CROESO CYNNES I CHI I GYD
I RIFYN CYNTAF
LLYGAD Y FFYNNON
Er mwyn i ni ddod i adnabod ein gilydd dyma i chi
wybodaeth am ein haelodaeth:
CADEIRYDD: Dewi E. Lewis, Clydach, Cwm Tawe
IS-GADEIRYDD: Iorwerth Hughes, Llanelwy, Sir Ddinbych.
YSGRIFENNYDD: Eirlys Gruffydd, Yr Wyddgrug (Golygydd Llygad y Ffynnon )
TRYSORYDD: Ken Lloyd Gruffydd, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint.
AELODAU'R PWYLLGOR : Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog. Jane Hughes, Bethel, Y Bala. Pat a Meurig Jones, Swyddffynnon, Ceredigion
Dyma'r criw ddaeth i Dan y Bwlch ar 15 Mehefin eleni i sefydlu'r gymdeithas. (Diolch am y llun, Emrys.)
Yn y rhes gefn: (o'r chwith i'r dde) Emrys, Iorwerth, Meurig, Dewi, a Ken yn y cefn.
Yn y rhes flaen: Jane, Eirlys a Pat
Ers hynny mae'r aelodaeth wedi cynyddu'n sylweddol:
MÔN: - Y Parch. Dr. Graham David Loveluck, Marianglas.
GWYNEDD:- Geraint Jones, Trefor: Dewi Roberts a'r teulu, Morfa Nefyn: Gaynor Maddocks, Llandwrog: Dr Anne E. Williams, Clynnog Fawr: Wyn G. Roberts, Pwllheli; Will. Williams, Rhoshirwaun, Pwllheli: Howard Huws, Penrhosgarnedd, Bangor: Deri Tomos, Llanllechid: Elizabeth Watkin, Bethel: John E.Williams, Llanrug: Evan Wyn Jones, Penisarwaun: Q.F. Richards, Porthmadog: Eifion Davies, Borth-y-gest: Margaret Griffith, Chwilog : Audrey Jones, Capel Celyn, Y Bala:
DINBYCH:
- Gwyn Jones, Peniel: Glyn Jones, Llanbedr Dyffryn Clwyd: Hafina Clwyd,
Rhuthun: Myrddin ap Dafydd, Llanrwst: Esyllt Nest Roberts, Llanrwst;
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Ddinbych.
MALDWYN:-
Nia Rhosier, Pontrobert.
CEREDIGION: - Geraint a Luned Gruffydd, Aberystwyth: Rhiannon a Llywelyn Evans, Blaenpennal. Eileen Curry a Trystan ab Ifan, Prengwyn, Llandysul. Annwen Davies a Jasmine Jones, Swyddffynnon.
CAERFYRDDIN:-
Cyngor Bro Llangeler:
MORGANNWG:-
Gwerfyl Thomas, Pen y Bont ar Ogwr:
CWMTAWE:-
Beti Jones, Pontardawe: Emma Marie Davies, Pontardawe: Dylan Morris,
Glais:
CAERDYDD:-
Huw Llywelyn Roberts, Treganna: Michael Harvey, Treganna: Tecwyn Vaughan
Jones, Yr Eglwys Newydd: D. Gwyn Jones, Yr Eglwys Newydd: Robin ac Eleri
Gwyndaf, Llandaf: Amgueddfa Genedlaethol Cymru:
LLOEGR:
- Ifan Gareth James, Aintree, Lerpwl: Sydney Davies, Bramhall, Swydd Gaer:
Tristwch mawr yw gorfod cofnodi i ni golli un o'n haelodau ym marwolaeth Dylan Morris, Glais. Cydymdeimlwn yn fawr a'i gymar, Catrin Evans a'r teulu. Roedd gan Dylan ddiddordeb mawr yng ngwaith y Gymdeithas a sicrhaodd gyhoeddusrwydd iddi drwy gyfrwng y radio dros yr haf.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
NODYN GOLYGYDDOL
Diolch o galon i chi i gyd am ymaelodi yn y Gymdeithas. Mae gan y Sais eiriau sy'n dweud fod ffyliaid yn rhuthro lle mae angylion yn petruso. Nid dweud ydw i mai ffyliaid ydych chi - ond mae angen rhyw gymaint o feddylfryd yr arloeswr arnoch i ymuno â chymdeithas newydd sbon. Yn sicr mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud ac mae cyfraniad pawb yn bwysig. Os ydych yn teimlo fel danfon gwybodaeth am ffynnon yn eich ardal i Llygad Y Ffynnon gwnewch hynny ar bob cyfri. Eich cylchlythyr Chi yw hwn.
Beth fedrwn ni ei wneud i achub llawer o ffynhonnau
hynafol a diddorol Cymru rhag diflannu am byth? Gallwn fynd am dro i'n
llyfrgelloedd a gofyn a oes ganddynt restr o henebion cofrestredig yr ardal.
Gallwn greu rhestr o'r ffynhonnau yn yr ardal y gwyddom amdanynt. Beth am holi
rhai o drigolion hŷn yr ardal?
Os oes nifer o aelodau yn byw mewn ardal arbennig hwyrach yr hoffech fabwysiadu un ffynnon sydd mewn cyflwr gwael a cheisio cael y Cyngor lleol i'w hatgyweirio. Yn ôl CADW , mae gan Gynghorau Bro a Thref yr hawl i awgrymu i berchnogion ffynnon gofrestredig y dylent atgyweirio'r ffynnon a'i chadw mewn cyflwr da. Rhan o'n gwaith fel Cymdeithas i'w codi ymwybyddiaeth pobl yn ein cymunedau o bwysigrwydd ffynhonnau fel rhan o'n treftadaeth.
Dyma feini prawf CADW ar gyfer rhestru a chofrestru henebion:
Fod y gwrthrych
o ddiddordeb pensaernïol
o ddiddordeb hanesyddol sy'n darlunio agweddau pwysig o hanes cymdeithasol a diwylliannol
â chysylltiad hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau o bwys i'r Genedl Gymreig
o werth fel grŵp ... yn ffurfio uned bensaernïol
neu hanesyddol bwysig
Mae rhestru ffynnon yn darparu lefel ychwanegol o amddiffyn iddi a gellir cael grant ar gyfer gwaith trwsio.
Mae gan CADW ddiddordeb mawr yng ngwaith Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Gellir cofrestru ffynhonnau o dan Ddeddf Henebion 1979 a Deddf Cynllunio Adeiladau Cofrestredig ac Ardaloedd Cadwriaethol 1990. Maent wedi estyn gwahoddiad i ni gyflwyno gwybodaeth am unrhyw ffynnon nad yw eisoes wedi ei chofrestru a byddant yn fwy na pharod i ystyried ein cais i'w diogelu. Dyma'n cyfle NI i gadw i'r oesoedd a ddêl y ffynhonnau a fu. Ewch ati - da chi!
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff