Home Up

CWMTWRCH

 

FFYNNON CWMTWRCH

Dewi E. Lewis.

Rhoddwyd Ffynnon Cwmtwrch a'r tir o amgylch yn rhodd i'r cyhoedd oddi wrth Colonel Fleming Gough fel arwydd o heddwch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dywedir bod y ffynnon hon wedi bod yn 'rhiadru ei dyfroedd grisialaidd a sawrus' ers dros ddau gan mlynedd. Yn ystod saithdegau'r ganrif ddiwethaf anfonodd y Dr. D, Thomas, Ystalyfera, sampl o'r dŵr at y fferyllwyr i wneud dadansoddiad ohono. O'r prawf hwnnw caed tystiolaeth bod: 'yn y dŵr elfennau meddyginiaethol at amryw ddoluriau, ei fod yn gyflawn o Sulphur a'i fod yn anffaeledig i wella pob math o Scroffulous, Rheumatism, Gravel, ac yn gynhorthwy i’r organau i secteto yr uric acid gormdol fydd yn y gwaed.'

Yn ddiweddarach, ym 1933, mewn adroddiad ar Ffynnon Cwmtwrch cyfeiriodd y Dr. W.J.Lewis, swyddog Iechyd yr ardal at y dŵr fel hyn: 'It is an Alkaline Sulphur spring, cool in summer and relatively warm in winter and has an even flow throughout the year. It has a great reputation for its healing virtues - especially in skin disease (chronic eczema and psoriasis), bad complexions, Rheumatism, Neuritis, Piles and Gravel, Scrofulous glands and other complaints ... '

O'r ddau gofnod uchod gwelir mai dŵr sylffwr sydd yn tarddu o'r ffynnon. O ganlyniad, wrth nesáu at y ffynnon gellir arogli gwynt tebyg i'r stink bombs o gyfnod ysgol. Pa ryfedd felly i'r ffynnon gael ei galw ar lafar gwlad yn 'Y Ffynnon Ddrewllyd' neu 'ffynnon gnec'.

Bu bri mawr ar y ffynnon o 1880 ymlaen. Cyrchwyd yma i gynnal cyfarfodydd crefyddol, cymanfaoedd canu, a chynhaliwyd Eisteddfod fawreddog ger y ffynnon, Llungwyn 1896. Yma hefyd y daeth William Abraham (Mabon), llywydd cyntaf Glowyr De Cymru, i hawlio gwell amodau i'r glowyr gyda'r slogan enwog, 'an hour off the day, not a penny off the pay.'

Yn ôl tystiolaeth o 1912 dywedir bod ‘amryw yn cyrchu'n flynyddol o siroedd Caerfyrddin a Cheredigion’ at y ffynnon a ‘bod cannoedd yn ymweld â hi yn nhymor yr haf o ardaloedd Ystradgynlais, Ystalyfera a Chwmllynfell.’

Dros y blynyddoedd bu dirywiad yng nghyflwr y ffynnon a'r tir o amgylch. Ond ym 1993 adnewyddwyd y ffynnon ar gost o dros £6000 a'i gwneud yn llecyn delfrydol i dreulio ennyd. Heddiw gellir eistedd ar feinciau i fwynhau'r llonyddwch (a'r arogl!) wrth yfed y dŵr oer grisialaidd. Heddiw mae'r ffynnon yng ngofal Cyngor Cymuned Ystalyfera. Mae nifer o drigolion lleol, yn hen ac ifanc, yn tystiolaethu i werth meddyginiaethol dŵr Ffynnon Cwmtwrch. Credai rhai bod ynddo rinwedd i atal moelni a gwynegon tra bod eraill yn credu ei fod yn dda i'r ysgyfaint. Yn ddiweddar honnodd cynghorydd lleol fod yn y dŵr elfennau i gynyddu ffrwythlondeb merched. Yr unig beth a ddywedwyd o du'r arbenigwyr a arbrofodd y dŵr yn ddiweddar oedd ei fod yn 'ddiogel i'w yfed'.

Oherwydd yr arogl sylffwr mae rhai yn amharod iawn i brofi blas y dŵr, ond mae dynes leol yn dweud mai'r ffordd orau i gael gwared â'r 'cwt' (adflas) yw yfed y dŵr gyda chwisgi. Yn ei adroddiad ym 1933 dywedodd Dr. Lewis bod yn rhaid yfed y dŵr ar dir y ffynnon er mwyn cael llesâd.

Yn ddiweddar euthum i Ffynnon Cwmtwrch i yfed y dŵr rhinweddol, ond drat, 'roedd y botel chwisgi'n dal yn y cwpwrdd yn y tŷ! Hir oes i Ffynnon Cwmtwrch.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up