Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Canolfan
Tan-y-bwlch, Maentwrog, 21.7.2018.
COFNODION.
Yn bresennol: Eirlys Evans-Gruffydd (Cadeirydd),
Robin Gwyndaf (Llywydd Anrhydeddus),
Howard Huws (Ysgrifennydd), Gwyn Edwards
(Trysorydd), Dennis Roberts (Archwiliwr Mygedol), Elizabeth Rees, Anne Owen.
1. Croeso’r
Cadeirydd.
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
2. Ymddiheuriadau.
Anne Williams.
3. Cofnodion
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2017, a materion yn codi.
Darllenwyd cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
blaenorol, ac fe’u cafwyd yn gywir.
Materion yn codi:
a). Adolygu’r rhestr aelodaeth.
Barn y Llywydd oedd bod angen cael yr aelodau i weithredu. Mae derbyn a
darllen “Llygad y Ffynnon” yn gymeradwy, ond mae angen cynnig rhagor. Cafwyd
Cyfarfod Cyffredinol llwyddiannus ddwy flynedd yn ôl, yng Nghlynnog Fawr, pan
ddaeth llawer ynghyd, ac efallai y bu’r lleoliad o gymorth, gan fod yn fwy
hwylus i drwch yr aelodau, a bod pobl wedi arfer dod yno i gyfarfodydd o’r
fath. Roeddem hefyd yn ennill aelodau
newydd pan gynhelid y Cyfarfod Cyffredinol adeg yr Eisteddfod Genedlaethol: ond
gwell fyddai peidio â chyfuno’r ddau achlysur.
Tynnodd y Llywydd sylw at sut y mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru’n anfon
rhaglen flynyddol at aelodau, yn nodi pa weithgareddau a gynhelir, ymhle, a sut
ddarpariaeth fydd ar eu cyfer: mae’n fath o wahoddiad personol i ymuno yn y
gweithgareddau hynny.
b). Archifau’r Gymdeithas.
Y mae’r archifau i’w trosglwyddo gan y Cadeirydd i’r Llywydd heddiw ar
gyfer eu cludo i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o ddeunydd ynddynt i
gynnal arddangosfa neu ysgrifennu traethawd doethuriaeth.
c). Mynegai cynnwys “Llygad y Ffynnon” rhifynnau
1-41.
Mae’r Ysgrifennydd wedi cyfieithu a chywiro’r mynegai electronig a
luniwyd gan Ian Taylor, a’r Archwiliwr yn awr yn ceisio ei ddwyn i drefn ar
gyfer ei lanlwytho i wefan y Gymdeithas a’i roi ar gryno-ddisg. Canmolwyd y
sawl fu wrth y gwaith, yn enwedig Ian Taylor.
Penderfynwyd
anfon o’r cyfarfod i ddiolch i Ian Taylor.
Penderfynwyd gyrru copi o’r cryno-ddisg i’r Llyfrgell Genedlaethol, a thynnu sylw
ato yn “Llygad y Ffynnon”.
Penderfynwyd rhoi gwybod amdano i ddarllenwyr “Y Casglwr”, “Llafar Gwlad” a “Fferm
a Thyddyn”, hefyd.
Awgrymodd yr Archwiliwr y dylid cyfieithu gwybodaeth am un ffynnon ar y tro
o wefan “Well Hopper”, hefyd, a’i chynnwys yn fersiwn digidol “Llygad y
Ffynnon”, onid yr un papur hefyd. Byddai’n rhaid gofyn caniatâd “Well
Hopper”, wrth gwrs.
ch). Ffurflen archeb banc y Gymdeithas.
Clywyd fod ceisio trefnu i aelodau sefydlu archebion banc, a chael y banciau
i ufuddhau iddynt, yn waith parhaus. Llwyddwyd i gael rhagor o bobl i dalu’r
tâl aelodaeth archeb banc, ond er i’r banciau’n derbyn ffurflenni, mae rhai
mwy effeithlon na’i gilydd wrth eu prosesu. Nifer fechan o archebion sy’n
peri trafferth, ond y mae angen mynd
ar eu holau nhw eto. Y drefn fwyaf effeithiol yw i’r aelodau eu hunain
gysylltu â’u banc gan roi cyfarwyddyd i’r banc weithredu, ac yna rhoi
gwybod i’r Gymdeithas. Bydd y fantolen nesaf yn dangos pwy’n union y mae
problem â nhw oherwydd nad yw’r banc wedi gweithredu. Mae’r broblem waethaf
lle nad oes modd i aelodau fynd i’w cangen leol i drafod y mater, ac nid yw
bod rhai banciau wedi cau canghennau lleol, ac eraill heb swyddfeydd canghennol
(y Co-op, er enghraifft) o gymorth.
d.) Taflen aelodaeth y Gymdeithas.
Mae’r daflen wedi’i chynhyrchu, a chymal Diogeledd Data Personol wedi’i
gynnwys.
dd.) Disgrifiad o gynnwys cist wybodaeth Barry a
Thelma Webb.
Mae gwaith rhestru cynnwys archifau Barry a Thelma Webb yn mynd rhagddo, gan
gymaint o ddeunydd sydd yn y casgliad. Mae Barry a Thelma yn gobeithio y medrant
ddod i’r cyfarfod yn yr Eisteddfod, lle cânt eu hanrhydeddu gan y Gymdeithas.
Y mae’r Llywydd am wneud y trefniadau angenrheidiol, ac wedi archebu rhodd ar
eu cyfer. Bydd yr Ysgrifennydd yn cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfod.
Gofynnodd Ysgrifennydd i’r Llywydd am grynodeb neu gopi o’r anerchiad
ynghylch “Ffynhonnau Caerdydd” y bwriedir iddo’i draddodi yng nghyfarfod y
Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar gyfer “Llygad y Ffynnon”.
Awgrym yr Archwiliwr oedd y dylai rhywun dynnu lluniau o’r cyfarfod yng
Nghaerdydd ar gyfer rhifyn nesaf y newyddlen.
Mae’r Llywydd hefyd wedi sicrhau casgliad Dafydd Guto Ifan o wybodaeth am
lynnoedd, ogofeydd a ffynhonnau Cymru ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru.
4. Cofnodion
Cyfarfod Pwyllgor y Gymdeithas, 24.4.18 yn Nhan-y-bwlch, a materion yn codi.
a).
Cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Gwnaed ymdrech deg i gydymffurfio â gofynion y Rheoliad trwy gymryd camre
pendant i gysylltu ag aelodau, rhoi gwybod iddynt eu hawliau, a gwahodd eu
hymateb. Ychydig llai na hanner yr aelodau sydd wedi ymateb, ond byddys yn
dyfalbarhau, ac yn cysylltu â’r holl aelodau fel arfer yn y cyfamser.
Yn achos unrhyw gais gan yr awdurdodau, er mor annhebygol hynny, gellir profi
bod swyddogion y Gymdeithas wedi cyflawni eu dyletswydd yn y maes hwn. Diolchwyd
i Dennis Roberts am ei waith.
b).
Paratoi a chyhoeddi cyfrol ynghylch ffynhonnau de Cymru.
Clywyd fod y Cadeirydd wedi cofnodi ffynhonnau Mynwy, a bod rhai Sir
Gaerfyrddin a Sir Penfro (yn ogystal â Cheredigion) wedi’u cofnodi gan
Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Gedy hynny Forgannwg yn unig. Awgrymodd y
Llywydd y dylid cael llungopïau o
ddeunydd perthnasol yn archif y Gymdeithas cyn ei yrru i’r Llyfrgell
Genedlaethol, neu drefnu i’w lungopïo yno. Mae amser y Cadeirydd yn brin, ond
nid oes dim pwysau arni o du’r Gymdeithas Ffynhonnau, a bydd y Gymdeithas yn
rhoi pob cefnogaeth iddi.
c).
Cyfarfod y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, a sicrhau
cyflenwad o ffurflenni ymaelodi ar gyfer y “Lle Hanes”.
Trefnwyd argraffu cyflenwad digonol o ffurflenni, a gosod hysbysiad Diogelu
Data Personol arnynt.
Penderfynwyd nad yw’r Gymdeithas yn talu am le yn y Lle Hanes eleni, felly ni fydd
bwrdd penodol yno ar gyfer y Gymdeithas: ond gellid rhoi ôl-rifynnau “Llygad
y Ffynnon” ar fyrddau cymdeithasau eraill yno. Pris cael bwrdd yn y Lle Hanes
yw £220 eleni. Gan y byddai hynny’n dwyn y Gymdeithas i sylw rhagor o aelodau
dichonol, ac na fyddai angen ond 10 aelod newydd er mwyn adennill costau’r
Ffi, penderfynwyd rhoi ar raglen y cyfarfod Pwyllgor nesaf fod y Gymdeithas yn
gwneud cais am fwrdd yn y Lle Hanes yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy
(Llanrwst) 2019.
ch). Ymbresenoli
yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Penderfynwyd ymbresenoli, a chael Gareth Pritchard i gyflwyno anerchiad yno.
Yr Ysgrifennydd i wahodd Gareth Wyn Pritchard, Llandudno.
d).
Cysylltu ag unigolion gan ofyn iddynt a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn
dod yn aelodau o Gyngor y Gymdeithas.
Wedi tynnu’r rhestr, mynegodd Anne Owen ei bod yn anfodlon, oherwydd nad
yw’n teimlo bod ganddi mo’r doniau angenrheidiol. Cafwyd sêl bendith y
Cyfarfod i alluogi’r Ysgrifennydd i gysylltu â’r gweddill ar y rhestr.
Penderfynwyd y gellir gweithredu penderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith heb sêl bendith y
Cyfarfod Cyffredinol dilynol, o hyn ymlaen.
Penderfynwyd
cynnwys Jane Beckermann, Llanelian-yn-Rhos, ar y rhestr.
dd). Ailgyhoeddi’r
alwad am Swyddog Cyhoeddusrwydd yn “Llygad y Ffynnon”.
Gwnaed hynny, ond ni chafwyd ymateb. Dywedodd y Llywydd y byddai’n cael
gair â rhai pobl y mae’n eu hadnabod. Y mae’n bosibl y gallai rhai o blith
yr enwau ar y rhestr aelodau pwyllgor newydd dichonol gynorthwyo, os derbyniant
y cynnig.
e).
Ailysgrifennu at y Comisiwn Henebion ynghylch cynnal arolwg safonol o
ffynhonnau.
Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd fwrw ymlaen â hynny.
f).
Cynnwys manylion ychwanegol yn “Llygad y Ffynnon”.
Gwnaed
hynny.
5. Adroddiad
yr Ysgrifennydd.
Gweithredwyd pob penderfyniad, a bydd medru gweithredu penderfyniadau’r
Pwyllgor Gwaith heb ymgynghori â’r Cyfarfod Cyffredinol dilynol o gymorth
gyda’r gwaith.
6. Adroddiad
y Trysorydd.
Yn dilyn ymgyrch adnewyddu aelodaeth yn yr hydref, nid yw’r sefyllfa
ariannol ddim gwaeth nag y bu flwyddyn yn ôl. Mae angen cael trefn efo’r talu
trwy’r banc, i gael pawb i dalu ar yr un pryd. Diolchodd y Trysorydd i’r
Archwiliwr a’r Ysgrifennydd am eu cymorth mawr.
Gan fod y Llywydd eisoes wedi talu £50 o’i boced ei hun i Tegwyn Jones,
Bow Street, am waith llythrennu’r dystysgrif a gyflwynir i Barry a Thelma
Webb, cytunwyd y dylai’r Gymdeithas dalu am fframio’r dystysgrif.
Penderfynwyd talu £47 am y gwaith hwnnw.
7. Adroddiad
yr Archwiliwr Mygedol.
Clywyd
fod y cyfrifon yn gywir ac mewn trefn.
8. Adroddiad
Golygydd “Llygad y Ffynnon”.
Dywedodd y Golygydd yr hiraethai am gael cynnwys rhagor o dudalennau yn y
fersiwn papur, ond y derbynia bod yr arian ar gyfer hynny’n brin. Galwodd am
ragor o gyfraniadau i’r “Llygad” gan yr aelodau, er mwyn helaethu
amrywiaeth y cynnwys.
9. Cynlluniau
ar gyfer y dyfodol.
Bu’r gynhadledd a gynhaliwyd yn Llandudno yn llwyddiannus iawn, ond yn
waith mawr. Os ceir rhagor o aelodau pwyllgor, efallai y byddent yn barod i
drefnu achlysur cyffelyb. Os felly, dywedodd y Llywydd, byddai angen trefnu
rhaglen gynhwysfawr, taith o amgylch ffynhonnau lleol, cinio, cylchlythyr i’r
holl bapurau bro, a gwahoddiad ysgrifenedig i’r aelodau ac eraill ledled Cymru
ddigon o flaen llaw.
Penderfynwyd ceisio trefnu cynhadledd yn ardal yr Wyddgrug ar ddydd Sadwrn yr 20fed
o Orffennaf 2019, er cof am Ken Gruffydd. Gellid ei chynnal mewn festri capel
lleol, er enghraifft, gydag ymweliad â ffynhonnau lleol i ddilyn. Neilltuid
rhan gyntaf y gynhadledd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas. Y
Cadeirydd i ymholi am fan cyfarfod addas yn ardal yr Wyddgrug, a’r aelodau
eraill i’w chynorthwyo gyda’r trefniadau.
10. Unrhyw
fater arall.
Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod i draddodi cyflwyniad ynghylch “Ffynhonnau
Sanctaidd Cymru” gerbron Cymdeithas Hanes y Tair Llan, Melin Wnda ym mis
Mawrth 2019. Bydd yn achub y cyfle i dynnu sylw at weithgareddau’r Gymdeithas
ac i rannu taflenni ymaelodi.
Gan nad oedd dim rhagor i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 12:05 o’r gloch.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 45 Nadolig 2018
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Cyfarfod
Rhithiol “Zoom” Ar-lein am 10:30 o’r gloch 18.7.2020.
COFNODION
Yn bresennol: Eirlys Gruffydd-Evans (Cad.), Howard Huws (Ysg.) Gwyn Edwards
(Trys.)
Dennis Roberts (Archwiliwr), Mike Farnworth, Dafydd Whiteside Thomas, Anne
E. Williams.
1.
Croeso’r Cadeirydd.
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
2.
Ymddiheuriadau. Robin Gwyndaf (Llywydd), Ian Taylor, Ann Owen.
3.
Cofnodion. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2019, a materion yn codi.
a). Cryno-ddisg mynegai “Llygad y Ffynnon”.
Adroddodd Dennis Roberts fod y gwaith yn mynd ymlaen. Ceisir cael y drafft
cyntaf yn fuan, a’i ddiwygio wedyn. Dennis a Howard i drefnu hyn.
b).
Gyrru fersiwn terfynol o erthygl “Ffynhonnau Caerdydd” at olygydd
“Llygad y Ffynnon”.
Robin wedi gwneud hyn.
c). Cyhoeddi cyfrol ynghylch ffynhonnau Morgannwg.
Dywedodd Eirlys fod
angen cyfrol ar siroedd
y de i gyd-fynd â’r ddwy arall. Nid yw wedi medru
gwneud hynny oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, a llawer o waith bugeiliol
i’r Eglwys. Bydd rhaid bwrw ymlaen â’r gwaith fesul dipyn.
ch). Yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae sgwrs a
sleidiau wedi’u paratoi gan Mike ar bwnc “Ffynhonnau Ceredigion” gyfer y
cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod yn Nhregaron
2021. Roedd Mike wedi siarad â’r technolegydd adeg cyfarfod Eisteddfod
Llanrwst 2019, er mwyn ymgyfarwyddo â’r offer cyflwyno. Dywedodd yr
Ysgrifennydd ei bod yn bosibl y ceir gwell amser ar gyfer y cyfarfod na 5:00
o’r gloch y pnawn; pe ceid, byddai Mike yn fodlon â hynny.
4.
Adroddiad yr Ysgrifennydd.
Blwyddyn ddistaw, nid yn lleiaf oherwydd cyfyngiadau’r firws corona.
Golyga hyn:
Na fu modd teithio er mwyn ymweld â safleoedd o ddiddordeb;
Na chynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni;
Nad yw cyrff fel cynghorau lleol, cyrff statudol a gwirfoddol yn gwbl
weithredol, felly nid oes modd gofyn iddynt weithredu ynghylch unrhyw bwnc
neilltuol cysylltiedig â ffynhonnau;
Na fu modd cynnal y cyfarfod blynyddol hwn yn ei ffurf arferol.
Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus yn Eisteddfod
Genedlaethol Llanrwst y llynedd, pryd y cafwyd cyflwyniad ardderchog gan Gareth
Pritchard, Llandudno ar destun “Ffynhonnau’r Gogarth”. Llawer o ddiolch
iddo am rannu’r fath wybodaeth ddiddorol â chynifer ohonom.
Tynnodd Howard sylw’r aelodau ato yw’r
rheidrwydd i’r gymdeithas gynnig rhagor o weithgareddau i’n haelodau. Hynny
yw, rhywbeth iddynt ei wneud, amgen na derbyn dwy newyddlen.
Siaradodd Mike o blaid posibilrwydd cynnal
cyfarfodydd “Zoom” a chynnal gwibdeithiau o gwmpas ffynhonnau. Byddai modd
hyrwyddo’r Gymdeithas thrwy wefan “Say Something in Welsh!”, a rhoi
erthygl yn “Yr Angor”, papur bro Lerpwl. Gallid cynnal gwibdeithiau yn
unrhyw le: crybwyllwyd Bangor, y gogledd-ddwyrain, a Dyffryn Conwy, er
enghraifft.
Dywedodd Dafydd fod Gareth Roberts, Menter Fachwen,
wedi ymchwilio llawer i
Ffynnon Cegin Arthur, Llanddeiniolen, a bod y ffynnon honno’n eithaf
hawdd ei chyrraedd.
Dywedodd Gwyn fod hynny’n syniad da iawn. Mae sawl
cymdeithas hanesyddol a llenyddol y byddai o fudd inni gysylltu â nhw, a’u
hysbysu pan fwriadwn gynnal taith, gan osod hysbyseb yn y papur bro lleol hefyd:
byddai’n gyhoeddusrwydd, a gallai ddenu aelodau newydd a meithrin
ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas. Tueddwn i wneud popeth yn y gogledd oherwydd
rhesymau ymarferol, ond dylid canfod modd cynnal gweithgareddau yn y gorllewin
a’r de hefyd, a chael pobl i arwain teithiau ym mannau eraill yng Nghymru.
Yng nghyffiniau Tregaron, er enghraifft (ardal yr Eisteddfod genedlaethol
nesaf), ceir Ffynnon Gybi, Ffynnon Garon, a ffynnon Ystrad Fflur. Pe gyrrid
gwybodaeth i bapurau bro ar ffurf llythyr at y golygydd, gellid osgoi gorfod
talu am osod hysbyseb.
Penderfynwyd cynnal gwibdaith yn ystod wythnos yr
Eisteddfod Genedlaethol nesaf, gan roi cyhoeddusrwydd iddi yn ystod sgwrs Mike
ar ddydd Mawrth yr ŵyl.
O dan y cyfyngiadau presennol nid oes modd trefnu
dim i sicrwydd, ond yn y cyfamser gellir traddodi darlithoedd dros y we. Mae
Mike wedi gwneud hyn sawl gwaith yn barod, yn Saesneg, gyda 400 o wylwyr yn
edrych ar ei ddarlith ddiwethaf. ’Does dim problem
gwneud hyn. Cytunodd Dennis fod modd gwneud darlith neu bytiau byrion ar
YouTube. Gellid adeiladu stôr o gyflwyniadau ar wahanol ffynhonnau unigol, fel
na fyddai angen mynd i’r ffynhonnau eu hunain, o dan y cyfyngiadau.
5.
Adroddiad y Trysorydd.
Rhoddwyd y cyfrifon diweddaraf ar y sgrin, fel y
gallai pawb eu gweld. Diolchodd Gwyn i Dennis am ei gymorth.
Yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-19 aeth tri
thaliad allan am argraffu a dosbarthu “Llygad y Ffynnon”, felly ’roedd
arian y cyfrif cyfredol wedi crebachu. Mae costau’r rhifyn diweddaraf (48) yn
cael eu talu yn y mis hwn (Gorffennaf), a’r gweddill fydd £322.25c, sef
cynnydd o ryw £32 ar y llynedd: felly mae maint yr arian yn y cyfrif fwy neu
lai’n sefydlog.
Aeth llythyr allan yn hydref 2019 i rai nad oeddent
wedi adnewyddu eu haelodaeth, ac o ganlyniad daeth £110 i mewn cyn y Nadolig:
felly mae’n werth atgoffa pobl sydd heb dalu, cyn i rifyn Nadolig y Llygad
fynd allan. Mae’r Gymdeithas yn sefyll yn ei hunfan o ran aelodaeth, a’r
cyfrifon yn adlewyrchu hynny.
Diolchodd Eirlys i Gwyn am ei waith, a mynegodd ei
chydymdeimlad ag o yn ei golled ddiweddar. Dywedodd ei bod am roi rhodd
sylweddol i’r Gymdeithas er cof am y diweddar Ken Lloyd Gruffydd. Dywedodd y
Trysorydd mai taliad uniongyrchol i’r cyfrif fyddai rwyddaf, ac awgrymodd ei
roi yn y cyfrif cadw, yn hytrach na’r un cyfredol. Eto, llog pitw iawn fu ar y
cyfrif cadw, tua 30c y mis, a bellach aeth yn is fyth. Gwyn am e-bostio’r
manylion i Eirlys, Diolchwyd i Gwyn am ei waith.
Ychwanegodd Dennis fod y gwariant yn llai oherwydd
nad oes Eisteddfod Genedlaethol, a bod llawer o aelodau yn talu ar y 1af o
Orffennaf, sef y rhai yn y golofn Aelodaeth 20-21 yn y cyfrifon.
6.
Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.
Cafwyd fod y cyfrifon yn gyflawn ac yn gywir. Mae
angen ychwaneg o aelodau, gan fod y nifer wedi gostwng gan tua 50 yn y pum
mlynedd diwethaf. Mae rhagor (12) yn talu trwy’r banc, a dim ond 12 yn parhau
i dalu’n flynyddol. Mae 38 o aelodau am oes, rhagor na sy’n talu’n
flynyddol.
7.
Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.
Llwyddwyd i ddwyn rhifynnau Nadolig 2019 a Haf 2020
drwy’r wasg, a’u dosbarthu i’r aelodau. Diolchwyd i Dennis am ei gymorth,
ac yn neilltuol i Robin Gwyndaf am ei erthyglau ynghylch “Ffynhonnau
Caerdydd”. Da fyddai gweld rhagor o gyfraniadau, o ba faint bynnag, gan
aelodau eraill. Defnyddiwyd Gwasg y Lolfa ar gyfer rhifyn Haf 2020, gan nad
yw’r argraffwyr arferol, EWS Print o Fwcle, yn weithredol oherwydd y
cyfyngiadau Covid-19.
Diolchodd Eirlys i Howard am ei waith.
8.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cytunwyd fod angen rhagor o aelodau. ’Roedd Eirlys
yn ennill aelodau pan oedd yn gwneud cyflwyniadau, ond efallai y gellir parhau
i’r cyfeiriad hwnnw ar y we. Dywedodd Mike fod modd cynnal darlithoedd byw,
gyda phobl yn cyfrannu, ac yn
cael cyfle i holi. Dywedodd fod YouTube yn dda, ond bod darlithoedd byw
yn dda hefyd, a llawer o gymdeithasau yn rhoi darlithoedd byw ar y we. Cytunwyd
y dylai Mike drafod hyn efo Dennis, sydd wedi prynu tanysgrifiad i Zoom. Mae
modd darlledu efo Zoom, a gellir gwneud hynny yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd Dennis y dylid rhoi darlith Eisteddfod
Tregaron Mike ar Zoom wedi’r Eisteddfod ei hun. Gyda chyfryngau ar-lein mae
modd hysbysebu ehangach, a dylid symud ar-lein. ’Roedd Darlith ar-lein Mike yn
Ninbych wedi gweithio’n dda, gyda mwy o gynulleidfa.
Cynigodd Howard y dylai Dennis, Mike ac yntau gynnal
cyfarfod i drafod hyn. Mae gan Mike lawer o brofiad, ac yn gwybod sut mae gwneud
hyn. Dywedodd Eirlys fod gan y Gymdeithas ddigon o adnoddau oddi fewn iddi
hi’i hun - erthyglau Robin ynglŷn â Ffynhonnau Caerdydd, er enghraifft.
Byddai’n bosibl cael cynulleidfa fyd-eang.
9.
Unrhyw fater arall.
a). Hepgor lluniau swyddogion y Gymdeithas o “Llygad y Ffynnon”.
Penderfynwyd hepgor y lluniau o’r rhifyn nesaf (Nadolig 2020) ymlaen.
b). Cyfethol Mike Farnworth i’r Pwyllgor.
Dywedodd ei fod yn hapus i helpu, ond heb lawer o
amser i’w roi i’r Gymdeithas. Cytunwyd fod ei gyfraniadau’n bwysig, ac
fe’i cyfetholwyd yn aelod cyffredin, heb bortffolio. Dywedodd Dafydd Whiteside
Thomas ei fod yntau hefyd yn brysur, ond yn fodlon helpu.
c). Sefydlu cyfrif trydar i’r Gymdeithas.
Dywedodd Howard ei fod yn fodlon gwneud hynny, ac y
byddai’n ennill cyhoeddusrwydd i “Llygad y Ffynnon”.
Dywedodd Gwyn fod Facebook yn boblogaidd iawn (yn
enwedig â rhai dros 40 oed), a bod sawl gwahanol dudalen Facebook yn
canolbwyntio ar hanes lleol. Mae’n gyfrwng da ar gyfer rhannu gwybodaeth,
hanesion, a lluniau. Dywedodd ei fod yn
fodlon agor tudalen Facebook ar gyfer y Gymdeithas, ac y gallai sefydlu
dolen rhwng Facebook a gwefan y Gymdeithas.
ch). Ceisio ffynonellau ariannol er mwyn datblygu
rhaglen waith.
Cytunwyd ei bod yn adeg gyfyng am arian ym mhobman.
Er mwyn cael arian ar gyfer ffynnon, rhaid iddi fod yn rhan o brosiect mwy.
Dywedodd Dennis ei bod yn fain ar gynghorau cymuned eisoes; ond gan fod gan
fudiadau gwirfoddol Gwynedd
wybodaeth am le mae arian ar gael, y byddai yntau’n fodlon ymchwilio i
hyn, â chymorth Gwyn a Howard.
10.
Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.
Cytunwyd i gynnal y cyfarfod ymhen blwyddyn, ar
17.7.2021. Cytunwyd y bu’r cyfarfod Zoom yn llwyddiannus, ac y dylid ei wneud
yn drefniant blynyddol. Nid oes angen talu am ddefnyddio adeilad, ond bod Dennis
yn talu am Zoom. Felly Mike hefyd. Diolchodd Dennis i Mike am ei wybodaeth a’i
brofiad technegol.
Daeth y cyfarfod i ben am 11:50.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 49 Nadolig 2020
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Cyfarfod
Rhithiol “Zoom” ar-lein am 10:30 o’r gloch 17.7.2021.
COFNODION.
Yn
bresennol: Robin Gwyndaf (Llyw.), Eirlys Gruffydd-Evans (Cad.), Howard Huws
(Ysg.),
Gwyn
Edwards (Trys.), Dennis Roberts (Archwil.), Mike Farnworth, Elisabeth Rees,
Elwyn Jones.
1. Croeso’r
Cadeirydd.
Croesawyd
pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
2. Ymddiheuriadau.
Dafydd Whiteside Thomas, Eifion Jones, Ann Owen, Eleri Gwyndaf,
Anne E. Williams.
3. Cofnodion
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020, a materion yn codi.
a).
Cryno-ddisg mynegai “Llygad y Ffynnon”. Bwriedid rhoi’r mynegai ar y
wefan. Dennis Roberts i fod yn gyfrifol am hynny. Mynegwyd diolch iddo.
b).
Cyhoeddi cyfrol ynghylch ffynhonnau Morgannwg. Eirlys Gruffydd-Evans yn
brysur iawn â gwaith bugeiliol ar hyn o bryd, ond tynnwyd sylw at gyhoeddiad
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent, “Medieval
and Post-Medieval Holy Wells in Glamorgan and Gwent”, mis Mawrth 2011, ac
at gyfraniadau Robin Gwyndaf yn “Llygad y Ffynnon.”
c). Yr
Eisteddfod Genedlaethol. Gohiriwyd eleni eto, ond ni newidiwyd y cynlluniau, ac
edrychir ymlaen at glywed cyflwyniad Mike Farnworth yn Nhregaron yn 2022.
ch).
Gwibdaith yn wythnos gyntaf Awst. Gan fod y cyfyngiadau eto mewn grym, ni
threfnwyd y wibdaith hyd yn hyn. Awgrymodd Robin Gwyndaf nad wythnos yr
Eisteddfod Genedlaethol fyddai’r adeg orau, gan fod cynifer o weithgareddau
eraill ymlaen ar yr un pryd, a awgrymodd y Cadeirydd y byddai Gorffennaf yn
well. Efallai y bydd modd trefnu un ym Mangor adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn
2023, onid ynghynt.
d). Penodi
Swyddog Cyhoeddusrwydd. Awgrymodd Dennis Roberts y byddai’n werth cysylltu â
Deri Tomos, gan ei fod yn nabod pobl yn Adran Wyddorau Prifysgol Bangor.
Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd gysylltu â Deri Tomos.
dd). Cynnal
darlithoedd byw. Mae Mike Farnworth wedi sefydlu “Cwmulus”, gwefan sy’n
llwyfannu darlithoedd misol, a medrai gynnig lle i’r Gymdeithas wneud darlith
yn Ebrill 2022. Dywedodd y gallai ef wneud popeth technegol, y cyhoeddusrwydd, a
threfnu’r cyfieithu ar y pryd. Rhaid ymgofrestru, ond mae modd gweld y
ddarlith ar YouTube a Zoom Cymraeg a Saesneg.
Penderfynwyd
y dylai’r Ysgrifennydd gysylltu, a rhoi gwybodaeth yn Llygad y Ffynnon.
Awgrymwyd enwau sawl unigolyn a all ddarlithio: Robin Gwyndaf ar Ffynhonnau
Caerdydd (darlith Eisteddfod Caerdydd, Caerdydd), Howard Huws, Eirlys
Gruffydd-Evans, ac Elfed Gruffydd yn Llŷn. Awgrymodd Robin Gwyndaf y byddai
modd cynnal sgyrsiau am waith cyfoes y Gymdeithas, hefyd. Gofynnodd Mike yn
gofyn am gyfraniad ym mis Ebrill, a chynigodd Robin y dylai Howard Huws gynnal
sgwrs yn cyflwyno’r Gymdeithas, gyda lluniau o ffynhonnau, yn Ebrill.
Penderfynwyd hynny.
Dywedodd
Dennis Roberts fod gan Gareth Roberts, Menter Fach-wen, wybodaeth am Ffynnon
Cegin Arthur, ymysg llawer o wybodaeth ac adnoddau eraill.
e).
Cyfrifon Trydar a Facebook. Dywedodd yr Ysgrifennydd fod gan y cyfrif Trydar 217
o ganlynwyr. Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ysgrifennu erthygl i “Cennad”
(newyddlen ar-lein y Presbyteriaid a’r Bedyddwyr) Ffynnon Degla, Llandegla.
Bu’r Trysorydd yn lanlwytho deunydd o wefan y Gymdeithas i wefan Facebook.
Dywedodd
Robin Gwyndaf fod modd defnyddio’r cyfryngau newydd i gael rhagor o arian, a
gofynnodd a oes modd i ddilynwyr Trydar ddod yn aelodau, yn dod yn gefn ariannol
i’r Gymdeithas er mwyn cyflawni prosiectau? Dywedodd y Cadeirydd y bu hi’n
edrych ar wefan Wellhopper; maen nhw’n gofyn am gyfraniad ariannol ar eu
gwefan.
f). Canfod
ffynonellau ariannol. Gw. uchod. Bu Dennis Roberts yn edrych ar beth oedd yn
bosibl trwy fudiadau gwirfoddol, ond nid yw’n ymddangos fel petai lawer i’w
gael o’r cyfeiriad hwnnw. Awgrymodd y Cadeirydd y gellid gwahodd perchnogion
Ffynnon Helen, Caernarfon i ymuno â’r Gymdeithas.
4. Adroddiad
yr Ysgrifennydd.
Bu’n
flwyddyn ddistaw oherwydd y cyfyngiadau, ond llwyddwyd i gynnal y Gymdeithas.
Diolchodd y Cadeirydd i Howard a Robin am eu gwaith yn ystod y flwyddyn, a
dywedodd fod y Pwyllgor wedi cadw cysylltiad trwy e-bost.
5. Adroddiad
y Trysorydd.
Diolchodd y
Trysorydd i’r Cadeirydd am gyfraniad o £500 er cof am Ken Gruffydd. Fel
arall, ni fu llawer o newid, gyda £5 o wahaniaeth yn y cyfrif cyfredol: ond ni
chafwyd anfoneb gan Telemat am gynnal y wefan er 2019, ac y mae honno’n sicr o
ddod yn y dyfodol agos. Bydd angen talu i’r Lolfa am argraffu “Llygad y
Ffynnon”, hefyd. Nid oedd costau ynglŷn ag ymbresenoli yn yr Eisteddfod
Genedlaethol y llynedd nac eleni, ond er bod golwg sefydlog ar yr arian, mae
peth i’w dalu allan, felly bydd rhaid cael arian i mewn. Diolchodd i Dennis am
ei gymorth.
6. Adroddiad
yr Archwiliwr Mygedol.
Adroddodd
yr Archwiliwr Mygedol fod y cyfrifon yn gywir ac yn gyflawn. Diolchwyd iddo.
7. Adroddiad
Golygydd “Llygad y Ffynnon”.
Adroddodd y
Golygydd fod dau rifyn wedi’u cyhoeddi, sef rhai’r Nadolig a’r haf.
Dywedodd y Cadeirydd y dylid rhoi gwybodaeth am "Llygad y Ffynnon" ar
Drydar a Gweplyfr. Diolchodd y Llywydd i Eirlys a’r diweddar Ken Gruffydd am
eu gwaith hwy â Llygad y Ffynnon, ac i Dennis Roberts a Howard Huws.
Llongyfarchodd Dennis Howard ar ei 10fed rhifyn fel Golygydd, gan
edrych ymlaen at ei 40fed rhifyn i wneud cystal ag Eirlys.
8. Cynlluniau
ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y
Cadeirydd fod hwn yn newyddion gwych. Mae’r safle ar gyrion yr eglwys: a oes
gwybodaeth am berchnogaeth gan y Gofrestrfa Tir neu Cadw? Mae’n debyg nad oes,
gan nad yw’r tir wedi newid dwylo ers cyfnod helaeth. Gobeithir medru rhoi
adroddiad yn “Llygad y Ffynnon” erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’n ffynnon
fawr: ymwelodd y Cadeirydd â hi ym 1987.
Mae
ffynhonnau eraill yn y cyffiniau - safle Ffynnon Faglan a Ffynnon Feuno, er
enghraifft.
Ffynnon
Fair, Llanfair-is-gaer. Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod yn cadw golwg ar y
safle, ond mae cymaint o waith wedi’i wneud yno, a’r dirwedd wedi’i newid
cymaint, fel y mae’n annhebyg fod yno ddim y gellid ei hadfer, bellach.
Arddangosfa
Fforwm Hanes Cymru. Dywedodd y Llywydd fod Fforwm Hanes Cymru’n holi a
ddymunwn gael gofod i gynnal arddangosfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn
Nhregaron. Mae modd gael bwrdd neu banel arddangos, un o’r newydd, efallai,
fel nad oes angen i neb fod yno: byddai’r lluniau’n llefaru. Rydym yn dal i
dalu £20 y flwyddyn am aelodaeth o’r Fforwm. Y teimlad oedd y byddai angen
cael rhywun yno gydol yr wythnos. Dywedodd Mike Farnworth y byddai’n fodlon
bod yno ar adegau, ond teimlwyd mai anodd fyddai cael neb yno gydol yr wythnos.
Er gosod paneli a rhannu rhifynnau o’r “Llygad” a thaflenni
ymaelodi, byddai angen rhywun yno i hyrwyddo, ac i ofalu nad yw mudiadau neu
gyrff eraill yn meddiannu’r gofod. Mae’r Fforwm yn gofyn am gyfraniad
ariannol am gael lle, yn ychwanegol at y tâl aelodaeth blynyddol: £50 yn 2018.
Ar gynnig
yr Ysgrifennydd, penderfynwyd y dylai ysgrifennu at Gyngor Cymuned Tregaron yn
holi ynghylch y ffynnon a phosibilrwydd ei hadfer erbyn yr Eisteddfod
Genedlaethol nesaf.
9. Unrhyw
fater arall.
a.)
Dywedodd Dennis Roberts fod meddalwedd y wefan yn hen-ffasiwn, bellach. Bydd
symud o Windows 10 i Windows 11 ymhen ychydig, ac efallai na fydd y meddalwedd
presennol (FrontPage) yn gweithio llawer rhagor: mae angen trosglwyddo i raglen
fwy cyfredol. Dywedodd Mike Farnworth fod pobl yn defnyddio rhaglenni “Content
Management System” yn y we, yn awr: rhai fel WordPress. Nid oes dim ar y
cyfrifiadur ei hun: mae’r cyfan yn y we. Penderfynwyd y dylai Dennis i
gysylltu â Mike i drafod rhoi’r safle mewn lle mwy diogel.
b).
Dywedodd y Llywydd fod yr aelodau presennol oll yn mynd yn hŷn, a bod angen
cael aelodau gweithredol, brwdfrydig. Mae angen rhoi sylw i gael aelodau newydd
sy’n bresennol mewn gweithgareddau. Cytunodd yr Ysgrifennydd fod angen
cyrraedd yr ifanc cyn gynted ag y bydd amgylchiadau’n caniatáu.
10. Dyddiad
a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.
Dywedodd y
Cadeirydd fod cyfarfodydd rhithiol yn gyfleus iawn. Dywedodd y Trysorydd y
byddai’r
23ain
o Orffennaf 2022 yn orau ar gyfer cael adroddiadau’r banc. Cytunodd Dennis
Roberts y byddai’n gyfyng cael yr wybodaeth erbyn 16eg, ond nid yn
amhosibl, a byddai’r 16eg yn gadael mwy o amser ar gyfer trafod
unrhyw beth cyn yr Eisteddfod.
Penderfynwyd
cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ar ddydd Sadwrn yr 16eg
o Orffennaf 2022, trwy gyfrwng rhithiol “Zoom.”
Wedi i’r
Cadeirydd ddiolch i bawb, ac i hithau dderbyn diolchiadau’r gweddill, daeth y
cyfarfod i ben am 12:00.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 51 Nadolig 2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc