Home Up

DŴR, FFYNNON A PHENGLOG.

Ken Lloyd Gruffydd.  

 

Gwenfrewi a’i ffynnon, Treffynnon, Sir y Fflint.

Mae’r syniad o addoli dŵr yn ymddangos yn rhyfedd i ni heddiw gan mai’r unig beth sydd angen arnom ei wneud er mwyn cael llymaid ohono neu beth ohono i ymolchi yw agor tap. Eto, yn yr unfed ganrif ar hugain, dyna’r union beth sy’n digwydd yn yr India a Bangladesh y dyddiau hyn. Gwelir miliynau o Hindwiaid yn teithio pellteroedd  maith i ymdrochi  yn yr  afon Ganga ( Ganges ),  gan obeithio  cael gwellhad  o  ryw afiechyd neu lanhad ysbrydol. I’r Hindŵ mae’r afon yn sanctaidd ac wedi bod felly ers miloedd o flynyddoedd.  Tybia ein harchaeolegwyr mai dyma’r drefn ym Mhrydain oddeutu 4,000 C.C. pan gychwynwyd yr arferiad o ffermio gyntaf.  Ond mae’n rhaid i ni aros tan yr Oes Efydd, tua 2,300 C.C., cyn y cawn dystiolaeth bendant o gysylltu dŵr a rhyw fath o grefydd.  Ar odre Carn Meini ym mynyddoedd y Presely  ~  lle cafwyd y meini gleision ( bluestones ) i Gôr y Cewri  ~  mae meini gosodedig gerllaw amryw o darddellau dŵr i ddynodi eu safle i deithwyr sychedig.  Ni chawn byth wybod pwy a’u cododd yno ond yn ddiweddar dengys archwiliadau yn ymwneud â DNA dynol fod canran sylweddol o boblogaeth Cymru heddiw yn cario’r un patrwm genetig a’r brodorion a drigai yma o leiaf 6,000 mlynedd yn ôl.  Felly, mae modd credu y gall peth o’r coelion o’r cyfnod cynhanesiol fod wedi goroesi i’n dyddiau ni.

Amcangyfrir i lwythi o Geltiaid, gyda’r ddawn ychwanegol o wneud offer gwaith ac arfau o haearn, ymsefydlu yn yr ynysoedd yma tua 600 C.C. Roeddynt hefyd yn adeiladu caerau i amddiffyn eu sefydliadau, ac roedd y Frythoneg yn iaith iddynt, ond ychydig iawn yw ein gwybodaeth am eu arferion defodol ac angladdol. Yn ôl haneswyr Rhufeinig byddai ein cyndadau yn ystyried afonydd, llynnoedd a ffynhonnau fel cyflwynwyr ac amddiffynwyr bywyd, ac fel gwerthfawrogiad o hyn, offryment anrhegion i’r dyfroedd hyn. Yr un mwyaf enwog yng Nghymru yn hyn o beth yw Llyn Cerrig Bach ym Môn lle daethpwyd ar draws llawer o arteffactau o’r Oes Haearn.  Mae’r weithred o daflu arian neu binnau i’n ffynhonnau heddiw yn barhad o’r arferiad hwn.  Gwêl rhai fod hyn yn ffordd i warchod eu hunain rhag trychineb tra bo eraill yn edrych arno fel modd i gael ‘lwc dda’!

 Mae ein diolch hefyd i’r Rhufeiniaid am fabwysiadu enwau Brythoneg ein hafonydd a rhai o’r caerau a godasant ar eu glannau.  Cymerwch yr un yng Nghaer er enghraifft.  Cofnodwyd y fan yn Deva gan mai dyna oedd sŵn ynganu’r gair i glustiau Gwŷr y Leng pan godasant eu pebyll yno gyntaf. Daw y gair o’r Frythoneg *Deua gyda’r ystyr ‘duwies, cysygredig’. Felly ‘dŵr y dduwies’ yw Dyfrdwy, ac fel mae’n digwydd, gwyddom mai Aerfen ‘ clodfawr mewn brwydr’ oedd rhinwedd ei amddiffynydd. Man hynod o bwysig i’r Celtiaid oedd tarddle afon, boed yn bistyll neu lyn.Yno y cyflwynid defodau paganaidd i’r duwiau a gredent iddynt drigo yn y dŵr, a bod hwythau yn eu tro yn dod o fyd tanddaearol a elwid Annwfn. Safle arall o bwys oedd y fan lle rhed ffrwd i afon, neu gymer dwy afon (aber), gan y cryfheid y llif yno. O’r herwydd, byddai derbyn i Lanystumdwy yng Ngwynedd fod yn fangre gysegredig yn y cyn-amser yn gredadwy, o gofio mai’r afonydd Dwyfor a Dwyfach sydd yn cwrdd yno. Peth digon hawdd wedyn fyddai i’r Cristnogion cynnar godi llan ‘eglwys’ ar y ddôl a grewyd gan ystum y ddau lifeiriant.  Hawdd hefyd fyddai mabwysiadu un o’r hen arferion yn ymwneud â dŵr wrth fedyddio. Diogelu teithwyr a’u hanifeliaid tra’n croesi afon mewn lle cul neu ddŵr bâs oedd swyddogaeth y dduwies *Ritona, a’i henw hi a gawn yn rhyd ‘man croesi’. Enghreifftiau eraill o afonydd yn dwyn enwau duwiau yn y dull yma yw Braint  ( *Brigantia ‘un bwysig’ ) ym Môn; amryw Lleu   ( *Leuco ‘golau’ ); Taran ( *Taranis ‘taran’ ); a’r fwyaf ohonynt oll, Hafren ( *Sabrina ).  Hawdd trosi’r Frythoneg Sabr- i’r Gymraeg Hafr- gyda’r ôl-ddodiad –ina yn troi’n –en, ond does wybod beth yw tarddiad yr elfen gyntaf.

 Crewyd y mwyafrif o’n ffynhonnau drwy i ddŵr ymwthio i’r wyneb mewn man arbennig, yn hytrach na llifo i lawr o’r ucheldir a chronni mewn twll neu bant, yn union yr  un fath a tharddell afon ond ar raddfa llai.  Nid annisgwyl felly yw darganfod i drigolion y cyfnod cyn-Gristnogol  ddirnad dŵr fel rhoddwr bywyd a phurwr enaid a bod llygad-y-ffynnon yn agorfa neu fynedfa i’r byd goruwchnaturiol.  Does ddim amheuaeth fod angen ymchwilio’n fwy trylwyr i’r maes hwn, yn enwedig ym myd archaeoleg, cyn y gallwn ddatgan yn hyderus pa ddefodau a gymerodd le yn y safleoedd pwysig hyn. Dichon byddai cloddio am ôl polion yn amgylchu ambell i ffynnon o werth, a pha arwyddocad sydd i’r cerrig gwyn neu bennau cerrig cerfiedig a godwyd allan o lawer ohonynt. Gallwn hefyd ofyn a oes cysylltiad rhwng yr arferiad presennol o orchuddio beddau â cherrig gwynion ( gyda’r pwrpas o gadw’r ysbrydion aflan draw) gyda rhai cyffelyb a geir mewn ffynhonnau?  A pha mor bell yn ôl y gellir olrhain swyddogaeth ceidwaid y ffynhonnau y down ar eu traws hyd y ddeunawfwd ganrif? Yr enwocaf ohonynt o bosib oedd John Evans fu’n ymwneud â ffynnon felltithio Sant Eilian yn Sir Ddinbych.  Dychwelwn at y pennau eto.

 Yn ôl pob tebyg parhaodd yr arferiad o fedyddio mewn afon drwy Oes y Seintiau (500-800 O.C.) gan, mi dybiwn, fabwysiadu amryw o’r defodau cyntefig o drochi.  Wedyn gwelwyd bedyddfeini yn ymddangos yn ein llannau, gyda dŵr o’r afon neu ffynnon (wedi ei hail-gysegru i’r sant lleol erbyn hyn) yn cael ei gario iddynt.  Heddiw dŵr o’r tap a ddefnyddir yn fynych a hwnnw wedi ei fendithio’n gyhoeddus gan ficer neu weinidog.  Hwyrach fod rhai o’n darllenwyr yn gwybod am enghreifftiau diweddar o’r ddefod o fedyddio drwy drochiad mewn ffynnon awyr agored.  Buaswn yn dra ddiolchgar am unrhyw wybodaeth neu sylwadau ar y pwnc.  Anghyson iawn fu’r arferiad ym mysg Bedyddwyr bro’r Wyddgrug ble trigaf.  Yn ystod yr hanner canrif diwethaf dim ond ar bedwar achlysur y cymerodd hyn le yn Ffynnon Tysilio gerllaw’r dref, dwywaith ym 1952 ac unwaith yn 1979 a 2006.  Credaf byddai arolwg o Gymru gyfan yn datgelu i lawer iawn o’r hen ddefodau ynghlwm â’n ffynhonnau (nid rhai ‘sanctaidd’ o angenrhaid) oroesi i’r cyfnod modern er gwaethaf sawl Deddf Gwlad a basiwyd rhwng 1536 a 1559 yn gwahardd unrhyw weithred anghristnogol yn ymwneud â hwy. Un o’r rhesymau pennaf i addoli ffynhonnau oroesi oedd oherwydd i grefydd eglwysig, hyd y cyfnod Protestanaidd, fod yn ffordd ddefodol o fyw yn hytrach na chasgliad o ddogmâu.  Mae’n rhaid ychwanegu fod ansawdd meddygol dŵr rhai ohonynt wedi gorfodi’r dyn cyffredin i’w defnyddio’n barhaol, ac o’r herwydd, eu diogelu. Ymfalchïa rhai plwyfolion yn yr ofergoeledd a’r hudolrwydd a gysylltid gyda’u ffynhonnell neilltuol hwy o ddŵr.

 Down ar draws parhad o’r hen ffydd yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg pan oedd hi’n arferiad gan ffermwyr Llŷn i hebrwng eu heffrod at Ffynnon Beuno yng Nghlynnog Fawr, Arfon, er mwyn cael dŵr wedi ei ysgeintio drostynt gyda’r gobaith y byddent yn esgor ar lo. Perfformiwyd seremoni gyffelyb yn Ffynnon Gemig, Llansansior, Sir Ddinbych, ond ceffylau a daenellwyd yn benodol gyda dŵr yno i’w gwarchod rhag afiechyd neu i’w gwella o ryw glefyd heintus. Yn y 1980au ceisiodd clerigwr lleol, y Parchg. Warwick Jaundrill, ail-gychwyn yr arferiad yma ond, oherwydd y tywydd dychrynllyd o wlyb a gafwyd y diwrnod hwnnw ni ail-berfformiwyd ( hyd y gwn ) y gweithgareddau.  Mae’n bwysig nodi fod y ffynnon arbennig hon wedi ei lleoli mewn darn o dir anferth a enwir Parc-y-meirch, a gerllaw yn Ninorben darganfyddwyd lliaws o offer ceffylau wedi eu llunio o efydd rhyw 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwna hyn i rhywun ystyried bod cysylltiad y fro yma â meirch yn goroesi o gyfnod Eponos ‘duw ceffylau’ y Brythoniad.

Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, yw’r fan lle ymgynnull y nifer mwyaf o bererinion yng Nghymru pob blwyddyn.  Ar ddiwrnod arbennig ym Mehefin ceir dros 2,000 ohonynt yn cyrchu yno. Mae’n fan sanctaidd iawn heddiw ond rhaid cofio na fyddai yno o gwbwl oni bai bod dyn siomedig wedi torri pen merch i ffwrdd ac i ‘ffynnon godi lle syrthiodd ei phen’!

Yn ddiamau un o’r pethau mwyaf diddorol, ond ar yr un pryd anodd ei amgyffred, yw’r berthynas a geir o dro i dro rhwng ffynnon a phen wedi ei naddu o garreg.  Roedd y Celtiaid yn enwog am addoli’r benglog am amryw resymau. Gwelent ynddi symbol o dduwioldeb a phwerau arallfydol yn ogystal â’r gallu i amddiffyn eneidiau’r meirw.  Roedd cysylltiad rhwng y byw a’r ymadawedig yn hanfodol i’w crefydd, ac mwy na thebyg, gwelent yma hefyd gydadwaith ysbrydol rhwng y benglog â dŵr.  Byddai eu gweld fel gwarchodwyr ffynnon yn gwneud synnwyr hefyd. Pwysleisia haneswyr Rhufain a Gwlad Groeg yr arferiad oedd gan y Celtiaid o arddangos pennau eu gelynion tu allan i’w tai ar ôl brwydr fuddugoliaethus. Credid hefyd fod cysylltiad yma gyda chwlt ffrwythlondeb achos bod y pen yn symbol ffalig.

 Hoffwn aros am ennyd gyda’r llygaid a’r ffurfiau gwahanol o’u portreadu.  Yn Ffigwr 1 dengys yr un o Hendy, Môn, gyda’r ddwy lygad ar agor; arwyddocâd, o bosib, i’r pen gynrychioli rhywun effro neu gyflwr gwrthfelltithiol.  Gydag un lygaid ar agor a’r llall wedi cau tybed nad darlun sydd yn ein henghraifft o Lanallgo o berson na ellid ymddiried ynddo.

 

Pan  ddown i edrych ar y ddau a ddarganfyddwyd ym Mron-y-garth ger Y Waun, Ffigwr 2, sylwn fod i’r un ar y chwith ddwy lygad caeëdig ( cwsg neu marwolaeth hwyrach ), tra naddwyd y ddwy allan yn y llall, allai ddynodi dallineb.  Mae’n rhaid cyfaddef mai dyfalu yw llawer o hyn.       

   

 Cadarnhaodd cloddio archaeolegol bod yna gyd-destun Oes Efydd i’r pennau cerrig di-chwaeth yma ond gan nad yw’n bosib eu dyddio’n wyddonol bob tro gall rhai ohonynt fod llawer hŷn.  Mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. Dichon i rai gael eu creu yn yr Oesoedd Canol. Ymddengys, yn ôl Bywydau’r Saint, i Gwlt y Benglog barhau hyd yr Oesoedd Canol.  Oherwydd bod y Mabinogi yn gymysgedd o elfennau paganaidd a Christnogol myn rhai mai Pendefig-frân oedd arwr yr ail gainc cyn iddo gael ei ddienyddio, ac mai copiwr yn un o’n mynachlogydd a’i newidiodd i Bendigaid-frân, sef, Bendigeidfran.  Gwir neu beidio, cawn lawer enghraifft o ben sant yn chwarae rhan amlwg yn ei vita.  Cyfeirwyd eisoes at Santes Gwenfrewi a gollodd ei phen drwy gael ei dienyddio. Dylwn ychwanegu i’w hewythr Beuno (wedi hynny ei gwarchodwr ) lwyddo, drwy wyrth, i osod ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau. Cawn stori gyffelyb am Santes Ddigwg a’i ffynnon ger Clynnog Fawr.  Diddorol sylwi mai Beuno a gyflawnodd y gorchwyl yma hefyd.  Ef oedd nawddsant y plwyf. Gellir rhestru amryw eraill o’r Cristnogion amlwg yma gyda ffynnon a phen yn gysylltiedig â hwy. Mae gogwydd gwahanol i Ffynnon Cynog Sant ym Mrycheiniog oherwydd sychodd honno i fyny pan ddisgynodd pen y gŵr da iddi! 

 Ni ellir dweud i sicrwydd pa bryd peidiodd yr ymarfer o ddefnyddio pen cerfiedig yn lle penglog dynol yng nghyd-destun ffynhonnau, ond mae un peth yn bendant, gwnaethpwyd defnydd o benglogau go iawn ymhell ar ôl yr Oesoedd Canol. Dywedir i benglog y bardd Gruffudd ab Adda ap Dafydd(m.1344), gael ei defnyddio fel cwpan i ddal dŵr rhinweddol i wella’r ‘pas a doluriau eraill’mewn eglwys ym mro Dolgellau hyd o leiaf 1590.  Mae enghreifftiau tebyg i’w cael mewn mannau eraill. Yn ddiamau y mwyaf adnabyddus ohonynt yw penglog Teilo Sant yn Llandeilo Llwydiarth, Sir Benfro.  Heddiw cedwir ef fel crair yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Tybed i ba gyfnod y perthyn y chwech pen sydd i’w gweld yn fferm Rhos Ddigre( < Buddugre ‘bryn y fuddugoliaeth’ ), Llandegla, Sir Ddinbych ? Maent yn wahanol i’r enghreifftiau a welwyd eisoes gan iddynt sefyll ar blinth fel dengys Ffigwr 3.

 

 Amcangyfrif iddynt ddyddio rhwng 100 C.C. a 200 O.C., ac os yw hyn yn gywir, rhesymol fyddai eu priodoli i amser y Rhufeiniaid.  Y cwestiwn nesaf yw, ‘O ba le y daethant?’  Yn ôl P.Clark(gol.), Llandegla Then and Now ( 2002 ), 19., meddylir iddynt gael eu cludo o Ffynnon Degla ond nid oes tystiolaeth i hynny ddigwydd.  Mae ffotograff ohonynt ar gael c.1900, felly ni fyddai’r gwaith archaeoleg a gymerodd le yn y ffynnon (c.1938) wedi eu datgelu.  Heddiw gellir eu gweld wrth brif fynedfa’r fferm, wedi eu gorchuddio a phaent glos du!  Dylwn ychwanegu fod cerrig mawr gwyn hefyd wedi eu codi o’r ffynnon hon. Mae llawer o waith arbenigol i’w wneud eto cyn y gallwn ddatrus nifer o’r pwyntiau a godwyd yma.

LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 25 Nadolig 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up