CREIGIAU
‘Heb
Ddŵr,
Heb Ddim’
Ffynhonnau
Caerdydd a’r Cylch
Robin
Gwyndaf
(Rhan o darlith a draddodwyd ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd,
7 Awst 2018. Cadeirydd: Eirlys Gruffydd-Evans; Trefnydd a Chyfieithydd: Howard Huws.)
Ffynnon Dwym, Creigiau
Bu Don Llywelyn, yr hanesydd cymwynasgar o Ben-tyrch, mor garedig â rhoi mwynglawdd o wybodaeth imi am ei fro a’r ardaloedd cyfagos, megis Creigiau, Gwaelod y Garth, a Mynydd y Garth. Roedd Ffynnon Dwym, meddai, wedi’i lleoli yng Nghreigiau, lai na chan llath o dŷ to gwellt o’r un enw. (Gw. llun o’r tŷ sydd yn ei feddiant.) Mae’r tŷ wedi diflannu bellach, ond safai gynt ger y fynedfa i’r hen chwarel carreg galch: ‘Cwar Creigia’, ble mae’r caeau chwarae heddiw.22
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 48 HAF 2020
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff