CLYNNOG FAWR
GLYNLLIFON
FFYNHONNAU’R
PERERINION
Hwyrach
i chi gofio i mi grybwyll yn Llygad y Ffynnon Rhif
3 fod cynlluniau ar droed i greu teithiau sy’n dilyn
llwybrau’r pererinion i Enlli. Dywedais y byddai’n beth da i gynnwys y
ffynhonnau yn y teithiau hyn. Ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr wrth ba
ffynhonnau y byddai’r pererinion yn debygol o aros, ond diolch i lyfr H.D
Williams ar Enlli, cefais fy ngoleuo. Ar dudalen pump mae’n rhestru nifer o
ffynhonnau lle’r arferai’r pererinion wersylla a gorffwys am ychydig ar eu
taith i Fangor tuag Enlli: Ffynnon Odliw,
Glynllifon: Ffynnon
Beuno, Clynnog: Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn:
Ffynnon Fair, Nefyn: Ffynnon Penllech, Tudweiliog a Ffynnon
Fair, Aberdaron.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON BEUNO
(SH 414494)
FFILMIO’R FFYNHONNAU
Eirlys
Gruffydd
Roedd y tywydd yn dipyn mwy caredig yr wythnos ganlynol pan aethom ar ymweliad ag Arfon, Eifionydd a Llyn. Dechreuasom y daith yng Nghlynnog Fawr a cherdded ar hyd y ffordd brysur o’r eglwys at Ffynnon Beuno (SH 414494) Mae hon yn grair hanesyddol Graddfa II ac felly wedi ei ddiogelu. Erbyn heddiw nid yw’n lle braf iawn i orffwyso fel yn y dyddiau gynt oherwydd prysurdeb y ffordd a swn y drafnidiaeth. Byddai cryn gyrchu at Ffynnon Beuno ers talwm am fod ei dwr yn gwella plant oedd a ddioddefai o epilepsi. Byddai cleifion na allent gerdded yn cael eu cario at y ffynnon cyn cael eu gollwng i’r dwr. Yna rhaid oedd iddynt orwedd dros nos ar fedd Beuno oddi mewn i’r eglwys. Pe gallent gysgu yna byddent yn siwr o wella. Credid hefyd bod crafu llwch o’r colofnau yng nghapel Beuno yn yr eglwys a’i gymysgu gyda dwr o’r ffynnon yn effeithiol iawn at wella llygaid poenus. Roedd hon yn un o ffynhonnau lle gorffwysai’r pererinion ar eu ffordd i Enlli.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O AMGYLCH Y FFYNHONNAU
FFYNNON
BEUNO, CLYNNOG-FAWR, ARFON - SH 423498
Caiff
y ffynnon gryn sylw pan agorir canolfan yn Hen Ysgol, Clynnog.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
DŴR,
FFYNNON A PHENGLOG.
Ken Lloyd Gruffydd.
Ffynnon Beuno
Down ar draws parhad o’r hen ffydd yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg pan oedd hi’n arferiad gan ffermwyr Llŷn i hebrwng eu heffrod at Ffynnon Beuno yng Nghlynnog Fawr, Arfon, er mwyn cael dŵr wedi ei ysgeintio drostynt gyda’r gobaith y byddent yn esgor ar lo.
Cyfeirwyd eisoes at Santes Gwenfrewi a gollodd ei phen drwy gael ei dienyddio. Dylwn ychwanegu i’w hewythr Beuno (wedi hynny ei gwarchodwr ) lwyddo, drwy wyrth, i osod ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau. Cawn stori gyffelyb am Santes Ddigwg a’i ffynnon ger Clynnog Fawr. Diddorol sylwi mai Beuno a gyflawnodd y gorchwyl yma hefyd. Ef oedd nawddsant y plwy
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 NADOLIG 2008
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd
Ffynnon Beuno (SH 41324945) Clynnog Fawr
Er iddo ymweld â Chlynnog Fawr nid yw’n disgrifio
Ffynnon Beuno (SH 41324945) yno ond mae’n cyfeirio at yr arfer o gario cleifion i’r eglwys ar ôl eu trochi yn y ffynnon a’u gosod i orwedd ar fedd y sant i gael gwellhad. Meddai:‘Yng nghanol yr eglwys mae bedd y sant, o garreg blaen ac ar ffurf allor. Byddai gan yr addolwyr ffydd gadarn yn y sant ac yn sicr bod cysgu’r noson ar ei fedd yn siŵr o wella pob anhwylder. Roedd yn arferiad i osod brwyn ar y bedd a gadael plant gwan eu hiechyd arno dros nos ar ôl iddynt gael eu trochi yn y ffynnon sanctaidd gyfagos. Gwelais wely plu ar y bedd ac arno gorweddodd un o Sir Feirionydd oedd wedi ei barlysu wedi iddo yn gyntaf gael ei olchi yn y ffynnon.’
Mae nodyn golygyddol ar waelod y dudalen gan Syr John Rhys yn dweud fod y bedd wedi ei ddinistrio mewn ymdrech aflwyddiannus i ddod o hyd i gorff y sant.
+
PYTIAU
DIFYR
Ofergoelion
yr Hen Gymry gan y
Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.
(Detholiad
o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu
gwreiddiol)
Rhinwedd Ffynnon Beuno ( SH 41324945)oedd gweinyddu bendith ar y gwartheg.
LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON BEUNO CLYNNOG FAWR
(SH 4132 4945)
Daeth i’n sylw drwy garedigrwydd Helga Martin, Ysbyty Ifan, fod cyflwr y ffynnon yn dirywio gyda thyfiant o gwmpas y fynedfa. Credir bod y Cyngor Cymuned yn mynd i drafod y mater yn fuan. Mae’r ffynnon wedi ei chofiestru gan CADW.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON BEUNO, CLYNNOG FAWR
(SH41324945)
Bu cryn ofid am gyflwr
Ffynnon Beuno, yng Nghlynnog gan fod hon yn ffynnon gofrestredig gan CADW ac un nodedig. Diolch i ddwy o’n haelodau, Helga Martin a Marian Elias am gadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd. Dyma lun a dynnodd Helga o gyflwr truenus y ffynnon ddiwedd mis Gorffennaf 2012.Bu Helga’n cysylltu â’r Cyngor Cymuned fwy nag unwaith a chynnig cyfrannu o’i phoced ei hun tuag at y gwaith. Dyma’r ymateb a gafodd gan Ken Williams, Clerc y Cyngor:
“Mae’r Cyngor Cymuned wrthi’n cael prisiau gan wahanol gontractwyr am wneud y gwaith atgyweirio ar y ffynnon yn unol â dymuniadau a chynlluniau CADW. ...Rwyf yn cydweld â chwi ei bod yn drueni gweld y ffynnon yn y fath gyflwr, ond gallaf eich sicrhau fy mod innau, fel y Cyngor, yn awyddus i symud ymlaen gyda’r gwaith cyn gynted â phosibl.”
Fel y gwelwn wrth y lluniau isod, a dynnwyd gan Marian Elias, mae’r gwaith wedi dechrau a’r ffynnon yn edrych yn llawer iawn gwell erbyn hyn.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
ADFER FFYNNON BEUNO, CLYNNOG FAWR
(SH41324945)
O’r diwedd mae un o ffynhonnau pwysicaf Cymru wedi cael ei harbed rhag mynd yn adfail llwyr. Bellach gallwn weld y gofer sy’n cario dŵr o’r ffynnon a’r gwaith cerrig arbennig sy’n rhan mor bwysig o adeiladwaith y ffynnon. Beuno yw un o brif saint Cymru a’r dŵr o’r ffynnon yn arbennig o dda at wella gwendid neu gloffi mewn pobl a phlant. Wedi cario’r cleifion a’u gosod yn y ffynnon arferid eu cludo i’r eglwys gerllaw a’u gadael i gysgu ar wely o frwyn ar garreg fedd drwy’r nos. Pe byddent yn cysgu byddai iachâd yn sicr o ddilyn. Roedd hefyd yn arferiad i grafu’r colofnau cerrig yn y capel a chymysgu’r llwch gyda dŵr o’r ffynnon. Byddai’r hylif hwn yn effeithiol iawn at wella llygaid poenus. Diolch i’r Cyngor Cymuned, Mrs Marian Elias Roberts, Clynnog, a Helga Martin, Ysbyty Ifan, aelodau selog o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, sy wedi bod yn brwydro i’w hachub ac yn cadw llygad ar y gwaith. Diolch i Helga am anfon lluniau o’r gwaith ar Ffynnon Beuno i ni. Meddai “Dyma’r olygfa heddiw ar ôl i CADW adnewyddu Ffynnon Beuno yn wych. Roeddwn wrth fy modd gweld y gwelliant.” Da yw gwybod fod CADW yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb i warchod ein ffynhonnau sanctaidd.
Oddi fewn i Ffynnon Beuno
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PYTIAU DIFYR
Allan o Sul, Gŵyl a Gwaith gan Catrin Parri Huws (Tudalen 15)
Yn ardal Clynnog mae Fferm Tŷ Isa, sydd a’i safiad ar ochr Allt Mur Sant ond mae hefyd yn ffinio â Bryscyni Uchaf. Ar un adeg bu Tŷ Isa yn rhan o fferm hynafol Maes Glas, a berthynai yn yr hen amser i’r hen fynachlog cyn i Beuno Sant ei throi’n eglwys yn y flwyddyn 616 O.C. Dyna’r pryd y cafodd yr hen ffynnon sydd ar ochr y ffordd fawr ar dir Maes Glas ei galw yn Ffynnon Beuno. Mor loyw a chlir oedd ei dŵr yn yr haf ar adeg ymwelwyr, a byddai arian yn frith ar ei gwaelod. Credid y byddai raid cerdded tair gwaith gyda’ch cefn at y dŵr a thaflu arian neu geiniogau dros ysgwydd i gael dymuniad.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 37 Nadolig 2014
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CYFARFOD CYFFREDINOL CLYNNOG
Yn y prynhawn aeth aelodau’r Gymdeithas i ymweld â Ffynnon Beuno, Clynnog (SH41324945)
LLYGAD
Y FFYNNON Rhif 39 Nadolig 2015.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan o
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd
Janet
Bord
Ychydig iawn o
ffynhonnau sanctaidd oedd ar lwybr ymwelwyr y 18fed ganrif a’r 19eg,
heblaw am y rhai enwog am ryw reswm penodol, megis ffynnon fwyaf adnabyddus a
thrawiadol Cymru, Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint, sy’n
parhau i ddenu’r afiach yn y gobaith o gael gwellhad, yn ogystal â llawer o
bererinion Catholig ac ymwelwyr anghrefyddol. Ymwelid, hefyd, â ffynnon a
ddaeth yn ddrwg-enwog oherwydd ei henw fel ffynnon felltithio, sef Ffynnon Elian
yn Llaneilian-yn-Rhos yn Sir Ddinbych, gan lawer o dwristiaid y 19eg ganrif
yn ogystal â chan bobl leol a gredent yn ddiffuant y gallai gelyn eu melltithio
a’u “rhoi yn y ffynnon”.
Ysgrifennodd twristiaid hefyd am ffynhonnau hynafol ar lwybrau pererinion awgrymedig neu’n agos at gysegrfannau saint pwysig, megis Ffynnon Feuno yng Nghlynnog Fawr yn Sir Gaernarfon: ond ni ddenodd y mwyafrif o ffynhonnau lleol bychain fawr o sylw’r byd mawr y tu allan. Yn y de cynhwyswyd un ffynnon fechan a dinod yr olwg yn nheithiau twristiaid, yn bennaf oherwydd ei lleoliad dramatig, ac o ganlyniad mae disgrifiadau o’r hyn a ganfu teithwyr yno wedi rhoi inni olwg ar sut y gall hanes ffynnon sanctaidd ddatblygu a newid gyda’r blynyddoedd. Darganfûm hyn pan osodais yn nhrefn amser yr holl ddisgrifiadau y gallwn eu canfod o’r hon a elwir yn awr yn Saint Govan’s Well, ym mhlwyf Bosherston nid nepell o Ddinbych-y-pysgod yn ne Sir Benfro.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc