Home Up

DINAS MAWDDWY

 
PYTIAU  DIFYR

 Diolch i Erwyd Howells am anfon y wybodaeth yma  atom o’r gyfrol Dinas Mawddwy a’i Hamgylchedd gan Tecwyn Davies. 

Cadwyd y sillafu gwreiddiol.

Ffynon y Cae Gwyn. Saif hon rhwng ystablau y Plas a Dolhir, a  thua 30ain o latheni islaw i’r brif-ffordd. Nid ydyw mewn cyflwr dadfeiliol, er ei bod heb neb yn gofalu dim am dani er’s llawer o flynyddau. Buom yn ddiweddar yn ei golwg, ac yn golchi ein llygaid fel y buom lawer tro yn flaenorol. Mesura  tua llathen a chwarter ysgwar. Mae hon yn ffynon anwyl yn nghof llawer. Yn un o’r darnau barddonol goreu yn dal cysylltiad a Mawddwy a gyfansoddwyd yn Llundain yn 1844, lle y dengys y bardd ei hiraeth mawr am ei fro enedigol, dywedir –

                                   Mor hoff ar dro cael rhodio rhawg,

                              Ryw grugawg fryniawg fryn:

                              Cael gloywon ffrydiau’n ddinacau,   

                              I’m genau o’r Cae Gwyn.

Cyfrifid y ffynon hon ar dro yn odiaeth o rinweddol at y llygaid, ac yr oedd llawer gynt yn cyrchu iddi o bell ac agos. Yr ydym yn cofio gweled dyn o Forgannwg wedi cael gwellhad o anhwylder ar ei lygaid. Gresyn na byddai hi yn rhydd ac agored  i’r neb a ewyllysia fyned iddi eto.

Ffynon Tydecho. Y mae dwy o’r enw yma yn Llanymawddwy – un oddiar Aber Cywarch, a’r llall ar ben Rhiw’r March, yn ymyl gwely Tydecho. Math o gafn yn y graig ydyw, a dywedai yr hen bobl fod ei dwfr yn dra rhinweddol at amryw bethau, ac yn yr hen amser gynt bu llawer tyrfa o bererinion yn penlinio o’i blaen.

Ffynon Bryn Uchaf. Dywedir fod dwfr hon yn hynod o ran cryfder mwnol.

Y Ffynon Oer, yn Nghwm Dynweid. Dywedir fod dwfr hon yn rhinweddol at y cryd-cymalau.

Y Ffynon Fawr, neu y Murddwr, yn ymyl Ty’nddol, y Pennant. Bwrlyma hon ffrydlif fawr a chref, a dywedir ei bod yn rhinweddol.

Ffynon y Gwylliaid. Mae lle hon ar ben Bwlch-y-Groes, ac y mae ei dwfr yn llawn o ansawdd mwnol. Dywedir ei bod yn llesol i ryddhau y coluddion. Yn hon, medd traddodiad, y byddai y llu ysbeilgar a drygionus, y Gwylliaid Cochion, yn arfer golchi eu dwylaw gwaedlyd ar ol galanastra a chelanedd, a dyma’r achos fod y dwfr yn goch.

Ffynon Rhiw’r Cawr. Mae ei dwfr yn hynod loew, ac yn rhinweddol ay y llygaid er gwneyd y golygon yn fwy clir. Byddai yr hen bobl yn arfer a rhoi dwfr hom yn eu llygaid bob tro yr elent heibio iddi.

Pistyll Tynycoed. Mae hwn yn ymyl y ffordd o dan dderwen gysgodol. Nid oes ail iddo meddir at wella y cryd-cymalau. Y mae llawer ffynon a nant fu’n gysegredig i ryw hen sant gynt, ond nid oes neb yn myned i lawer ffynon, a wyddom am danynt i geisio lleshad mewn un dydd a blwyddyn; ond eto, gyda’r nos, adroddir yn ddifyr ryw ystôr neu ystraeon rhyfedd am rin eu dyfroedd, neu am rywbeth ddygwyddodd yn agos iddynt, ac y mae parch ofergoelus hyd heddyw mewn llawer aelwyd i’r hen ffynhonau er gwaethaf nerth dylanwad y Beibl a’r Diwygiad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up