CYNHADLEDDAU FFYNHONNAU
CYNHADLEDD FFYNHONNAU YM MHRIFYSGOL BANGOR
Mae cynhadledd wedi ei threfnu yng nghanolfan WISCA ym mhrifysgol Bangor
ar benwythnos Medi 13eg-14eg, 2009.
Dyma’r arlwy:
Bore Sadwrn
9.30 – 1.00:
Dr Madeleine Gray, Prifysgol Cymru, Casnewydd: Casgliad o storiâu o’r Oesoedd Canol am wyrthiau yn Ffynnon Fair, Pen-rhys.
Eirlys Gruffydd: Archwilio a Diogelu Ffynhonnau Cymru.
Tristan Grey Hulse:Elias Owen a Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Cymru.
Angela Graham, Caerdydd: Y Forwyn Fair, Penrhos- adferiad, ac adfywiad, ac ail agor cysegrfa
1.00 -2.00 Cinio
Prynhawn Sadwrn: Trafodaeth ar ymchwil ddiweddar a phrosiectau adferol gan gynnwys yr adolygiad arfaethedig o gyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales.
Dydd Sul: Ymweliad â rhai o ffynhonnau sanctaidd Môn a’u heglwysi gan gynnwys Llaneilian a Phenmon.
Gellir trefnu cludiant.
Cost: £7.50 (yn cynnwys cinio dydd Sadwrn.)
Gellir cysylltu â’r Brifysgol os am le i aros- 01248 388 088
Os ydych yn dymuno mynd i’r gynhadledd gofynnir i chi gysyllu â:
Dr Madeline Grey, Yr Adran Addysg (School of Education) Prifysgol Cymru, Casnewydd, Campws Caerleon, Casnewydd. NP18 3QT.
Dylid ysgrifennu sieciau i Dr Madeleine Grey. Gellir ei e-bostio ar
Madeleine.Grey@newport.ac.ukDylid anfon ceisiadau am le yn y gynhadledd erbyn dydd Gwener Medi’r 4ydd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
CYNHADLEDD FFYNHONNAU PRIFYSGOL BANGOR
HOWARD HUWS O FLAEN YR ARDDANGOSFA
Ar Fedi 13eg a 14eg cynhaliwyd cynhadledd ar Ffynhonnau Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Fe’i trefnwyd gan y Dr. Madeline Gray o Brifysgol Casnewydd. Cafwyd dwy ddarlith ddiddorol iawn am
Ffynnon Fair ym Mhenrhys.(ST 0094) Soniodd Angela Graham, Caerdydd, am le’r ffynnon yn y gymuned a’r adfer a fu arni, y pereindota sydd ati heddiw a’r ŵyl a gynhelir yno. Canolbwyntiodd Dr. Madeline Grey ar lle’r ffynnon hon yn storiâu o’r Oesoedd Canol. Gwerthfawrogwyd cyfraniad Elias Owen, yn casglu a chadw gwybodaeth am ffynhonnau yn y bedwared ganrif ar bynmtheg gan Tristan Grey Hulse a chafwyd braslun o’r gwaith ymchwil sy ar droed ym Mhrifysgol Llanbedr-Pont-Steffan gan y Dr. Jonathan. M. Wooding. Cafwyd arddangosfa a sgwrs am waith Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a’r cyfan yn cael dderbyniad da. Hefyd roedd cyfeillion Wellsprings yno gydag arddangosfa broffesiynol iawn. Mae’n ymddangos bod diddordeb yn y ffynhonnau ar gynnydd a’r pwnc bellach yn cael ei ystyried yn faes addas i haneswyr ac academyddion ymddiddori ynddo. Bydd nifer o fyfyrwyr o dan arweiniad Dr Jonathan Wooding yn gwneud arolwg o ffynhonnau Ceredigion yn y dyfodol. Ar y Sul Medi 14eg ymwelwyd â nifer o Ffynhonnau ym Môn. Bu Howard Huws gyda’r criw aeth o gwmpas y ffynhonnau ac edrychwn ymlaen at gael adroddiad ganddo yn y dyfodol. Mae’n bosib y bydd y gynhadledd hon yn dod yn un flynyddol. Gwych!EIRLYS A KEN YN MWYNHAU’R GYNHADLEDD
CHRISTOPHER NAISH SY’N CYFIEITHU LLYGAD Y FFYNNON I AELODAU WELLSPRINGS
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD FFYNHONNAU FLYNYDDOL
PRIFYSGOL LLANBEDR PONT STEFFAN –11 a 12 MEDI 2010
Eleni bydd sgyrsiau am ddyddio waliau cerrig hynafol, darganfyddiadau newydd yn Ffynnon Fair, Margam, a ffynhonnau Ystrad Fflur. Gobeithir mynd i ymweld â ffynhonnau yng Ngheredigion neu yn Sir Gaerfyrddin ar y Sul. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â Dr Madeleine Gray, Darllenydd mewn Hanes, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru Casnewydd, Campws Caerllion, Casnewydd NP18 3QT. Rhif ffôn 01644 432675 e-bost- Madeleine. Gray@newport.ac.uk
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD I'W CHOFIO
Aeth Howard Huws a Ken ac Eirlys Gruffydd i’r gynhadledd ar ffynhonnau a gynhaliwyd ym mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan dros benwythnos 11-12 o Fedi. Ar y dydd Sadwrn cafwyd darlithoedd amrywiol a diddorol. Soniodd Jemma Bezant am bwysigrwydd ffynhonnau sanctaidd i urdd y Sistersiaid yn gyffredinol, ac yn abaty Ystrad Fflur, Ceredigion yn enwedig. Roedd hyn o ddiddordeb arbennig oherwydd y traddodiad sy’n bodoli yn yr ardal fod mynachod Ystrad Fflur yn arfer teithio heibio i Ffynnon Ffraid, Cynhawdref, Swydd Ffynnon,(SN674670) ar eu taith i’r lleiandy yn Llansanffraid ar lan y môr. Credir bod ffynnon y fynachlog yn Ystrad Fflur yn cael ei bwydo gan ddŵr o ffynhonnau sanctaidd Blaenglasffrwd. Mae’r ffynhonnau hyn wedi cael eu defnyddio’n lleol fel ffynhonnau rinweddol a iachusol am genedlaethau. Yn dilyn clywyd am ymweliad Well Springs yng nghwmni Dr Maddy Grey â Ffynnon y Forwyn Fair Fendigaid, Crugwyllt (SS803869), ffynnon â chysylltiad agos gydag Abaty Margam yn sir Forgannwg. Ceir cyfeiriad at y ffynnon mewn dogfen a ddyddiwyd 1470. Mae adeiladwaith y ffynnon yn awgrymu i’r gwaith cerrig gael ei greu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n bosib mai to gwellt oedd dros y ffynnon yn wreiddiol ond yn ddiweddarach codwyd to o gerrig a’i doi a llechi mawr fel y ceir ar loriau tai. Baddon ar siâp llythyren L sydd gan y ffynnon ac mae nifer o risiau yn mynd i lawr at y dŵr. Gwyddom fod bedydd wedi ei gynnal yng nghapel y ffynnon yn 1891, y gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn nhraddodiad yr eglwys Gatholig. Mae’n bosib mai ymgais i greu canolfan i bererindodau tebyg i’r hyn oedd yn digwydd wrth Ffynnon Fair, Pen-rhys, sydd yma. Wedyn cafwyd cyfle i wrando ar y Tad Brendan O’Malley yn sôn am ei brofiadau personol yn dilyn trywydd Francis Jones a ffynhonnau sanctaidd sir Benfro. Soniodd am bererindodau i ymweld â gwahanol ffynhonnau. Mae’n debyg bod llawer mwy o ffynhonnau sanctaidd yn y sir nag a gofnodwyd gan Francis Jones yn ei lyfr The Holy Wells of Wales. Wedi cinio daeth cyfle i glywed beth oedd gan Anwen Roberts i’w ddweud ar y pwnc Pensaernïaeth a Nawdd yn Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon (SJ 185763). Er bod traddodiad yn lleol mai Margaret Beaufort, mam Harri Tudur, oedd yn gyfrifol am adeiladu’r capel dros y ffynnon gwelodd Anwen debygrwydd rhwng arddull y gwaith cerrig a’r hyn a geir yng nghapel San Steffan, Westminster yn Llundain, gwaith Robert Virtue, prif saer maen y brenin. Yn sicr mae pensaernïaeth capel y ffynnon yn arwyddocaol yng nghyd-destun pensaernïaeth diwedd yr Oesoedd Canol yn Ewrop. Yn y sgwrs nesaf cafwyd disgrifiad diddorol o’r gwasanaethau a gynhelir gan yr Eglwys Uniongred Roegaidd ger Ffynnon Gybi yn Llangybi, Ceredigion,(SN 605528), rhyw bedair milltir o dref Llanbedr Pont Steffan, lle mae cymuned o gredinwyr Uniongred. Pwysleisiodd y Tad Timothy Pearce bwysigrwydd dŵr yn addoliad yr eglwys Uniongred a dywedodd iddynt fabwysiadu Ffynnon Gybi fel eu man arbennig hwy. Mae gan y ffynnon hon draddodiad o fod yn ffynnon rinweddol a sanctaidd gyda’r gallu i wella. Wrth ymadael â’r ardal galwyd heibio i’r ffynnon a chodi potelaid o ddŵr ohoni. Tymheredd yr awyr yn ôl thermomedr y car oedd pymtheg gradd. Roedd dŵr y ffynnon mor oer nes bod anwedd ar y tu allan i’r botel blastig - prawf o ba mor oer oedd y dŵr oedd yn dod o grombil y ddaear. Richard Suggest a roddodd y ddarlith olaf a oedd yn canolbwyntio ar hanes Ffynnon Elian, Llaneilian yn Rhos (SH 866774), ffynnon rheibio enwog, a’i cheidwad Jac Ffynnon Eilian, a garcharwyd am ei dwyll, ond a lwyddodd i gael anfarwoldeb drwy gyhoeddi hanes ei waith wrth y ffynnon.
Roedd y Sul yn ddiwrnod bendigedig ym mhob ffordd. Teithiodd pawb i bentref Llanddarog, ychydig filltiroedd i’r de o Gaerfyrddin. Tra’n aros i bawb gyrraedd aeth nifer ohonom i weld safle Ffynnon Dwrog (SN 504167) gerllaw’r eglwys. Nid oedd posib gweld dim oherwydd tyfiant gwyllt ond o leiaf nawr mae mwy o bobl yn gwybod lle mae’r ffynnon arbennig hon. Yna i ffwrdd a ni i ymweld ag olion Capel Erbach a’r ffynnon sy’n codi ynddo. Mae’r adeilad sy’n dyddio o’r Oesoedd Canol, ar dir preifat ac mae gwir angen ei ddiogeli.
Capel Erbach, Porthyrhyd. (SN 529147)
Ar ôl cinio aethom i weld Capel Begewdin ger Porthyrhyd, lle mae ffynnon yn tarddu oddi fewn i’r adeilad. Oherwydd bod llawer o gerrig a choed wedi dymchwel i mewn i’r capel nid oedd modd darganfod lleoliad y ffynnon ei hun.
Capel Begewdin, Porthyrhyd. (SN 511147)
Yn ystod y diwrnod trafodwyd y posibilrwydd o greu ymddiriedolaeth fyddai’n dod a nifer o asiantaethau sy’n ymddiddori yng nghadwraeth ffynhonnau at ei gilydd. Byddai hyn yn codi statws cymdeithas fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac yn dod a’n gwaith i fwy o amlygrwydd. Yn 2011 bwriedir cynnal y gynhadledd flynyddol hon yn Nhreffynnon, sir y Fflint ar benwythnos Medi 10fed -11eg Bydd manylion ar gael yn rhifyn yr haf o Llygad y Ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PEDWAREDD GYNHADLEDD FLYNYDDOL FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU
Eleni cynhelir y gynhadledd yn Nhreffynnon ar y penwythnos Medi 17eg -18fed yn Nhŷ Gorffwys y Santes Gwenfrewi uwchlaw’r ffynnon. Diwrnod o ddarlithoedd fydd dydd Sadwrn a Saesneg fydd iaith y traddodi. Ceir cyflwyniad gan y Tad Salvatore, offeiriad y plwyf. Yn dilyn ceir darlith gan y Parch. Bill Pritchard ar ei ymchwil i Ffynnon Gwenfrewi. Yna byddwn yn cerdded i lawr at y ffynnon lle bydd Bill yn ein tywys o gwmpas y ffynnon ac awn ar ymweliad i’r amgueddfa. Bydd cyfle i’r rhai sy’n dymuno fod yn bresennol yn yr oedfa ddyddiol lle’r adroddir Litani’r Santes Gwenfrewi ac y mawrygir ei chrair. Wedi cinio bydd cyflwyniad gan Tistan Gray Hulse am y traddodiadau sy’n cysylltu pennau a ffynhonnau sanctaidd a gan Jeremy Harte ar bwnc bedydd a gwellâd. Wedi te gobeithir cael fforwm agored gyda’r pwrpas o sefydlu Ymddiriedolaeth Ffynhonnau Sanctaidd Cymru i warchod y ffynhonnau a dod a phob mudiad, cymdeithas ac unigolion sydd â diddordeb yn y pwnc at ei gilydd. O siarad ag un llais hwyrach y byddwn yn fwy dylanwadol a grymus. Pris y diwrnod, yn cynnwys te, coffi, bwyd canol dydd a the prynhawn yw £20.
BADDON FFYNNON DDYFNOG, LLANRHAEADR ( SJ 082635)
Ar y Sul, Medi 18fed byddwn yn ymweld â Ffynnon Beuno, Tremeirchion, Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, Ffynnon Fair, Cefn,a Ffynnon Elian, Llanelian yn Rhos. Nid oes tâl am y diwrnod yma.
Os hoffech ddod i’r gynhadledd anfonwch siec am £20 – wedi ei gwneud allan i CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU gyda’ch manylion personol- enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost at Ken Lloyd Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH yn ddiymdroi.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD TREFFYNNON
Aelodau o'r Gymdeithas ger y ffynnon. 2011
Cafwyd dau ddiwrnod cofiadwy a phleserus yn Nhreffynnon dros benwythnos Medi 17eg a 18fed 2011. Hon oedd y bedwaredd gynhadledd ffynhonnau flynyddol i’w chynnal ac mae’n mynd o nerth i nerth. Ar y bore Sadwrn cafwyd darlith a chyflwyniad Power Point gan y Parchedig Bill Pritchard, cyn Archddiacon Sir Drefaldwyn, sy’n awdur cyfrol nodedig a chynhwysfawr ar Wenffrewi a’i ffynnon yn Nhreffynnon. (SJ185763) Dangosodd hanes y ffynnon gan ddechrau gyda Gwenffrewi a’r traddodiad am ei dienyddio a’i chroniclo hanesion am wellhad yn nyfroedd y ffynnon a datblygiad y safle dros y blynyddoedd. Yn dilyn y ddarlith aeth pawb i lawr at y ffynnon ar gyfer y gwasanaeth dyddiol sy’n cael ei gynnal am hanner dydd o’r Pasg hyd ddiwedd Medi. Daethpwyd a chrair Gwenfrewi a’i osod ar yr allor a dilynwyd litwrgi’r santes. Diddorol oedd gweld pobl o amrywiol draddodiadau Cristnogol yn ymuno yn y gwasanaeth. Yn ystod y prynhawn cafwyd darlith gan Tristan Gray Hulse ar barhad a goroesiad ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru ac yn dilyn hynny darlith gan Jeremy Harte ar y berthynas symbolaidd rhwng bedydd a gwellhad. Yn dilyn cafwyd trafodaeth agored gyda’r bwriad
o sefydlu ymddiriedolaeth genedlaethol i warchod ein ffynhonnau sanctaidd. Fel canlyniad dewiswyd cynrychiolwyr o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a Wellsprings, y Prifysgolion ac arbenigwyr yn y maes i ddod i gyfarfod yn Llangurig ar Hydref 15fed. (Gweler adroddiad o’r cyfarfod hwnnw isod.)Cynhadleddwyr wrth Ffynnon Gwenffrewi, 17 Medi 2011
Howard Huws Sue Copp Yr Hybarch Bill Pritchard Dr Johnathan Wooding Ann Owe
Dydd Sul cychwynnwyd o Dreffynnon gan ymweld yn gyntaf â Ffynnon Beuno,Tremeirchion. (SJ083724) gan edmygu’r baddon helaeth a’r cerflun carreg o ben dynol lle mae’r dŵr yn llifo allan.
Yna ymlaen at Ffynnon Fair, Wigfair ger Llanelwy (SJ028711). Roedd pawb wrth eu bodd gyda ffurf chwe ochr y ffynnon. Roedd Tristan wedi paratoi sylwadau cynhwysfawr ar bwysigrwydd y ffynnon a darllenwyd y rheini i bawb fedru gwerthfawrogi arwyddocâd y safle.
Ymlaen a ni wedyn i Lanrhaeadr yng Nghinmeirch i weld y ffenest Jesse enwog yn yr eglwys, ffynnon a dalwyd amdani drwy’r arian a offrymwyd gan y pererinion at Ffynnon Ddyfnog.(SJ082635) Yno yn yr eglwys yn aros amdanom roedd Helen Jenkins Jones , aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, sy’n warden yn yr eglwys ac yn arbenigo ar hanes ac arwyddocâd y ffenest.
Helen Jenkins Jones
Wedi cinio yn y dafarn gerllaw’r eglwys aethom i ymweld â Ffynnon Ddyfnog. Clywsom fod cynlluniau ar y gweill i hwyluso mynediad at y ffynnon ond mae hyn yn golygu gwaith mawr ar y dirwedd o gwmpas y ffynnon. (Gweler isod) Mae’r baddon o flaen y ffynnon mewn cyflwr da ond bod y pontydd dros y nant sy’n llifo o’r ffynnon mewn cyflwr mwy bregus. Wedi gadael Llanrhaeadr teithiodd y cwmni i Gefn Ffynnon, Llanelian yn Rhos, cartref Jane Beckerman, i ymweld â safle Ffynnon Elian (SH866774) a’r eglwys hynafol yno. Barnodd pawb ein bod wedi cael diwrnod i’w gofio.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYFARFOD LLANGURIG
Ar Hydref 15 daeth cynrychiolwyr o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, Wellsprings a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant at ei gilydd i geisio gweld ffordd ymlaen a sefydlu ymddiriedolaeth genedlaethol i warchod ein ffynhonnau. Wrth geisio diffinio rôl yr ymddiriedolaeth penderfynwyd mai ffynhonnau sanctaidd yn unig ac nid ffynhonnau yn gyffredinol ddylai fod yn gyfrifoldeb i’r ymddiriedolaeth. Dylai rôl yr ymddiriedolaeth fod yn gwbl glir ac ni ddylai ddyblygu gwaith cymdeithasau sy’n bodoli eisoes. Trafodwyd os mai “ymddiriedolaeth” oedd yr enw cywir ar yr hyn roeddem yn ceisio ei greu. Bydd angen mwy o wybodaeth cyn dod i benderfyniad terfynol. Teimlwyd mai gwaith yr ymddiriedolaeth fyddai codi ymwybyddiaeth o’r hyn oedd yn digwydd yn barod a hybu ymarfer dda mewn adnewyddu a gwarchod y ffynhonnau yn hytrach na gwneud y gwaith ei hun. Dylai hefyd hybu cydweithio rhwng y cymdeithasau sy’n bodoli eisoes. Byddai gan yr ymddiriedolaeth waith arbennig i’w wneud mewn addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd ffynhonnau gan gynhyrchu taflenni gwybodaeth printiedig ac ar y we ar gyfer cyrff cyhoeddus megis cynghorau , cyrff ymgynghorol, a thirfeddianwyr preifat. Gellid cynhyrchu gwybodaeth fyddai’n ateb cwestiynau fel ‘Beth yw ffynnon sanctaidd?’ neu ‘Pwy all gynnig cyngor i mi?’ Rhagwelid y byddid yn cynnal gweithdai yn dilyn creu taflenni ar bynciau unigol. Gwelid hefyd y byddai’r ymddiriedolaeth yn trefnu cynhadledd flynyddol a hynny yn esgor ar gynadleddau mwy uchelgeisiol fyddai’n hybu astudiaethau academaidd. Dylid datblygu a hybu safonau wrth gasglu a chofnodi gwybodaeth drwy gydweithrediad â grwpiau sy’n bodoli eisoes ac awdurdodau sy’n gwarchod ein hetifeddiaeth. Teimlwyd mai doeth fyddai cael cyfreithiwr i gynghori’r ymddiriedolaeth, yn ddelfrydol oddi fewn i aelodaeth y cymdeithasau sy’n ymddiddori yn y maes. Ar ddiwedd y cyfarfod gwelwyd bod angen tri pheth ar fyrder- diffiniad pendant o beth yw ffynnon sanctaidd; enw a logo i’r mudiad/ymddiriedolaeth/ sefydliad newydd a ffynhonnell o arian i gefnogi’r fenter. Penderfynwyd mynd a’r tri pheth yma yn ôl i’r ddwy gymdeithas i’w trafod yn ein cyfarfodydd. Mae croeso i chi fel aelodau rhoi eich barn ar y pethau yma drwy gysylltu â ni drwy lythyr, ffôn neu ebost. (Gweler y manylion ar ddiwedd y cylchlythyr.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD
MEDI
Eleni bydd y Gynhadledd Ffynhonnau flynyddol yn digwydd ar Sadwm a Sul Medi 15fed—16eg yng Nghasnewydd ar gampws Caerllion. Am fwy o fanylion cysylltwch 6
Dr Madeleine Grey, Darllenydd
mewn Hanes, Ysgol Ddyniaethau a Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Cymru, Casnewydd, Campws Caerllion, Casnewydd. NP 18 3QT
Rhif ffôn: 01633 432675 Cyfeiriad ebots:
Madeleine.Gray@newport.ac.uk
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD CAERLEON
Bellach daeth yn arferiad i gael cynhadledd flynyddol sy’n tynnu pawb sy’n ymddiddori mewn ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru at ei gilydd. Ar ddydd Sadwrn Medi’r 15fed cafwyd diwrnod o ddarlithoedd hynod ddiddorol. Gan yr Athro Raymond Howell cafwyd gwybodaeth am ffynhonnau Tryleg, man a fu’n bwysig iawn fel lle i gynhyrchu haearn ar un adeg ond sy bellach yn bentref cysglyd yn Sir Fynwy. Un o’r ffynhonnau mwyaf amlwg yn Nhryleg yw Ffynnon y Santes Ann (SO504052)
Yn yr ail ddarlith bu Tristan Grey-Hulse yn trafod tarddiad yr enw Ann. Awgrymodd y gallai fod yn hen dduwies Geltaidd Annes neu Anno. Ychydig o ffynhonnau yng Nghymru sy wedi eu cysegru i Ann. Ni allai Tristan ddarganfod cyfeiriad at y santes yn hŷn 1689 lle mae ei henw wedi ei gerfio ar ddeial haul yn yr eglwys. Mae amheuaeth a oedd hon yn ffynnon sanctaidd. Fe’i galwyd yn virtious well sef fynnon rinweddol ac mae nifer o ffynhonnau yn cario’r enw yna yn yr ardal Roedd hefyd yn ffynnon ofuned a gellid gwneud dymuniad wrth y ffynnon . Pe byddai swigod yn ymddangos yn y dŵr cai'r person ei ddymuniad. Mae’n bosib hefyd mai rhyw Ann oedd yn gofalu am y ffynnon ers talwm ac mai hi rhoddodd ei henw i’r ffynnon. Mae blas sylffwr i’r dŵr a dywedir ei fod yn dda am wella colig. Gwelwyd fod carpiau wedi eu clymu i’r coed ger y ffynnon felly mae cyrchu ati hyd heddiw. Hefyd roedd eicon bychan o’r Forwyn Fair wedi ei osod uwchben y dŵr. Anna oedd enw mam Mair.
Archeolegydd yn gweithio i Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yw Mike Ings. Cafodd y dasg o wneud arolwg o holl ffynhonnau’r sir a hynny wedi ei arianni gan CADW. Nododd fod y mwyafrif o dirfeddianwyr yn ymateb yn gadarnhaol i’r ffaith fod ganddynt ffynnon sanctaidd ar eu tir. Wrth geisio penderfynu beth yw ffynnon sanctaidd defnyddiodd dri llinyn mesur. Yn gyntaf, fod enw sant neu santes yn gysylltiedig â’r ffynnon; yn ail fod y ffynnon yn agos i le o addoliad, ac yn drydydd bod traddodiadau llên gwerin wedi goroesi am y ffynnon. Fel canlyniad gallai ddweud fod mwy na hanner y ffynhonnau ac enw saint arnynt. Roedd chwedeg chwech ger capel neu eglwys a phedwardeg pump â thraddodiadau am rinwedd y dŵr wedi goroesi. Fel canlyniad i’w ymchwil roedd wedi darganfod nifer o ffynhonnau newydd. Gellir edrych ar adroddiad ar wefan yr Ymddiriedolaeth.
Yn dilyn cafwyd darlith gan David Standing am y modd y rheolwyd ffynhonnau a dŵr ar diroedd abaty Llantarnam. Yna cyflwynodd Graham Jones ganlyniad ei astudiaeth o ffynhonnau’r Santes Helen yng Nghymru. Dim ond saith sydd ohonynt - yng Nghaernarfon, (SH48028), Dolwyddelan (SH7352) a Chroesor (SH6344) yng Ngwynedd, yn Nhrefelen (Bletherston) (SN0621), Llanhuadain ( SN0617) ( Llawhaden) a Chydweli ( SN 4006) yn Nyfed a Llanelen(SO3010) yng Ngwent. Awgrymwyd hefyd fod yna ffynnon sanctaidd yn agos i gae chware Sant Helens yn Abertawe. Mae’r ffynhonnau a gysegrwyd i Helen yn fwy niferus o lawer yn Lloegr. Yn gyffredinol derbynnir mai i Helen, mam Cystennin y cysegrwyd y ffynhonnau hyn.
Y siaradwr olaf oedd Gary Branigan a roddodd gipolwg i ni ar ffynhonnau sanctaidd Dulyn . Mae 57% ohonynt wedi eu cysegru i saint a 13% i gymeriadau Beiblaidd. Collwyd y wybodaeth am enwau 5% o’r ffynhonnau. O’r gweddill ceir rhai sy’n enwog am wella llygaid poenus, byddardod a’r ddannoedd, y gwahanglwyf, y llwg (scurvy), anhwylder ar y croen a’r cancr. Cafwyd deddfwriaeth i ddiogelu’r ffynhonnau. Ceir dirwy o £3,000 neu chwe mis o garchar am ddifrodi ffynnon sanctaidd ond er hyn mae ffynhonnau’n diflannu o dan adeiladau newydd ac eraill yn cael eu llanw er mwyn datblygu’r safle. Hyd yma nid oes neb wedi ei gosbi o dan y ddeddf ddiogelu yma. Serch hynny mae ambell ddatblygwr wedi mynd i helynt. Mewn un achos caewyd hen ffynnon sanctaidd er mwyn adeiladu. Yn gam neu’n gymwys lledodd y goel fod anlwc yn dilyn y sawl a wnaeth hynny. Codwyd stad o dai newydd ond buan y sylweddolwyd fod dwr yn llanw’r gerddi. Aed a’r adeiladydd i’r llys am iddo fethu sicrhau fod y safle’n addas ar gyfer tai. Aeth yr holl helynt yn ormod iddo, cafod drawiad ar y galon a marw .Cryfhawyd cred y werin yn yr hen goel fod dial yn dilyn dinistr. Pity na allem ninnau yng Nghymru feithrin coel o’r fath!
Yna cafwyd trafodaeth ynglŷn â sefydlu cymdeithas / neu gorff i amddiffyn ein ffynhonnau. Dewiswyd yr enw FFYNNON iddo ond credir fod yr enw yn cael ei ddefnyddio eisoes gan gwmnïau eraill. Ei bwrpas fydd gwarchod, amddiffyn, a chynnal ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru a hybu dealltwriaeth o’u pwysigrwydd a’u gwerth. Dyma ein diffiniad o ffynnon sanctaidd –un â chysylltiad â sant neu santes, neu eglwys neu gapel, ffynnon sy a’i dŵr yn rhinweddol ac iachusol a lle mae traddodiad o wellhad a phererindota. Mae Jonathan Wooding , Llanbedr-pont- Steffan, ac o Brifysgol Dewi Sant/ Y Drindod yn gweithio ar ddatblygu’r gymdeithas hon. Gobeithir y bydd yn dod a phawb sy â diddordeb mewn gwarchod ein ffynhonnau sanctaidd at ei gilydd er mwyn i ni siarad ag un llais a hwnnw’n llais ag awdurdod ganddo.
Ar y Sul aethom i Dryleg a Chwmbrân i ymweld â ffynhonnau. Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol . Eleni bydd y gynhadledd yn Llandudno ym mis Medi. Ceir manylion llawn yn rhifyn yr Haf o Llygad y Ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYNHADLEDD FFYNHONNAU LLANDUDNO
Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a chymdeithas Wellsprings yn trefnu cynhadledd FFYNHONNAU ar y cyd yn Llandudno ar Fedi’r 7fed. Cynhelir y gynhadledd yn festri capel Seilo, Eglwys Unedig Llandudno. Côd Post y capel yw LL30 2DY . Mae wedi ei leoli ar y gornel rhwng Stryd Gloddaeth ac Arvon Avenue.
Bydd y fan hon yn un arbennig o addas i gynnal cynhadledd ar ffynhonnau oherwydd ar y safle ble mae Eglwys Unedig Gymraeg Llandudno heddiw, roedd Ffynnon Ty’n y Pwll. Yng nghyffiniau’r capel, flynyddoedd yn ôl, arferid llwytho llongau a cahnnoedd o dunelli o lwtra copor. Defnyddid dŵr o Ffynnon Ty’n y Pwll i olchi’r copr.
Saesneg fydd iaith traddodi’r gynhadledd ar wahan i ddarlith Elfed Gruffydd ar Ffynhonnau Pen Llŷn. Bydd hon drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Howard Huws yn cyfieithu ar y pryd .
TREFN Y DYDD:
Rhwng 9.00 a 9.30 byddwn yn cofrestru yna bydd y darlithoedd fel â ganlyn:
9.30- 10.15: Gareth Pritchard : Ffynhonnau’r Fro
10.15- 11.00: Ken Davies: Ffynnon Fair, Llanrhos
11.0-11.30: Toriad am goffi
11.30 – 12.15: Elfed Gruffydd – Ffynhonnau Pen Llŷn
12.15- 1.00: Tristan Grey Hulse -Pererindodau at Ffynhonnau Sanctaidd yn yr Oesoedd Canol
1.00-2.00: Egwyl am ginio
2.00- 2.45 :Bill Jones- Ffynnon Elan, Dolwyddelan
2.45 – 3.30 : Jane Beckerman – Adfer Ffynnon Elian, Llanelian-yn-Rhos
3.30 –4.30: Trafodaeth am ddatblygiadau a chynlluniau i’r dyfodol.
Pris y gynhadledd fydd £10. Gweler y ffurflen atodol. Cysylltwch yn fuan.
Ar y Sul Medi 8fed byddwn yn ymweld â nifer o ffynhonnau yn yr ardal gan gynnwys Ffynnon y Santes Fair, Llanrhos, Ffynnon Drillo yn Llandrillo -yn-Rhos, Ffynnon Gelynnin a Gwynwy a Ffynnon Elian, Llanelian-yn -Rhos.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
LLWYDDIANT CYNHADLEDD LLANDUDNO
Y CRIW YN Y GYNHADLEDD
Ar ddydd Sadwrn Medi’r 7fed daeth tua thrideg o bobl frwdfrydig at ei gilydd i’r gynhadledd flynyddol. Roedd y cyfleusterau yn festri capel Seilo yn ardderchog a phobl wedi dod o’r Alban a Lloegr i wrando ar ddarlithoedd a rhannu profiadau. Siom ydoedd na allai Gareth Pritchard fod yno i draddodi ei ddarlith ar Ffynhonnau’r Gogarth ond drwy gymorth nodiadau manwl a lluniau a PowerPoint llwyddwyd i drosglwyddo’r wybodaeth. Yn dilyn cafwyd sgwrs gan Ken Davies ar Ffynnon Fair, Llanrhos ac yna darlith ddifyr iawn gan Elfed Gruffydd ar Ffynhonnau Llŷn. Yna dilynwyd gan Tristan Grey Hulse yn son am ffynhonnau a phererindodau. Yn y prynhawn cafwyd amlinelliad gan Bill Jones o’r gwaith ar Ffynnon Elan, Dolwyddelan. Siom i’r gynhadledd oedd deall fod y gwaith yn cael ei lesteirio am fod amharodrwydd ar ran teulu lleol i adael i bobl gerdded ar hyd llwybr cyhoeddus i’r ffynnon. Gwnaed deiseb yn y cyfarfod i geisio agor trafodaeth ar y mater yma. Yn olaf soniodd Jane Beckerman am y gwaith mawr o adfer Ffynnon Elian yn Llanelian yn Rhos. Cafwyd trafodaeth fywiog ar ddiwedd y gynhadledd a phenderfyniad i fynd ymlaen i geisio cael cyrff cyhoeddus dylanwadol i weld maint eu cyfrifoldeb tuag at y rhan hon o’n treftadaeth.
WRTH FFYNNON FAIR, LLANRHOS (SH795805)
Ar ddydd Sul, Medi’r 8fed ymwelwyd â Ffynnon Fair, Llanrhos yng nghwmni Ken Davies a daeth Gareth Pritchard i dynnu llun o’r criw a’i gyhoeddi yn Y Cymro.
Roedd yn wych fod Ken gyda ni gan mai ef, yn anad neb, a gadwodd y ffynnon hon rhag diflannu’n llwyr. Cafwyd adroddiad llawn o’i holl weithgarwch yn rhifyn 31 o Llygad y Ffynnon. Wedi casglu ger eglwys Llanrhos, sy wedi ei chysegru i Ilar Sant, cerddodd pawb heibio i’r tai ar ochr y ffordd fawr gyferbyn â’r eglwys a throi i’r dde. Rhaid oedd dilyn y llwybr troed heibio i fwy o dai ac yna ar draws tir agored tuag at y coed lle mae’r ffynnon. Ni fyddai wedi bod yn hawdd dod o hyd iddi heblaw bod Ken ein harwain ar hyd y llwybr a thrwy’r giât i’r goedwig. Gallem fod wedi dal i gerdded heibio iddi a heb edrych yn ôl a gweld y ffynnon mewn cilfach islaw’r llwybr. Gwelwch oddi wrth y llun isod fod baddon y ffynnon ar siâp U a’i phen i lawr a gwaith cerrig glân a thaclus o’i chwmpas yn mynd i mewn i’r llechwedd. Dros y ffynnon mae carreg enfawr a hyn yn ei chadw rhag diflannu o dan y tir uwch ei phen. Byddai wedi bod yn dristwch o’r mwyaf pe bai’r ffynnon hon heb ei glanhau a’i chadw i’r dyfodol. Diolch am wirfoddolwyr fel Ken Davies sy’n llwyddo i adfer ffynhonnau ac i haneswyr lleol fel Gareth Pritchard sy’n brysur yn cofnodi gwybodaeth am ffynhonnau ei filltir sgwâr. Diolch o galon i’r ddau ohonoch.
FFYNNON FAIR, LLANRHOS
Wedi’r ymweliad â Ffynnon Fair ymlaen a ni wedyn i Ffynnon Drillo ar lan y môr ger Rhos Fynach yn Llandrillo- yn- Rhos a gweld fod y lle yn dal i gael ei ddefnyddio fel man gweddi a myfyrdod. Adeilad bychan yw’r eglwys sy dros y ffynnon. Oddi allan mae’n mesur pymtheg troedfedd wth ddeuddeg ond oddi fewn mae’n mesur naw troedfedd wrth chwech. Pum troedfedd yw uchder y drws ac mae’n droedfedd a hanner o led. Mae’n bosib fod adeilad yma ers y chweched ganrif ond wrth reswm cafodd yr adeilad ei adnewyddu fwy nag unwaith ers y cyfnod cynnar hwnnw. Gwelir y ffynnon ym mhen dwyreiniol yr eglwys ac mae’n cronni mewn baddon tair troedfedd wrth ddwy. Mae tair o risiau yn arwain i lawr at y dŵr. Cynhelir offeren yn yr eglwys bob bore Gwener am wyth o’r gloch ac mae’r adeilad yn agored i’r cyhoedd o’r Pasg hyd ddiwedd yr haf.
Yn ddiweddar dechreuodd pobl adael gweddïau wedi eu hysgrifennu ar ddarnau o bapur yn yr eglwys. Gofynnant i Drillo Sant ddeisyf ar Dduw am iachâd, am gryfder i wynebu afiechyd a phrofedigaethau. Ceir gweddïau nid yn unig yn Saesneg ond mewn ieithoedd fel Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg a rhai yn y Gymraeg. Yn y man arbennig hwn cawn gipolwg ar y ffydd a fu mor bwysig i’n cyndadau ac ar werth y ffynhonnau sanctaidd i gynnal y werin mewn argyfwng a phrofedigaeth. Dyma yn wir berl mewn adfyd.
ODDI FEWN I FFYNNON DRILLO, LLANDRILLO-YN-RHOS (SH842812)
Teithio i fyny i Lanelian yn Rhos wedyn ac ymweld â’r eglwys hynafol a diddorol yno cyn cael cinio ardderchog yn y dafarn gerllaw iddi. Teithio ar draws gwlad ar ôl cinio i weld Ffynnon Gynfran ger eglwys Llysfaen. Roedd hon yn un anodd i ddod o hyd iddi gan ei bod i lawr o dan wrych o goed drain.
FYNNON GYNFRAN, LLYSFAEN (SH893775)
Yna uchafbwynt y dydd oedd cael ymweld â Ffynnon Elian ar dir Cefn Ffynnon, cartref Jane Beckerman, a gweld y gwaith adnewyddu. Bellach mae coedlan hyfryd o gempas y tarddiad a’r dŵr yn llifo i fowlen bwrpasol. Mae yna fainc ger y dŵr a lle i eistedd ac i fyfyrio. Dyma droi ffynnon oedd unwaith yn ffynnon sanctaidd ond a aeth yn ffynnon felltithio yn ôl i ffynnon gysegredig unwaith eto. Cysegrwyd y ffynnon fel na all y dŵr gael ei ddefnyddio byth eto i felltithio na gwneud drwg i neb.
FFYNNON ELIAN, LLANEILIAN-YN-RHOS (SH860769
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 35 Nadolig 2013
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc