Home Up

DŴR - FFYNNON BYWYD 

gan Margaret Jean Jones

 Cofir gaeaf 2000-2001 am ei lifogydd, a o ganlyniad i hynny am y pwysau a roddwyd ar yr awdurdodau i ddiogelu ardaloedd rhag llifeiriant dŵr yn y dyfodol. Cydnabyddir Cymru fel gwlad hyfryd ei golygfeydd ac mae ei chyflenwad o ddŵr - y traethau, y llynnoedd, yr aberoedd, yr afonydd, y nentydd a'r ffynhonnau - oll yn cyfrannu at harddwch y wlad a'i ffrwythlonder. Erbyn heddiw mae cyflenwad o ddŵr glân yn dod i bob cartref a'r Awdurdod Dŵr yn gofalu am lanweithdra'r cyflenwad hwnnw. Ond nid felly yr oedd, ac oherwydd hynny roedd cael cyflenwad o ddŵr glân ger eich cartref yn holl bwysig. I'r amaethwr, boed yn ffermwr neu'n dyddynnwr, roedd yn rhaid cael dŵr i'r teulu, yr anifeiliaid a'r dofednod gerllaw'r cartref.

 Roedd pwmp dŵr ym mhob pentref. Cofiaf mai yng nghanol pentref Llanddona, Ynys Môn (SH5779) yr oedd y pwmp i'r pentref, ger y fan lle byddai'r bws cyhoeddus yn arfer troi i fynd yn ôl am Beaumaris a Bangor. Nid yw'r pwmp yno mwyach ond mae'n siŵr fod tarddiad y dŵr yn dal yno o dan y ddaear. Y mae chwedl ynghlwm wrth hanes gwrachod Llanddona sy'n egluro tarddiad un o'r ffynhonnau ar y traeth. Yr oedd y ffynnon ym Mhen-trans ar y traeth, a ffynnon - sydd yn dal yno - ar ochr y llwybr at Dŷ Mawr Llan - fferm fechan islaw eglwys Llanddona. Roedd pwmp dŵr yn cyflenwi dŵr i'm cartref ym Mryniau Mawr pan oeddwn yn blentyn - nid oedd y pwmp yn gweithio ond taflai mam bwced wrth raff i lawr y pydew i godi'r dŵr ohono. Roedd ffordd o daflu'r bwced i lawr i wneud yn siŵr ei fod yn llenwi â dŵr. Pan oedd y cyflenwad yn y pwmp yn isel âi fy mrawd hŷn i lawr y pydew a llenwi'r bwced â dŵr. Byddai arnaf ofn iddo fethu dod i fyny yn ei ôl, ond sylwn ar ei ofal wrth afael yng nghoes y pwmp a gosod ei draed yn gelfydd rhwng y cerrig oedd yn ffurfio'r pydew i godi ei hun yn ei ôl ar ôl iddo lenwi'r bwced i Mam.

 Ar hafau sych iawn sychai'r pwmp a rhaid oedd croesi caeau i fynd at ddwy ffynnon. Croesi tri chae i fynd at ffynnon ar dir fferm Tŷ Du a cherdded i lawr y ffordd a chroesi un cae i fynd at ffynnon ar dir Tan Dinas. Roeddem yn cael ein dysgu i beidio â gwastraffu'r dŵr ac roedd y dŵr golchi a'r dŵr ymolchi yn aml iawn yn cael eu hail-ddefnyddio, fel yr awgrymir yng ngeiriau'r gân:

            Roedd Millicent May, y ferch hynaf,

            Yn hwyr yn yr ysgol bob dydd

            A hynny wrth ddisgwyl y basin -

 Mae'n debyg bod gan ardaloedd ledled Cymru ffynhonnau fel hyn. Gwyddom am ein ffynhonnau pwysig megis Ffynnon Non, Ffynnon Gwenfrewi, Ffynnon Sara (Derwen), a Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron. Mae Ffynnon Seiriol, Penmon yn gyrchfan i lawer o ymwelwyr, felly hefyd ffynhonnau llesol Trefriw. Ym mynwent hen eglwys Llangelynnin uwchben ardal Henryd, ceir ffynnon y dywedir ei bod yn boblogaidd iawn ers talwm i ddod â phlant a oedd ag afiechyd ar y croen yno i ymolchi yn y dŵr.

 Mae dŵr yn hanfod bywyd. Roedd pris ar ddewin dŵr yn y blynyddoedd a fu a diddorol oedd sylwi arnynt wrth eu gwaith. Hyderaf fod hyn o ysgrif yn eich ysgogi, y rhai fel fi sy'n mynd yn hŷn, i geisio cofio am yr hen ffynhonnau o amgylch eich cartrefi a sut y cronnwyd y nant a'r pistyll i gyflenwi angen y fferm a'r tyddyn. Hoff yw cofio'r ymgom ddiddan a'r chwarae iach wrth gludo dŵr.

Dyma leoliad y ffynhonnau y cyfeirir atynt yn yr erthygl uchod:

Ffynnon Non, Ty-ddewi, Penfro (SM7525)

Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon, Sir y Fflint (SJ1875)

Ffynnon Sara, Derwen, Sir Ddinbych (SJ066517)

Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron (SH138252)

Ffynnon Seiriol, Penmon, Môn (SH613808)

Ffynhonnau Trefriw (SH7863)

Ffynnon Gelynnin, Llangelynnin (SH751737)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up