Ffynnon Dudur
Darfu i Tristan Gray Hulse a minnau
ymweld â Darowen, yn ymyl Machynlleth ym Mhowys, yn Ebrill 2016 i chwilio am
Ffynnon Dudur. Dyma ffynnon y sant o’r chweched ganrif, Tudur, a sefydlodd
eglwys Darowen, lle y dywedir y’i claddwyd. Bu ganddo gysylltiadau â Sir
Ddinbych, hefyd, gan fod ffynnon arall yn Llanelidan yn dwyn ei enw.
Yn ôl cofnod Ymddiriedolaeth
Archeolegol Clwyd Powys (PRN 1725), mae Ffynnon Dudur ym mhen gogledd-orllewinol
mynwent Darowen, bellach ar ffurf draen y tu allan i wal y fynwent. Yn ôl
ffynhonnell arall a ganfûm ar-lein, fodd bynnag, y mae’r ffynnon mewn cae
i’r de-ddwyrain o’r eglwys. Mae map Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg
ganrif yn dangos ffynnon (megis ‘W’) yn y man olaf, ond nis enwir.
Cysylltais â’r Parchedig Roland Barnes, na wyddai ymhle y ceid Ffynnon
Dudur:
ond cyfeiriodd ef ni at Mrs Wigley, un o’r trigolion lleol, a gytunodd i’n
cyfarfod yn yr eglwys. Cyfarfuom yn ôl ein cynllun, ac er na wyddai Mrs Wigley,
chwaith, ymhle’r oedd ffynnon y sant, roedd yn ymwybodol o’r ffynnon yn y
cae.
O flaen yr eglwys mae clwt bach
trionglog o dir a ddefnyddir yn faes parcio, gyda lôn fach yn arwain i lawr
oddi yno. Ar yr ochr chwith, ym mhen y lôn, ceir giât sy’n arwain i mewn i
gae. I’r chwith o’r giât ceir hen bwmp haearn, ac i’r dde, tŷ
unllawr o’r enw Caerffynnon. Yn y cae y mae’r llwybr yn mynd yn syth ymlaen
hyd ymyl gardd y tŷ unllawr, ac yn union y tu draw i ben yr ardd, ar y dde,
ceir pant gwlyb wedi’i ffensio, yn llawn tyfiant, lle gellid gweld y ffynnon
yn union yn ei ganol: ond mae wedi’i hesgeuluso’n arw.
Y mae’r hyn sy’n ymddangos yn debyg
i glawr carreg wedi’i guddio, gan fwyaf, tan ddalennau haearn gwrymiog, gyda
changhennau o’r gwrych amgylchynnol (sydd wedi tyfu’n wyllt) yn gorwedd o
gwmpas. Wrth inni edrych ar y ffynnon, daeth y ffermwr i’r golwg, a
chadarnhaodd yntau nad yw’r ffynnon byth yn hesb: ond ni wyddai ai Ffynnon
Dudur oedd ai peidio. Defnyddid y dŵr, ers llawer dydd, gan yr ysgol a’r
preswylwyr lleol, gyda phwmp wrth giât y cae er eu cyfleuster.
Ni chanfûm eto unrhyw gadarnhad
dogfennol hanesyddol mai hon, mewn gwirionedd, yw Ffynnon
Dudur, ond ymddengys
hynny’n debyg. Mae cyfeiriad hanesyddol at y ffynnon mewn tirlyfr o 1663, lle
y dywedir y’i lleolid ar dir llan Darowen, ac y mae’r cae lle gwelsom y
ffynnon yn ddigon agos i’r eglwys i fod yn rhan o’r tir hwnnw. Ar fap degwm
o ddechrau’r 19eg ganrif mae’r enw ‘Pant y pistill’ ar y cae, ond
ysywaeth heb enwi’r pistyll ei hun: ond yr oedd ganddo ei amgae sylweddol ei
hun, ac yr oedd popeth yn ei gylch yn cefnogi ein teimlad mai hon, yn wir, yw
Ffynnon Dudur.
Ffynnon
Dudur (parhad). Yr oedd y Parchedig Barnes wrth ei
fodd o glywed am ein hymweliad, ac ni wastraffodd amser cyn ymweld â’r
ffynnon ei hun. Dywedodd wrthym y bwriadai wneud ymweliad â’r ffynnon yn rhan
o wasanaethau bedyddio yn y dyfodol.
Janet Bord
Awst 2016
LLYGAD
Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig
2016.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff