Home Up

CILCAIN.

 

FFYNNON FIHANGEL

(SJ 175655)

 

ACHUB FFYNNON FIHANGEL

 Eirlys Gruffydd

Yn 1987 aethom i ymweld â safle Ffynnon Fihangel ym mhentref Cilcain, sir y Fflint. I bob pwrpas roedd y ffynnon hon wedi diflannu ond bod ei lleoliad islaw’r eglwys, ger bwthyn o’r enw Tyddyn Mihangel yn wybyddus. Mae’r eglwys yng Nghilcain wedi ei chysegru i Fair a pheth rhyfedd yw cael ffynnon wedi ei chysegru i Fihangel gerllaw iddi. Mae’r ffynnon ar dir preifat ond bod modd mynd iddi o’r ffordd, felly mae’r fynedfa yn dod o dan ofal Adran Briffyrdd y Cyngor Sir.

Mae nifer o bobl yn y pentref wedi bod yn awyddus i adfer y ffynnon ers tro byd. Casglwyd gwybodaeth a’i gyflwyno i’r Cyngor Cymuned rai blynyddoedd yn ôl ond teimlwyd bod y gôst o geisio achub y ffynnon yn llawer gormod. Mae sycamorwydden yn tyfu yng nghanol y ffynnon. O bosib dyma sy’n ei dal at ei gilydd, ond ni ellir adfer y ffynnon heb dorri’r goeden i lawr. Ni ellir torri coeden i lawr heb ganiatâd a rhaid cael offer arbennig i wneud hynny. Hefyd mae gwifrau trydan a ffôn yn cyffwrdd brigau’r goeden. Dyma fyddai un rhan o’r gôst. Gan fod y ffynnon yn hen iawn byddai’n rhaid cael archeolegwr i oruchwilio’r gwaith o’i hadfer, felly penderfynodd y Cyngor Cymuned beidio a mynd ymlaen â’r gwaith.

Nawr mae’r ffynnon wedi dirywio mwy a rhywun wedi ei defnyddio fel man i adael sbwriel adeiladu, a dweud y gwir, prin bod modd ei hadnabod fel ffynnon erbyn hyn. Mewn ymgais i achub y ffynnon daeth nifer o bobl leol, gan gynnwys perchennog y tir, at ei gilydd. Roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i fod yn un o’r criw gan y gwyddwn fod angen i mi gael profiad uniongyrchol o geisio achub ffynnon.

 

 

Y peth cyntaf sy’n taro rhywun yw bod adfer ffynnon yn fater cymhleth iawn a bod rhaid cael cydweithrediad nifer o bobl cyn cychwyn ar y gwaith. Chwech ohonom oedd yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd mewn tŷ preifat yn y pentref ar Ebrill y 9fed. Y person pwysicaf o ddigon yno oedd y perchennog tir, oherwydd heb ei ganiatâd ef nid oedd modd symud cam. Roedd yn gefnogol iawn i’r syniad o adfer y ffynnon. Hyd y gallai weld doedd y goeden ddim yn broblem. Pe bai modd cael caniatâd i’w thorri, ar ôl gwneud yn siŵr nad oedd perygl i’r gwifrau uwchben, gellid gadael iddo syrthio ar ri dir. Coeden ifanc yw hon, un sydd wedi tyfu’n gyflym iawn am fod ei gwreiddiau’n sugno’r dŵr o’r ffynnon. Un o’r pethau cyntaf i’w gwneud, felly, yw cael caniatâd i dorri’r goeden. Mae llawer o’r cerrig a fu unwaith ym muriau’r ffynnon bellach wedi eu gwasgaru dros y cae lle mae’r dŵr yn llifo. Bydd angen casglu rhain at ei gilydd ar gyfer yr adeiladu. Gan fod y tir o gwmpas y ffynnon yn wlyb byddai adfer y ffynnon yn sychu’r ddaear o’i chwmpas a byddai hyn yn gwella cyflwr y tir i’r ffermwr.

Cynigiodd un o’r grŵp gysylltu ag archeolegydd i weld a fedrid cael cymorth gwirfoddol i arolygu’r gwaith. Mae cyfeiriad at y ffynnon yn The Ancient Monuments of Flintshire, arolwg o henebion y sir a wnaed yn 1912. Roedd aelod arall am gael gafael ar yr wybodaeth oedd eisoes wedi ei gasglu am y ffynnon. Fy nghyfraniad i oedd archwilio i’r wybodaeth am hanes y ffynnon a chael Ken i wneud llun o sut un oedd y ffynnon wreiddiol a sut y byddai’r ffynnon yn gallu edrych ar ôl ei hadfer.

Roedd dau beth y gallem ei wneud heb ofyn caniatâd neb, sef codi’r sbwriel a daflwyd i’r ffynnon a chasglu’r cerrig o’r ffynnon a wasgarwyd gan draed gwartheg a defaid ar hyd y cae lle mae’r dŵr o’r ffynnon yn goferu. Yn ystod y cyfarfod penderfynwyd ffurfio cymdeithas – Cyfeillion Ffynnon Fihangel – a byddem yn hysbysu’r Cyngor Cymuned ein bod yn bwriadu adfer y ffynnon. Byddai’n rhaid i ni gael cefnogaeth a chydweithrediad y pentrefwyr gan mai ei ffynnon nhw ydi hi ac mae ar eu hysgwyddau nhw y bydd y cyfrifoldeb o gynnal a chadw’r ffynnon yn y dyfodol. Yn naturiol trafodwyd ochr ariannol y fenter. Cytunwyd y byddai angen swm rhwng £6,000 ac £8,000 i wneud y gwaith. Ystyriwyd ceisio statws elusen i Gyfeillion Ffynnon Fihangel gan fod hyn yn fantais fawr pan yn ceisio codi arian i adfer y ffynnon. Ar Galan Mai ymddangosodd erthygl mewn papur Saesneg lleol yn sôn am y ffynnon a’r ymgais i’w hadfer.

Ar Fai y 5ed cafwyd cyfarfod arall o’r Cyfeillion. Penderfynwyd ysgrifennu at y Cyngor Cymuned yn gofyn iddynt a hoffent anfon cynrychiolydd i’n cyfarfodydd ni. Drafftiwyd llythyr yn ystod y cyfarfod. Penderfynwyd mai un person oedd i fod yn berson cyswllt i’r Cyfeillion. Nid oedd hyn yn golygu mai’r person hwnnw neu honno fyddai’n gorfod gwneud y gwaith gohebu i gyd ond mai’r unigolyn yma fyddai’n arwyddo unrhyw lythyr ac a anfonid yn enw’r Cyfeillion. Bu trafodaeth hir am y goeden sycamorwydden sydd wedi tyfu ger y ffynnon am flynyddoedd lawer. Teimlai rhai u byddai’n bechod ei thorri gan ei bod yn harddu amgylchedd y ffynnon. O blaid ei thorri dadleuwyd y byddai’r sycamorwydden yn dal i dyfu’n am ddegau o flynyddoedd eto ac y byddai, ymhen amser, yn dinistrio unrhyw waith adfer a wneid i’r ffynnon, a bwrw ei bod yn cael ei hailadeiladu ar ei safle bresennol. Nid coeden frodorol yw’r sycamorwydden. Ni fyddai ei thynnu i lawr yn andwyo ecoleg yr ardal. Pe byddai’r ffynnon wedi parhau i gael ei defnyddio byddai’r goeden wedi ei thorri i lawr pan oedd yn lasbren ac felly ni fyddai coeden yn tyfu ar y safle. y dadleuon yn erbyn torri’r goeden oedd y byddai hyn yn llai o waith. Byddai cael gwared â gwreiddiau’r goeden, sydd tua 50 troedfedd o uchder, yn amhosibl ac felly byddai rhaid eu gadael yn y ddaear. Wrth geisio eu codi byddid yn dinistrio yr hyn sy’n weddill o’r ffynnon. Wrth geisio difa’r gwreiddiau heb eu codi byddai’n rhaid sicrhau na ddefnyddid unrhyw gemegyn a allai lygru dŵr y ffynnon gan fod gwartheg y ffermwr yn yfed o’r nant sy’n llifo o’r gofer. Fel bydd y gwreiddiau’n pydru gall y tir o gwmpas y ffynnon symud a gallai hyn ddinistrio’r adeiladwaith newydd. 

Penderfynwyd gohirio’r dyfarniad i dorri’r goeden neu beidio nes i ni gael barn arbenigwr ar dyfiant coed. Gallem gael gwybod i ba faint mae’r goeden yn debygol o dyfu ac felly rhagweld niwed i’r ffynnon yn y dyfodol. Nododd perchennog y tir na fyddai torri’r goeden yn costio dim gan fod ganddo’r offer i wneud hynny. Yn yr adnewyddu rhaid cynnwys sianel well i gario’r dŵr o’r ffynnon er mwyn sychu’r tir. Trafodwyd materion ariannol. Penderfynwyd, er mwyn bod yn ffurfiol, y dylai’r Cyfeillion gael swyddogion a chyfrif banc. Byddai ceisio cael arian gan gyrff ariannu gwahanol yn siŵr o gymryd cryn amser. Rhaid fyddai gwneud gwaith i glirio’r safle cyn y gellid gwneud cais am grant. Ni fyddai angen archeolegwr i oruchwylio’r gwaith oni bai ein bod yn dod ar draws rhywbeth o werth hanesyddol. Ein blaenoriaeth oedd clirio’r grisiau oedd yn arwain i lawr at y ffynnon. Byddai’n rhaid gwneud hyn â thrywel.

Ar Fai y 26 ain daeth cadeirydd Pwyllgor Mileniwm y pentref i’n cyfarfod ac roedd yn gefnogol i’n bwriad o adfer y ffynnon. Bydd yn adrodd yn ôl i’r pwyllgor. Hefyd cafwyd ar ddeall fod rhaid torri’r goeden i lawr am y byddai’n dal i dyfu am ganrif arall ac yn difetha unrhyw waith adnewyddu a wneir ar y ffynnon. Rhaid aros i gael trwydded i’w thorri ond ni ddylai hynny fod yn anodd. Daeth crefftwr sy’n arbenigo mewn adeiladu waliau sychion i edrych ar y safle. Roedd yn gweld posibilrwydd o adfer y ffynnon, a daw i weld y lle unwaith eto pan fydd y goeden wedi ei symud. Trefnwyd i ddod at ein gilydd i godi cerrig o’r ffynnon sydd wedi eu gwasgaru dros y cae a’u gosod mewn un man ger y ffynnon er mwyn iddynt fod yno pan fydd eu hangen i ailadeiladu’r waliau. Peth arall y dechreuwyd ei wneud oedd clirio’r grisiau sy’n arwain at y ffynnon a datgelu’r waliau cerrig ar ochr y ffordd sy’n arwain ati.

Gyda chymaint o weithwyr brwdfrydig a chefnogaeth gref o’r pentref mae gobaith y bydd Ffynnon Fihangel, Cilcain unwaith eto yn denu ymwelwyr ati.

Cewch wybod beth fydd wedi digwydd dros y misoedd nesaf yn rhifyn Nadolig o Llygad y Ffynnon – os byw ac iach.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Adfer Ffynnon Fihangel, Cilcain

Eirlys Gruffydd

Yn rhifyn yr haf o Llygad y Ffynnon adroddwyd hanes ymdrech Cyfeillion Ffynnon Fihangel, Cilcain, sir y Fflint i adfer y ffynnon sydd bron â diflannu. Dyma mwy o fanylion am yr ymgyrch:

Bu rhai o’r cyfeillion yn gweithio ar safle’r ffynnon ar Fehefin y 6ed. Casglwyd y cerrig o’r muriau a amgylchynai’r ffynnon a oedd wedi llithro i’r cae islaw a’u pentyrru’n barod i gael eu hailddefnyddio i adfer y safle. Gwelwyd fod rhai o’r cerrig a oedd ar y grisiau yn arwain at y ffynnon yno o hyd ond eu bod wedi eu claddu o dan y pridd. Roedd eraill, fodd bynnag, wedi diflannu. Gwelwyd hefyd fod y goeden wedi dinistrio mwy na hanner y ffynnon ei hun.

Mewn cyfarfod ar Fehefin y 23ain penderfynwyd gwahodd cadeirydd Pwyllgor Mileniwm y pentref i’r cyfarfod nesaf ar Orffennaf y 21ain, a dyna a fu. Roedd ganddo gryn ddiddordeb yng ngwaith adfer y ffynnon. Yn ystod y drafodaeth dywedwyd fod gwraig leol, a fu farw ddwy flynedd yn ôl, wedi datgan diddordeb mewn adfer y ffynnon, a bod arian wedi ei gasglu er cof amdani ar gyfer y gwaith. Soniwyd am y posibilrwydd o gysylltu â’r teulu. Penderfynwyd hefyd fod rhaid cloddio’r ffynnon i weld beth sydd ar ôl yno cyn torri’r goeden, rhag ofn i’r gwaith hwnnw ddinistrio’r ffynnon yn llwyr.

 

 

Ar y dydd Sadwrn canlynol aeth Delyth Williams a minnau ati i gloddio’r ffynnon. Yn fuan daeth yr hyn a oedd yn weddill o’r grisiau i lawr at y dŵr i’r golwg. Wrth glirio’r ffynnon ei hun gwelwyd fod rhywfaint o’r mur yn dal i sefyll. Yn sydyn, wrth glirio’r gris isaf, llifodd dŵr o’r ffynnon dros y garreg. Roedd hyn yn brawf fod y dŵr yno o hyd er bod y ffynnon ei hun yn ymddangos yn gwbl sych. Wedi clirio’r gofer o’r cae yr ochr arall i’r ffynnon llifodd y dŵr yn gryf.

Y diwrnod canlynol dymchwelwyd y goeden a syrthiodd cerrig mawr o’r mur sydd rhwng y cae a’r ffordd i mewn i’r ffynnon, gan chwalu’r gwaith cerrig oedd wedi goroesi. Yr wythnos ganlynol aeth criw ohonom yno i geisio dinoethi gwreiddiau’r goeden a llifio drwyddynt er mwyn codi’r boncyff o’r ddaear. Buan y sylweddolwyd nad gwaith i athrawon a gweithwyr swyddfa oedd hyn! Byddai’n rhaid cael dynion cydnerth i’n helpu!

Gan fod pawb wedi gwasgaru yn ystod mis Awst ni chafwyd cyfarfod tan Fedi’r 22ain. Roedd Delyth wedi bod yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a chanfod cyfeiriad at y ffynnon yn dyddio’n ôl i ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Roedd Tom, perchennog y tir, wedi ceisio symud boncyff y goeden, ond yn anffodus ofer fu pob ymdrech hyd yn oed gyda pheiriant pwerus iawn. Ceisiwyd torri’r gwreiddiau â llif drydan gref ond gan fod y pren yn tyfu rhwng cerrig roedd y llif yn cael ei niwedio o hyd wrth daro yn eu herbyn. Yr unig ffordd o fynd at y gwreiddiau, sydd wedi lledu fel cwrlid dros y llethr, oedd gyda bar haearn a bwyell – proses araf a thrwm. Trafodwyd nifer o bosibiliadau sut i symud y boncyff. Gellid ei losgi’n araf; symud y pridd a’r cerrig o dan y gwreiddiau gan ddefnyddio dŵr yn cael ei chwistrellu o dan bwysedd arnynt; defnyddio Jac Codi Baw i ostwng lefel y tir o’i gwmpas; cael llif cryfach – un sy’n torri trwy goncrid. Teimlai pawb fod yn rhaid cael gwared â’r boncyff gan y byddai’r goeden yn dechrau tyfu eto pe bai’n cael llonydd.

Yn y cyfarfod ar Hydref yr 20fed clywyd fod modd cael cemegyn lladd coed ond nad yw’n beryglus i unrhyw beth arall. Penderfynwyd prynu’r cemegyn, ei gymysgu â phast papuro i’w wneud yn haws ei drin, torri’r hyn sy’n weddill o foncyff y goeden mor isel â phosib ac yna taenu’r gymysgedd dros wyneb y pren. Dylai’r gymysgedd gael ei amsugno gan y goeden, ac wedi iddo gyrraedd blaen y gwreiddiau byw, dylai eu lladd. Dros y gaeaf bydd y pren yn pydru a bydd yn llawer haws cael gwared ag ef wedyn.

Sylweddolwyd hefyd ei bod bellach yn amser i ni godi arian a phenderfynwyd gosod stondin yn lleol i werthu nwyddau ar ddechrau mis Rhagfyr. Mae’r gwaith o geisio adfer y ffynnon wedi bod yn un hir, ac ni fydd modd gwneud dim ar y safle tan y gwanwyn. Peth felly yw adfer ffynnon, gwaith hir a llafurus ac anodd ar brydiau, ond un sy’n siŵr o roi boddhad mawr yn y diwedd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU 

FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN, GER YR WYDDGRUG.

Rhoddwyd cemegolyn ar foncyff y goeden sycamorwydden a oedd wedi tyfu yn y ffynnon a'i dinistrio. Erbyn hyn mae'r pren wedi marw a gellir parhau a gwaith tynnu'r goeden o'i gwraidd ac adfer y ffynnon.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN

Os y cofiwch, roedd tyfiant coeden fawr wedi dinistrio adeiladwaith y ffynnon. Rhoddwyd cemegolyn pwrpasol ar y boncyff i'w ladd a bu'r driniaeth yn llwyddiannus ac eithrio mewn un man lle mae brigyn ir wedi tyfu o'r gwraidd. Rhaid delio a hwn cyn y gellir mynd ati i godi'r gwreiddiau marw o'r safle.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FIHANGEL 

(SJ176649)

Mae'r ymgais i adfer Ffynnon Fihangel wedi gorfod arafu am nad yw'r goeden sydd wedi tyfu drwy'r ffynnon eto wedi ei lladd yn llwyr. Mae brigau ir yn tyfu o'r boncyff o hyd a rhaid fydd eu trin a'u lladd cyn gall y gwaith adfer ddechrau. Bellach does dim ond drain a mieri yno ac ni fyddai modd dweud bod ffynnon oddi tanynt gan mor gywrain y mae'r safle wedi ei chuddio.

 

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 13 NADOLIG 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FIHANGEL

Mae safle’r ffynnon wedi ei chuddio o dan ddrain a mieri a’r brwdfrydedd a fu ynglŷn â’i hadfer wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y flwyddyn diwethaf.

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 14 HAF 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

Rhoddwyd cryn sylw  i Ffynnon Fihangel, Cilcain (SJ 175655) mewn ol-rifynnau o Llygad y Ffynnon. Fe gofiwch inni ddymchwel coeden fawr am fod ei gwreiddiau’n tyfu dryw furiau’r ffynnon. Methwyd a chodi’r goeden wrth ddefnyddio offer trwm ac felly defnyddiwyd cemegolyn arni. Mae hyn wedi ei lladd ond rhaid nawr i’w torri’r pren marw gyda bwyell er mwyn ei symud o’r safle. Bydd hyn yn waith hir a chaled ond rydym yn ffyddiog y gallwn adfer y ffynnon hon yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU 

FFYNNON FIHANGEL

Mae Cilcain yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Cafwyd trafodaeth gyda rheolwr y ganolfan yn Loggerheads sy’n arolygu’r ardal, ac mae ganddo ddiddordeb mewn adfer y ffynnon gyda chydweithrediad archaeolegydd proffesiynol sydd wedi cloddio yn Ffynnon Degla yn Llandegla (SJ1952). Gobeithio y gallwn adfer ffynhonnau ym mhlwyf Llanarmon yn Iâl hefyd gyda chymorth y tîm yma. 

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 23 Nadolig 2007

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Leinw (SJ 187677) yn Hendre ym mhlwyf Cilcain, Sir y Fflint.

Ar ddechrau 1778 cyhoeddwyd y gyntaf o dair cyfrol Tours in Wales, gan Thomas Pennant (1726-1798) o Downing ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint.

Mae’r ffynnon nesaf y sonia amdani, Ffynnon Leinw (SJ 187677) yn Hendre ym mhlwyf Cilcain, Sir y Fflint. Meddai:

‘Yn y plwyf hwn, ar ochr y ffordd dyrpeg, heb fod ymhell o Neuadd Cilcain, mae’r enwog Ffynnon Leinw neu’r ffynnon sy’n llifo. Mae’n ffynnon fawr hirsgwar gyda dau fur o’i chwmpas. Mae’n nodedig am ei bod yn gwagio ac yn llanw bob yn ail.’

Mae bwriad gan Gyngor cymuned Rhyd-y-mwyn i adfer y ffynnon hon a glanhau o’i chwmpas ond nad oes arian ar gael i wneud hynny ar hyn o bryd.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Leinw, Cilcain (1)  

 

Pleser gennym yw cynnwys yn y rhifyn hwn o “Llygad y Ffynnon” ran gyntaf crynodeb o erthygl gan TRISTAN GREY HULSE o’r Bontnewydd, Llanelwy. Mae Tristan yn aelod o’r Gymdeithas, ac yn adnabyddus iawn nid yn unig am ei ddiddordeb dwfn mewn ffynhonnau sanctaidd ac agweddau eraill ar ein treftadaeth ysbrydol, ond hefyd am ei wrthrychedd a’i drylwyredd ysgolheigaidd. Ym maes hanes safleoedd sanctaidd, mae hynny o wybodaeth ddibynadwy sy’n weddill yn aml wedi’i chuddio tan drwch o ddychmygion, tybiaethau a ffantasïau; felly da cael cryman miniog meddwl Tristan i hel yr holl chwyn o’r ffordd, a chaniatáu inni olwg eglur ar ein hetifeddiaeth.

Ceir Ffynnon Leinw, Cilcain yn union i’r de o ffordd yr A541 rhwng yr Wyddgrug a Dinbych, yng nghongl ogledd-orllewinol coedwig yn union i’r gorllewin o’r Hendre (Cyfeirnod AO 186 677).

Mae hanes y darddell hon yn gymhleth ac, yn aml, yn ddryslyd.

Ar ei daith trwy Gymru ym 1188 arhosodd Gerallt Gymro noson yng Nghastell Rhuddlan, lle y clybu:

               Y mae tarddell nepell o Ruddlan, yn rhanbarth Tegeingl, sydd nid yn unig yn treio ac yn

               llenwi’n rheolaidd fel y môr, ddwywaith ym mhob pedair awr ar hugain, ond ar adegau

eraill yn aml yn codi ac yn gostwng liw nos a lliw dydd.

Yr oedd Gerallt eisoes wedi sylwi ar ffynnon gyffelyb ei hymddygiad ger Castell Dinefwr yn Nyfed.

Ym 1572 cyhoeddodd Humphrey Llwyd ei Commentarioli Britannicae Descriptionis Fragmentum, lle crybwyllir bod yn Nhegeingl:

                  Mae yn Nhegeingl ffynnon o natur ryfeddol sydd, a hithau chwe milltir o’r môr,

   ym mhlwyf Cilcain, yn treio ac yn llenwi ddwywaith y dydd. Eto sylwais ar hyn yn

   ddiweddar, pan gyfyd y lleuad o’r gorwel dwyreiniol i’r de (ar ba adeg y llif yr holl

   foroedd) bod dŵr y ffynnon hon yn treio ac yn llenwi ar yr adeg honno.

Mae’r frawddeg gyntaf fel petai’n adleisio Gerallt, ond mae’n lleoli’r ffynnon yng Nghilcain. Gŵr o Ddinbych oedd Llwyd: yr oedd yn amlwg yn gyfarwydd â Chilcain, ac wedi sylwi ar duedd y ffynnon i fynd yn hesb ar adegau neilltuol o’r flwyddyn.

Y cyntaf i’n hysbysu ynghylch enw’r ffynnon yw David Powel yn ei argraffiad o daith Gerallt Gymro, lle’i geilw yn “Fynon Leinw”. Wedi hynny crybwyllir y ffynnon gan Camden ym 1586 a 1603, a Speed ym 1611/12. Ym 1694 rhoddodd Richard Mostyn o Nannerch wybod i Edward Llwyd am “Fynnon Leinw”, gan ddweud nad oedd nac yn treio nac yn llenwi, er “y bu yn y gorffennol, fel y dywedant”. Tybiai Mostyn nad Ffynnon Leinw oedd yr un a gofnodid gan Gerallt, ond yn hytrach, Ffynnon Asa, ffynnon sylweddol y dywedid ei bod hithau hefyd yn treio ac yn llenwi.

Tua 1699 mae gohebwyr Llwyd yn crybwyll Ffynnon Fihangel a Ffynnon Leinw ym mhlwyf Cilcain;  Ffynnon y Santes Gatrin, Ffynnon y Beili a Ffynnon Maes Garmon ym mhlwyf yr Wyddgrug; ac yn y Cwm, tarddell “hynod iawn” Ffynnon Asa, y dywedid ei bod yn treio ac yn llenwi gyda’r môr, ond bod cadw golwg arni am naw awr wedi profi nad gwir hynny.

Mae Moses Williams (1723) yn crybwyll nad oedd Ffynnon Leinw, Cilcain bellach yn llenwi ac yn treio, er y dyfalai Williams fod yr enw’n awgrymu y bu felly yn y gorffennol. Dywed Thomas Pennant (1781) fod y ffynnon yn un betryal, gyda wal ddwbl o’i hamgylch. I grynhoi:

·        Gerallt Gymro yn crybwyll tarddell yn ymyl Rhuddlan sy’n treio ac yn llenwi ddwywaith y dydd, ond hefyd yn aml yn ystod y dydd;

·        Humphrey Llwyd yn uniaethu tarddell Gerallt â ffynnon dreio-a-llenwi ddienw yng Nghilcain, sydd hefyd yn hesb ar adegau o’r flwyddyn;

·        David Powel yn enwi’r ffynnon yng Nghilcain a grybwyllir gan H. Llwyd, sef Ffynnon Leinw;

·        William Camden yn crybwyll ymddygiad hynod ffynnon Cilcain;

·        Richard Mostyn ac Edward Llwyd yn awgrymu y byddai Ffynnon Asa, Cwm, yn cyfateb yn well i darddell Gerallt, ac nad yw Ffynnon Leinw, Cilcain, bellach yn ffynnon dreio-a-llenwi.  

Nid Ffynnon Leinw a Ffynnon Asa mo’r unig ffynhonnau o’u bath. Honnid yr un peth am o leiaf deg arall yng Nghymru, a cheir eraill yn Lloegr. Amhosibl dweud yn sicr pa un o’r ddwy yw’r darddell y clywsai Gerallt Gymro amdani, ond bu cynnwys Ffynnon Leinw yn arolwg daearyddol dylanwadol William Camden, Britannia, yn fodd sefydlu’n gyhoeddus bod ffynnon yng Nghilcain a fwydid gan darddell a dreiai ac a lenwai.

Mewn gwirionedd, ni chadarnhawyd fod unrhyw un o’r ffynhonnau hyn yn gwneud dim o’r fath. Mae pob ffynnon yn tueddu i amrywio o ran llif, a llawer yn mynd yn gwbl hesb ar dywydd sych. Gall  dŵr tarddellau ar garreg galch hydraidd, fel rhai Sir y Fflint, lifo’n afreolaidd, diflannu o dan y ddaear, ac yna ailymddangos drachefn, weithiau gryn bellter i ffwrdd. Nodwyd hynny yn achos plwyf Cilcain ei hun yn Parochialia Edward Llwyd, lle y dywedir bod “eu holl nentydd yn plymio”. O gofio hynny, ac y gallai peth amser fynd heibio cyn i ddŵr glaw dreiddio trwy’r ddaear a’r creigiau i ailgyflenwi’r tarddellau hyn, nid rhyfedd iddynt weithiau ffrydio’n fyrlymus, ac weithiau beidio. Hynny, mae’n debyg, a barodd adnabod un ohonynt megis y ffynnon a leinw, ac i bobl dybio bod a wnelo hynny â’r un grym a yrrai lanw a thrai’r môr.

I “Nennius”, Gerallt ac Edward Llwyd, yr oedd ymddygiad anarferol tarddellau, llynnoedd a llanwau yn destun rhyfeddod a chwilfrydedd mawr, ond yn anesboniadwy. Rhyfeddod naturiol oedd ffynnon Cilcain gan wŷr dysgedig fel Humphrey Llwyd a Thomas Pennant, hefyd: ond ni cheisient gynnig rheswm am y llenwi a’r treio. Yn ei bryddest hirfaith Poly-Olbion (1613), mae Michael Drayton yn mydryddu sylwadau Humphrey Llwyd am y ffynnon yng Nghilcain fel a ganlyn:

As also be thy Spring, such wonder who dost win,

That naturally remote, six British1 miles from sea,

And rising on the firm, yet in the natural day

Twice falling, twice doth fill, in most admired wise,

When Cynthia2 from the East unto the South doth rise,

Then mighty Neptune3 flows, then strangely ebbs thy Well;

And when again he sinks, as strangely she doth swell...

 

1 Cymreig, hynny yw. 2 Y Lloer. 3 Y môr.

Eto, yn ei sylwadau ar gynnwys y gerdd, mae’r hynafiaethydd John Selden (1584-1654) nid yn unig yn datgan mai Finon Leinw yn Kilken yw’r gwrthrych, ond hefyd yn cyfeirio at sylwadau H. Llwyd a Powel, ac at ffynhonnau cyffelyb yn Nhrenewydd yn Notais ym Mro Morgannwg.

 Â rhagddo i hanner awgrymu, â’i dafod yn ei foch, bod Natur yn darparu’r fath ryfeddodau’n fwriadol er mwyn creu penbleth i ddysgedigion. Yn wir, yr oedd yr hinsawdd ddeallusol yn newid: ac yn ei Micrographia (1665), mae’r “athronydd arbrofol” Robert Hooke yn wfftio at y syniad o ryfeddodau naturiol, gan geisio esbonio ymddygiad ffynnon Cilcain trwy ddamcaniaethu y gallai’r darddell fod â chysylltiad tanddaearol â’r môr. Yr oedd yr Oes Wyddonol ar wawrio.  

Diddorol – a gwers inni – yw cydnabod cyn lleied o’r dysgedigion a ysgrifenasant ynghylch Ffynnon Leinw a’i gwelodd erioed. Yr oedd ei statws megis rhyfeddod naturiol yn parhau oherwydd bod awduron yn dibynnu ar awdurdod awduron blaenorol, yn hytrach na’i hastudio. Eithr ni ddarfu am y diddordeb yn y ffynnon gyda diwedd oes y rhyfeddodau naturiol. Yn hytrach, caniataodd hynny  ddwyn i’r amlwg agweddau eraill ar hanes y ffynnon, a chynnig model newydd agosach, efallai, at y ffeithiau gwirioneddol, a mwy cydnaws â hydeimleddau Gothig a Rhamantaidd y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ganlynol. Y model hwnnw yw bod Ffynnon Leinwn ffynnon sanctaidd.

 

(i’w pharhau)                                                                                         TRISTAN GREY HULSE 

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig 2016.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Leinw, Cilcain (2)  

Yn ei Commentarioli, mae Humphrey Llwyd, wedi sôn am ffynnon Gilcain, yn mynd rhagddo i drafod Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon, lle’r “addolir yn ofergoelus y wyryf Wenfrewi, ac y gwellheir llawer o bobl trwy yfed y dŵr ac ymdrochi ynddo. Mae’n amlwg ei fod yn disgrifio nid rhyfeddod naturiol yn unig, ond “ffynnon sanctaidd”. Ni ddarfu i neb, o Llwyd hyd Pennant, fyth drafod Ffynnon Leinw yn y modd hwn: ond er gwaethaf hynny, datblygodd tuedd o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen i’w hystyried yn “ffynnon sanctaidd”.

Roedd yr awduron cynnar yn deall eu bod yn dilyn adroddiad Gerallt Gymro ynghylch rhyfeddod naturiol, ac yn ysgrifennu’n unol â hynny. Nid oedd ganddynt lawer o ddiddordeb mewn ffynhonnau sanctaidd ac “ofergoelion” o’r fath, ac efallai yr arweiniodd hynny at fethiant i gofnodi gwybodaeth ynghylch Ffynnon Leinw nad oedd yn unol ag adroddiad Gerallt: ond erbyn diwedd yr 17eg ganrif yr oedd hynafiaethwyr wedi ehangu maes eu casglu gwybodaeth, ac yn barod i ystyried tarddellau nid yn unig fel rhyfeddodau naturiol, ond hefyd fel nodweddion ag iddynt arwyddocâd hanesyddol.

Darfu i adran hynafiaethau holiadur plwyfol Edward Llwyd ofyn yn benodol am “Enwau’r Llynnoedd a’r Tarddellau hynod; ac a nodwyd unrhyw beth rhyfeddol yn eu cylch”. Dyma ddechrau’r casglu gwybodaeth (er mor anghyflawn ac aneglur) ynghylch ffynhonnau sanctaidd y Gymru ganoloesol, ac yn achos Ffynnon Leinw, darfu i Pennant (wedi crybwyll y dyb ei bod yn llenwi ac yn treio) ei disgrifio’n “ffynnon betryal hir gyda wal ddwbl o’i chylch”: yr awgrym cyntaf bod adeiladwaith am y darddell erbyn y 1780au.

Esbonnir yr adeiladwaith gan grybwylliad Gwallter Mechain (1761-1849) yn Topographical Dictionary Samuel Lewis (1848) bod y ffynnon yn boblogaidd iawn ar gyfer ymdrochi. Hwyrach y’i defnyddid at y diben hwnnw am gryn amser cyn y cofnodwyd y ffaith, ond yn sicr daeth ymdrochi er mwyn gwella’r iechyd yn ffasiynol iawn yn y 18fed ganrif, gan roi ail fywyd i lawer hen ffynnon sanctaidd. Digwyddodd hynny nid nepell o Gilcain yn Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, er enghraifft.  

Am y rhan olaf o’i oes bu’r casglwr llên gwerin dyfal hwnnw, y Parch. Elias Owen, yn gweithio ar lyfr o’r enw “The Holy Wells of North Wales” nas cyhoeddwyd fyth. Heblaw am grybwyll sylwadau awduron blaenorol ynghylch Ffynnon Leinw, a ffynhonnau llenwi a threio eraill, rhydd ddisgrifiad go fanwl o adeiladwaith y ffynnon a’i chyflwr. Bu’n amlwg mewn cyflwr da ar un adeg, ond bellach roedd wedi dirywio, gyda chwyn a choed gwern yn tyfu o’i hamgylch. Roedd yno weddillion waliau dwbl, seston fawr, a grisiau i lawr i’r dŵr.  Cadarnhaodd gwraig leol y defnyddid y dŵr at ddiben yfed, ac y bu llawer yn ymdrochi yno. Roedd gan Owen lythyr oddi wrth Ficer Rhyd-y-mwyn, hefyd, yn datgan mai dŵr wyneb oedd yn cyflenwi’r ffynnon, a’i bod yn hesb bob haf: roedd gwaith mwyn yr Hendre wedi amharu ar y cyflenwad gwreiddiol.

Ar wahân i’r ffaith bod pobl wedi ymdrochi yno, a oes unrhyw awgrym yr ystyrid Ffynnon Leinw’n ffynnon sanctaidd, yn ogystal â’i bod yn rhyfeddod naturiol?  Efallai.  Ym 1623 priododd Syr Thomas Mostyn Elizabeth ferch James Whitelocke o Gaer.  Roeddent yn byw yng Nghilcain, ac ymwelwyd â hwy yno gan frawd Elizabeth, Bulstrode Whitelocke. Tra yno, cofnododd yn ei ddyddiadur iddo ymweld â “henebion a hynodion”, gan gynnwys “St Katherines Well”, a oedd yn hynod oherwydd pe teflid dim aflan iddi, âi’n hesb hyd yr Ŵyl Gatrin ganlynol, pryd yr adlenwai drachefn.

Ni allai’r “St Katherine” hon fod yn neb llai na’r Santes Gatrin, a oedd yn eithriadol boblogaidd ddiwedd y canol oesoedd yng Nghymru fel yng ngweddill gorllewin Ewrop.  Cysegrwyd tair eglwys ganoloesol yn ei henw yng Nghymru (o gymharu â 62 yn Lloegr), gyda ffynhonnau sanctaidd yn dwyn ei henw yn yr Wyddgrug, Caerhun, Gresffordd a Rudbaxton. Y mae ffynnon sanctaidd ger Eglwys Gatrin yng Nghricieth, ond “Ffynnon y Saint” yw enw honno, a dim ond yn ddiweddar y daeth yn gysylltiedig â Chatrin.

Ai Ffynnon Leinw yng Nghilcain, felly, oedd y “St Katherines Well” yr ymwelodd Whitelocke â hi?

O blaid credu hynny mae’r ffaith iddo ei chrybwyll yn ei ddyddiadur yn union cyn cofnodi ymweliad â Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon hefyd, yn yr un modd ag y mae Humphrey Llwyd, Drayton a Speed hwythau’n cofnodi ymweld â Ffynnon Leinw a Ffynnon Wenfrewi yn yr un gwynt, fel petai.  Mae Camden yn crybwyll y ddwy ffynnon yn ei bennod fer ynghylch Sir y Fflint. Fel Ffynnon Leinw, roedd llif “St Katherines Well” yn ysbeidiol: ond serch hynny nid yw’r un awdur arall yn cysylltu’r Santes Gatrin â Ffynnon Leinw, ac nid oes unrhyw “Ffynnon Gatrin” nac ôl parchu Catrin yn unrhyw blwyf cyfagos, heblaw bod holiadur Edward Llwyd yn cofnodi “Ffynnon Seint y Katrin” rhywle ym mhlwyf yr Wyddgrug.

Nid yw hynny’n profi nad oedd ffynnon gyffelyb yng Nghilcain, gan y gwyddom i’w holiadur fethu â chofnodi sawl ffynnon a gofnodir gan awduron eraill: ond peryglus yw dadlau ar sail absenoldeb tystiolaeth, ac ni wyddys am unrhyw ffynhonnau eraill yng Nghilcain (lle’r oedd Whitelocke yn aros) ond Ffynnon Leinw, Ffynnon Fihangel a Thardd y Dŵr, man ailymddangosiad Fechlas.

 Gall ffynhonnau fod â rhagor nag un enw, neu newid eu henwau gydag amser. Hwyrach y bu’r enw  “St Katherines Well” ar darddell sydd wedi’i llwyr anghofio erbyn hyn, ond ple bynnag oedd, yr oedd rhywle o fewn pellter marchogaeth cyfleus i Whitelock yng Nghilcain. Fel y cofiwn, yr oedd wedi mynd i gael golwg ar “henebion a hynodion”, ac nid oedd dim yn y cyffiniau mor hynod, yn ôl tystiolaeth cofnodwyr a dysgedigion y cyfnod a sawl canrif flaenorol, â Ffynnon Leinw. O gofio bod plwyfi Cilcain a’r Wyddgrug yn ffinio â’i gilydd, ac nad yw Ffynnon Leinw’n bell o’r ffin honno, a yw’n bosibl bod y sawl a atebodd holiadur Edward Llwyd wedi camleoli “Ffynnon Seint y Katrin” yn yr Wyddgrug, yn hytrach na Chilcain? 

Efallai y bu gan Ffynnon Leinw ddau enw, sef un cysegriadol, “Ffynnon Seint y Katrin”, ac un arall, “Ffynnon Leinw”, a ddisgrifiai ei hymddygiad. Os felly, gallai’r duedd i ymdrochi ynddi ddyddio nid o’r ddeunawfed ganrif, ond o’r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Gallai’r rhyfeddod naturiol a’r ffynnon sanctaidd fod yn un.

 

Tristan Grey Hulse

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 42 Haf 201

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up