Home Up

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU YN DDEG OED

 

Wrth edrych yn ôl ar y degawd sydd wedi mynd heibio gallwn longyfarch ein hunain ein bod wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth pobl Cymru o bwysigrwydd ein ffynhonnau, y rhai sanctaidd a rinweddol a’r rhai cyffredin hefyd. Pa well anrheg pen-blwydd na chael gweld adfer y Ffynnon Fyw ym Mynytho. Ond peidiwn â llaesu dwylo; mae nifer o ffynhonnau o dan fygythiad o hyd. Cred ambell berchennog tŷ sydd â ffynnon sanctaidd yn yr ardd fod ganddynt hawl i wneud fel y mynnant â’r crair hanesyddol yma. Maent yn tynnu’r muriau neu’n ychwanegu at y ffynnon drwy adeiladu rhyw feature arbennig! Mae rhai ffynhonnau’n cael eu cau gan dirfeddianwyr sy’n gwrthwynebu rhoi caniatâd i’r cyhoedd gerdded ar eu tir i ymweld â ffynnon. Gall rhai ddiflannu oherwydd lledu ffyrdd ac adeiladu tai a datblygiadau diwydiannol. Mae’n hanfodol ein bod yn ceisio cofrestru’r ffynhonnau er nad yw hynny, hyd yn oed, yn eu diogelu bob amser. Yr hyn sy’n galondid yw fod pobl yn deffro i arbenigrwydd y rhan hon o’n treftadaeth. Diolch i chi am eich ffyddlondeb i’r gymdeithas a’ch diddordeb yn y gwaith pwysig hwn. Ymlaen â ni i’r degawd nesaf!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up