Home Up

 

CAERDYDD

 

‘Heb Ddŵr, Heb Ddim’

 Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

    Robin Gwyndaf

(Rhan gyntaf darlith a draddodwyd ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 7 Awst 2018.

Cadeirydd: Eirlys Gruffydd-Evans; Trefnydd a Chyfieithydd: Howard Huws.) 1.

Gwyddom oll am yr hen air: ‘Heb Dduw, heb ddim’. Mor rhwydd fyddai aralleirio’r geiriau cyfarwydd hyn: ‘Heb ddŵr, heb ddim’. A gwir iawn hefyd yn hanes ffynhonnau Caerdydd a’r cyffiniau.

 Tua’r flwyddyn1610 rhyw 1500 yn unig oedd poblogaeth Caerdydd. Rhyw 300 oedd nifer y cartrefi, gyda’r trigolion yn byw, yn bennaf, bryd hynny mewn dau blwyf: Plwyf Sant Ioan a Phlwyf y Santes Fair. Erbyn 1840, fodd bynnag, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i10,000. O hyn ymlaen, yn arbennig gyda dyfodiad y ddau ddiwydiant: glo a haearn, cynyddu roedd y boblogaeth ar raddfa eithriadol iawn.

Hyd at 1850 derbyniai trigolion Caerdydd eu dŵr yn bennaf o’r ffynonellau hyn: Afon Taf; ffynhonnau preifat; a ffynnon gyhoeddus yn Heol Eglwys Fair (St Mary’s Street), ger hen Neuadd y Dref, y ‘Guild Hall’, lle roedd Banc Lloyds yn ddiweddarach. Roedd Eglwys y Santes Fair yn dyddio o’r unfed ganrif ar ddeg. Hi oedd yr eglwys fwyaf yn y dref, ond fe’i dinistriwyd gan lifogydd mawr Bae Bryste yn 1607.

Annigonol iawn oedd y trefniadau ar gyfer darparu dŵr glân i Gaerdydd. Yn 1848 bu i dros 400 o’r trigolion farw o’r Colera, a 747 y flwyddyn ganlynol.2 Cyffelyb oedd y sefyllfa yn nhrefi eraill Cymru a Lloegr, a does dim rhyfedd i’r haint ysbarduno’r awdurdodau i weithredu. Yn 1850 ac 1853, felly, drwy ddwy Ddeddf Seneddol, trefnwyd i ganol Caerdydd a rhai ardaloedd cyfagos dderbyn cyflenwad o ddŵr glân o Afon Elái, gyda’r brif orsaf ddŵr, neu bwmp dŵr, cyntaf yn ardal Trelái. 3

               O’r cyfnod hwn ymlaen, mi allwn ni hefyd hyd heddiw weld amryw o’r pistylloedd yfed, neu ffowntenni, roedd tref Caerdydd wedi’u cynllunio er mwyn darparu dŵr glân i’r trigolion. Bodlonir yn yr erthygl hon, fodd bynnag, ar gyhoeddi eu lluniau yn unig. Tynnwyd y pum llun gan Phil Cope, y ffotograffydd dawnus o Flaengarw, Morgannwg, ac awdur cyfrolau niferus. Un ohonynt yw’r gyfrol gyfoethog: Holy Wells: Wales. A Photographic Journey (2008). Cyhoeddwyd y pum llun eisoes yn ei gyfrol hardd ddiweddaraf, sy’n cynnwys dros dri chant o ddarluniau, sef: The Living Wells of Wales (2019). 4 Dyma enwau pedwar  o’r pistylloedd y gwelir eu lluniau yn yr erthygl bresennol:

-        Pistyll Yfed Caeau Llandaf (ST 180 749) 5

-        Pistyll Yfed Parc Buddug / Fictoria (ST 155 769)

-        Pistyll Yfed Gerddi’r Faenor / Grange (ST 180 749) 

-        Pistyll Yfed Treganna, ar y gornel lle mae Cilgant Romilly  (Heol Romilly Crescent) a Heol Llandaf yn cyfarfod. (ST 155 777)  

Hen Ffynnon Heol Eglwys y Santes Fair (1860)

Priodol yn y fan hon yw cyfeirio at un o’r ffynhonnau, neu bistylloedd yfed, pwysicaf a harddaf yn Ninas Caerdydd, a’r dyddiad 1860 arni. Dyma un ffynnon oedd yn wreiddiol ger hen Neuadd y Dref yn Heol Eglwys y Santes Fair. Dymchwelwyd yr hen Neuadd  yn 1861. Yn ffodus iawn, fe arbedwyd y ffynnon. Ail leolwyd hi er 1862 fwy nag unwaith. Adeg cynllunio’r Ganolfan Ddinesig, symudwyd hi yn 1908 i Lôn y Felin. Yna, yn 1952, gosodwyd hi ar ei safle bresennol yn rhan o ganllaw a mur y bont dros gamlas gyflenwi dŵr i’r Dociau (‘Dock Feeder Canal’), ger y Boulevard de Nantes a’r mynediad i Heol y Brodyr Llwydion / Greyfriars Road. Yr adeilad mawr agosaf i’r bont yw ‘Rhif Un Heol y Brenin’ / ‘One Kingsway. 6

Dyma ddisgrifiad o’r hyn sydd i’w weld wrth syllu ar y ffynnon arbennig hon heddiw, a’ch cefn gyferbyn â’r ffrwd o drafnidiaeth brysur sy’n llifo heibio ochr Castell Caerdydd i gyfeiriad Heol y Gogledd a’r Ganolfan Ddinesig.

Gwnaed y ffynnon o haearn bwrw. Y mae ei chefn ar ffurf tarian fawr, addurnedig, wedi’i pheintio’n ddu. Bob ochr i’r darian, yn yr hanner uchaf,  ceir sbrigyn o eiddew, neu iorwg,  a’r dail wedi’u lliwio’n wyrdd. Cofiwn ninnau fod yr eiddew bythwyrdd yn un o’r planhigion pwysicaf i ddathlu’r Nadolig. Mae’n ddelwedd o barhad bywyd, o’r geni, y deffro, a’r bywyd newydd yng nghanol tywyllwch gaeaf. Yr un modd, gall ein hatgoffa o’r dŵr bywiol, bythol îr, a gynigir gan Grist ac y cyfeirir ato yn y geiriau a gerfiwyd ar y ffynnon hon.

Ar frig y darian, yn y cylch hanner lleuad, ceir cerflun mewn paent aur o angel adeiniog yn eistedd ar gymylau gwynion. O dan y cymylau gwelir yr adnodau a ganlyn, yn Saesneg: ‘Jesus said unto her, whosover drinketh of this water shall thirst again; but whosoever drinketh of the water that I shall give him, shall never thirst. John 1v.13.14.’ Yng nghanol y ffynnon ceir llwyfan i dderbyn y dŵr, a’r geiriau hyn uwch ei ben: ‘Wills Brothers Sculpts London.

Ar y chwith ceir cerflun o Grist troednoeth yn eistedd, mewn gwenwisg a chlogyn coch llaes amdano. Mae’i fraich chwith wedi’i chodi, fel petai’n cyfeirio tuag at y geiriau o’r Efengyl yn ôl Ioan, ac y mae ei wyneb a’i holl ystum fel petai’n syllu i fyny i’r awyr tua’r nef uwchben. Ar y dde i’r llwyfan ceir cerflun o’r Wraig o Samaria, hithau’n droednoeth mewn gwenwisg, ond clogyn llaes glas sydd ganddi hi. Y mae ei phen yn gorffwys ar ei braich dde ac yn gwyro i syllu ar Iesu, gan gyfleu’r teimlad ei bod yn gwrando’n astud ac yn myfyrio’n ddwys ar ei eiriau. Wrth ei thraed mae piser tal i gario dŵr o’r ffynnon.

Ar ran isaf y ffynnon ceir y geiriau: ‘Erected by Wm Alexander Mayor of Cardiff  A.D. 1860.

                Ar y gwaelod isaf llythrenwyd y geiriau: ‘Cast by the Coalbrook Dale Co’.  

Hen Ffynnon Heol Eglwys y Santes Fair. Llun: Phil Cope.

Y mae’n werth i bawb sy’n byw yng Nghaerdydd, neu yn ymweld â’r ddinas, i oedi ger y ffynnon nodedig hon, a rhaid llongyfarch y Cyngor am y graen sydd arni, er bod rhywrai wedi anharddu peth ar gefn y llwyfan uwchben tarddle’r dŵr, ac anharddu ychydig hefyd (wedi i’r llun gael ei dynnu) ar wynebau’r Iesu a’r Wraig o Samaria. Cofrestrwyd y ffynnon fel Adeilad o Werth Hanesyddol, Gradd 2, gan Cadw yn 1975.                  

   ‘Rhed ataf yn rhad eto ...’

Cyn canol y 19g, a chyn i Gyngor Caerdydd ddarparu dŵr glân i drigolion y dref a’r ardaloedd cyfagos, ac wedi hynny, i raddau llai, fe fu i ffynhonnau a phistylloedd Caerdydd a’r cyffiniau ran eithriadol o bwysig ym mywydau bob dydd y trigolion.  Mor gwbl addas, fel y cawn sylwi eto, yw llinell glo englyn ardderchog William Roberts, Trefor, sir Gaernarfon, i’r ‘Pistyll’: ‘Rhed ataf yn rhad eto’.

Mi allem ni ddosbarthu’r ffynhonnau hyn yn fras i ddau brif ddosbarth – er bod perygl bob amser mewn gor ddosbarthu – rhy fawr yw’r meddwl dynol i’w osod yn daclus mewn blwch. Ond y mae dau air arbennig i’w cadw mewn cof: ‘naturiol’ a  ‘goruwchnaturiol’.

Yn gyntaf, felly: ffynhonnau  naturiol. Ar hyd yr oesoedd, ac ym mhob rhan o’r byd, mawr fu’r angen am ddŵr glân i’w yfed, a phobl yn parhau i ‘gario dŵr o’r ffynnon’ yn eu bywydau bob dydd. Y ffynhonnau ‘naturiol’ hyn oedd fwyaf niferus o ddigon yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos. Ysywaeth, ond yn ddigon dealladwy gyda thwf rhyfeddol y boblogaeth a byd masnach, a’r angen mawr am adeiladu tai, diflannodd y cof am enwau a lleoliad nifer fawr o ffynhonnau naturiol o’r fath. Y mae hynny’n wir hefyd, mae’n sicr, ond i raddau llai, o bosibl, am y ffynhonnau llesol hynny y credai ein hynafiaid gynt fod rhinwedd meddyginiaethol yn y dŵr.

Yn ail, ffynhonnau goruwchnaturiol. Y pwys ar goel ac arfer, a’r coelion gwerin hynny yn arwain at gynnal defodau ac ymarfer swynion. Y cyfan, yn ôl y gred, yn fodd i wella afiechyd ac i dderbyn bendith. Er enghraifft, teflid pinnau i’r dŵr a chrogi clytiau, neu garpiau, ar lwyni a choed. Dyma gof gwerin am yr hen gred fod modd trosglwyddo’r drwg o berson i fater, neu o’r corff dynol i anifail. O’r corff i’r clwt; o’r corff i’r pin. Roedd y pin yn fetel wedi’i buro yn y tân, ac yr oedd hynny yn ychwanegu at y fendith. Yr un modd, cofiwn am y bwch dihangol yn y Beibl (Lefiticus 16:5-28), ac am yr ysbrydion aflan yn cael lloches yng nghyrff  Moch Gadara. (Math.8: 28-34; Marc 5: 1-20; Luc 8: 26-39.)  Daw i gof ymhellach yr hen arfer o wella defaid ar ddwylo drwy eu rhwbio â chig moch ac yna claddu’r cig moch i bydru yn y ddaear. Un amrywiad creulon ar yr arfer hwn oedd rhwbio’r defaid â malwen a gosod y falwen wedyn ar bigyn draenen i farw. Y mae un o brif arbenigwyr ym maes meddyginiaethau gwerin, Wayland D Hand (1907-86), wedi trafod y coelion hyn yn ardderchog iawn yn ei gyfrol, Magical Medicine (1980). Pennawd y bennod berthnasol yw: ‘Magical Transference of Disease’.7   

Fel y gwyddom, roedd hen, hen gred, fod dŵr yn gysegredig. Fel roedd yna dduw’r goedwig a hen arfer i gofleidio pren i ofyn am fendith y duw hwnnw (onid yw’n arferiad cyffredin hyd heddiw i bobl ddweud:‘touch wood’), felly, roedd yna dduw’r dŵr ac offeiriad ac offeiriades y ffynnon. Bu’n arfer i ddweud bod Cristnogaeth, yn arbennig yn sgîl Protestaniaeth a Diwygiadau Crefyddol y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi dinistrio llu o’r hen arferion a defodau oedd yn gysylltiedig gynt â ffynhonnau. Roedd tuedd i gondemnio’r ‘hen ofergoeliaeth’ a’i gysylltu’n aml â Phaganiaeth a Phabyddiaeth.  Y mae, bid siŵr, lawer o wir yn hynny. Ond cywirach, yn fy marn i, yw dweud mai’r hyn a ddigwyddodd, yn amlach na pheidio, oedd Cristioneiddio a sancteiddio’r coelion a’r arferion. Parhau, er enghraifft, i gysylltu’r ffynhonnau â seintiau a’r Forwyn Fair.

Mae’n wir fod ychydig ffynhonnau yng Nghymru yn  cael eu hystyried fel ffynhonnau melltithio (yr enwocaf yw Ffynnon Eilian, Llaneilian yn Rhos, sir Conwy.) Pobl a’u defodau yn defnyddio’r ffynnon i geisio dial ar eraill. Ond prin iawn yw’r ffynhonnau hyn. Cysylltu ffynnon â daioni a wneid, gan amlaf, ac â’r seintiau. Roedd y dŵr yn sanctaidd a chysegredig. Dŵr bendigaid. Nid heb reswm y galwodd Francis Jones ei gyfrol arloesol yn 1954 â’r teitl: The Holy Wells of Wales.                                                                                                                                                                                                              

Oherwydd y gred fod dŵr yn gysegredig, fe ddaethpwyd hefyd i ystyried mwy a mwy o’r ffynhonnau yn ffynhonnau gofuned: ffynhonnau dymuno. Y dŵr sanctaidd yn gyfrwng i ofyn bendith a derbyn bendith. Yn gyfrwng, yr un modd, i gariadon wybod mwy am eu dyfodol.  Er pob gwrthwynebiad, ac er pob newid a fu er y Canol Oesoedd yn arferion a chredoau pobl, yr un yw ofnau a dyheadau pobl ym mhob oes: ofn afiechyd, tlodi a melltith. Ofn herio ffawd. Ofn bod ag ofn. Deisidaimonia y Groegwyr. Ond ble mae ofn, y mae hefyd ddyhead. Dyhead am iechyd, bendith, sicrwydd a llawenydd. Dyhead am wybod yr anwybod. Hiraeth am wynfyd a’r bodlonrwydd mawr: Pleroma y Groegwyr; Salaam y Dwyreinwyr a’r Arabiaid; Shalom yr Iddewon.

i’w pharhau

Nodiadau

 

1.      Caf gyfle eto i ddiolch i lu mawr o bersonau am lawer iawn o gymorth wrth baratoi’r ddarlith hon, ond carwn ddal ar y cyfle hwn yn awr i ddiolch yn arbennig i Eirlys Gruffydd-Evans a Howard Huws.

2.       ‘The Reminiscences and Historical Notes of Alderman W J Trounce J P, 1850 -1860’, Cardiff in the Fifties, Western Mail, Caerdydd, 1918. Gw. yn arbennig yr adran ‘Town’s Water Supply’, t.7.

3.      Am beth o hanes darparu dŵr glân i Gaerdydd a’r cyffiniau, gw., er enghraifft, yr erthyglau a’r adroddiadau a ganlyn: ‘Underground Water Circulation of Cardiff and its Neighbourhood: Report of the Research Sub-Committee’, Cardiff Naturalists’ Society. Report and Transactions, cyf. 26, rhan 2, 1893-94, tt. 95-104; J A B Williams, ‘The Water Supply’, yn: John Ballinger, gol., Cardiff Illustrated Handbook, Western Mail, Caerdydd,1896, tt.76-94; W S Boulton, ‘The Underground Water Supply of Cardiff’, Transactions of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 43, 1910, tt. 32-5; F J North, ‘On a Boring for Water at Roath, Cardiff, with a Note on the Underground Structure of the Pri-Triassic Rocks of the Vicinity’, Transaction of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 48, 1915, pp.36-49; William Rees, ‘Water Supply’, yn: Cardiff: A History of the City, The Corporation of the City of Cardiff, 1969, tt. 318-19.

4.      Cyhoeddwyd y ddwy gyrfol hon gan Seren, Pen-y-bont ar Ogwr. Carwn ddiolch o galon i Phil Cope am ei barodrwydd a’i garedigrwydd mawr yn rhoi imi bob cefnogaeth gyda’r lluniau.

5.       Ceir llun o Bistyll Caeau Llandaf hefyd yn un o lyfrau gwerthfawr Stewart Williams, Cardiff Yesterday, cyf. 8, 1984. Llun rhif 29.

6.      Rwy’n ddiolchgar iawn i Jon ap Dafydd, Bae Caerdydd, am fy arwain gyntaf at yr hen ffynnon a fu gynt yn Heol yr Eglwys Fair. Hefyd i Lowri Thomas a chyd aelodau staff Cyngor Dinas Caerdydd am wybodaeth bellach ynglŷn â’i hanes.

7.      Magical Medicine. The Folkoric Component of Medicine in the Folk Belief, Custom, and Ritual of the Peoples of Europe and America, Gwasg Prifysgol California, 1980, tt.17-42.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Pistyll Yfed Gerddi’r Faenor, Caerdydd. Llun: Phil Cope.

Rhan 2

Yn rhan gyntaf yr erthygl hon bu inni roi sylw arbennig i’r ffynnon bwysig oedd wedi’i lleoli gynt ger Hen Neuadd y Dref ar Heol Eglwys y Santes Fair, Caerdydd. Cyhoeddwyd llun ohoni hefyd wedi iddi gael ei symud o’i lleoliad gwreiddiol yn 1860. (Llygad y Ffynnon, rhif 47, Nadolig 2019) Yn yr ail ran yn awr cyhoeddir llun prin o’r Hen Neuadd a ddymchwelwyd yn 1861, sef ymhen blwyddyn wedi ail-leoli ac ail-greu fframwaith y ffynnon. Cyhoeddir yn ogystal lun map John Speed, 1610, o ganol Caerdydd lle roedd y ffynnon yn bodoli.

Hen Neuadd y Dref, Caerdydd. 

Yn rhan gyntaf yr erthygl cyfeiriwyd hefyd at bistylloedd yfed, neu ffowntenni, yr oedd Cyngor Tref Caerdydd wedi’u cynllunio er mwyn darparu dŵr glân i’r trigolion. Cyhoeddir lluniau pedwar o’r pistylloedd hyn yn awr, drwy garedigrwydd Phil Cope, awdur y gyfrol werthfawr, The Living Wells of Wales (2019).

Ffynhonnau ar gyrion Caerdydd

Yn ail hanner rhan gyntaf yr erthygl fe gofiwch inni gyfeirio at y gwahanol fathau o ffynhonnau oedd ar gael, er bod perygl parod mewn gor-ddosbarthu a chreu ffiniau gor-bendant. Soniwyd am ffynhonnau dŵr glân naturiol; ffynhonnau sanctaidd, gyda chyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol yn aml â’r goruwchnaturiol; ffynhonnau meddyginiaethol, rhinweddol; a ffynhonnau gofuned, neu ffynhonnau dymuno. Mae cofio am swyddogaeth y gwahanol ffynhonnau yn gymorth i ddeall paham fod yr arfer o’u mynychu wedi parhau cyhyd yng Nghymru, fel mewn cymaint o wledydd eraill. Nid oedd Caerdydd a’r cyffiniau yn eithriad, ac y mae’n bryd i ninnau nawr fynd  ar daith i ddarganfod cyfran o’r ffynhonnau

Map John Speed o Gaerdydd, 1610. Dynoda’r llythyren “P” safle’r hen neuadd a’r ffynnon.  

Pistyll Yfed Caeau Llandaf. Llun: Phil Cope

Pistyll yfed Parc Buddug. Llun: Phil Cope.

Pistyll Yfed Treganna. Llun: Phil Cope

Yn gyntaf, dyma gyfeirio at ddetholiad o ffynhonnau mewn pentrefi ac ardaloedd ar gyrion y dref. Detholiad o’r cyfoeth rhyfeddol o ffynhonnau a fu unwaith yn rhan mor annatod o fywyd trigolion y gornel hon o Gymru; darn o hanes sy’n haeddu ei roi ar gof a chadw.

Ffynnon Fair, Trwyn Larnog (Lavernock Point).

Dyma un o’r ffynhonnau niferus yng Nghymru a gysegrwyd i’r Forwyn Fair. Cyfeirir ati, er enghraifft, gan y Cynghorydd Edgar L Chappell, yn un o’i ddwy erthygl gynhwysfawr, ‘Holy and Healing Wells: Some Glamorgan Examples’, a gyhoeddwyd ganddo yn y Cardiff and Suburban News, 12 a 19 Mawrth 1938.8                   

Ffynnon yr Hebog, ym Mhendeulwyn (Pendoylan).

Enw arall arni ydoedd ‘Ffynnon y gwalch glas’. Ni wn paham y gelwir y ffynnon hon yn Ffynnon yr Hebog. Cyfeirir ati, er enghraifft, gan Thelma a Barry Webb, Llanhiledd, Gwent, yn eu casgliad oes o dystiolaeth am ffynhonnau Cymru. Yr unig air a gofnodwyd ganddynt i’w disgrifio yw ‘healing’.9

Ffynnon Deilo, Pendeulwyn.

Cyfeirir at y ffynnon hon, er enghraifft, gan Francis Jones yn ei gyfrol arloesol, The Holy Wells of Wales (1954, 1992). Ei lleoliad yw hanner milltir i’r de ddwyrain o bentref Pendeulwyn.10

Ffynnon Gatwg, Pendeulwyn, ger yr eglwys.11

Dywedid fod y ffynnon hon, fel Ffynnon Deilo ym Mhendeulwyn, yn rhinweddol iawn at wella llygaid dolurus a thân eiddew (fflamwydden dân, neu’r gafod fendigaid: erysipelas).12    

‘Ffynnon y Sgubor’ (Barnwell), Lecwydd.

Ceir tŷ fferm yno heddiw o’r enw Brynwell, ond ‘Barnewell’, a ffurfiau cyffelyb, oedd yr enw Saesneg gwreiddiol ar y tŷ hwn. Dyma sylw yr hanesydd diwylliedig, Tom Jones, Trealaw, yn ei gyfres o ysgrifau ar ‘Lên Gwerin Morgannwg’ yn Y Darian:

‘Mae ym mhlwyf Lecwyth dŷ fferm yn dwyn yr enw Brynwell. Llygriad ydyw 

 o’r enw cyfansawdd Barnewell, sef ‘Ffynnon y Sgubor’. Nid ‘Ffynnon y Bryn’

 mo’r ystyr o gwbl.’13

Dyma rai o’r ffurfiau a nodir gan yr Athro Gwynedd Pierce yn ei gyfrol safonol, The Place-names of Dinas Powys Hundred (1968): Barnewell (1393); The Bernewill (1630); Barnwell (1610-30, 1779); Burnwill (1773); Brynwell (1830); a Bryn Well ar Fap Ordnans 1885.14

 Ffynnon y Brychau.

I’r de orllewin o bentref Llandocha Fach.15

Ffynnon Sain Nicolas.

Ffynnon ger Tai’r Ffynnon, i gyfeiriad y gogledd o’r pentref a’r eglwys.16

Ffynnon Lawrens, Sain Nicolas.

Ffynnon yn Nyffryn Golych ac yn agos i’r plasty o’r un enw (Dyffryn House). Nid oes sicrwydd pwy yw’r Lawrence y cyfeirir ato yn enw’r ffynnon. Tybed ai Sant Lawrens ydoedd? Cofiwn mai ef oedd nawddsant Eglwys Larnog, nid nepell o Sain Nicolas.17

Pwmp Eglwys Sain Nicolas.18                         

Ffynnon Castell Coch.19

Ffynnon Wen, Llanbedr-y-fro.20

Ffynnon Wen, Groes-wen.21

Ffynnon Dwym, Creigiau. Bu Don Llywelyn, yr hanesydd cymwynasgar o Ben-tyrch, mor garedig â rhoi mwynglawdd o wybodaeth imi am ei fro a’r ardaloedd cyfagos, megis Creigiau, Gwaelod y Garth, a Mynydd y Garth. Roedd Ffynnon Dwym, meddai, wedi’i lleoli yng Nghreigiau, lai na chan llath o dŷ to gwellt o’r un enw. (Gw. llun o’r tŷ sydd yn ei feddiant.) Mae’r tŷ wedi diflannu bellach, ond safai gynt ger y fynedfa i’r hen chwarel carreg galch: ‘Cwar Creigia’, ble mae’r caeau chwarae heddiw.22

Ffynnon Dwym, Creigiau.

Ffynnon Gatwg, Pen-tyrch.

Ni wyddom i sicrwydd bellach union leoliad y ffynnon hon, ond dywedodd Don Llewellyn wrthyf mai’r enw ar y nant fechan sy’n llifo ohoni yw Nant Gwladus. Hi oedd mam Catwg Sant, neu Cadog, ac, yn ôl yr achau, roedd yn un o ferched niferus Brychan Brycheiniog. Sant Gwynllyw oedd tad Catwg.23

Ffynnon Gruffydd, Pen-tyrch.

I fynd i weld y ffynnon hon dewch gyda mi i lawr y tyle o Ben-tyrch ar hyd Heol Goch am oddeutu 300 llath, nes dod at goedwig fechan o’r enw Coed y Bedw, yn ardal Cwm Llwydrew. Yno yn y coed y mae’r ffynnon.24

Ffrwd Meurig, Mynydd Y Garth.

Mae’r ffynnon hon ar ochr y llwybr sy’n arwain at Big y Mynydd, ac o fewn tua 150-200 llath i hen dafarn y Colliers Arms.25

Pistyll Golau, Radur.

Ffynnon o ddŵr oer iawn oedd y ffynnon hon ag iddi enw mor hyfryd. Lleolid hi tua hanner milltir, neu lai, o’r Eglwys, yn y goedwig rhwng yr Orsaf Drenau – y ‘Taff Vale Railway’ – a’r Hen Chwarel. Roedd y dŵr yn fodd i iacháu cloffni a gewynnau gweinion.26 O dan y pennawd: ‘Radyr and Other Notes’, yn y Cardiff and Suburban News, 10 Mawrth 1934, ceir y sylwadau a ganlyn gan Edgar L Chappell:

‘Pistyll Goleu is situated in the wood about 100 yards north of Radyr Quarry, and not

 in the quarry itself. At one time it had a reputation for healing sprains and rheumatism,

 and, indeed, when very young, I have gone there daily many times. In those days it was

 well roofed in,  but in recent years it has been sadly neglected. Visitors will find this

 interesting spot opposite a signal box, nesting peacefully amongst undergrowth and

 under the shade of large trees.’27

Yn yr un papur, 19 Mawrth 1938, ychwanegodd Edgar L Chappell y geiriau hyn:

‘Pistyll Goleu (or sparkling fountain) is the name of a prolific spring ... The water contains 

no special medicinal ingredients, and its medical efficacy, if any, consists in its extreme 

coldness. The well is enclosed by a stone well head.’ 

Ffynnon Tarws, Gwenfô.

Dyma enw diddorol iawn ar ffynnon. Y mae’n tarddu o’r ffurf Saesneg ‘tare-house: adeilad i gadw, i bwyso, ac i buro bwydydd (‘tares’) i anifeiliaid, ŷd yn arbennig. Cymharer ffurfiau megis: work-house > wyrcws; ware-house > warws. Fel y nododd Gwynedd Pierce, ceir nifer o ffurfiau ar enw’r adeilad yng Ngwenfô, gan gynnwys: Winvo Tarehous (1540); Tarrus (1762); Tarws (dechrau’r 19 g.); Tar House (1885). Ger yr adeilad yr oedd cae o’r enw Gwaun y Tarrus (1762) a Gwaun y Tarws (dechrau’r 19 g.). Nodir y ffurfiau a ganlyn ar enw’r ffynnon: ‘The Tarus Well’ (1674); ‘Tarhowse Well’ (diwedd yr 17g.); Tarhouse Well a Tarrws (Map Ordnans 1885). Ger y ffynnon ceir cae o’r enw Erw’r ffynnon (1762).28

Cofnodwyd un goel ddiddorol iawn oedd yn gysylltiedig â Ffynnon Tarws. Meddai Edgar L Chappell:

‘At Wenvoe there was a notable well, the waters of which were reputed to turn brown

 in colour and become unfit for use when quarrels broke out amongst the people who

 regularly used it.’29

Ffynnon y Coed, Gwenfô.

Hyd y gwn i, nid oes dim yn wybyddus heddiw am y ffynnon hon, nac am ei hunion leoliad ym mhlwyf Gwenfô, ond cyfeirir ati ar Fap Ordnans 6 modfedd.30

Ffynnon yr Hofel / Ffynnon Hywel, Gwenfô.

Dyma ffynnon arall ym mhlwyf Gwenfô na wyddom ddim amdani bellach, ond cofnodir yr enw ‘Ffynnon yr Hovel’ ar Fap Ordnans 6 modfedd. Tua milltir i’r gorllewin ar fap 6 modfedd 1885, Ffynnon Hywel yw’r enw, ac fe’i lleolir yng Nghoed Sutton. Mae’n dra thebyg mai yr un ffynnon yw ‘Ffynnon yr Hovel’ a ‘Ffynnon Hywel’. Gwyddom am y duedd yn y Gymraeg i’r cytseiniaid ‘f’ ac ‘w’ ymgyfnewid. Er enghraifft: tyfod / tywod; cafod / cawod; hofel (hofal) /  hoewal. Ond anodd iawn bellach yw penderfynu pa un ai ‘hofel’ ynteu ‘Hywel’ oedd yr enw gwreiddiol.31

Ffynnon Coedrhiglan.

Ffynnon ym mhlwyf Sant Siorys (St George Super Ely), ar dir plas Coedrhiglan yw’r ffynnon fechan gron hon. Meddai T H Thomas yn 1903, mewn erthygl yn y cylchgrawn, Transactions of the Cardiff Naturalists’ Society: ‘Some Folk-lore of South Wales’:

‘In the park at Coed-rhyd-y-glyn, the seat of Capt.

 Treharne, exists a small circular well which is

 considerably visited as medicinal, and rags from

 the clothing, or especially from bandages of the

 votaries, are continually suspended from the branches

 of an oak tree which overshadows it.’32

Credid fod dŵr y ffynnon hon yn arbennig o rinweddol at wella llygaid dolurus. Ond yr oedd yn arfer hefyd i daflu pinnau i’r dŵr. A dyma enghraifft dda, fel yn achos cymaint o ffynhonnau, o’r ddolen anniffiniadwy ac annatodadwy ym meddyliau ein hynafiaid rhwng y naturiol a’r goruwchnaturiol (dolen nad yw wedi llwyr ddiflannu heddiw). Credu bod gwerth meddygol yn y dŵr, a dyma ni yn y byd naturiol, gwyddonol. Ond credu hefyd fod gwerth mewn taflu pinnau i’r dŵr. A dyma ni nawr ym myd anwyddonol y goruwchnaturiol. Byd swynion, coelion, arferion, a chof gwerin. Byd yr hen goel fod pinnau yn fetel wedi’i buro yn y tân, ac felly yn swyn bendithiol i’n diogelu rhag pob drwg ac i hyrwyddo iechyd. Hefyd, o bosib, byd hen gof gwerin fod modd trosglwyddo afiechyd i fater, neu wrthrych arall. Dyna fel y credai ein hynafiaid gynt. Dyna oedd eu harfer hwy – ‘mi wnawn ninnau yr un modd: mi daflwn ninnau binnau i’r dŵr’, gan weithredu yn ysbryd y ddihareb: ‘Hen arfer, hon a orfydd’. 

Coedrhydyglyn yw’r enw mwyaf cyfarwydd heddiw ar y plasty a’r tir lle mae’r ffynnon hon wedi’i lleoli, gan dybio bod yr enw yn seiliedig ar ffurf  megis ‘coed-ar-hyd-y-glyn’: ‘the wood along the glen’. Ond, fel yr eglurodd Gwynedd Pierce, esboniad onomastig lled ddiweddar ar lafar gwlad yw hyn. Roedd y tŷ gwreiddiol ar dir uwch, nid ‘ar hyd y glyn’ fel y tŷ presennol a adeiladwyd yn 1830. Nid yw ffurfiau cynnar ar yr enw chwaith yn awgrymu’r ystyr ‘ar hyd y glyn’. Yn hytrach, mae’r enwau yn awgrymu cysylltiad agos â hen deulu Raglan oedd â thiroedd yn y rhan hon o Fro Morgannwg. Dyma ychydig o’r enwau: Reglines Wood (1540); Raglande; (1591); Riglyn (1695-1709: Edward Lhuyd); Coedrhyglan (1799, 1811); Coedriglan (1805).33 O gofio hyn oll, nid yw’n syndod mai’r ffurf swyddogol a ddewiswyd gan Bwyllgor Iaith a Llenyddiaeth Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1957 ydoedd, nid Coedrhydyglyn, ond Coedrhiglan.34

Nodiadau Rhan 2

8.            12 Mawrth 1938.

9.            Gw. cardiau mynegai Thelma a Barry Webb, adran Sir Forgannwg. Cawsant yr wybodaeth

               gan ‘Mr Williams’, 1 Heol Sant Catwg, Pendeulwyn.

10.         Holy Wells of Wales, t. 181.

11.         Ibid., t. 182.

12.         Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.

13.         Y Darian, 11 Mawrth 1926.

14.         The Place-names of Dinas Powys Hundred, t. 53.

15.         Holy Wells of Wales, t. 188.

16.         Ibid., t. 183.

17.         Cyfeiriad ar Fap Ordnans 6 modfedd. Gw. hefyd Place-names of Dinas Powys Hundred,

               t. 266, a Holy Wells of Wales, t.188.

18.         ST 090 744. Gw. llun Phil Cope, The Living Wells of Wales, t. 243.

19.         ST 131 825. Gw. llun Phil Cope, ibid., t. 244. 

20.         Cardiff ... News, 19 Mawrth 1938.

21.         Ibid.

22.         Don Llewellyn, tystiolaeth lafar, Medi 2019.

23.         Ibid. Gw. hefyd lun Phil Cope o leoliad tybiedig y ffynnon (The Living Wells of Wales, t. 244). Am hanes Cadog / Catwg Sant (a llun cerflun ohono), gw. S Baring-Gould a John Fisher, The Lives of the British Saints, cyf. 2, 1908, tt. 14-42. Hefyd Y Bywgraffiadur Cymreig Hyd 1940, tt. 55-6.

24.         Tystiolaeth lafar Don Llewelyn, Medi 2019.

25.         Ibid.

26.         Gw., er enghraifft, Holy Wells of Wales, t. 186.

27.         Cardiff ... News, 10 Mawrth 1934, t. 7.

28.         Gw. Place-names of Dinas Powys Hundred, tt. 316-17.

29.         Cardiff ... News,19 Mawrth 1938. Carwn hefyd ddiolch i’m cyfaill a’m cyn-gydweithiwr,

               Gwyndaf Breese, Gwenfô, am rannu gyda mi ei ddiddordeb yn y ffynnon hon.

30.         Place-names of Dinas Powys Hundred, t. 307.

31.         Ibid.

32.         Transactions of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 36, 1903, t. 57. Gw. hefyd C F Shepherd, A Short History of St George Super Ely, Caerdydd, 1933, t. 39; a Holy Wells of Wales, t. 185.

33.         Gw. Place-names of Dinas Powys Hundred, tt. 251-3.

34.         Gw. Elwyn Davies, gol., Rhestr o Enwau Lleoedd. A Gazetteer of Welsh Place-names, Caerdydd, 1957 (1975), t. 30.

Robin Gwyndaf.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 48 Haf 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 3  

 

Ffynnon Castell Coch, Caerdydd (trwy garedigrwydd Phil Cope

Un o’r lluniau a gyhoeddwyd eisoes yn yr ail ran oedd llun Pistyll Yfed Treganna. Yn y llun hwnnw fe gofiwch fod rhywun, neu rywrai, wedi gosod yn y ddysgl ddŵr gerflun o ben ellyllaidd, adeiniog. Ai pen y Diafol, y Gŵr Drwg ei hun, ydyw? Dewis cwbl anaddas ac anffodus iawn, yn fy marn i. Nid â drygioni a melltith y cysylltwn ein ffynhonnau a’n pistylloedd dŵr, ond â daioni a bendith.

Wele, fodd bynnag, erbyn heddiw ciliodd y cerflun dychrynllyd yr olwg, na wyddom i ble, a’r hyn sydd wedi’i gywasgu i mewn i adeiladwaith cerrig y pistyll yfed gynt yn Nhreganna nawr yw cwpwrdd plastig bychan a’i lond o lyfrau. Ar wyneb y cwpwrdd (yn yr iaith Saesneg yn unig, ysywaeth) pan welais i ef, ym mis Awst 2020, argraffwyd y geiriau: ‘Canton Book Swap’. Er mai gwell, gan amlaf, yw peidio ag ychwanegu dim at adeiladau hanesyddol, megis hen bistyll yfed, dyma weithred sy’n haeddu gair o ddiolch, nid condemniad.

Mae iddi, o leiaf, amcan dyrchafol: bod o werth i eraill. A daw hyn yn fwy amlwg pan gofiwn fod pob ffynnon o ddŵr glân yn ddelwedd hefyd o’r hyn sy’n ein hysbrydoli. Mor wir yr hen ddihareb Gymraeg: ‘Lleufer dyn yw llyfr da.’ Y mae llyfrau yn oleuni. A dyma un rheswm digonol dros gyhoeddi ail lun o Bistyll Yfed Treganna yma.  

Pistyll Yfed Treganna, Caerdydd (trwy garedigrwydd Phil Cope).

Y mae’n dra phosibl, wrth gwrs, mai hap a damwain oedd dewis hen Bistyll Yfed Treganna i osod arno lyfrau i’w darllen. Fodd bynnag, boed hynny’n wir neu beidio, y mae’r weithred hon yn ein hatgoffa o un arfer gyffredin y mae unrhyw un sy’n ymddiddori yn ffynhonnau Cymru, fel yn ffynhonnau gwledydd eraill, wedi sylwi droeon arno, bid siŵr. A dyma yw hynny: hoffter y rhai sy’n ymweld â ffynnon i osod gwrthrych arbennig, ac weithiau fwy nag un, ger y ffynnon honno, ac weithiau i mewn yn y dŵr. Fe ddigwyddodd hynny gyda rhai o’r ffynhonnau a ddisgrifir yn yr erthygl hon. 

Rhai gwrthrychau cyffredin yw croesau, carpiau (neu rannau o ddillad y claf), arian, a phinnau, ond ceir amrywiaeth mawr yn y gwrthrychau hyn o ffynnon i ffynnon, ac o gyfnod i gyfnod. A dyma destun pwysig i hanesydd cymdeithas. Yr ydym ym maes hanes ar waith; hanes gweithredol; ‘history in action’, chwedl y sawl sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Cwestiwn y byddwn am ei ofyn yw: beth yw ystyr y gwrthrychau i ni sy’n eu gweld heddiw? A chwestiwn pwysicach fyth: beth oedd yr ystyr ar y pryd i’r sawl a osododd y gwrthrych? Pam y dewiswyd y gwrthrych arbennig hwnnw?

Gyda llaw, fe wêl y darllenydd nod wedi’i gerfio ar ochr dde gwaith carreg y ffynnon hon. Mae’n debyg i ‘Nod Cyfrin’ yr Orsedd, ond nid dyna yw. Yn hytrach, mae’n feincnod Arolwg Ordnans sy’n dynodi union uchder llinell lorweddol y nod uwch lefel y môr, ac o wybod hynny gellir mesur lefel popeth arall yn y cyffiniau. Ceir union ffigur y lefel hwnnw ar fap Ordnans manwl yr ardal. 

Un ffynnon a ddisgrifiwyd yn yr ail ran yw Ffynnon Tarws, Gwenfô. Bellach, drwy garedigrwydd fy nghyfaill Gwyndaf Breese, mi wn ble mae’r ffynnon hon, a chefais gyfle i dynnu llun ohoni ar gyfer trydedd ran yr erthygl. I ymweld â’r ffynnon, teithiwch o gylchdro Croes Cwrlwys ar hyd Heol y Porth / Port Road: A4050, i gyfeiriad Y Barri. Yn union wedi cyrraedd Gwenfô, trowch ar y dde, ger Bwyty’r Beefeater, i Heol Nant Isaf. Ymhen ychydig lathenni fe ddowch i drofa. Fe welwch lôn ar y dde, a Lôn Tarws yn union syth o’ch blaen. Os mewn cerbyd, gadewch ef mewn man diogel (ar Heol Nant Isaf?) a cherddwch ychydig lathenni i fyny Lôn Tarws. Mae’r ffynnon yn y clawdd ar y chwith.                 

Ffynnon Tarws, Gwenô (llun Robin Gwyndaf).

Nodiadau Rhan 3

35. Gwelir y geiriau o eiddo R G Collingwood yn eu cyd-destun ar glawr ôl ei gyfrol, The Idea of History (Gwasg Rhydychen, 1961; cyhoeddwyd gyntaf yn 1946). Gellid yn rhwydd ychwanegu’r gair ‘objects’ wrth inni gymhwyso’r geiriau hyn at geisio deall arwyddocâd gosod gwrthrychau ger ffynhonnau:

‘History is not contained in books, documents [and objects], it lives only as a present interest and pursuit,

in the mind of the historian when he criticizes and interprets those documents [and objects], and by so 

doing relives for himself the states of mind into which he inquires.’  

  (I’w pharhau)                Robin Gwyndaf.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 49 Nadolig 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 4

Robin Gwyndaf

 

Ffynnon Daf, 1861. S.C. ac A.M. Hall, “The Book of South Wales

Ffynnon Daf

Dyma roi sylw nawr i ffynnon enwog iawn.  Mewn ysgrif  yn y gyfres werthfawr ar ‘Lên Gwerin Morgannwg’ yn y newyddiadur Tarian y Gweithiwr (Y Darian), yn 1926, y mae’r hanesydd Tom Jones, Trealaw, yn y Rhondda, yn agor ei sylwadau ar ‘Ffynnon Taf’ fel hyn:

‘Dyma un o’r ffynhonnau hynotaf yn y sir, os nad yng Nghymru. Saif yng ngwely’r Afon Taf, gerllaw Tongwynlais. Fe’i gorchuddir hi’n llwyr pan fo llif yn yr afon ... Nid oes mynedfa ati ym misoedd y gaeaf, ond yn ystod misoedd yr hâf gellir cerdded ati drwy wely’r afon yn eithaf hwylus.’36

Fel rhan o’i baragraff agoriadol y mae’r cofnodydd llên gwerin diwyd o Drealaw yn dyfynnu’r geiriau a ganlyn o eiddo David Watkin Jones, ‘Dafydd Morganwg’, awdur y gyfrol lafurfawr, Hanes Morganwg (1874):

‘... ond er ei llenwi â graian a mân gerryg gan lifogydd, mae yn ei    glanhau ei hun trwy wthio allan bob gronyn, er eu bod tua troedfedd o ddyfnder.’37   

‘Gerllaw Tongwynlais’, meddai Tom Jones. Gellid ychwanegu hefyd, wrth gwrs, fod y ffynnon gerllaw pentref o’r enw Ffynnon Taf, ym mhlwyf Eglwys Ilan, De Morgannwg. ‘Ffynnon Taf’ yw’r enw ar y ffynnon gan Tom Jones a llawer un arall, a’r enw yn aml hefyd ar lafar. Ond ‘Ffynnon Daf’, gyda’r treiglad (oherwydd fod y gair ‘ffynnon’ yn fenywaidd), sy’n fwy gramadegol gywir. Dyma rai ffurfiau a ddefnyddid gynt wrth gyfeirio at y ffynnon ac a gofnodwyd gan Richard Morgan: ‘Funon Tave’ (1778); ‘Taf’s Well farm’ (1795); ‘Taffs Well’ (1825); ‘Fynon Tâf, or the well of Tâf’ (1840); ‘Fynon Taf’ (1873). 

Gelwid Ffynnon Daf yn aml hefyd wrth yr enw ‘Ffynnon Dwym’. ‘Hot-Well House’ yw un enw a ddefnyddir yn 1729, yn ôl Richard Morgan. Mewn cofnod yn 1795 cyfeirir ati fel ‘Ffynhon twm’ (camsillafiad o ‘twym’, bid siŵr). Yna, mewn cofnod, dyddiedig 1814, cyfeirir ati fel hyn: ‘Ffynhon Daf, called by some Ffynhon dwym, or the Tepid well’.38  Meddai Edgar L Chappell (1938):

Its water is tepid – the uniform temperature is 67°. It also contained mineral ingredients similar to those of Bath, which are supposed to be efficacious in the case of rheumatic ailments.’39

Ychwanegodd Francis Jones un darn o wybodaeth bellach:

It was also called Ffynnon Dwym, and visitors paid annual subscriptions to keep it in

repair.’40

Fel hyn y mae Phil Cope yntau yn cyfeirio at Ffynnon Daf ym mharagraff agoriadol ei gyflwyniad i’w luniau ohoni:

The Ffynnon Dwym hot springs are warmed geothermally from deep within the earth. At a constant twenty-one degrees centigrade, the waters travel on their slow, twenty-five kilometre journey from their source, at perhaps just a few metres a year, through warming cracks in the earth.’41

Roedd gwerth meddyginiaethol amlwg iawn yn nŵr Ffynnon Daf, a deuai pobl o bell ac agos i ymolchi yn ei dyfroedd er mwyn gwella eu crydcymalau a’u cloffni. Y gred oedd y byddai’r claf yn gwella o fewn mis wedi iddo ef neu hi ymolchi yn y dŵr. Adroddir am un llanc ifanc ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu’n ‘ymolchi yn y ffynnon am bythefnos gron, ac ar derfyn y cyfnod hwn bu’n bosibl iddo daflu’i ffyn baglau a neidio o lawenydd.’42

 A dyma eto dystiolaeth Tom Jones:

‘... mae rhinwedd ei dyfroedd yn ddiarhebol at wella’r Crud Cymalau neu’r Gwynegon (‘gwynêcon’, ys dywedwys gwŷr Pentyrch). Mae llawer un gafodd iechyd drwy hon wedi bwrw ei ffyn baglau gerllaw iddi, ac wedi neidio a llamu yn llawen wrth ddod oddiyno. Nid anhygoel felly yw clywed am y garn o ffyn baglau a ffyn llaw a welir ambell waith ar lan yr afon yn yr ymyl.’43

Cyfeiria Tom Jones hefyd at ddefod y disgwylid i’r cleifion ei dilyn:

‘Rhaid i’r gŵr neu was, neu’r ferch neu wraig, daenu pilyn o ddillad  ar draws perth neu bren gerllaw neu’r ffynnondy ei hun pan fo yn ymdrochi yn y dŵr.’44

Yn 1926 y cyhoeddodd Tom Jones y geiriau uchod. Dyma yr hyn oedd gan Edgar L Chappell i’w ddweud yn 1938:

Prior to the erection of the present spa building, the well was enclosed in an iron structure, outside which was hung a garment to indicate that the well was in use, a petticoat in the case of a woman, a trousers in the case of a man.’45

Cyhoeddwyd cyfrol Wirt Sikes, British Goblins, mor gynnar ag 1880, ac y mae’n amlwg fod y caban o haearn yn bod bryd hynny. Dyma frawddeg neu ddwy o’r un paragraff a sgrifennwyd ganddo ef am Ffynnon Daf. Cyfeiriodd yntau at yr arfer o osod dilladau arbennig o eiddo’r dynion a’r merched ar yr ‘iron structure’ a elwir ganddo ef yn ‘rude hut of sheet iron’.

Some of the Welsh mystic wells are so situated that they are at times  overflowed by the waters of the sea or river. Taff’s well, in Glamorganshire, a pleasant walk from Cardiff, is situated practically in the bed of the river Taff ... A rude hut of sheet iron has been built over it. ... A primitive custom of the place is that when men are bathing at this well they shall hang a pair of trousers outside the hut; women, in their turn, must hang out a petticoat or bonnet.’46  

O dro i dro ceir cyfeiriadau yn llên gwerin Cymru at wragedd mewn dillad llwyd, gwyn, gwyrdd, ac weithiau ddu. Yn aml ceir traddodiadau sy’n cysylltu rhai o’r gwragedd hyn â ffynhonnau. Cysylltir un traddodiad felly â Ffynnon Daf. Fel hyn y mae Marie Trevelyan yn ei chyfrol Folk-Lore and Folk-Stories of Wales (1909) yn adrodd hanes rhyfeddol y wraig mewn dillad llwyd ger y ffynnon.

A lady robed in grey frequently visited this well, and many people testified to having seen her in the twilight wandering along the banks of the river near the spring, or going on to the ferry under the Garth Mountain. Stories about this mysterious lady were handed down from father to son. The last was to the effect that about seventy or eighty years ago [h.y., oddeutu 1829-39] the woman in grey beckoned to a man who had just been getting some of the water. He put his pitcher down and asked what he could do for her. She asked him to hold her tight by both hands until she requested him to release her. The man did as he was bidden. He began to think it a long time before she bade him to cease his grip, when a ‘stabbing pain’ caught him in his side, and with a sharp cry he loosened his hold. The woman exclaimed: ‘Alas! I shall remain in bondage for another hundred years, and then I must get a woman with steady hands and better than yours to hold me.’ She vanished, and was never seen again.’47

Yng nghyfrol Marie Trevelyan mae’r awdur yn cofnodi hefyd dystiolaeth am un arfer hynod o ddiddorol oedd yn cael ei gysylltu â Ffynnon Daf. 

In connection with this well there was a custom prevalent so late as about seventy years ago [h.y. oddeutu 1839]. Young people of the parish used to assemble near Taff’s Well on the eighth Sunday after Easter to dip their hands in the water, and scatter the drops over each other. Immediately afterwards they repaired to the nearest green space, and spent the remainder of the day in dancing and merry-making.’48 

Y mae’r cyfeiriad at yr wythfed Sul wedi’r Pasg yn y dyfyniad uchod yn arwyddocaol. Dyma ni ym misoedd Mai-Mehefin a dechrau’r haf. Cyfnod y coelion a’r holl arferion oedd yn ymwneud â gofyn am fendithion ar y tymor newydd hwn. Adeg y dathlu mawr mewn dawns a chân. Wedi’r gaeaf hir, adeg i lawenhau yng nghwmni’r haul. Cyfnod y ‘Carolau Mai’ a’r ‘Canu Ha’; ‘codi’r Fedwen Haf’ a ‘dawnsio Cadi Ha’;  y ‘twmpath chwarae’, neu, yn arbennig ym Morgannwg, y ‘taplas haf’.49

Cofiwn hefyd am yr hen gred gynt fod gwlith cyntaf Calan Mai yn arbennig o rinweddol at ymolchi croen yr wyneb. I raddau llai, roedd y gwlith cyntaf drwy gydol mis Mai yn fendithiol.50 Ai atgof o gred pobl gynt yng nghysegredigrwydd dŵr, yn arbennig gwlith cyntaf mis Mai, sydd yn yr hen arfer uchod o fendithio eraill drwy eu gwlychu â dafnau dŵr o Ffynnon Daf?

Yn ôl un traddodiad credid fod Ffynnon Daf yn enwog am rinwedd ei dŵr mor gynnar ag oes y Rhufeiniaid. Arferid dweud bod llif mawr yn yr afon yn y flwyddyn 1799 wedi datgelu olion cerrig o’r cyfnod cynnar hwnnw. Fodd bynnag, os gwir hynny, nid oes dim o’r olion i’w gweld heddiw.51

Yn arbennig er mwyn pwysleisio mor hen oedd yr arfer o fynychu’r ffynnon, y mae’r hynafiaethydd o Drealaw yn dyfynnu o gyfrol George Nicholson, The Cambrian Traveller’s Guide in Every Direction (1813):

Mantz found the remains of the once celebrated Taffe’s Well. It was formerly enclosed, and said to possess the infallible property of curing the most inveterate rheumatism, but at present its delapidated state allows the water of the river often to mingle with its contents.’52

Fel y bu lleihad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yn yr arfer o ymweld â rhai o ffynhonnau enwocaf Cymru, megis Ffynhonnau Trefriw yn y Gogledd a Ffynhonnau Llandrindod a Llanwrtyd yn y De, felly y gwelwyd lleihad yn nifer y rhai a ymwelai â Ffynnon Daf. Bu dirywiad amlwg hefyd yn y ddarpariaeth ar gyfer y cyhoedd. Er hynny, bu i’r trigolion lleol yn y man sicrhau bod pwll nofio ar gael ger y safle yn cynnwys dŵr cynnes o’r ffynnon.

Pwll nofio Ffynnon Daf 1930

Bu’r pwll nofio hwnnw ar agor hyd bumdegau hwyr yr ugeinfed ganrif, ond, yn bennaf oherwydd fod Afon Taf yn gorlifo’i glannau mor aml, cau, ysywaeth, fu hanes y pwll yn y man. Erbyn dechrau’r unfed ganrif ar hugain roedd y cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr unwaith eto wedi dirywio’n sylweddol; anharddwyd llawer ar y muriau o amgylch y ffynnon; a bu’r mynediad ati am gyfnod ar gau.

Bellach, fodd bynnag, gwnaed llawer o waith adnewyddu ar y fangre hanesyddol hon. Efallai nad pawb fydd yn hoffi’r trawstiau haearn mawr a osodwyd o amgylch y ffynnon, na’r palis dur tal a ychwanegwyd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Er hynny, rhaid cydnabod mai da yw gwybod bod y ffynnon enwog hon – Ffynnon Daf – ar agor unwaith eto i groesawu ymwelwyr o bell ac agos.53

Mae Cyfeillion Parc a Tharddell Dwym Ffynnon Daf wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ynghylch defnyddio’r dyfroedd yn gyflenwad twymo amgen ar gyfer Pafiliwn y Parc. Dangosodd yr astudiaeth, fodd bynnag, y darparai’r dyfroedd gyflenwad twymo llawer mwy ar gyfer naill ai tai neu’r ysgol gynradd leol, ac oherwydd maint y prosiect fe’i trosglwyddwyd i awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf i edrych ar y defnydd gorau. Wedi rhagor o brofion ac astudiaethau, penderfynwyd cynnwys system cyfnewid gwres yn Ysgol Gynradd newydd Ffynnon Daf, ynghyd â phaneli ynni haul, a olygai nad allyrrai’r ysgol unrhyw garbon.   

Y tu mewn i Ffynnon Daf (llun Phil Cope)

Mynedfa bresennol Ffynnon Taf (llun Phil Cope)

Da yw y cynhesir pafiliwn y Parc hefyd, a gosodir system dwymo o’r ffynnon wedi i ddifrod Storm Dennis gael ei drwsio. Bydd gwaith gosod uned cyfnewid gwres yn dechrau yn y dyfodol agos. Mae’r gymuned yn falch for y dŵr twym yn cael ei ddefnyddio er budd yr ardal ac yn edrych ymlaen at ragor o waith yn y dyfodol.  

 

Adeilad newydd arfaethedig Ffynnon Daf.

Nodiadau Rhan 4.

36.         Y Darian, 18 Chwefror 1926.

37.         ibid.

38.         Place-Names of Glamorgan, t. 212.

39.         Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.

40.         Holy Wells of Wales, t. 106.

41.         The Living Wells of Wales, t. 231.

42.         Robin Gwyndaf, ‘Chwedl a Choel yn Nhaf Elái’, yn David A Pretty, gol., Rhwng Dwy Afon, 1991, t. 167.

43.         Y Darian, 18 Chwefror 1926.

44.         ibid.

45.         Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.

46.         British Goblins: Folk-Lore, Fairy Mythology: Welsh, Legends and Traditions, argraffiad

newydd, E P Publishing, 1973, t. 358. Cyhoeddwyd gyntaf gan Sampson Law, Llundain, 1880. Awdur: Wirt Sikes, ‘United States Consul for Wales’. Gw. hefyd Dafydd Morganwg, Hanes Morganwg, t.29.

47.         Folk-Lore and Folk-Stories of Wales, Elliot Stock, London, 1909, t.195. Am draddodiadau cyffelyb sy’n gysylltiedig â ffynhonnau eraill yng Nghymru, gw. Holy Wells of Wales, tt. 126-7. 

48.         ibid., tt. 195-6.

49.         Gw. Trefor M Owen, Welsh Folk Customs, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, 1959. Pennod 3: ‘May and Midsummer’, tt. 95-112.

50.         Gw., er enghraifft, Iona Opie a Moira Tatem, A Dictionary of Superstitions; Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1992, tt. 245-6 (arg. 1af 1989); a Steve Roud, A Pocket Guide to the Superstitions of the British Isles, Penguin Books, 2004, tt. 25-6.

51.         Holy Wells of Wales, t. 106.

52.         Y Darian,18 Chwefror 1926; The Cambrian Traveller’s Guide in Every Direction, 1813, t. 729.

53.         Am un farn a fynegwyd, gw. dwy gyfrol Phil Cope, Holy Wells: Wales. A Photographic Journey, Seren, 2008, tt. 194-7; a The Living Wells of Wales, Seren, 2019, tt. 231-2                      

Robin Gwyndaf.

 

Ni allwn adael ffynhonnau Caerdydd heb luniau o ddwy ffynnon arall y cyfeiriwyd atynt yn rhan flaenorol erthygl Robin, sef pwmp dŵr eglwys Sain Nicolas, a safle debygol Ffynnon Gatwg ym Mhen-tyrch. Daw’r ddau o gyfrol Phil Cope, The Living Wells of Wales (2019), a diolchwn iddo am ei ganiatâd i’w cynnwys yma.  

Safle Ffynnon Gatwg ym Mhen-tyrch.

Pwmp dŵr eglwys Sain Nicolas.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 50 Haf 2021

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 5

Robin Gwyndaf

Ffynnon Sain Ffagan. Llun: Dafydd Wiliam.

 

Ffynnon Llwyn yr Eos, Sain Ffagan

Bydd ymwelwyr â Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yn gyfarwydd â ffermdy ac adeiladau fferm Llwyn yr Eos. Perthynai’r fferm gynt i Ystâd y Plymouth, a cheir tystiolaeth ar un o fapiau’r ystâd o’i bodolaeth, o leiaf o’r flwyddyn 1776. Adeiladwyd y tŷ presennol yn 1820. Agorwyd y tŷ ac adeiladau’r fferm i’r cyhoedd fel rhan o’r Amgueddfa Werin yn 1989. O flaen y tŷ ceir ffynnon eang o ddŵr oer. Y mae wedi’i hamgylchynu â wal gerrig a phridd, gyda grisiau yn arwain ati Mae’n dra phosibl, onid yn debygol, iddi gael ei defnyddio gynt i ddiodi trigolion y cartref, ond y defnydd pennaf a wnaed ohoni, o leiaf yn y cyfnod diweddaraf, oedd i oeri’r piseri a’r caniau llaeth. Heddiw mae’r dŵr ar wyneb y ffynnon a’r borfa laith o’i hamgylch yn drwch o ferwr y dŵr.54

Ffynnon Llwyn yr Eos. Llun: Phil Cope.

 

Ffynnon Sain Ffagan, ger Castell Sain Ffagan

Ffynnon ar dir Amgueddfa Werin Cymru eto yw’r ffynnon hon: ond ble yn union y mae? Dyma, felly, gychwyn ar y daith braf o’r brif fynedfa yn yr Amgueddfa i gyfeiriad y pysgod-lynnoedd a’r grisiau cerrig serth sy’n arwain i fyny tuag at y Castell. Wrth edrych ar y llynnoedd o’ch blaen, fe welwch hefyd nant fechan yn llifo gyda’u hochrau, agosaf atoch. Hyd y gwn i, nid oes enw swyddogol ar y nant hon wedi’i gofnodi ar unrhyw fap, ond ‘Nant yr Arian’ y byddaf i yn ei galw. Mae’n enw hyfryd i’r glust. Ceir bwthyn to gwellt o’r enw Silver Stream Cottage i gyfeiriad y llyn           isaf (ar y dde ar waelod y rhiw, islaw’r Castell). Lleolir y bwthyn y tu ôl i safle’r hen efail gynt sydd bellach yn faes parcio.

Yn union cyn croesi’r llyn isaf, os cerddwch gam neu ddau i’r dde i lawr i’r pantle ger y nant, mae’r ffynnon yn y ddaear ble mae’r dŵr yn llifo o dan y llwybr cerdded. Mae’r  ffynnon erbyn hyn fel petai’n rhan o’r nant. Prin y gellir ei gweld heb fynd yn agos iawn ati, a sylwi ar fwrlwm gwan y dŵr. ‘Ffynnon Sain Ffagan’ yw’r enw arferol ar y ffynnon. Ond ‘Ffynnon Ffagan Sant’ yw’r enw a roes y Parchg  William Rhys Jones, ‘Gwenith Gwyn’, arni yn ei golofn Gymraeg: ‘Newyddion y Barri a’r Cylch’, yn y Barry Herald and Vale of Glamorgan Times (20 Mai 1927). Dyma ei sylw cryno ef am rinweddau meddyginiaethol y ffynnon:

‘Yn y flwyddyn 1645 yr oedd plasdy teg o fewn muriau hen Gastell Ffagan Sant, ac yn y berllan a berthynai i’r plasdy, o dan hen bren ywen, yr oedd ffynnon mewn craig a elwid Ffynnon Ffagan Sant. Cyrchid i yfed dyfroedd y ffynnon enwog hon o bob parth, a chyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth ddi-ffael at yr Haint Dygwydd (Epilepsy).’55

Fersiwn Gymraeg yw’r geiriau hyn o’r nodyn a sgrifennwyd gan ŵr o’r enw Richard Symonds. Yn 1645, dair blynedd cyn y frwydr fawr, 8 Mai 1648, rhwng  milwyr y Brenin a lluoedd Cromwell a’r Senedd, fe ddaeth Richard Symonds gyda Siarl y 1af  i Sain Ffagan. Yn ei ddyddiadur am y flwyddyn honno: ‘Diary of the Marches of the Royal Army During the Great Civil War’, fe gyfeiriodd at y ffynnon gyda’r geiriau hyn:

‘St Faggin’s Church.

Neare the Church stands a faire howse within the old walls of a castle, called St Faggin’s; the heire of Mr Edward Lewis, Esq. owes [owns] it ...  In the orchard of this howse [sef y Castell], under an old yew tree, is a spring or well within the rock, called St Faggins’ Well; many resort from all parts to drinke it for the falling sickness [epilepsy], and cures them at all seasons. Many come a yeare after they have dranke of [it], and relate their health ever since.’56    

Dyma’r sylw canmoliaethus a diddorol a wneir am Ffynnon Sain Ffagan yn y gyfrol Ewen’s Guide and Directory to the Town of  Cardiff and its Environs (1855), tt. 91-3:

‘The famous well here must not be forgotten; the properties ascribed to which almost rival the fabled “Fountain of Youth”. It is certain that the inhabitants of this favored (sic) place attain great ages; on a feast being given to the aged poor by the South Wales Railway Company, on the opening of the station, the united ages of 12 then present was above one thousand years.’

Mewn Cyfrol o’r enw Annals of St Fagan’s with Llanilterne. An Ancient Glamorgan Parish (1938, t. 50), fe ddywedodd yr awdur, Charles F Shepherd:

‘The yew tree disappeared long ago, but the water still springs from the rock, though of its health-giving properties nothing now is known.’ 

Yn fuan wedi fy mhenodi ar staff yr Amgueddfa Werin ym mis Hydref 1964, bûm innau’n  holi rhai o’r to hynaf ym mhentref  Sain Ffagan am y ffynnon. Roedd tybiaeth gan rai y gallai dŵr o’r ffynnon fod wedi cael ei ddefnyddio at wella llygaid dolurus, ond prin oedd unrhyw dystiolaeth bendant.

Arwyddocaol iawn yw tystiolaeth Richard Symonds fod ‘hen goeden ywen’ yn tyfu gynt dros y ffynnon. Nid damwain mo hynny. Yr oedd yr ywen (Taxus bacatta) yn bren cysegredig, ac, yn ôl y gred, yn diogelu dyn ac anifail. Pren cysegredig, rhinweddol a bendithiol, fel dŵr y ffynnon ei hun. Heddiw y mae ywen lled ifanc yn tyfu ger y ffynnon.

Roeddwn i yn awyddus iawn i wybod ai ywen wedi’i phlannu yn fwriadol yw’r ywen lled ifanc hon, ynteu pren wedi tyfu o fôn yr hen ywen. Dau o brif arbenigwyr coed yw ym Mhrydain yw fy nghyfeillion, Allen Meredith, Charlbury, ger Rhydychen (gynt o Derwydd, ger Llandybïe, Sir Gaerfyrddin), a Fred Hageneder, gynt o’r Almaen, telynor, ethnofotanegydd enwog ac awdur cyfrolau, megis The Spirit of Trees. Science, Symbiosis, and Inspiration (2001), ac Yew. A History (2007).   Fy mraint yn nawdegau’r ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain. oedd eu gwahodd fwy nag unwaith i’r Amgueddfa Werin ac i weld y ffynnon.

Ym marn  y ddau arbenigwr hyn roedd yr ywen ifanc wedi tyfu o foncyff yr hen ywen. Mewn llythyr ataf, dyddiedig 14 Tachwedd 2003, mae Allen Meredith yn dyfynnu barn Dr Bill Linnard yntau am yr ywen bresennol: ‘not a very old one’. Yna mae’n ychwanegu’r geiriau: ‘as was my first observation’.

Lleoliad Ffynnon Sain Ffagan ar fap o eiddo’r Amgueddfa Werin.

Yn yr un llythyr y mae Allen Meredith yn cyfeirio hefyd at sylw’r awdur toreithiog, Stewart Williams, yn ei gyfrol Annals of South Glamorgan (1913). Wedi i’r awdur grybwyll sylwadau Richard Symonds am y ffynnon yn 1645, mae’n ysgrifennu’r geiriau hyn: ‘Though the old yew tree has long since disappeared, the sparkling waters of the spring still gush forth from beneath the rock.’ Â ymlaen:

‘What is interesting is no mention of a yew in 1913 – were they like me dismissing the present yew and looking for something very big – an ancient shattered relic. There is no doubt that the present yew didn’t appear over night and is most certainly centuries old. If there was a planting in recent times, it would have been recorded  given the popularity of the site.’57

Fodd bynnag, nid oes modd bellach i gadarnhau a wnaed cofnod o’r plannu, ai peidio, a gallai’r cofnod – pe gwnaed un - fod wedi mynd ar goll, fel yr aeth llawer o luniau cynnar o’r ffynnon a’i lleoliad, mae’n dra thebygol. Hyd nes y daw rhagor o dystiolaeth bendant i’r fei, doethach lawer, yn fy marn i, yw peidio â bod yn rhy bendant wrth geisio damcaniaethu ai tyfu o foncyff yr hen ywen a wnaeth yr ywen bresennol, ynteu cael ei phlannu o’r newydd. Dyna hefyd farn y Dr Bill Linnard, Radur mewn sgwrs, 3 Tachwedd 2021.58

Rhoddwyd cryn sylw i’r ywen eisoes yn yr erthygl hon oherwydd ei bod yn un o’r coed cysegredig. Roedd coed cysegredig eraill yn cynnwys: y dderwen, pren celyn, onnen, cerddinen / criafolen, bedwen, morwydden (mulberry), pren afal, a rhai mathau o ddrain. Yr oedd i amryw o’r coed cysegredig uchod gysyllylltiad annatod â defodau ac arferion a gynhelid ger y ffynnon. Ceir tystiolaeth bendant o hyn, er enghraifft, ym mhymthegfed bennod cyfrol D A Mackenzie, Ancient Man in Britain (1922): ‘Why Trees and Wells were Worshipped?’

Yn ôl y Cyfreithiau Cymreig roedd i rai coed arbennig a oedd wedi’u cysegru i seintiau fwy o werth na choed cyffredin. Er enghraifft, roedd ywen wedi’i chysegru i sant yn werth 120 ceiniog. Ond 15 i 20 ceiniog oedd gwerth ywen gyffredin.59  

Yn ogystal â Ffynnon Sain Ffagan, dyma ychydig enghreifftiau o ffynhonnau eraill yng Nghymru â choeden ywen yn tyfu yn eu hymyl, neu yn eu cysgodi: Ffynnon Beuno, Clynnog Fawr, Arfon; Ffynnon Gwenlais, Llanfihangel Aberbythych, Sir Gaerfyrddin; Ffynnon Bedr, Llanbedrycennin, Sir Gaernarfon; Ffynnon Elias, Maldwyn; a Ffynnon Capel Llanfihangel Rhos-y-corn, Sir Gaerfyrddin.60 Yn Ffynnon Beuno, ger Capel Aelhaearn, Meirionnydd, yr oedd yn arfer unwaith i ddefnyddio cangen o bren ywen i daenellu dŵr o’r ffynnon ar gefnau gwartheg clwyfus.61

Bu’n freuddwyd gennyf er pan ymunais â’r Amgueddfa Werin  i weld Ffynnon Sain Ffagan yn cael ei harddangos i’r ymwelwyr, gyda mawr ofal, afraid dweud, i sicrhau’r diogelwch eithaf. Yr oeddwn yn awyddus iawn hefyd i gael tystiolaeth wyddonol o ansawdd y dŵr. Ym mis Mai 1991, felly, trefnwyd gyda Chyngor Dinas Caerdydd, ar ran yr Amgueddfa, i gael dŵr y ffynnon wedi’i ddadansoddi. Paratowyd yr adroddiad gan John Elliot a’i ddychwelyd atom i’r Amgueddfa gan B G Sanders, ‘Dadansoddwr y Ddinas / City Analyst’, 11 Mehefin 1991. Anaml y ceir dadansoddiad mor fanwl â hyn o ansawdd dŵr rhai o’n ffynhonnau yng Nghymru, a hyderaf y bydd o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr Llygad y Ffynnon. Fe welir bod yr adroddiad yn cynnwys mewn dwy golofn fanylion am ansawdd dŵr y nant, yn ogystal â dŵr y ffynnon.                                                      

                    Chemical Results in mg/litre                                        

                                                  A.  H176E: Well water     B.  H177E: Pond water

Appearance                                                 Clear                     Hazy

Sediment                                                     Slight                    Moderate     

Colour (Hazen units)                                       <5                          10              

Reaction, pH value                                        6.9                         7.9             

Electrical Conductivity at 20oC                      800                        520                   

Chlorides (as C1)                                           65                          31                

Carbonate hardness (as CaCO3)                     348                        226                  

Non-carbonate hardness                                24                          37                          

Total hardness (as CaCO3)                            372                        263                 

Ammonium (NH4)                                      0.006                     0.015  

Albuminoid nitrogen                                  0.054                     0.246                   

Nitrite (as NO2)                                           Nil                      0.023                   

Nitrate (as NO3)                                          2.0                        4.4               

Sulphate (as SO4)                                                                                                                                   

Oxygen absorbed in 4 hrs at 80F                 0.24                      1.16       

       

Metals:                                                                                                                                               

Copper                                                     Nil                         Nil                           

Lead                                                        Nil                          Nil                       

 Iron                                                        0.01                       0.30                                                               

Manganese                                                Nil                         0.07                        

Zinc                                                         Nil                          0.02

Observations: a clear, colourless, neutral, very hard water of good organic quality.

Ar sail yr adroddiad uchod, er y ganmoliaeth, dyfarnodd B G Sanders nad oedd yn cymeradwyo yfed y dŵr.62 

Nodiadau Rhan 5

54.    I weld lluniau o dŷ ac adeiladau Llwyn yr Eos, gw. argraffiadau o Lawlyfr Amgueddfa Werin Cymru. I weld llun

          o’r ffynnon, gw. yr un gan Phil Cope yn y cylchgrawn presennol.

55.    Gweinidog gyda’r Bedyddwyr a hynafiaethydd brwd oedd y Parchedig   William Rhys Jones, ‘Gwenith Gwyn’

          (1868-1937). Ceir casgliad helaeth o’i bapurau a’i lawysgrifau (1464) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi’u

         catalogio gennyf, gyda llungopïau o amryw ohonynt ar gadw hefyd yn Archif Llawysgrifau Amgueddfa Werin

         Cymru. Rhif 706 yn y catalog yw’r eitem a ddyfynnir yn yr erthygl bresennol. Am beth o hanes bywyd a gwaith

         William Rhys Jones, gw. fy erthygl: ‘Gwenith Gwyn: Cynheilydd Traddodiad ei Dadau’, Trafodion Cymdeithas

         Hanes y Bedyddwyr, 1980, tt.32-58.

56.   Richard Symond’s Diary, gol. C E Long; Camden Society, 1859, t. 215.

57.   Cedwir llythyr Allen Meredith yn fy Archif  Ffeiliau yn Amgueddfa Werin Cymru, Adran Byd Natur: ffeil

         ‘Ffynnon Sain Ffagan: Gohebiaeth R.G.’

58.   Y mae’r Dr Bill Linnard, yn gyn-gydweithiwr, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Un o’i gyfrolau

         gwerthfawr yw: Welsh Woods and Forests: History and Utilization, Amgueddfa Cymru, 1982.

59.   A W Wade-Evans, Welsh Medieval Law, Rhydychen, 1909, tt.104, 248.

60.   Francis Jones, Holy Wells of Wales, t.19.

61.   Edward Lhuyd, Parochalia (1695-98), Arch. Cam. Atodiad, 1909, 1910-11, ii, 40.      

62.   Carwn ddiolch yn ddiffuant iawn i Phil Cope, Dafydd Wiliam, ac i Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, am y

         ddau lun a’r map yn rhan 5 yr erthygl hon.  Mawr ddiolch hefyd i’r Dr Christopher Thomas, CADW, am ei

         gymorth parod gyda’r map i ddynodi union leoliad Ffynnon Sain Ffagan.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 51 Nadolig 2021

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up