Y Clas-ar-Wy
Ffynnon Gynidr
Dyma ffynnon hardd rhwng y Clas-ar-Wy a Llansteffan yn ne eithaf Elfael,
Powys. Ei chyfeirnod Arolwg Prdanas yw SO 1640 4132. Dyma a ddywed Francis Jones
amdani yn Crwydro Sir Faesyfed I, tt.
97-8. Llandybïe: Llyfrau’r Dryw, 1966.
“Ar ôl gadael y capel [Maesyronnen] a chyrraedd yr heol unwaith eto penderfynasom ohirio ymweld â’r Clas-ar-Wy tan ddiwedd y daith ac felly daliasom ymlaen i fyny’r rhiw tua chomin Ffynnon Gynidr. Pwy, tybed, sy gyfrifol am newid enwau lleoedd y sir hon ar y mapiau? Gwelaf i rywun droi Cynidr fab Brychan yn ‘gynydd’ ar y mapiau diweddar. Ac erbyn heddiw ‘Ffynnon Gynydd’ yw’r ffurf a arferir ar y papur lleol er bod pawb o’r ardalwyr yn dweud Ffynnon Gynid.’ Dyna’r ffurf a glywais gan Mrs. Ricketts, gwaig y gof, yn ddiweddar. Dywedodd Mrs. Ricketts fod traddodiad yma i fintai o bengryniaid Cromwel ddyfod i’r hen efail ar y comin a pheri i’r gof drwsio’u cleddyfau. Y mae’n debyg gennyf fod hyn yn wir.”
Cynidr yw (neu oedd) nawddsant y Clas-ar-Wy yn Elfael; Aberyscir, Llan-y-wern a Chantref ym Mrycheiniog, a Kenderchurch ac efallai Winforton yn Swydd Henffordd
Clawr
y ffynnon ar agor.
Cofeb gerllaw’r ffynnon.
Lluniau: https://www.megalithic.co.uk/article.php?sid=24673.
Cyrchwyd 7.11.2021.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 51 Nadolig 2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc