Home Up

CRWYDRO FFYNHONNAU SIR DDINBYCH

 

Yn ei gyfrolau Crwydro Gorllewin Dinbych (1969) a Crwydro Dwyrain Dinbych ( 1961 ) mae'r diweddar Frank Price Jones yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau'r sir. Dyma ddyfyniadau o'r ddwy gyfrol sy'n sôn amdanynt:

Crwydro Gorllewin Dinbych

Ffynnon Sara neu Ffynnon Pyllau Perl, Derwen (tud 52)

Gellir croesi o Dderwen, heibio i'r Capel Methodist yno, i'r ffordd wlad sy'n arwain o Glawddnewydd i Felin y Wig. Yno, gerllaw fferm Pyllau Perl, a ger y drofa i fferm y Braich, mewn anialwch o ddail carn yr ebol a mieri, mae Ffynnon Sara. Gosododd awdurdod gwaith dŵr Birkenhead gamfa goncrid y gellir mynd drosti at y ffynnon. Ffynnon Pyllau Perl yw enw Edward Lhuyd arni, ac awgryma'r Inventory iddi gael ei galw'n Ffynnon Sara ar ôl rhyw wraig a drigai yn y bwthyn gerllaw, sydd bellach wedi diflannu’n llwyr. Yr oedd bri ar ddyfroedd y ffynnon hon ers talwm, am ei rhin i wella'r cancr a'r cryd-cymalau - ffynnon rinweddol yn wir. Yr oedd gan fy nau fab ieuengaf ddefaid ar eu dwylo, a phan euthum â hwy at y ffynnon un tro, mynnodd y ddau geisio cael gwared â hwy trwy ymolchi yn y dŵr. Parhaodd y defaid ar law Rhys am gyfnod, er yn llai, ond diflannodd rhai Alun yn llwyr; efallai bod ychydig fisoedd yn rhagor o brofiad y byd wedi arfogi Rhys yn erbyn yr hen goelion! Ond pan glywodd eu brawd hynaf am yr arbrawf a wnaethant, rhaid oedd iddo yntau gael gweld y ffynnon rinweddol hon hefyd, ac un tro, wrth deithio gydag ef o Gerrig y Drudion i Ruthun, troesom o'r neilltu trwy fferm Foel Fawr, gyda chaniatad caredig Mrs Williams, a thrwy fuarth y Braich hefyd… Pan soniais wrth wraig y ty am Ffynnon Sara, mynnai hi mai dwr Ffynnon Sara a wellodd ei chrudcymalau hi wedi i lawer o bethau eraill fethu.

Ffynnon Sara, Derwen.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Ffynnon y Fuwch Frech, Llansannan (tud 184)

Rhywle yn y cyffiniau hyn, 'yng nghwr de-ddwyreiniol Mynydd Tryfan' fel y dywedodd 'Lloffwr Llên' awdur Plwyf Llansannan, y mae Ffynnon y Fuwch Frech, ffynnon arall a gysylltir â chwedl y fuwch frech a roddai laeth yn ffri i bawb nes i rywbeth ddigwydd i'w digio. Hen wrach a'i godrodd i ogor nes ei hesbio yn y fersiwn o'r stori ger Craig Bron Bannog: yma dau frawd a ffraeodd a'i gilydd nes i un ladd y llall oherwydd y fuwch. Ond methais i a darganfod na buwch na ffynnon mae arnaf ofn.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Ffynnon Fair, Wigfair, Llanelwy (tud 196-7)

Adeilad diweddar yw'r plas presennol yn Wigfair, wedi ei godi o frics coch ryw ganrif yn ôl… Y Cyrnol Howard oedd y sgweiar olaf i fyw yn y plas, a phan fu farw trefnodd i'w lwch gael ei chwalu o gwmpas yr hen gapel yng ngwaelod yr allt o dan y plas. Codwyd yr eglwys fach hon, eglwys Fair, dros ffynnon y priodolid galluoedd nerthol iddi, a bu'r eglwys, er yn adfail, yn un boblogaidd i briodi ynddi am ganrifoedd…Saif adfeilion yr hen eglwys mewn dôl fras ar lan afon Elwy, ac ar draws y ddôl gwelir olion y ffrwd a wnaed i droi rhod y felin. Os bu erioed ddarluniad o'r 'mieri lle bu mawredd' dyma'r fan: y mae'r rheiliau o gwmpas yr eglwys wedi eu bylchu a chrwydrai nifer o wartheg du a gwyn yn yr anialwch o fieri a brwyn a guddiai'r adfeilion. Ond gellir gweld yr hen faddon o dan bistyll y ffynnon a dilyn y gwter a drefnwyd i'r dŵr redeg ohoni trwy'r ran o'r eglwys ac allan i'r cae. Prun y credai neb heddiw y gallaî'r ffynnon hon iacháu neb na dim.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd: (tud 220)

Y mae tuedd i bobl heddiw ruthro trwy Llanrhaeadr, ac wrth wneud hynny maent yn colli cyfle i sylwi ar amryw fanion diddorol… Cefais arweiniad Mr T.W Evans, cyn blisman y llan i'm tywys o gwmpas y lle… i ddringo y tu ôl i'r eglwys, heibio i'r elusendai taclus sydd yno ers dwy ganrif a hanner, trwy'r coed at Ffynnon Ddyfnog. Y mae llwybr gweddol hwylus ati erbyn hyn, ond mae'r ffynnon a'r baddon o dani mewn angen eu glanhau. Y mae hen stori yn adrodd fel y byddai clerigwyr y llan yn rhoi manus neu rhyw liw yn yr afon ger y Graig Lwyd yn uwch i fyny'r nant, er mwyn creu 'gwyrth' yn Llanrhaeadr, oherwydd mae'n debyg mai afon dan-ddaearol sy'n ymarllwys o'r ffynnon. Carreg galch sydd ymhobman y ffordd hon a gallai'r hen stori fod yn ddigon gwir.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Ffynnon Hen Ddinbych (tud 79)

Dilyn Llwybr Elen a wnaethom o fuarth Hafoty Sion Llwyd draw tua Llech Daniel…ac yna draw ar draws y Llech gwelem Maen Cledde. Rhaid oedd cerdded draw at hwn, wrth gwrs, a galw heibio i Ffynnon Hen Ddinbych wrth fynd. Prif rinwedd y ffynnon fach hon, yn ôl Dafydd Pierce, ydyw bod ei thymheredd yn gyson iawn, a hyd yn oed yng nghanol gaeaf, 'pan fyddai winthrew yn y'ch dwylo' gallech eu trochi yn nŵr y ffynnon, a byddech yn iawn drachefn.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Crwydro Dwyrain Dinbych

 Ffynnon Degla, Llandegla (tud 143)

Mewn cae o'r enw Cae'r Felin neu Gwern Degla y mae'r hen ffynnon a gysegrwyd i'r ferch ifanc honno a gafodd ei chamdrin mor arw am ei bod yn yn gyfeilles, medd y traddodiad, i'r Apostol Paul. Y mae rhinwedd y ffynnon hon, a'r seremonïau a'r taliadau yr oedd yn rhaid eu cyflawni gerllaw iddi, er mwyn cael gwellhad o'r epilepsi, wedi eu cofnodi llawer gwaith, ac nid oes angen eu hail-adrodd yma: yr oeddynt yn ddigon pwysig i Fraser eu cynnwys yn ei Golden Bough, ac y mae'n debyg mai gan Pennant a Lhuyd y cafodd ef ei ffeithiau. Y cyfan a ddywedaf i ydyw ei bod yn hen bryd i'r Cyngor Plwyf geisio tacluso ychydig ar y ffynnon, os ydynt am i ymwelwyr fynd yno i'w gweld. Yno mae ger glan yr afon yng nghanol cae a gwernen yn plygu drosti. Yn ôl adroddiad Pennant, y mae rhyw lythrennau wedi eu cerfio ar y meini o'i chwmpas, ond bu'n rhaid i mi dorri canghennau pigog draenen a dyfai yn ei cherrig cyn cael golwg hyd yn oed ar y dŵr sydd ynddi o hyd.

 

(Mae nifer o'r ffynhonnau hyn wedi eu glanhau a'u hadfer ers y chwedegau a diolch am hynny. Bellach mae unigolion, cymunedau a chynghorau yn fwy ymwybodol o werth a phwysigrwydd ffynhonnau fel rhan o'n treftadaeth. Mae erthygl ar ffynhonnau a seintiau'r Sir Ddinbych newydd yn rhifyn yr Eisteddfod o Llafar Gwlad (Rhif 73) - Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up