ffynnon arbennig hon sy’n wyth cant oed. Mae ar ffurff cwch gwenyn a
chafwyd tipyn o’i hanes yn ol-rifynnau Llygad
y Ffynnon. Mae ei chyflwr yn
parhau yn dda a nifer o ymwelwyr yn dod ati i gael dwr ohoni ac amryw yn teimlo
fod yna awyrgylch arbennig o’i chwmpas. Bu rhai yma’n ddiweddar yn cymryd y
dwr i’w ddefnyddio i fedyddio baban. Roedd y teulu newydd ddychwelyd ar ol bod
yn y sioe yn Llanelwedd ac roedd Anwen Davies yn falch o’r cyfle i gael
sgwrsio am y ffynnon sy’n golygu cymaint iddi.Roedd ymwela a Ffynnon Ffraid
unwaith eto yn goron ar ddau ddiwrnod bendigedig o hel ffynhonnau.
Ffynnon
Ffraid, Swyddffynnon, Ceredigion.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 40 Haf 2016
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc