DARLITHOEDD
Yn
ystod mis Medi bu Eirlys Gruffydd yn darlithio ar Ffynhonnau Cymru i gangen
Gwyddelwern o Ferched y Wawr. Ym mis Hydref bu'n darlithio ar yr un pwnc
i Gymdeithas Hanes Lleol Rhuthun. Dyma lun a dynnwyd ar yr achlysur hwnnw o
Hafina Clwyd, ysgrifennydd y gymdeithas honno, ac aelod
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 13 Nadolig 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Ers mis Awst cynhaliwyd nifer o ddarlithoedd gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru:
Medi 6ed – Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Darlith ar Ffynhonnau Llŷn.
Hydref 27ain – Cymdeithas Ddiwylliannol Capel Peniel, ger Dinbych.
Tachwedd 6ed – Cymdeithas Hanes Dolwyddelan.
Tachwedd 13eg – Clwb Cinio Treffynnon.
Tachwedd 14eg – Cymdeithas Pensiynwyr Llanferres.
Tachwedd 21ain – Cymdeithas Chwiorydd Capel Penbryn, Treffynnon.
Rhagfyr 14eg – Cymdeithas Gymraeg Rhuthun a’r Cylch.
Cafwyd nifer o aelodau newydd o ganlyniad i’r darlithoedd hyn.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Ddiwedd Mawrth aethom i draddodi darlith am ffynhonnau sir Ddinbych i Gymdeithas Hanes Wrecsam. Soniwyd am Ffynnon Bedr a oedd, yn ôl Francis Jones yn The Holy Wells of Wales, rhyw bedwar cant a hanner llath i’r gogledd-orllewin o Gapel Sant Pedr ger eglwys Trefalun. Ar ddiwedd y ddarlith daeth gwraig o’r enw June Jones i siarad â ni gan ddweud ei bod yn byw yn yr Orsedd (Rossett). Roedd ganddi ddiddordeb mewn chwilio am y ffynnon ac yn fuan wedyn derbyniwyd e-bost ganddi. Roedd wedi darganfod cyfeiriad at Gapel Sant Pedr mewn arolwg tir a wnaed yn 1620. Ym mhlwyf Gresffordd yr oedd y capel a rhyw chwarter milltir o’r adeilad, ger Llindir, roedd Ffynnon Bedr a oedd yn nodedig am ei dŵr bywiol. Nid oes dim ar y map O.S. i ddangos bod ffynnon gerllaw Neuadd Llindir, sydd erbyn hyn yn westy. Aeth June yno a chael nad oedd neb, gan gynnwys y rheolwr, yn gwybod dim am fodolaeth ffynnon ar y tir helaeth sydd o gwmpas y gwesty. Rhoddodd gyfeiriad y cwmni sy’n berchen y gwesty i ni fel y gallwn gysylltu â nhw rhag ofn bod y ffynnon wedi ei nodi ar ddogfennau sydd yn eu meddiant. Gallai edrych ar hen fapiau degwm yr ardal fod o gymorth hefyd. Cawn weld beth a ddaw.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
GWEITHGARWCH
Y GYMDEITHAS
Buom yn cynnal nifer o ddarlithoedd yn ystod 2008 a chafwyd aelodau newydd fel canlyniad. Bu’r noson ym Mhontrhydfendigaid yn arbennig o lwyddiannus. Dyma lun o Pat a Meurig Jones, Swyddffynnon, ac Eirlys a Ken Gruffydd wedi’r ddarlith.
Dyma restr o’r darlithoedd ar gyfer 2009:
Chwefror 5ed - Ponciau ger Wrecsam
Mawrth 24ain- Corwen
Mawrth 26 ain- Shotton, Glannau Dyfrdwy
Mehefin 2il – Treuddyn, ger Yr Wyddgrug
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf