Home Up

Ethiopia

 

Ffyhonnau Sanctaidd

 

Fis Chwefror diwethaf treuliais bythefnos yn Ethiopia, gan ymweld â llawer i fan o ddiddordeb imi. Un ohonynt oedd mynachlog Asheton Maryam, uwchlaw dinas Lalibela ym mynydd-dir gogledd y wlad.

Mae Lalibela ei hun 2,600 medr (8,500 troedfedd) uwchlaw lefel y môr, ac yn enwog am yr eglwysi canoloesol a gloddiwyd o garreg feddal goch yr ardal. Bwriwyd y garreg “twff” hon yn lludw o hen losgfynydd Abune Yosef, saif gerllaw; ac o fewn ychydig i’r copa, bron 1,400 medr uwchlaw’r ddinas, ceir mynachlog wedi’i chysegru yn enw’r Forwyn Fair.

Roedd yn rhaid imi ymweld, wrth gwrs, ac yn ffodus iawn mae modd gyrru o’r dref i ben llwybr sy’n arwain at y fynachlog: fel arall rhaid cerdded neu farchogaeth mul am ddwy awr a hanner. Yna rhaid dringo’r llwybr carreg am ryw 40 munud, a hwnnw wedi’i gloddio’n rhannol o graig llethr y mynydd, gyda grisiau lle bo angen.

Ym mhen draw’r llwybr mae agen wedi’i chloddio trwy dwff gwyn, a rhaid mynd i fyny trwy’r “grau nodwydd” hwn er mwyn cyrraedd y fynachlog ei hun, ar fath o lwyfan fechan o graig wastad. Mae’r adeiladau, gan gynnwys yr eglwys, wedi’u cloddio o’r creigludw gwyn a daflwyd allan gan Abune Yosef filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Uchod: Pen y llwybr tua mynachlog Asheton Maryam, Lalibela. Isod: yr olygfa o’r llwybr.

 

Y llwybr tua’r fynachlog.

Pen isaf “crau’r nodwydd”

Pen uchaf “crau’r nodwydd"

Mynachlog Asheton Maryam, tan gopa Abuna Yosef. Eglwys wedi’i chloddio o’r graig feddal

Yn Ethiopia, fel yng ngwledydd eraill, rhaid i’r sawl sy’n dymuno ei ynysu ei hun o’r byd ganfod man anghysbell sydd â chyflenwad parod, dibynadwy o ddŵr. Felly nodweddir sawl mynachlog yno gan ffynnon sanctaidd, ac y mae gan gredinwyr ffydd fawr yng ngalluoedd y dyfroedd i’w hiacháu rhag amryw glefydau. Nid eithriad Asheton Maryam, ac ar ymyl y llwybr, tua hanner ffordd i fyny, gwelais ffynnon wedi’i chau o fewn math o gist isel o waith cerrig nadd. Roedd wedi’i hadeiladu yn erbyn y graig, a ffurfiai ddwy ochr iddi. Roedd y ddwy ochr arall wedi’u llunio o gerrig sgwâr a hirsgwar gwelwlwyd, wedi’u cydgysylltu â morter gwyn, ac ar hwnnw batrwm bregiant a haenau’r cerrig  wedi’i amlinellu â phaent du. Roedd rhan isaf y gist wedi’i phlastro’n wyn, ac yr oedd gwaith cerrig yn do gwastad arni. Ar ben y to, yn ei ganol, safai carreg gron â chroes wedi’i cherfio i’w hwyneb.

 

Yr olygfa o’r fynachlog tua dinas sanctaidd Lalibela islaw.

Cist ffynnon sanctaidd Asheton Maryam.

Yng nghanol yr ochr hir o’r gist a wynebai’r llwybr, roedd drws bach pren, hirsgwar, â ffrâm o’r un deunydd, oll wedi’u peintio’n las. Roedd patrwm igam-ogam wedi’i naddu i’r morter islawr gwaelod y ffrâm. Cefais wybod mai ffynnon sanctaidd oedd hon, a phan edrychais drwy’r drws i mewn i’r siambr, gallwn weld nid yn unig y dŵr, ond hefyd bod rhagor o waith cerfio y tu mewn. Ymgronnai’r dŵr mewn pwll bach hanner crwn, ac yn y cefn safai croes tan fwa dwbl syml. Roedd aelodau’r groes yn ymledu o’r canol allan i lenwi’r gofod o dan y bwa, a’r cyfan wedi’i naddu o graig y llethr. Safai’r groes hyd at ei chanol yn y dŵr. Amcangyfrifais fod yno ryw droedfedd o ddŵr, neu ychydig yn rhagor.

Ni phrofais o’r dyfroedd: roeddwn y pryd hwnnw newydd ddod ataf f’hun wedi pwl o wenwyn dŵr Giardia a ddaliais ychydig ddiwrnodau ynghynt, ac wedi hynny nid oeddwn am fentro yfed dim nad oedd wedi’i ferwi neu mewn potel wedi’i selio. Gerllaw’r ffynnon roedd pant bach crwn wedi’i gafnu o’r graig, a dŵr yn codi neu’n ymhél yn hwnnw, yn debyg i bullán Gwyddelig neu Faen Bedydd Baglan yn Llanfaglan. Dywedwyd wrthyf fod bugeiliaid yn diodi eu hanifeiliaid o’r cafn hwn, a bod y dŵr hwnnw, hefyd, yn sanctaidd.

 

          Offeiriad yn arddangos memrwn plyg hynafol yn y fynachlog.

Y groes yn y dyfroedd.

Yr ochr draw i Abune Yosef ceir mynachlog arall, Nakuta La’ab. Y mae safle hwnnw’r un mor hynod, gan ei fod wedi’i adeiladu mewn ogof fawr mewn clogwyn, a’r graig yn bargodi troso.

Mynachlog Nakuta La’ab yn ei hogof. Sylwch ar lesni’r llystyfiant yno ganol y tymor sych.

Adeiladau’r fynachlog. Sylwch ar y dŵr yn llifo i lawr y grisiau ar y dde.

Y caswgiau basalt sy’n dal y diferion o’r nenfwd.

 

Yma adeiladwyd eglwys o greigludw coch Lalibela, ond y prif reswm dros hynny oedd oherwydd bod dŵr yn diferu’n barhaus o’r graig uwchlaw. Waeth pa mor sych y bo pobman arall, ceir dŵr yn Nakuta La’ab, hyd yn oed yn Chwefror, anterth y tymor sych. Difera’r dŵr o nenfwd yr hollt i gawgiau o garreg fasalt islaw, ac ystyrir ei fod yn iachaol, er na chanfûm a ddefnyddir ef at unrhyw anhwylderau neilltuol.

Howard Huws

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 48 Haf 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up