Cyffordd Llandudno
HANES DWY FFYNNON Gareth Pritchard
(Gweler hefyd Llandudno - Ffynnon Marl)
Yng Nghyffordd Llandudno mae Ffynnon Marl, (SH 796 789) yng Nghoedwig Marl, nepell o Marl Hall. Os dymunwch deithio yno mewn car dewch oddi ar y ffordd sy’n cysylltu Llandudno 6 Chornel Glan Conwy (A470) yng nghylchfan Marl. Parciwch ar un o’r lonydd bychan oddi ar y ffordd yma a cherdded ychydig lathenni i gyfeiriad Llandudno Ar y dde fe welwch gynllun atal llifogydd— cerddwch dros yr ‘argae’ ac ymlaen ar hyd y llwybr am ryw ddau can llath fe ddowch at y ffynnon. Mae mewn dwy ran a dweud y gwir— gyda’r rhan uchaf mewn gwell cyflwr. Sylwch fod gwaith cerrig graenus o’i chwmpas.
Ers talwm byddai’r Parchedig Meirion Roberts, a fu’n weinidog ar Bethania, Craig y Don, am nifer o flynyddoedd, ac yn gredwr cryf mewn iachau drwy ffydd, yn defnyddio’r dŵr o’r ffynnon yma at bwrpas meddgol. Dywedir bod Robin Ddu, yn y drydedd ganrif ar ddeg, wedi proffwydo y byddai Marl Hall gerllaw yn llosgi deirgwaith! Ar ôl pob tan byddai coeden yn tyfu wrth y muriau, a phan fyddai’r goeden yn cyrraedd uchder to’r plasty, yn a byddai’r lle yn llosgi! Yn rhyfeddol, digwyddodd hyn ddwywaith, ond ar ôl clywed am y broffwydoliaeth, y trydydd tro, llifiwyd y goeden cyn cyrraedd y to, ac achubwyd yr adeilad.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNHONNAU DYFFRYN CONWY A’R GLANNAU
gan Gareth Pritchard(Mae Gareth wedi bod yn ymchwilio i hanes ffynhonnau Dyffryn Conwy a’r glannau ers peth amser ac mae erthyglau am y ffynhonnau yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur bro- Y Pentan. Piti na fase gan bob papur bro yng Nghymry ohebydd tebyg. Diolch iddo am y lluniau hefyd.)
FFYNNON HENDRE CREUDDYN
(SH809781)
Mae Ffynnon Hendre Creuddyn ar gyrion Cyffordd Llandudno, oddi ar Lôn Pabo, yng ngardd hen ffermdy sy’n dwyn yr enw, Deellir bod yr hen ffermdy yn dyddio’n ôl i 1750. Cafodd yr adeilad ei drawsnewid gan Vince ac Anwen Lloyd Hughes yn nechrau saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Mae’r perchnogion hefyd wedi adfer y ffynnon yn chwaethus iawn gyda gwaith cerrig graenus a tho o lechi gleision. Mae tshaen a lifar, gyda bwced, i godi’r dŵr o grombil y ddaear. Fel arfer, mae dyfnder y dŵr yn ddeunaw troedfedd. Credir bod yna ffynnon yn ogystal, ar un adeg, yn llawr cegin yr hen ffermdy, a bod y ddwy wedi eu cyplysu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc