Home Up

CERRIGYDRUDION

 

FFYNNON FAIR FAGDALEN

(SH5948)

 

Mae gwaith adfer y ffynnon yn cael ei wneud gan aelodau o Gymdeithas Waliau Sychion Cymru. Maent wedi glanhau'r pridd a'r llaid o'r ffynnon fel bod ei ffurf wreiddiol yn weladwy unwaith eto ac mae ychydig o ddŵr yn dechrau crynhoi ar ei gwaelod. Yn ogystal, mae'r gweithwyr wedi hel cerrig ar y safle i ddechrau ar y gwaith adfer.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FAIR, CERRIGYDRUDION.

Nid oes fawr ddim wedi ei wneud i gario ymlaen â’r gwaith o adfer y ffynnon hon. Mae wedi ei hagor gan ddyn lleol ers rhai blynyddoedd ond nid yw’r gwaith o’i hadfer wedi ei gwblhau.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14. Haf  2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffc

 

FFYNNON WALIA

Cyfeiriadau at FFYNHONNAU yn y cylchgrawn CYMRU

(Casglwyd gan Ken Lloyd Gruffydd. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)

Asiedydd o Walia, Hynafiaethau Cerrig y Drudion CYMRU, XVI (1904), tud. 231:

Uwchlaw llys Iefan Ddu mae ffermdy o’r enw Capelau – lle y cynhelid gwasanaeth crefyddol yr hen lys, ac ar dir Ty’n y Graig y mae Ffynnon a elwir Ffynnon Ifan, a rhyw draddodiad disail gan yr ardalwyr yn ei chylch. Ond mae’n debyg mai Ffynnon Iefan Ddu, arglwydd Hiraethog ydoedd. Mae y dŵr yn rhedeg drwy dir Ty’n y Graig a rhan o dir y Plas ac i lawr i’r rhyd Garegog.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18, Haf 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffc

 

TAITH O GWMPAS FFYNHONNAU SIR DDINBYCH  

(A HEN SIR FEIRIONNYDD)

Eirlys Gruffydd

 

FFYNNON FAIR FAGDALEN

(SH5948)

Ar gais Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych bu Ken a minnau’n arwain taith o gwmpas rhai o ffynhonnau’r sir ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Roedd yn ddiwrnod bendigedig a da oedd hynny gan fod gennym dipyn o waith cerdded a’r ffordd i ambell ffynnon yn ddigon llaith a llithrig, hyd yn oed wedi tywydd sych.

Wedi seibiant dros ginio yng Nghorwen aethom ar hyd yr hen A5 i Gerrigydrudion i ymweld â Ffynnon Fair Magdalen (SH954491). Gyferbyn â’r ysgol a’r ganolfan mae llwybr cyhoeddus yn arwain i lawr at y ffynnon drwy giât mochyn. Rai blynyddoedd yn ôl bellach ailagorwyd y ffynnon gan ddau ddyn a oedd yn arbenigo mewn codi waliau cerrig. Yn anffodus ni lwyddwyd i orffen y gwaith o adfer y ffynnon a bellach mae’n agored i’r elfennau a’i chyflwr yn dirywio’n gyflym. Mae wedi ei rhestru yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Sir Ddinbych. Dywedir bod waliau ar dair ochr iddi a dwy garreg fawr ar y bedwaredd ochr a thri gris yn mynd i lawr at y dŵr. Mae’r llwybr cyhoeddus sy’n arwain ati yn awgrymu mai o’r ffynnon hon y câi’r pentrefwyr eu dŵr. Yn sicr mae angen i ni fel Cymdeithas wneud rhywbeth i ddiogelu’r ffynnon. Roedd pawb a gerddodd ati yn gweld pa mor ddigalon yw ei chyflwr a hefyd yn gweld pam mae angen cael cymdeithas i ddiogelu ein ffynhonnau. Tybed a oes rhai o’n haelodau sy’n adnabod cyfeillion yng Ngherrigydrudion yn ddigon da i fedru awgrymu gyda phwy y dylem gysylltu i adfer Ffynnon Fair Magdalen?

FFYNNON FAIR MAGDALEN

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffc

Home Up