DYSERTH
Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd
Ffynnon Asa (SJ 065775) ym mhlwyf Diserth
Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw
Ffynnon Asa (SJ 065775) ym mhlwyf Diserth. Meddai:‘Rhyw filltir o eglwys Diserth mae llifeiriant cryf sy’n cymharu’n ffafriol â’r dyfroedd yn Nhreffynnon. Mewn coedlan yn Cwm mae dŵr yn llifo o Ffynnon Asa. Mae cerrig o gwmpas y ffynnon ac mae ar yr un ffurf sef polygon, a Ffynnon Wenfrewi. Byddai cleifion yn cyrchu at y ffynnon hon ers talwm.’
Erbyn heddiw mae’r ffynnon yn cyflenwi dŵr i Brestatyn a’r pentrefi cyfagos.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PYTIAU DIFYR
(Detholiad
o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu
gwreiddiol)
FFYNNON-DDEWINIATH
‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol.
Gwella defaid oddi ar ddwylaw oedd gwaith Ffynnon Asa.(SJ 065775)
LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc