Home Up

CWM-Y-GLO

 

Hen Ffynnon Cwm-y-glo.

Ymddangososdd y gerdd ganlynol, “Hen Ffynnon y Cwm” yn un o rifynnau “Eco’r Wyddfa” eleni. Yr awdur yw’r Parch. Collwyn Morgan, a symudodd o Gwm-y-glo yn Arfon i fod yn Rheithor Penmorfa a Dolbenmaen ym 1899. Mae yng Nghwm-y-glo nifer helaeth o ffynhonnau a tharddellau, felly ni ellir dweud, ar hyn o bryd, at ba un yn union y cyfeiria’r gerdd hon, os at unrhyw un neilltuol o gwbl. Rydym yn ddiolchgar i Dafydd Whiteside Thomas am ailgyhoeddi’r gerdd, ac i Geraint Jones, Trefor, am dynnu ein sylw ati. – gol.  

Hen ffynnon loyw Cwmyglo,                                    Mae hon yn wyrth yn llaw ein Duw

O fron y llechwedd dardd,                                         I estyn dŵr i’r dre’,

A’i ffrydiau clir ar hyd y gro                                       Meddyges enwog yw i’r byw

Bob amser arnom chwardd;                                     I iachus wella’r lle;

Mae’n fendith uwch darfelydd dyn,                       Drwy rydwelïau’n glir a glân

I bawb o bobl y lle,                                                      Y daw i’n drysau ni;

Cyfrannu mae yn helaeth, un                                   A’r holl deuluoedd fawr a mân,

O roddion pennaf ne’.                                                A’u llon groesawant hi.

Croesawa hon y baban bach                                     Yng nghanol tymor haf-ddydd poeth

I fyd y dagrau i fyw;                                                     Mae ei hadfywiol rin

A than ei dyfroedd peraidd iach                              Yn nerthu’r gweithiwr hanner noeth

Cyflwynir ef i Dduw;                                                    I oddef gwres yr hin;

Gwas’naetha iddo’n llon o hyd,                               Mae’n disychedu pawb o’r bron,

Mewn adfyd, poen a hedd,                                       Cyfoethog a thylawd,

Drwy ddydd priodas addas fyd,                               A’r teithiwr blin wrth basio hon

Hyd ddydd i’w roi mewn bedd.                                A’i drachtia yn ei rawd.

 

Bu llawer o ieuenctid llon                                          Pan dderfydd ffrydiau bryniau ban,

A’u bron yn llawn o dân,                                            Ym mhoethder hir-ddydd haf,

Yn chwarae gynt o amgylch hon                              A’r holl ffynhonnau gylch y fan,

Gan seinio melys gân;                                                 Bydd hi yn ffrydio’n braf;

Ond fel darfyddai’r bwrlwm dŵr                             A phan bo’r ddaear hygar hon

Cyn cyrraedd min y lan,                                              O’r bron gan rew yng nghlo

Aeth rhai’n cyn cyrraedd oedran gŵr,                   Yn rhydd y rheda’i dyfroedd llon

I orwedd ger y Llan.                                                     I bawb o Gwmyglo.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 46 Haf 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up