DINAS

 

FFYNHONNAU LLŶN

Bu Bleddyn Prys Jones, sy’n gweithio i Gyfadran yr Amgylchedd yng Nghyngor Gwynedd, a’i dîm yn brysur yn adnewyddu nifer o ffynhonnau Llŷn sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Eisoes gwelsom y gwaith rhagorol a wnaed ar Ffynnon Fyw, Mynytho (SH30913087) mewn ôl rifynnau o Llygad y Ffynnon. Bellach mae bwriad i osod plac llechen a chreu llwybr ger y ffynnon honno. Gosodwyd giat newydd ger y lôn sy’n arwain at Ffynnon Aelrhiw (SH23392848) yn Rhiw a bellach mae’n haws mynd at y ffynnon honno. Y ffynnon nesaf i dderbyn sylw oedd Ffynnon Aelhaearn (SH38414462) yn Llanaelhaearn.

Bellach mae cynlluniau ar y gweill i adnewyddu Ffynnon Engan, Llanengan,(SH9322708) ac edrychwn ymlaen at gael clywed am y gwaith arni. Mae criw o bobl yn ardal Pwlllheli wedi dod at ei gilydd i chwilio am ffynhonnau yn y fro ac i nodi eu safleoedd a’u cyflwr. Un ffynnon sydd a’i chyflwr yn peri gofid i ni yw Ffynnon Dudwen,(SH27473679) Llandudwen, ger Dinas. Yn ôl Myrddin Fardd roedd hon yn gwella anhwylderau o bob math. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon yn gorlifo a’r gofer wedi ei gau â baw.  Mae ar dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Gwynedd. Mawr obeithiwn y gellir adfer y ffynnon hon hefyd gyda chymorth Bleddyn Jones – dewin y dyfroedd!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffc