Home Up

CEMAES

 

FFYNNON DYDECHO, 

(SH 830063)

Eirlys Gruffydd

                 

‘Ar brynhawngwaith  teg o haf hirfelyn tesog’ ddiwedd Mai aeth Ken a minnau i ymweld a Chemaes ym Maldwyn gyda’r bwriad o weld y ffynnon uchod. Rhai wythnosau yng nghynt roedd dau o aelodau’r Gymdeithas, Pat a Meurig Jones, Swyddffynnon, Ceredigion wedi bod yn ymweld a’r eglwys yng Nghemaes ac wedi digwydd cyfarfod a Dorothy Ryder Jones sydd a diddordeb mawr yn yr eglwys a’r ffynnon sydd islaw i fur gogleddol y fynwent. Soniodd Pat a Meurig wrthi am Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a rhoi ei henw a’i chyfeiriad i ni. Trefnwyd i ni gwrdd a Dorothy ac ymweld a’r ffynnon.

 

Daeth Ceurwyn Hughes, Mallwyd a Wyn Evans hefyd i’n cyfarfod a mentrodd y pump ohonom i lawr yr allt serth goediog at y ffynnon. Roedd yn werth yr ymdrech. Gan ei bod mewn man digon anodd mynd ati mae’r ffynnon wedi cadw mewn cyflwr ardderchog. Mae tua chwech troedfedd o hyd a phedair o led ac unwaith bu o leiaf pedwar o risiau yn mynd i lawr at y dwr. Dyfnder y dwr ynddi yw dwy droedfedd. Mae’n goferu’n gryf i’r afon Ddyfi sy’n llifo rhyw ddeg llath ar hugain islaw .Mae muriau o’i chwmpas ar dair ochr o hyd ac mae olion o fur ar y bedwaredd ochr hefyd. Gan ei bod mewn lle gweddol dywyll o dan y coed nid oes tyfiant gwyllt yn ei llanw ond mae ei chyflwr da hefyd i’w briodoli i’r ffaith fod Wyn wedi bod yno yn ei glanhau’n achlysurol. Heb amheuaeth mae hon yn ffynnon hynafol o faint sylweddol a’i lleoliad mor agos a hyn i’r eglwys yn ei gwneud yn ffynnon sanctaidd. Er nad oes gennym brawf dogfennol ar hyn o bryd mae hon yw Ffynnon Dydecho rydym yn ffyddiog mai dyna ydyw. Os oes gan rhywun wybodaeth am y ffynnon arbennig hon byddem yn falch iawn o gael clywed gennych. Pob hwyl i gyfeillion Cemaes yn eu hymdrech i ddiogelu Ffynnon Dydecho a’i dwyn i amlygrwydd. Mae’n siwr y cawn fwy o’i hanes yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 14 Haf 2003

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

GOHEBIAETH

Derbyniwyd llythyr gan Dorothy Ryder Jones o Gemaes ger Machynlleth yn sôn fod aelodau o’r eglwys yn gobeithio creu llwybr o’r fynwent tuag at Ffynnon Tydecho (SM839063) islaw. Buom yn ymweld â’r ffynnon yn y flwyddyn 2000 a chyhoeddwyd yr hanes yn Llygad y Ffynnon. Yn ystod mis Ebrill buom yng Nghemaes ac yn trafod y posibilrwydd o gynnwys y ffynnon fel rhan o lwybr treftadaeth yn yr ardal. Mawr obeithiwn y bydd cyfeillion Cemaes yn llwyddo i ddenu grantiau ar gyfer y prosiect diddorol hwn.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up