Cyfeiriadau at
FFYNHONNAU
yn y cylchgrawn
CYMRU
(Casglwyd
gan Ken Lloyd Gruffydd. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)
Asiedydd
o Walia, Hynafiaethau Cerrig y Drudion CYMRU, XVI (1904), tud. 231:
Uwchlaw llys Iefan Ddu mae
ffermdy o’r enw Capelau – lle y cynhelid gwasanaeth crefyddol yr hen lys, ac
ar dir Ty’n y Graig y mae Ffynnon a elwir Ffynnon Ifan, a rhyw draddodiad
disail gan yr ardalwyr yn ei chylch. Ond mae’n debyg mai Ffynnon Iefan Ddu,
arglwydd Hiraethog ydoedd. Mae
y dŵr yn rhedeg drwy dir Ty’n y Graig a rhan o dir y Plas ac i lawr i’r
rhyd Garegog.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
John Thomas, Aberdaron;
CYMRU, XII (1897) tud. 118-9:
Bydd
llawer yn teimlo dyddordeb neillduol yn yr hen Ffynnon Fair, yr hon sydd ar lan
y môr ym mhen tir Lleyn, ryw ddwy filltir o Aberdaron. Bydd llawer yn cyrchu
ati yn yr haf er mwyn cael eu “dymuniad”. Geilw y Saeson hi yn “Wishing
Well.” Wedi i chwi ddod i ben y tir y mae y ffynnon i lawr yn y gwaelod, ac y
mae yno agos i gant o risiau cerrig, a’r rhai hynny yn lled anwastad, cyn y
dowch at ei dyfroedd. Mae croesaw i chwi yfed y faint ar a fynnwch o’r dŵr,
ond cyn i chwi gael sicrwydd y cyflenwir eich dymuniad, rhaid i chwi
gydymffurfio a’r amodau, sef yw hynny, llenwi eich genau yn llawn o’r
dyfroedd, ac esgyn i fyny yr holl grisiau, a hynny heb golli yr un dafn; ac nid
hawdd yw hynny, yn enwedig os bydd eich cyfeillion yn ymyl, yn gwneud eu gorau i
beri i chwi chwerthin. Ond os methwch y tro cyntaf y mae ail gynnyg i Gymro, a
thri os bydd taro, chwedl Syr Meurig. Clywais y byddai llawer o hen lanciau a
hen ferched yn ymweld a hi yn aml yn yr hen amser gynt, a thipyn o orchest oedd
cael ganddynt gyfaddef pa beth oedd eu dymuniad hwy; ond byddai rhai yn sibrwd
fod a fynnai cariadau rywbeth a’r ymdrechion hyn.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Yng Ngwlad Eben Fardd
CYMRU,
IV (1893), tudalen 215:
Yno
wrth fin y coed sydd ar y llethr y mae Ffynnon Gybi. Ffynnon loyw’n codi o’r
ddaear ydyw, a mur crwn o’i hamgylch, a sedd garreg o gylch y ffynnon y tu
mewn i’r mur. Yn ymyl y tŷ – a’i do erbyn hyn wedi syrthio iddo, –
lle y preswyliai ceidwad y ffynnon. Y mae’r lle’n unig ac adfeiliedig, ac ni
welir un pererin pryderus yn cyrchu ato mwyach i holi am iechyd neu swyn.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Elfyn; Trefriw ac Oddeutu; CYMRU XXXVI (1909) tudalen 62:
Un o’r prif at-dyniadau i Drefriw, yn arbennig yn yr amseroedd hyn ydyw Ffynnon Cae Coch, yr hon a gyrhaeddir ar hyd y ffordd at Gonwy mewn chwarter awr o’r pentref. Yn Faunula Grustensis, yr hwn a gyhoeddwyd mor ddiweddar a’r flwyddyn 1830, yr holl a ddywedir am y ffynnon ydyw ei bod yno, ac mai Mr. E.T.Griffith, llawfeddyg, ddaeth o hyd iddi. Yn ddiweddar, mewn cydmariaeth. Fe ddaeth rhinweddau meddyginiaethol y ffynnon hon yn glodfawr ac yn adnabyddus trwy Brydain, ac ymhellach na hynny. Er y flwyddyn 1873, mae tŷ cyfleus a lleoedd pwrpasol i chwaraeu, adloni, ac i gadw cyfarfodydd, wedi eu darparu yn ymyl y ffynnon, am yr hon y canodd Trebor Mai –
O flaen Cae Coch a’i riniawl ddwfr
Yn llwfr aiff angen llym;
ac y canodd Gwilym Cowlyd –
Dŵr i’w yfed i’r afiach
Yn creu ffordd i gael corff iach.
Hefyd Dewi Arfon –
Clywch, y mae dwfr Cae Coch – yn iachau pob
Rhyw nych pan ddaw arnoch;
Fe all adfer claf llwydfoch;
Wele’r fan i liwio’r foch.
O ddrws y bedd i ris ban, – drwy’i yfed
Yr afiach ddaw’n fuan
I adfyw: – mewn dinod fan
Caiff rinwedd cyffyr arian.
Mae’n ddiameu na fyn y darllenydd sydd yn ddieithr i’r dwfr hynod hwn dderbyn testimonials y beirdd, gan fod y brodyr hynny, druain, yn euog o dynu gyda digwilydd-dra pleserus ar eu dychymyg ynglŷn â phopeth ymron. Ond os na chymerir gwyr braint a defod yr awdurdodau, ni fydd i’r teulu deimlo’n sur a dolurus o’r herwydd gan fod rhai o feddygon mwyaf adnabyddus y wlad wedi rhoddi sel eu cymeradwyaeth i rinwedd dŵr Cae Coch, yn arbennig at gryfhau y gwan, at ddiffyg treuliad a meithriniad gwaed. Er deugain mlynedd a mwy yn ôl, awdurdodau uchel, ar ddefnyddio y dŵr, drwy ei yfed ac wedi ymolchi ynddo, oedd y diweddar Doctor W.E. Hughes (Cowlyd), Llanrwst, a Doctor Pierce, Dinbych, dau feddyg galluog ag y cyrchai cleifion llawer ardal hyd atynt. Ar ôl hynny ysgrifennodd Dr. Hayward, Lerpwl, lyfr adnabyddus yn trafod rhagoriaethau arbennig Ffynnon Cae Coch. Mae y llyfr hwn yn eithaf hawdd ei gael; myned y darllenydd olwg arno. Ceir tystiolaeth i’r un perwyl gan y meddyg adnabyddus Dr. T.E. Jones, Henar, Llanrwst. Yn ôl dadansoddiad Dr. Hassall, y ffynnon hon yw y dwfr haiarn goreu ym Mhrydain fawr. Mae cannoedd lawer o gleifion, o bryd i bryd, wedi eu bendithio â nerth ac iechyd drwyddo. Mae pythefnos neu fis o yfed dŵr Trefriw, ac o sugno awelon iach yr ardal, wedi rhoddi gwrid newydd mewn llawer grudd lwyd, ac efallai gipio ambell un megis o borth y fynwent. O does rhywun yn wan o gorff neu feddwl, gadawed i Drefriw a’i dŵr dreio llaw arno.
Cyfeirnod map y ffynhonnau yn y dyfyniadau uchod yw:
Ffynnon Ifan, Cerrigydrudion: SH5948 ;Ffynnon Fair, Aberdaron:SH139252
Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd:SH427212;Ffynnon Cae Coch, Trefriw:SH7863
RHIF 18, HAF 2005
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccf