CRAI
(SN8924)
PYTIAU DIFYR
Dyma
enw dwy ffynnon o sir Frycheiniog y gwelodd Erwyd Howells gyfeiriad atynt yn y
gyfrol Cerddi'r Mynydd Du gan William Griffith a gyhoeddwyd yn 1913:
Ffynnon
Y Brandi- ar ochr Bryn Llywel, Crai.
FFYNNON Y CWAR - sy'n
llifo i lyn Cwar ac yn i afon Giedd uwchlaw Cwmgiedd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12, Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON Y BRANDI
Ffynnon
y Brandi
"-
Tybed ai dynodiad sydd wedi tarddu o'r enw EBRANDY (cyfuniad o EBRAN a TŶ)
sydd yma? Cedwid porthiant i anifeiliaid mewn Ebrandy yn yr hen ddyddiau ar
gyfer y ceffylau a ddefnyddid gan deithwyr ac, hyd yn oed, ar gyfer anghenion y
fasnach borthmona.
Dyma ddywed Geiriadur
Prifysgol Cymru am yr enw Ebrandy ...
Digwydda,
yn y ffurf BRANDY ar lafar, yn enw fel enw ar dafarn e.e. yn y rhigwm ...
Wrecsam Fechan a Wrecsam Fawr,
Pentre'r Felin ac Adwy'r Clawdd,
Casgen Ditw a Thafarn-y-gath,
Llety
llygoden a Brandy Bach.
Roedd y Brandy Bach
a gyfeirir ato uchod wedi ei leoli yn ardal Llandegla, a chredaf fod yr enw Brandy
i'w ganfod hefyd yn ardaloedd Dolbenmaen a Mallwyd.
Gwn am
lecyn yng ngorllewin Ynys Môn sy'n dwyn yr enw Pant-y-Brandi. Fodd
bynnag, mae tarddiad y dynodiad hwn yn gwbl wahanol. Gan fod y llecyn yn weddol
agos i Draethau Crugyll, mae'n bur debyg fod enw'r pant yn tarddu o'r cyfnod pan
oedd smyglo yn arferiad poblogaidd yn yr ardal.
Gwilym T. Jones, Llangefni.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 13, Nadolig 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc