Home Up

CRWYDRO SIR GÂR

Aneirin Talfan Davies, (1970)

 

FFYNNON ANTWN, LLANSTEFFAN. (Tudalen 247 -8)

Nid oes neb, braidd, yn ymweld â Llansteffan heb roddi tro am ffynnon Antwn Sant. Deuir o hyd i'r ffynnon swyn hon drwy ddilyn llwybr ar hyd y glannau am ryw hanner milltir. Ac yno mewn cilfach y mae'r ffynnon, lle gynt, y dywedir, y gellid gweld delw o'r sant ar silff uwchben y dŵr. Yr oedd y ffynnon yn sych pan ymwelais â hi.

 "Oes yma lawer o gyrchu ati?" gofynnais i hen ŵr a oedd yn eistedd ar un o'r seddau yn y llain goed.

 "O os, 'dyw ofergoelieth ddim wedi marw mas, hyd yn od yn Llansteffan 'ma! Ar waetha' hollti'r atom, ma' na ddigon o grotesi penchwiban i wneud taith Nicodemus i fwrw'u pinne i'r dŵr."

 "Pinne?"

 "Ie, dyna'r arfer, bwrw pinne i'r dŵr a dymuno."

   

FFYNNON ANTWN, LLANSTEFFAN

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON OLBRI, LLAN-Y-BRI. (Tudalen 249)

Fel Llansteffan mae gan Llan-y-bri, hithau, ei ffynnon, er nad oes sôn bod iddi unrhyw rinweddau meddygol na gwyrthiol - ei hunig rinwedd yw mai hi a gyflenwai anghenion y pentref sychedig gynt. Ffynnon Olbri yw ei henw, ac awgrymodd rhywun wrthyf ei bod yn eithaf tebyg mai Llanolbri oedd enw gwreiddiol y pentref, a hwnnw wedi newid gyda threigl y blynyddoedd i Lan-y-bri.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON FRYNACH, LLANBOIDY. (Tudalen 253)

Y mae eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Brynach, sant o Wyddel, y dywed traddodiad iddo sefydlu eglwys pa le bynnag y gwelwai hwch a thorraid o foch! …Y mae ffynnon yn y pentref a fu'n gyrchfan pererindodau yn y Canol Oesoedd…

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON CASTELL CARREG CENNEN. (Tudalen 272)

A oes gastell mwy rhamantus yr olwg nag ef yng Nghymru?… Dringasom y muriau a dilyn y llwybr tywyll y tu mewn i'r castell sydd yn arwain at ffynnon ryw 150 troedfedd yng nghrombil y ddaear odditano.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON DDYFAN, LLANDYFAN. (Tudalen 272-3)

I gyrraedd Llandybïe rhaid inni ailgyfeirio ein camre tua phentref y Trap…a throi i'r dde i Landyfan a'i ffynnon wyrthiol, lle gynt, yn ôl y Parchedig Gomer Roberts, hanesydd y plwyf, "y cyrchai pererinion ati i'w gwellhau." A dyfynnu Mr. Roberts eto: "Yr oedd capel bychan wedi ei godi mewn cysylltiad â'r ffynnon hon er hwylustod i'r cleifion, ond erbyn y 18fed ganrif collodd y capel a'r ffynnon hithau eu bri cyntefig, ac fel canlyniad daeth y lle yn boblogaidd fel man cyfarfod at bwrpas chwarae a champau cyffredin yr oes."

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON DYBÏE, LLANDYBÏE. (Tudalen 274)

Nid yw Llandybïe yn bentref mawr, er bod y plwyf yn un eang. Y mae'r pentref ei hun yn gwasgu'n glòs o gwmpas Eglwys gadarn y plwyf, a'r heol yn gwau ei ffordd yn beryglus rhwng mur yr eglwys a'r tafarnau dros y ffordd. Ond er bod Llandybïe yn enwog gynt am ei gwrw a'i fedd - oni threuliodd Twm o'r Nant ei hun lawer awr ar fainc y "Corner House" yn cyfansoddi ei dribannau a'i gywyddau? - yr oedd llawn mor enwog gynt oherwydd dyfroedd ffynnon Tybïe. Perthyn y Santes Tybïe i'r bumed ganrif, a dywedir iddi gael ei lladd gan y paganiaid ac i ffynnon risialaidd darddu yn y fan. Canodd un o feirdd y pentre, y Parchedig J.T.Job iddi fel yma:

Dwys fu ei harwyl: deisyfau hirion,

Gofid a dagrau - gafodau digron:

A'u chwerwa' alar beichio'r awelon

Wnâi llef rhianedd "Gelli Forynion!"

Eithr lle bu gwaedle'r dirion - Dybïe

(O gyff y wine) - gwêl acw'i "Ffynnon."

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up