Home Up

COLLI CYFEILLION

Y ddaear lafar oedd ei lên – a dyn
             ’Stiniog, bob gwythïen,

hen law mor fwyn â phluen

ond darn cadarn o’r graig hen. 

 

Myrddin ap Dafydd.

 

Tristwch mawr i bawb oedd yn ei anabod oedd clywed am farwolaeth disymwyth Emrys Evans, Manod, Blaenau Ffestiniog. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac yn aelod o’r Cyngor o’r cychwyn. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn ffynhonnau bro Blaenau Ffestiniog megis Ffynnon Fihangel a Ffynnon Bach. Trefnodd i ni ymweld â Ffynnon Fihangel ac roedd yn cadw golwg dros y ffynnon ar ran y Gymdeithas. Yn rhifyn 24 o Llygad y Ffynnon argraffwyd ei luniau arbennig o Ffynnon Bach. Yng nghyfarfodydd y Cyngor roedd ei farn bob amser yn gytbwys a doeth a’i hiwmor a’i chwerthin afiaethus yn cynhesu pob trafodaeth.  Bydd yn gadael bwlch na ellir ei lanw ar ei ôl. Yn anffodus ar ddiwrnod ei arwyl roedd yn amhosibl i ni fod yno gan fod claddedigaeth perthynas yn digwydd bron ar yr un adeg dros y ffin yng Nghaer.

Roedd yn berson arbennig iawn ac yn ei farwolaeth ar Dachwedd 19eg collodd y genedl drysor. Wedi gadael yr ysgol uwchradd aeth i’r chwarel fel ei dad a’i daid o’i flaen ac yn y caban y dysgodd sut i siarad yn gyhoeddus a chynnal cyfarfodydd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu yn y llynges. Wedi dod adref a mynd yn ôl i’r chwarel gwelodd effaith y llwch ar ei gydweithwyr a phenderfynodd newid cyfeiriad. Aeth yn Was Sifil a bu’n gweithio ym maes cyflogaeth gan wasanaethu ei fro. Roedd wedi priodi â Menna Griffiths yn 1941 a ganwyd iddynt ddwy ferch, Marian a Gwenan. Collodd ei briod hoff yn 1962 ac wedi hynny Emrys fu’n fam a thad i’r merched drwy gyfnod anodd. Ymddeolodd yn gynnar oherwydd iechyd ond cafodd flynyddoedd lawer i fwynhau ei amrywiol ddiddordebau.

Roedd yn bysgotwr penigamp fel ei dad a’i daid o’i flaen ac yn arbenigwr ar greu plu a bu’n ysgrifennu colofn- Sgotwrs Stiniog yn Llafar Bro – y papur bro lleol- ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Bu’n olygydd ar gylchgrawn hanes lleol, Rhamant Bro am flynyddoedd lawer.  Roedd yn awdur llyfrau i blant hefyd. Roedd yn hoff o gymdeithasau o bob math- Cymdeithas Enweiriol y Cambrian; Cymdeithas Y Fainc Sglodion; Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Fforwm Plas Tan y Bwlch, Cymdeithas Edward Llwyd a Chymdeithas Llafar Gwlad i enwi ond ychydig. Bu’n flaenor yng nghapel Bethesda , Blaenau Ffestiniog, yn ysgrifennydd yr eglwys ac yn athro Ysgol Sul i’r oedolion am flynyddoedd. Yn sicr mae ei fro enedigol a Chymru gyfan yn dlotach o’i golli. Estynnwn ein cydymeimlad llwyraf â Marion a Gwenan a’u teuluoedd yn eu hiraeth.

            ER COF AM EMRYS EVANS          

Y mae heno’n y Manod
          Rhyw herc yn nhroad y rhod,
         
Y graig sy’n teimlo’r hen graith
          Heno, nid ’r un yw’r heniaith.
          Pob llechen yn sôn amdano
          A rhyw gric yn nhrymder y gro,
          Oherwydd y mae hiraeth
         
Yn cau rhwng clogwyni caeth,
          Hiraeth am un o’n harwyr
          A llais fu’n gyfaredd llwyr.
          Un annwyl a roed heno
          I bridd cyfarwydd ein bro,
          Cywiraf, addfwynaf ŵr
          Heddwch i ti fonheddwr.
          Er yr herc yn nhroad y rhod.
          Heno, gorffwys ym Manod. 

Cynan Jones

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Gyda thristwch y clywyd am farwolaeth yr awdur adnabyddus a thoreithiog, John Ellis Williams, Llanrug yn 84 oed. Bu’n aelod brwdfrydig o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a’i ddiddordeb arbennig oedd Ffynnon Cegin Arthur, Deiniolen, ac ymddangosodd llun ohono yn sefyll yn y ffynnon ym Mai 1997 yn Llygad y Ffynnon  Rhif 4, Haf 1998. Roedd yn gymeriad lliwgar, wedi teithio’r byd am flynyddoedd yng nghwmni’r sipswn, yn gweithio yng nghaeau gwenith yn Ffrainc a chyda cheffylau gwyllt yn y Carmague. Treuliodd amser ym Mharis a bu’n byw yn Sussex cyn dod yn ôl i’w hen ardal i ymgartrefu. Derbyniwyd ef i’r orsedd yng Nghaerdydd yn 2008. Cydymdeimlwn a’i deulu yn eu colled a’u hiraeth.

LLYGADY FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI AELOD

Bu farw Eirlys Jones, Bryn Siriol, Gellifor, Rhuthun, yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd ar Hydref 26. Roedd yn 90 oed. Bu gynt yn byw yn Ffynnon Dudur, Llanelidan, ac ysgrifennodd erthygl i Llygad y Ffynnon am ei dyddiau yno ac am effeithiolrwydd y ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI AELOD

Trist oedd clywed am farwolaeth Hafina Clwyd ar Fawrth 14. Roedd wedi bod yn aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ers blynyddoedd ac yn gefnogol iawn i waith y gymdeithas.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIOLCH A FFARWELIO:

Gyda thristwch nodwn i ni golli aelod gweithgar ym marwolaeth Cledwyn Williams, cyn brifathro ysgolion Llanrug a Chwm y Glo, ar Dachwedd 24ain. Roedd yn 95 oed. Bu’n byw yn Nhŷ’r Ysgol Llanrug ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn Ffynnon Fair, Llanfair-is gaer, (SH5166)) rhwng y Felinheli a Chaernarfon, ac yn gofidio’n fawr fod gwaith i ledu’r ffordd wedi dinistrio’r ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

 

Home Up