Home Up

CYFARFOD Y  CYNGOR 2004

 Ond does golwg braf arnyn nhw! – Ken Lloyd Gruffydd,  Gwyn Edwards, Dewi Lewis, Emrys Evans, Howard Huws, Ann Williams, Jane Hughes .(Eirlys Gruffydd y tu ol i’r camera.) Bu’r cyfarfod yn festri Capel y porth, Porthmadog brynhawn dydd Gwyl Ddewi – ac mi ddaeth i fwrw glaw’n drwm yn union yr un fath a diwrnod ein cyfarfod blynyddol yn yr Eisteddfod yn Nhyddewi llynedd! Wel, pethau gwlyb yw ffynhonnau onid e.  Yn ystod y cyfarfod dymunodd y Cadeirydd, Dewi Lewis gael ei rhyddhau o’i swydd  ac etholwyd Howard Huws, fel  yr Is-gadeirydd i lenwi’r swydd. Diolch i Dewi am ei waith da a’i ymrwymiad i’r Gymdeithas ers 1996 a diolch i Howard am gymryd at y gwaith.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyngor 2006

PIGION O GYFARFOD Y CYNGOR – 19 Mawrth 2011

Cawsom gwmni ein Llywydd newydd, y Dr Robin Gwyndaf, yn y cyfarfod. Da oedd cael croesawi dau aelod newydd atom hefyd sef Miri Bill Jones a Dafydd Jones. Derbyniwyd ymateb sydyn, byr a chefnogol gan Archesgob Cymru, y Gwir Anrhydeddus Ddoctor Barry Morgan i’n cais am gymorth i ddiogelu ffynhonnau cysegredig sydd ar diroedd eglwysig. Cafwyd adroddiad byr gan Dennis Roberts yn dweud fod y gwaith o drosglwyddo ôl rhifynnau o Llygad y Ffynnon ar y we yn parhau.

Gan fod sawl

CYFARFOD CYNGOR Y GYMDEITHAS

Bydd y Cyngor yn cyfarfod yn festri Capel y Porth, Porthmadog am 2.00 ar brynhawn Sadwrn Mawrth 2ail. Bydd cofnodion Cyngor 2012 yn cyrraedd yr aelodau yn fuan.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 cwyn wedi ei dderbyn ynglŷn â chynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyn y ddarlith, penderfynwyd fel arbrawf eleni i’w gynnwys ar ôl yr anerchiad. Mae rhif yr aelodau yn aros o gwmpas y cant – cant a naw i fod yn fanwl. Yn ein Cyfrif Cyfredol mae £292.82 a £1866.43 yn y cyfrif Cadw.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

DYDDIADAU I’W COFIO

Cyfarfod y Cyngor yn festri Capel y Porth, Porthmadog, am 2.00 o’r gloch prynhawn Sadwrn Mawrth 24ain Darlith flynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg dydd Mawrth, Awst 7fed am 1.00 0’r gloch.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYFARFOD CYNGOR Y GYMDEITHAS

Bydd y Cyngor yn cyfarfod yn festri Capel y Porth, Porthmadog am 2.00 ar brynhawn Sadwrn Mawrth 2ail. Bydd cofnodion Cyngor 2012 yn cyrraedd yr aelodau yn fuan.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cyfarfod Cyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, 24.4.2018.

 

Cyfarfod Cyngor y Gymdeithas am 2:00 o’r gloch prynhawn dydd Mawrth y 24ain o Ebrill 2018

ym Mhlas Tan-y-bwlch.

 

COFNODION

Yn bresennol: Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd), Robin Gwyndaf (Llywydd), Howard Huws (Ysgrifennydd), Gwyn Edwards (Trysorydd), Dennis Roberts (Archwiliwr Mygedol).

 1. Croeso’r Cadeirydd.

Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd E. Gruffydd-Evans, gan ddatgan ei diolch i’r Plas am ddarparu’r ystafell.

 2. Ymddiheuriadau.

Derbyniwyd ymddiheuriadau Bill Jones a Rhys Mwyn.

 3. Cofnodion Cyfarfod Cyngor 2017, a materion yn codi.

Darllenwyd cofnodion Cyfarfod Cyngor 1.4.2017. Fe’u cafwyd yn gywir, ac fe’i derbyniwyd yn ffurfiol.

 Materion yn codi:

    a) Cadarnhau penodi Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd.

         Cadarnhawyd hynny.

  b) Gyrru copi electronig o fynegai ffynhonnau sanctaidd Dyfed at y Cadeirydd.

            Cadarnhawyd fod yr Ysgrifennydd wedi’i gyrru at y Cadeirydd.

   c)Dogfennau’r Gymdeithas.

            Clywyd eu bod eto gan y Cadeirydd, er iddi gysylltu â’r Llyfrgell Genedlaethol, ac i hwythau addo  cysylltu’n ôl     â hi. Ni fu modd iddi fynd â nhw i Aberystwyth ei hun yn ddiweddar, oherwydd anhwylder.

         Awgrymodd y Llywydd y gallai’r Cadeirydd roi’r papurau mewn blychau, ac y byddai yntau’n mynd â nhw i Aberystwyth. Cytunwyd i hynny.

  ch) Hysbysu Gwasg y Lolfa ynghylch manylion cywir y Gymdeithas, ar gyfer ei dyddiadur blynyddol.

          Yr Ysgrifennydd wedi’i hysbysu.

     d) Rhoi’r mynegai i gynnwys ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon” ar y wefan ac ar ddisg. Clywyd nad yw’r Ysgrifennydd eto wedi cwblhau’r gwaith hwn, ond y bwriada wneud hynny’n fuan.

         Derbyniwyd hynny.

   dd) Hyrwyddo derbyn fersiwn electronig o “Llygad y Ffynnon” gan aelodau’r Gymdeithas.

    Clywyd fod yr Archwiliwr Mygedol, y Trysorydd a’r Ysgrifennydd, rhyngddynt, wedi llwyddo i gynyddu’n sylweddol nifer y rhai sy’n derbyn y fersiwn electronig yn hytrach neu’n ogystal â’r un papur.

     e) Cysylltu â’r aelodau hynny oedd heb dalu’r tâl aelodaeth, a diwygio’r rhestr aelodaeth.

          Clywyd fod y Trysorydd a’r Archwiliwr Mygedol wedi diwygio’r rhestr yn drwyadl, a bod llawer o’r rhai fu’n ddyledwyr yn awr wedi talu eu tâl aelodaeth o ganlyniad i’w hatgoffa.

      f) Gofyn i Rhys Mwyn ymuno â’r Pwyllgor.

          Gwnaed hynny gan yr Ysgrifennydd, a bu iddo gytuno i ymuno.

 4. Diogelu Data Cyffredinol.   

Clywyd fod dogfen wedi’i chyhoeddi gan y Llywodraeth yn rhoi canllawiau i gymdeithasau ynghylch y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sydd ar ddod i rym. Rhaid i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, fel pob cymdeithas arall sy’n dal data personol ei haelodau, ufuddhau i’r Rheoliad.

 Clywyd fod y swyddogion eisoes yn dilyn yr arferion a argymhellir gan y Rheoliad, a bod yr Archwiliwr Mygedol wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd i’w osod yn “Llygad yn Ffynnon” yn rheolaidd. Rhaid i’r  swyddogion fod yn ymwybodol y gall pobl ofyn am ddiddymu manylion personol a ddelir ar gyfrifiadur.

Yn ôl y Rheoliad, rhaid rhoi gwybod i bobl sut yr ydym am ddelio efo “ceisiadau cyrchiad pwnc”. Cynigiwyd a derbyniwyd y dylai’r Trysorydd ddelio â cheisiadau o’r fath.

 Parthed y ffurflen ymaelodi, gellir ychwanegu ati ffurf ar eiriad yn galluogi aelodau i ganiatáu cadw gwybodaeth ar y rhestr aelodaeth, ac yn rhoi gwybod iddynt ymhle y gallant gael gwybodaeth am eu hawliau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Dywedodd yr Archwiliwr Mygedol y gallai argraffu geiriau i’r perwyl hwnnw ar y ffurflenni aelodaeth presennol. Cytunwyd y dylai’r Ysgrifennydd ac yntau drafod hynny. Gofynnodd y Llywydd am yrru 30 copi o’r ffurflen ymaelodi ddiwygiedig ato, iddo eu dosbarthu yn ôl y cyfle.

 Cofnodir trwy hyn fod pwnc dyletswyddau swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol wedi’i drafod gennym. Diolchwyd i’r Archwiliwr Mygedol am wneud cymaint o waith ar fyr rybudd er mwyn egluro’r pwnc cymhleth hwn i’w gyd-swyddogion.

 Ar gyfer argraffiad nesaf y ffurflen ymaelodi, cytunwyd y dylid cynnwys arni gyfeiriad gwefan y Gymdeithas, a manylion sut mae cyfrannu rhodd ariannol iddi.

 5. Adroddiad yr Ysgrifennydd \ Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Clywyd fod rhifyn diwethaf “Llygad y Ffynnon” (Nadolig 2017) wedi’i gyhoeddi’n rhwydd, gan ddefnyddio’r argraffwyr blaenorol ym Mwcle, sydd yn rhatach ac yn hwylusach na’r wasg ym Mangor a ddefnyddiwyd ar gyfer rhifyn Haf 2017. Trowyd y fersiwn “Word” electronig yn fersiwn “.pdf” gan yr Archwiliwr Mygedol, ac fe’i gyrrwyd at bawb sy’n ei ddymuno. Mae 26 o 84 aelod y Gymdeithas yn derbyn y fersiwn electronig, bellach. Awgrymwyd y dylid cynnwys ym mhob rhifyn y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau i’r rhifyn dilynol. Byddai’n dda cael adolygiad o lyfr J. Beckerman ar Ffynnon Elian yn y rhifyn nesaf: y Golygydd i ofyn i Tristan Grey Hulse am un. Bydd angen i gyfraniadau at rifyn Haf 2018 gyrraedd y Golygydd erbyn diwedd mis Mai.

 6. Adroddiad y Trysorydd.

Cyflwynodd y Trysorydd adroddiad hyd at y 5ed o Fawrth 2018. Y mae’r sefyllfa’n well nag y bu’r llynedd, gyda £142 yn fwy yn y coffrau, yn rhannol oherwydd ei waith yn cysylltu ag aelodau oedd heb ailymaelodi. Bu i ychydig beidio ag ailymaelodi oherwydd eu bod yn heneiddio, a’u  golwg yn pallu, ond yn gyffredinol bu ymateb da, gyda rhai yn ychwanegu rhoddion ariannol. Diolchwyd i’r Trysorydd a’r Archwiliwr Mygedol am eu gwaith manwl a thrafferthus gyda hyn.

 Mae derbyn £479 o arian aelodaeth yn ffafriol o gymharu â blynyddoedd diweddar; anelir at ragor eleni. Mae 84 o aelodau ar hyn o bryd, 39 yn rhai am oes; 24 yn talu trwy archeb banc (codiad sylweddol), a 21 yn talu’n flynyddol. Penderfynwyd, onid yw aelod wedi talu erbyn y 1af o Hydref, yna y dylid gyrru llythyr atgoffa ato neu ati, gan ddatgan mai dull y Gymdeithas o dalu yw trwy’r banc, onid oes rheswm penodol pam na ellir hynny.

 Awgrymodd y Llywydd y dylid cynnwys yn “Llygad y Ffynnon” apêl garedig am gyfraniad ariannol gan y rhai sy’n derbyn copi papur, gan fod costau postio ac argraffu yn cynyddu. Awgrymodd y Trysorydd y dylid rhoi’r arian at brosiect penodol, sef cyhoeddi llyfr y Cadeirydd ynghylch  ffynhonnau de Cymru, nas cyhoeddwyd hyd yn hyn. Awgrymodd y Llywydd y dylai’r Cadeirydd a’r Ysgrifennydd ar y cyd fod yn gyfrifol am baratoi’r gwaith, ac y byddai yntau yn fodlon cynorthwyo gyda gwybodaeth o gasgliadau’r Amgueddfa Werin. Gallai hwn fod yn gynllun tair blynedd, gyda’r Gymdeithas yn cyhoeddi. Gellir cyhoeddi fersiwn electronig am y nesaf peth i ddim arian.

 7. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol:

·                  Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Orffennaf yr 21ain ym Mhlas Tan-y-bwlch. Mae angen trefnu’r cyfarfod flwyddyn o flaen llaw, ac awgrym y Llywydd oedd bod angen denu pobl yno trwy hysbysrwydd o flaen llaw.

 

·                  Cyfarfod y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, ddydd Mawrth y 7fed o Awst 2018. Mae ystafell wedi’i harchebu gan yr Ysgrifennydd, a thalwyd amdani. Bydd y Llywydd yn traddodi ynghylch “Ffynhonnau Caerdydd”; cyhoeddwyd crynodeb yn “Y Dinesydd” eisoes. Ymddiheurodd y Llywydd am gynllunio geiriad y dystysgrif ddiolch i Thelma a Barry Webb heb ymgynghori â’r Gymdeithas, ond roedd angen brys er mwyn ei chwblhau mewn pryd. Mae’r Llywydd am dalu i Tegwyn Jones, Bow Street, am y llythrennu, ond awgrymodd y gallai’r Gymdeithas, efallai, gyfrannu at hanner pris y fframio. Cytunwyd i hynny.

 Yr Ysgrifennydd i  gyfieithu ar y pryd os daw Thelma a Barry i’r cyfarfod anrhydeddu yn yr Eisteddfod. Ar gynnig y Llywydd, cytunwyd i anfon tocyn o ffurflenni ymaelodi ac ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon” iddo, i’w rhoi yn lle’r Amgueddfa Werin yn “Lle Hanes” yr Eisteddfod eleni.

 ·                  Cyfarfod y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 2019

Awgrymodd y Llywydd y dylai’r Gymdeithas anelu at ymbresenoli yn y “Lle Hanes” yn Eisteddfod 2019, gan y bydd nifer dda o’r aelodau yno. Dywedodd y Cadeirydd y byddai angen i rywun fod yno’n barhaus, ac na cheir yno ddim ond darn o fwrdd a’r wal y tu cefn.

Yn siaradwr posibl yn y cyfarfod yn yr Eisteddfod, awgrymwyd Gareth Pritchard, sydd yn byw yn Rhiwledyn, Llandudno: y Cadeirydd i ofyn iddo, daw ateb erbyn Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas yng Ngorffennaf. Yn enwau eraill awgrymwyd Janet Bord neu Angharad Wynne, sydd yn wybodus, ac yn byw ger Llantrisant. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2020 yng Ngheredigion.

 ·                  Ethol rhagor o aelodau Cyngor.

Gan fod nifer aelodau’r Cyngor yn prinhau, awgrymwyd y canlynol yn rhai y gellid gofyn iddynt a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn dod yn aelodau ohono:

Janet Bord; Elfed Gruffydd;  Anne Owen; Bleddyn Jones Swyddog AHNE Llŷn; Einion Tomos, Archifydd Prifysgol Bangor; Steffan ab Owain; Hedd Ladd-Lewis; Cynan Jones, Beddgelert; Tecwyn Vaughan Jones; Dafydd Whiteside Thomas, Llanrug, ac Angharad Wynne, Llantrisant. Cytunodd y Trysorydd i ofyn i Angharad Wynne. Penderfynwyd cysylltu â’r unigolion hyn, gan eu cael yn aelodau o’r Gymdeithas yn gyntaf, onid ydynt eisoes. 

 ·                  Ystyried penodi Swyddog Cyhoeddusrwydd.

Tybiai’r Llywydd bod angen un, ond bod rhaid cael rhywun sydd ar gael i wneud y gwaith. Dywedodd fod angen rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i’r Gymdeithas, a rhannu baich yr Ysgrifennydd / Golygydd “Llygad y Ffynnon”. Gan y byddai’n swydd wirfoddol, byddai’n rhaid cael rhywun sydd â chariad at ffynhonnau, yn ogystal ag amser, egni ac ymroddiad. Os gellir cael rhagor o aelodau, efallai y gellir cael hyd i rywun yn eu plith.

 Penderfynwyd ailgyhoeddi’r alwad am Swyddog Cyhoeddusrwydd a ymddangosodd yn rhifyn diwethaf “Llygad y Ffynnon”.

8. Unrhyw fater arall.

 ·                  Dywedodd y Llwydd fod sawl cymdeithas bellach yn cynnal cyfarfodydd ffôn, neu Skype. Pan fo angen trafod materion penodol, pendant, er enghraifft, ac er mwyn arbed costau teithio. Nid yw’r dechnoleg ddim yn broblem.

               Penderfynwyd ystyried yr awgrym.

 ·                  Dyddiad y cyfarfod Cyngor nesaf: penderfynwyd gadael y pwnc tan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.

 

·                  Cyfarfod Cadwch Cymru’n Daclus ym Mhlas Glyn-y-weddw yn Nhachwedd 2017. Dywedodd y Trysorydd y bu’n gyfarfod buddiol, a fu yno ac mewn cysylltiad â’r trefnydd, Angharad Wyn. Ym mis Mawrth eleni anfonwyd at Cadwch Cymru’n Daclus adroddiadau o’r tri chyfarfod a gynhaliwyd yn Llŷn, Brycheiniog a Sir Benfro, gan argymell adfer 20 o ffynhonnau, cael cynllun codi ymwybyddiaeth leol, a phobl i’w gwarchod a’u cynnal.

Yr ydys yn aros am adborth gan Cadwch Cymru’n Daclus. Mae angen gwaith cyllido i baratoi cais i’w roi gerbron Cronfa’r Loteri.

 ·                  Wrth i’r Llywydd gyflwyno i Richard Segget o’r Comisiwn Henebion, arbenigwr ar dai cynnar, gopi o ail argraffiad ei gyfrol ynghylch Hedd Wyn, darfu iddo sôn wrth y Comisiwn y byddai’n dda iddynt roi ar eu hagenda gynnal arolwg safonol o ffynhonnau gan ddefnyddio’r holl wybodaeth sydd ar gael ac wedi’i chrynhoi. Nid yw’r pwnc yn cael ei ystyried gan y Comisiwn ar hyn o bryd, felly dylai’r Gymdeithas ysgrifennu atynt. Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ysgrifennu atynt flynyddoedd yn ôl, ond mai’r ateb oedd bod angen i ffynnon fod â nodweddion neilltuol yn y gellid ei chofrestru a’i gwarchod. Penderfynwyd ailysgrifennu at y Comisiwn.

 ·                  Awgrymodd yr Archwiliwr Mygedol y dylid cael gofod yn “Llygad y Ffynnon”  ar gyfer yr aelodau. Byddai yn cynnwys materion megis yr isod:

1.                Pwy yw’r swyddogion, gyda lluniau ohonynt.

2.                Cofnodion y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor

3.                Hysbysiad Preifatrwydd o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

4.                Hysbysebion y Gymdeithas

5.                Gwybodaeth am y wefan, Cryno ddisg “Llygad y Ffynnon”  ayb

Derbyniwyd yr awgrym.

 Gan nad oedd dim rhagor i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 16:15 o’r gloch.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 44 Haf 2018

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up