Sylwodd Ken Lloyd Gruffydd ar ddarn difyr yng nghyfrol Syr Ifor williams, Meddai Syr Ifor a gyhoeddwyd yn 1968. Mae un bennod wedi ei seilio ar lyfr Robert Richards a gyhoeddwyd yn 1830 o dan y teitl Seryddiaeth neu Lyfr gwybodaeth yn dangos Rheoliad y Planedau ar Bersonau Dynion.
Ar dudalen 93-94 mae’n nodi’r canlynol:
Os bydd dyn wedi ei offrymu, neu ei ‘witsio’, trwy roi ei enw mewn ffynnon fel un Llaneilian, dangosir iddo sut i droi’r felltith ar ei felltithwir, a dod yn rhydd ei hun. Dywed yr awdur fod y gelfyddyd ddrygionus hon – fel y geilw’r peth – wedi bod yn lled gyffredin yn ein broydd. “Nid wyf yn bwriadu,” meddai, “ddysgu neg y gorchwyl yma (o offrymu), o ran y mae gormod yn medru hynny, sef drygu ei’ gilydd drwy’r defodau yma.” “Y mae llawer o ddewiniaid yn cymryd arnynt ryddhau llawer oddi wrtho, er mwyn elw, ie maent yn dweud wrth lawer o bobl wirion eu bod wedi eu hoffrymu a hwythau heb fod felly, o ran budd iddynt eu hunain: ond yr wyf i yn bwriadu eich addysgu i ryddhau eich hunaun wrtho.”
Dyma ei recipe. I ddechrau gweddi daer: “Yna tor dusw o’th wallt, a
blaen pob ewin ar dy ddwylo a’th draed, a dod hwy ar bapur, a dyro yn gymysg a
hwy bupur a halen.”: gweddi arall wedyn. “Yna cymer y gwallt, yr ewinedd, yr
halen a’r pupur, a dyro hwy yn y tan gan ddywedyd y geiriau hyn – ‘Trwy yr
elfan ddwfr y rhoddwyd yr aflwydd, a thrwy elfen dan y cymerir ef ymaith.’
“Wedi i’r cwbl losgi, gweddi arall. Ymddengys fod yn rhaid mynd drwy’r
holl seremoni droeon nes cael ymwared.
Diddorol yw ei sylwadau ar
ffynnon (sic) Eilian: sicrha ei ddarllenwyr nad oes rinwedd ynddi uwchlaw
ffynnon arall. Ac meddai, yn synhwyrol iawn am y tro, “Yr wyf yn meddwl fod
llawer o ddynion yn dra anwybodus mewn mater offrwm a rhegfeydd, ar sut y maent
yn tynnu barnau ar bersonau dynion, a’u da-ordd.” Os yw dynion yn agos i’w
lle,”ofer fydd gwaith yr offrymwr, o ran melltith
ddiachos ni ddaw.” Os byddwn yn anonest, yn dwyllwyr, yn fradwyr, ac yn y
blaen, “yna mae’r melltithion yn rhedeg atom o bob man, yn cronni uwch ein
pennau i’n difetha ni a’n meddiannau.”
… Rhof un enghraifft o swyn i
beri cariad,
“Cais lyffant melyn a dos at
ffynnon yr hon fydd a’i gofer yn rhedeg tu a’r dehau: dos ar dy liniau a
gweddio, wedyn cymer y llyffant dyro ynddo ddeuddeg o binau melynion newydd, fel
mewn pincws, a saf a’th gefn at y ffynnon, a thafl ef dros dy ben i’r
ffynnon a henwa’r hwn neu hon yr ydwyt yn ei hoffi, wrth ei daflu; yna dos
ymaith.” (Tudalen 229 –30)
Do, bu cryn ddefnydd ar y ffynhonnau i weithio dewiniaeth yng Nghymru yn yr hen ddyddiau. Heddiw mae angen dewiniaeth o fath gwahanol i’w diogelu a’u cadw rhag cael eu colli am byth.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf