Home Up

LLOEGR

CERNYW

 

TAIR FFYNNON YNG NGHERNYW

DEWI E. LEWIS

Perthyn i Gernyw, fel i Gymru, nifer o ffynhonnau hynod. Mae i’r mwyafrif ohonynt draddodiadau, chwedlau a llen gwerin. Yn 1894 cyhoeddwyd llyfr gan Lillian Quiller-Couch yn cofnodi hanes a thraddodiadau rhai o ffynhonnau Cernyw. Cyfrol fechan yw hon, ffrwyth ymchwil ei thad, a fu’n teithio o gwmpas Cernyw yn nodi hanesion a thraddodiadau am y ffynhonnau cyn iddynt fynd yn angof. Cofnodir gwybodaeth am 94 o ffynhonnau a gwneir hynny mewn dull cartrefol sy’n gwneud y gyfrol yn un fuddiol dros ben. Ailgyhoeddwyd y gyfrol yn 1994 i ddathlu canmlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol. Erbyn heddiw mae rhai o’r ffynhonnau wedi dirywio tra bod y diddordeb mewn eraill yn parhau a phobl yn dal i gyrchu at y dyfroedd bywiol. Yn ystod yr haf eleni cefais gyfle i ymweld a rhai ohonynt.

Saif ffynnon sanctaidd Sancreed nid nepell o eglwys Sancreed. Mae’n ffynnon danddaearol gydag adeilad o gerrig o’i chwmpas a tho uwch ei phen. Mae’r cerrig wedi eu gorchuddio a mwsogl gwyrdd tywyll ac ambell ddeilen redyn yn tyfu rhwng y cerrig. Gellir cyrraedd y dwr grisialaidd trwy ddisgyn saith gris o garreg ithfaen. Yn amlach na pheidio mae lefel dwr y ffynnon yn is na lefel y ddaear ond ar rai adegau, yn enwedig ar ol glaw trwm mae’r dwr yn uwch na’r gris uchaf ac yn gorlifo hyd sianel garreg. Mae mynedfa’r ffynnon yn wynebu tua’r de ac mae arbenigwyr wedi damcaniaethu bod arwyddocad i hyn. Ar adegau o’r flwyddyn mae haul canol dydd a lleuad canol nos yn disgleirio ar wyneb y dwr. Credir bod hyn yn arwyddo’r briodas rhwng elfennau hanfodol bywyd, sef dwr a goleuni.

Pan fesurwyd yr ymbelydredd ger y ffynnon yn nechrau’r nawdegau, gwelwyd bod y lefel ugain y cant yn uwch na lefel ymbelydredd yn y cefndir amgylchynol. Cred rhai mai’r lefel uchel o ymbelydredd sy’n rhoi’r ymdeimlad o esmwythder ger y ffynnon. Nid oes unrhyw gofnod o chwedlau na defodau iachâu yn gysylltiedig â’r ffynnon ond gellir priodoli hyn i’r ffaith bod y ffynnon wedi ei gorchuddio a drain hyd y flwyddyn 1897. Bryd hynny cafodd ei hail-ddarganfyddwyd gan ficer Sancreed ac aeth ati i’w glanhau a’i hadfer. Ers hynny mae cryn gyrchu wedi bod at y ffynnon. Tra oeddwn yn ymweld â’r safle roed gŵr a gwraig o’r Almaen yn ffilmio’r safle gyda chamcorder; cofnod i’r dyfodol dybiwn i.

Saif Ffynnon Alisa ym mhlwyf St. Butyan. Ar un adeg roedd hon yn ffynnon bwysig iawn ac roedd pererindodau ati ar y tri dydd Mercher cyntaf ym mis Mai. Dyma’r adeg pan ddeuai mamau a’u plant â oedd yn dioddef o’r llech at y dŵr. Byddai plant oedd yn cael eu trochi yn y dŵr yn cryfhau a’u hiachau o’r afiechyd. Yn ôl adroddiadau o’r cyfnod arweiniodd y pererindodau hyn at ddrwgdeimlad rhwng y pererinion a’r trigolion lleol:

          It was not unusual for these pilgrimages to be the occasion of a fight between

the women of Alisia and the pilgrim mothers, when the good housewives caught the

strangers dipping their precious babes into the enclosed part of the well or the place from

which the neighbours drew their drinking water.

Deuai cariadon at y ffynnon i geisio arwydd ynglyn a chwrs eu carwriaeth. Gollyngid pin neu garreg fach i’r dŵr a byddai nifer y swigod fyddai’n codi i’r wyneb yn arwyddo sawl blwyddyn fyddai cyn priodas. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf aethpwyd ati i dacluso o gwmpas y ffynnon. Erbyn heddiw mae’r ffynnon wedi ei diogelu rhag wartheg gan gatiau haearn. Roedd arwyddion pendant fod y ffynnon yn cael sylw heddiw fel ffynnon iachusol. Ar goeden gyfagos roedd nifer o clouties (carpiau) yn crogi o’r brigau. Dangosodd dadansoddiad diweddar o’r dŵr ei fod yn cynnwys ffosffadau a allai fod yn llesol i’r rhai â phroblemau anadlu neu’n dioddef o’r pas. Awgryma rhai mai’r defnydd o wrtaith amaethyddol sydd i gyfrif am lefel y ffosffadau a bod y ffynnon mewn gwirionedd wedi ei llygru.

 

[

 

Saif Ffynnon Madron nid nepell o Penzance. Mae’r safle erbyn heddiw mewn tir corsiog a phrin y gellir gweld y ffynnon. Tua dau gan llath o safle’r ffynnon mae capel hynafol. Tuedda nifer o ymwelwyr i ymweld â’r capel er mwyn yfed dwr sy’n rhedeg trwy bibell ac sy’n tarddu o’r ffynnon. Ym 1604 cyhoeddodd esgob Exeter fod i’r ffynnon werth iachusol a bod gwyrthiau wedi digwydd o ganlyniad i ymdrochi yn y dŵr neu yfed ohono. Mae’n debyg mai yn ystod pythefnos gyntaf mis Mai oedd yr adeg gorau i ymweld â’r ffynnon. Dyma ddau adroddiad o’r ail ganrif ar bymtheg:

   A certain boy of twelve years of age, called John Trelille in the coast of Cornwall, not far from Land’s end, as they were playing football, snatching up the ball, ran away with it; whereupon a girl, in anger, struck him with a thick stick on the backbone, and so bruised or broke it that for sixteen years after he was forced to go creeping o the ground. In this condition he arrived at the twenty eight year of his age when he dreamed that if he did bathe in St. Maderne’s Well, or in the stream running from it, he should recover his former strength and health. This is a place in Cornwall frequented on the Thursday in May, near to which well is a chapel dedicated to St. Maderne, where there is yet an altar, and right against it a grassy hillock (made every year anew by the country people) which hthey call St. Maderne’s Bed…. . On Thursday in May, assisted by one Perriman, nis neighbour, entertaining great hopes from his dream thither he crept, and lying before the altar and praying that he might regain his health and strength of his limbs, he washed his whole body in the stream that flowed from the well and ran through the chapel. After which having slept for one hour and a half in St. Maderne’s bed, through the extremity of the pain he felt in his nerves and arteries, he began to cry out and his limbs and joints somewhat expanded and himself became stronger….Before the following Thursday he got two crutches….and coming to the chapel as before having bathed himself, he slept on the same bed and before after having bathed himself, he slept on the same bed and awakening, found himself stronger and more upright; and so leaving one crutch in the chapel. The third Thursday he returned to the chapel and bathed as before, slept, and when he awoke rose up quite cured.

Children used to be taken to this well on the first three Sunday mornings in May to be dipped in the water, that they might be cured of the rickets, or any other disorder with which they were troubled. Three times they were plunged into the water, after having been stripped naked; the parent or person dipping them standing facing the sun; after dipping them they were passed nine times round the well from east to west; then they were dressed and laid on St Maderne’s Bed; should they sleep and the water in the well bubble, it was considered a good omen.

Fel ffynnon Alisia roedd yr arferiad o adael clouties ar goed cyfagos yn gyffredin. Pan ymwelais â’r ffynnon a’r capel roedd darnau o ddillad yn crogi yno. Mae’r arfer o gynnal gwasanaethau crefyddol ger y ffynnon yn ystod mis Mai yn parhau a chynhelir bedyddiadau ar y Pasg a’r Sulgwyn.

Yn ôl teithlyfr o’r ardal dim ond y mwyaf brwdfrydig o deithwyr ddylai ymweld a’r ffynnon. Yn sicr mae’n werth ymweld â’r safle a cheir arwyddion ffordd clir i’ch arwain tuag ati. Er ei bod yn ddiwrnod poeth ym mis Awst ni chefais fy nhemtio i ymnoethi a throchi yn y dŵr nac i gysgu yng ngwely Sant Madron ond cefais fwynhad mawr o ymweld â thair ffynnon yng Nghernyw.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

FFYNHONNAU CERNYW – CYFROL ARALL GAN PHIL COPE

Yn 2008 cyhoeddodd Phil Cope- sy’n aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru y gyfrol fendigedig Holy Wells:Wales (220 o dudalennau) a gyhoeddwyd gan gwmni argraffu SEREN, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hon yn gyfrol fyddai’n harddu unrhyw silff lyfrau ac ynddi mae darluniau eithriadol o rhai o’n ffynhonnau amlycaf a chyfeirnod map i bob un. Pris y gyfrol yw £20. Yn wir mae’r lluniau yn syfrdanol ac mae Phil wedi llwyddo i ymweld â rhai ffynhonnau na chafodd neb arall y fraint o wneud hynny. Mae’r lluniau yn gofnod pwysig iawn o’r gorffennol y dylid eu trysori i’r dyfodol

Bellach mae Phil wedi mynd ar daith trwy Gernyw ac mewn cyfrol Holy Wells: Cornwall (250 o dudalennau - pris £20) mae’n disgrifio lleoliad y ffynhonnau ac yn rhoi nifer o luniau o bob un. Mae’n ddiddorol cymharu adeiladwaith y ffynhonnau hyn a’r rhai sy gennym ni yma yng Nghymru. Ceir rhai sy a dim ond cerrig diaddurn o’u cwmpas ond yn fwy aml na pheidio ceir adeilad o gerrig nadd dros y tarddiad. Mae nifer o ffynhonnau wedi eu cysegru i seintiau sy’n adnabyddus i ni yma yng Nghymru megis Cybi, Dewi a Non, Cain, Cenwyn a Mihangel. Bydd ymwelwyr yn gadael clytiau, blodau neu hyd yn oed ddoliau wrth ambell ffynnon. Mae’n amlwg fod pobl Cernyw yn parchu ac yn gofalu am eu ffynhonnau sanctaidd yn llawer gwell na ni, ac yn manteisio arnynt i ddenu ymwelwyr a chodi statws y ffynhonnau. Mae ein cefndryd Gwyddelig yn Iwerddon yn gwneud yr un fath. Onid yw’n amser i ni yng Nghymru ddeffro i bwysigrwydd a chyfoeth ein treftadaeth cyn ei bod yn rhy hwyr? Mae cwmni cyhoeddi SEREN yn cynnig gostyngiad o £5 i bobl sy’n prynu’r ddwy gyfrol gyda’i gilydd. Mewn sgwrs ar y ffôn dywedodd Simon Hicks, cyfarwyddwr y cwmni wrthyf y byddai’n barod i roi nawdd ariannol i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru am bob cyfrol sy’n cael ei phrynu gan aelodau’r Gymdeithas. Peth am brynu’r ddwy gyfrol? Maent yn edrych yn hapus iawn ochr yn ochr â’i gilydd ar y silff lyfrau. Dyma gyfle i ddefnyddio’r tocynnau llyfrau a gawsoch fel anrhegion adeg y Nadolig. Os byddwch yn mynd i Gernyw yn ystod y flwyddyn bydd y gyfrol yn sicr o gyfoethogi eich ymweliad a’r rhan Geltaidd hon o Loegr

Dyma fanylion cwmni SEREN: 57 Nolton St, Peny Bont ar-Ogwr, (Bridgend) CF31 3AE

Rhif ffôn : 01656 663018. Seren@SerenBooks.com www.SerenBooks.com

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

Home Up